7 DIWEDDARU CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR 2022/23 - 2029/30 CYNGOR GWYNEDD
PDF 323 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bod y Cabinet yn cymeradwyo yr addasiadau i’r Cynllun
Argyfwng Hinsawdd a Natur ac yn mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur
2022/23 – 2029/30 Cyngor Gwynedd (F.2).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.
PENDERFYNIAD
Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r addasiadau i’r Cynllun
Argyfwng Hinsawdd a Natur ac yn mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur
2022/23 - 2029/30 Cyngor Gwynedd (F.2).
TRAFODAETH
Eglurwyd bod y Cynllun Hinsawdd a Natur wedi’i fabwysiadu
ers 4 blynedd bellach, ac felly ei bod yn amserol i’w adolygu.
Amlygwyd bod Cyngor Gwynedd yn arwain yn y maes hwn yng
Nghymru ac yn ehangach, gan adnabod mai’r Cyngor hwn oedd un o’r cynghorau
cyntaf i ddatgan argyfwng newid hinsawdd, a sefydlu Bwrdd Hinsawdd a Natur yn
dilyn hynny. Ymfalchïwyd yn y ffaith bod swyddogion wedi bod yn gweithio ar
leihau ôl-troed carbon y Cyngor ers dros ddegawd bellach, a chanmolwyd safon y
staff sy’n gweithio yn y maes hwn o fewn y Cyngor.
Adnabuwyd mai’r cam nesaf o ran y Cynllun yw cyd-weithio â
thrigolion, a soniwyd bod yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd y llynedd wedi
amlygu’r angen i wneud hynny’n ogystal. Esboniwyd bod grwpiau wedi trafod y
Cynllun mewn cynadleddau, a bu i’r trafodaethau hynny fwydo i mewn i’r
adolygiad hwn.
Atgoffwyd y Cabinet y bydd ceisiadau am gyllid ar gyfer y
prosiectau a gaiff eu hadnabod yn y Cynllun yn dod ger eu bron maes o law.
Croesawyd cyn is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i’r
cyfarfod i gyflwyno argymhellion y Pwyllgor i’r Cabinet. Nodwyd y bu i’r
Cynllun gael ei ail graffu gan y Pwyllgor ym mis Ionawr eleni, gan esbonio i’r
Pwyllgor graffu’r newidiadau y bwriadwyd eu gwneud i’r Cynllun, yr ymatebion
i’r ymgynghoriad cyhoeddus, a’r ffynonellau cyllido sydd wedi eu hadnabod.
Datganwyd bod y Pwyllgor wedi croesawu’r bwriad i ail-edrych ar y targed i’r
Cyngor fod yn Garbon Sero Net erbyn 2030. Manylwyd ar y neges a godwyd yn y
Pwyllgor Craffu, sef yr angen i fod yn fwy uchelgeisiol.
Cadarnhawyd bod yr Adran wedi ymateb i’r holl argymhellion a
wnaethpwyd gan y Pwyllgor Craffu, a bod y mwyafrif ohonynt wedi eu hymgorffori
i’r Cynllun yn ogystal.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Pwysleisiwyd ei bod yn allweddol i’r Cyngor
barhau i fod yn uchelgeisiol yn y maes hwn, yn enwedig o weld y gwres eithafol
sy’n taro’r wlad ar y funud. Yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn
adolygu’r targed Net 0 cenedlaethol a chyllidebau carbon cysylltiedig, holwyd a
oes unrhyw ddiweddariad ynglŷn â hyn. Datgelwyd gan yr Aelod Cabinet
perthnasol mai disgwyl am arweiniad gan y Llywodraeth mae’r Adran ar hyn o
bryd, gan nodi y byddai’n barod i gydweithio â swyddogion o fewn y Llywodraeth
er mwyn ceisio troi uchelgeisiau’r Cyngor hwn yn realiti.
·
Mewn ymateb i gwestiwn am gamau nesaf y Cynllun
hwn, bwriadwyd rhannu’r Cynllun ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y we, gan
geisio sicrhau ei fod mor hygyrch â phosib. Canmolwyd y lluniau a gaiff eu
defnyddio drwy gydol y ddogfen.
Gofynnwyd am ddiweddariad o ran y cynlluniau i symud tuag at fflyd o gerbydau trydan. Cadarnhawyd bod y gwaith hwn yn nwylo’r Cyngor, gan adnabod hefyd y caiff cefnogaeth ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7
Awdur: Dylan Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol