8 COMISIYNU YMCHWILIADAU
PDF 223 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfyniwyd:
a) Comisiynu y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag
Arweinydd y Cyngor a ble’n berthnasol y Swyddog
Monitro i fwrw ymlaen a’r ymchwiliadau ac adolygiadau pellach a nodir yn rhan 4
o’r adroddiad hwn yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder gan
gynnwys :
(a) Cytuno y cylch gorchwyl a’r camau gweithredol,
(b) Adnabod a phenodi ymchwilydd annibynnol allanol lle bo’r
gofyn
(c) Trefnu i dderbyn adroddiadau terfynol a chymryd camau
i’w cyflwyno i’r pwyllgorau a fforymau perthnasol
b) I awdurdodi’r Prif Weithredwr i barhau i gyfathrebu gyda
chyrff a phartneriaid perthnasol eraill ynglŷn â pha gamau ac ymchwiliadau
y maent hwy yn eu cynnal a’r gwersi a ddysgwyd allasai fod o fudd i'r Cyngor
c) I awdurdodi’r Prif Weithredwr i ddargyfeirio adnoddau
staff i gefnogi ymchwilwyr annibynnol i gwblhau’r gwaith
ch) I awdurdodi’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r
Pennaeth Cyllid ac Aelod Cabinet Cyllid, i flaenoriaethu a chymeradwyo
dyraniadau o’r gronfa a sefydlwyd drwy’r drefn Bidiau Un tro 2026-27 i
ariannu’r ymchwiliadau.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd:

TRAFODAETH
Amlygwyd bod y Cyngor yn derbyn yr Adroddiad Cyfiawnder Trwy
Ein Dewrder yn llawn, a bod bwriad i weithredu ar bob argymhelliad yn yr
Adroddiad. Diolchwyd i’r dioddefwyr am eu dewrder ac ymddiheurwyd am
fethiannau’r Cyngor. Pwysleisiwyd bod y dioddefwyr ar flaenau meddyliau pob un
wrth drafod y pwnc hwn.
Nodwyd mai pwrpas comisiynu’r gwaith hwn yw ychwanegu at
negeseuon Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, ac i edrych ar rai pynciau yn
fanylach. Esboniwyd bod nifer o ystyriaethau wedi eu gwneud yma megis effaith
ar y dioddefwyr, y gwersi a ddysgwyd, a’r hyn y gall y Cyngor ei gyflawni.
Cyfeiriwyd at y nifer o ymchwiliadau a restrir sydd eisoes
ar waith neu sydd wedi eu cwblhau. Cadarnhawyd bod yr ymchwiliadau hyn wedi
adnabod gwersi i’w dysgu. Amlygwyd yr angen i ddeall popeth sydd wedi digwydd
yn iawn er mwyn gallu gwella, a phwysigrwydd bod y Cyngor yn gorffen cynnal pob
ymchwiliad sydd o fewn ei rym.
Datganwyd bod yr adolygiad i drefniadau llywodraethiant
y Cyngor yn ystyried y cyfleoedd a gollwyd, yr argymhellion a gaiff eu nodi yn
adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, ac yn sefydlu a oes gwersi llywodraethiant i’w dysgu.
Aethpwyd ymlaen i drafod yr adolygiad diwylliant, gan nodi y
bydd yn cynnwys tynnu at ei gilydd materion diwylliant gwaith drwy nifer o
ffynonellau. Ychwanegwyd y bydd hyn yn
tynnu ar nifer o wybodaeth sydd gan y Cyngor yn barod. Bwriedir cwblhau’r
gwaith hwn mewn dwy ran, a phwysleisiwyd pwysigrwydd derbyn mewnbwn gan Aelodau
Etholedig cyfredol a’r rheiny a gaiff eu hethol yn yr etholiadau lleol yn 2027,
staff a rhanddeiliaid eraill.
Wrth gyfeirio at Effeithiolrwydd y Gyfundrefn Llywodraethu
Ysgolion, amlygwyd nad yw’r drefn bresennol o ran rhaniad cyfrifoldebau
statudol wastad yn glir. Soniwyd bod y Cyngor wedi cael mewnbwn i adolygiad o
drefniadau llywodraethu ysgolion Llywodraeth Cymru. Tra mae’r Cyngor yn disgwyl
am ganlyniad yr adolygiad hwnnw, adnabuwyd y bydd yn edrych ar ei drefniadau
mewnol a’r gyfundrefn llywodraethu ysgolion bresennol.
Adroddwyd bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8
Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr