6 YSGOL NEBO - ADRODDIAD YMGYNGHORI
PDF 407 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Ystyriwyd cynnwys yr
adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y
cynnig i gau Ysgol Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol
Llanllyfni o 1 Ionawr 2027 ymlaen, a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol
ar y cynnig, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.
PENDERFYNIAD
Ystyriwyd cynnwys yr
adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y
cynnig i gau Ysgol Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol
Llanllyfni o 1 Ionawr 2027 ymlaen, a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol
ar y cynnig, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddatgan ei fod yn nodi canlyniad
proses hir, drylwyr ac emosiynol iawn. Diolchwyd i’r rheiny sydd wedi cymryd
rhan yn yr ymgynghoriad.
Cyfeiriwyd at bwysigrwydd ysgolion gwledig i gymunedau
Gwynedd, ond nodwyd bod cyfrifoldeb yn ogystal i ystyried realiti’r sefyllfa yn
onest. Aethpwyd ymlaen i dynnu sylw at y gostyngiad sylweddol yn nifer y plant
sydd yng Ngwynedd, gan amlygu bod y gostyngiad hwn hefyd yn wir ar draws y
wlad. Ategwyd yr effaith y caiff hyn ar gynaliadwyedd ysgolion o fewn y Sir.
Esboniwyd bod nifer o resymau am y lleihad mewn genedigaethau, gan grybwyll
materion sy’n ymwneud ag ail gartrefi, diffyg swyddi da mewn ardaloedd gwledig
a’r argyfwng costau byw parhaus.
Wrth gyfeirio at Ysgol Nebo’n
benodol, cydnabuwyd yr heriau addysgol, ariannol a gweithredol sy’n deillio o’r
niferoedd isel o ddisgyblion. Pwysleisiwyd nad yw hyn yn adlewyrchiad o safon
gwaith y staff nac ar ymrwymiad y gymuned. Amlygwyd natur gynhennus ac anodd
penderfyniad o’r natur hwn, ond datganwyd yr angen i sicrhau’r cyfleoedd
addysgol gorau posib i blant Gwynedd a diogelu dyfodol addysg yn y sir.
Pe bai’r Cabinet yn cytuno i symud ymlaen â’r broses, bydd
cyfnod gwrthwynebu ffurfiol o 28 diwrnod cyn y daw’r mater yn ôl gerbron y
Cabinet. Sicrhawyd y bydd camau’n cael eu cymryd i wneud y trosglwyddiad yn
ofalus a chefnogol i’r plant, a chymuned ehangach yr Ysgol.
Croesawyd Aelod Lleol Ward Clynnog i’r cyfarfod. Diolchwyd
i’r gymuned, y staff a’r Corff Llywodraethol am y ffordd adeiladol a pharchus y
maent wedi delio â’r sefyllfa anodd hon. Cydnabuwyd y niferoedd isel yn yr
Ysgol a’r costau uchel sy’n wynebu’r Cyngor, ond pryderwyd bod y drafodaeth
ynglŷn â dyfodol yr Ysgol wedi bod yn gul ac yn canolbwyntio ar rifau yn
unig. Credwyd bod y cynnig gafodd ei gyflwyno gan y Corff Llywodraethol, sef
datblygu Nebo fel darpariaeth fwy meithringar ar gyfer plant gydag anghenion
cymdeithasol, emosiynol a llesiant, wedi haeddu mwy o ystyriaeth. Yn sgil y
pwysau cynyddol sydd ar wasanaethau plant ac oedolion, cynigiwyd gan yr Aelod
Lleol y dylid ystyried ysgolion fel Nebo fel rhan o ymyrraeth gynnar ac atal.
Yn ogystal, pryderwyd am effaith cau’r Ysgol ar y Gymraeg yn y gymuned.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
· Holwyd a oes ymgynghori wedi cymryd lle gyda phlant yr Ysgol ac os yw llais y plentyn wedi’i ystyried yma. Sicrhawyd bod rhaid i lais y plentyn gael ei glywed fel rhan o’r broses statudol a datganwyd bod hwylusydd annibynnol wedi’i gomisiynu er mwyn cwblhau’r gwaith hwn. Nodwyd bod rhaid pwyso a mesur y farn sydd wedi’i roi gan blant yn erbyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6
Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg