6 ADRODDIAD BLYNYDDOL RHAGLEN CEFNOGI POBL 2025/26
PDF 178 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Rhaglen
Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn 2025/26.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Rhaglen
Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn 2025/26.
TRAFODAETH
Dywedwyd mai’r adroddiad gerbron yw’r adroddiad blynyddol
cyntaf i adrodd ar gynnydd y rhaglen Cefnogi Pobl.
Eglurwyd mai nod y rhaglen yw cynorthwyo trigolion y Sir
wrth iddynt geisio ymdopi â heriau’r argyfwng costau byw, gan gynnig
cefnogaeth, gwybodaeth a mynediad at wasanaeth sy’n sicrhau tegwch i bawb.
Soniwyd am yr effaith y caiff yr argyfwng costau byw ar lesiant trigolion, ac
felly bod angen amlwg am gymorth ymarferol yn y maes hwn. Aethpwyd ymlaen i
esbonio bod yr adroddiad yn dangos y gefnogaeth a gaiff ei gynnig i drigolion,
a straeon gan dderbynwyr y gefnogaeth am yr effaith cadarnhaol mae’r gefnogaeth
wedi’i gael ar eu bywydau.
Diolchwyd i staff y Cyngor, ei bartneriaid, sefydliadau
lleol a chymunedau am eu gwaith i gefnogi pobl Gwynedd.
Nodwyd mai ychwanegiad i waith dydd i ddydd y Cyngor yw’r
gwaith hwn, gan amlygu bod yr adroddiad yn adrodd ar yr ymyraethau ychwanegol
sydd wedi eu rhoi mewn lle gan y Cyngor er mwyn blaenoriaethu’r maes hwn.
Manylwyd ar y trefniadau sydd mewn lle, ar y cyd gyda phartneriaid lleol, i
sicrhau fod hybiau o fewn cymunedau i alluogi mynediad at wybodaeth a
chefnogaeth i drigolion yn lleol. Soniwyd y bu hyrwyddwyr lles yn bresennol o fewn
yr hybiau hyn i gynnig cefnogaeth i drigolion yn ogystal. Soniwyd am yr
hyfforddiant ynglŷn â magu ffordd o weithio sy’n empathetig
yn seiliedig ar fod yn wybodus o drawma, ac sy’n rhoi’r person yn ganolog.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod y gwaith hwn yn cael effaith cadarnhaol ar bobl
Gwynedd, gan dynnu sylw at yr astudiaethau achos o brofiadau defnyddwyr y
gwasanaethau, a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad.
Cadarnhawyd y bydd cofrestru awtomatig ar gyfer tariffau
cymdeithasol yn parhau i gael ei hyrwyddo, gan sicrhau fod y bobl hynny sy’n
gymwys i’w derbyn yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Ychwanegwyd
y caiff ymgyrchoedd eu cynnal i sicrhau fod gan bobl fynediad at wybodaeth a
gweithgareddau sydd ar gael ar draws y Sir ar adegau penodol. Nodwyd bod y
rhwydwaith hybiau yn parhau i ddatblygu ac esblygu, a bwriadwyd parhau i gyd
weithio â gwasanaethau i geisio rhedeg yr hyfforddiant Trawma Wybodus ac
ymwybyddiaeth hawliau plant ar draws y Cyngor.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Cyfeiriwyd at ffocws y rhaglen o geisio rhoi’r
person yn ganolog, gan sôn bod Stori ‘Dewi’ a gaiff ei gynnwys yn yr Adroddiad
yn enghraifft o hyn ar waith. Nodwyd bod sgwrs anffurfiol, a ddatblygwyd o gais
gwreiddiol ‘Dewi’, wedi arwain ato’n gallu derbyn
cymorth ychwanegol.
Amlygwyd bod y cynnydd yn nefnydd deallusrwydd artiffisial yn effeithio nifer o wasanaethau, a holwyd am ddyfodol gwasanaethau codi’r ffôn er enghraifft, wrth fynd ymlaen. Mewn ymateb, cyfeiriwyd at brosiect peilot “Gafael Llaw” gan nodi i’r gwaith hwn amlygu effaith cadarnhaol cynnal sgyrsiau anffurfiol ar allu unigolion i dderbyn cefnogaeth bellach na gofynion eu cais gwreiddiol, i ddiwallu eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6
Awdur: Catrin Thomas, Cyfarwyddwr Corfforaethol