Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/07/2026 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5.1)

5.1 CAIS RHIF C26/0238/15/LL TIir Gyferbyn a 10 Warden Street, Llanberis, LL55 4HP pdf eicon PDF 168 KB

Codi tŷ annedd newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gwilym Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod y cais

 

Rhesymau:

 

  1. Nid yw dyluniad modern yr annedd arfaethedig, gyda’r balconi eang a’r drysau/ ffenestri gwydr ar y drychiad blaen a chefn, yn parchu cymeriad tai cyfagos na’r hyn sydd yn y cyffiniau a byddai’r nodweddion yn anghydnaws. Ni fyddai’r bwriad yn ychwanegu at na gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle na’r ardal. Nid yw’r bwriad wedi rhoddi ystyriaeth lawn i’w gyd-destun hanesyddol ac adeiledig a'i fod o ran ei osodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder, mas a’r driniaeth i’r drychiadau yn cynnwys nodweddion anghydweddol, dominyddol ac estron nad ydynt yn parchu cyd-destun y strydwedd na’r safle. Ystyrir fod y bwriad felly, yn groes i feini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3:  Dylunio a siapio lle, Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026).

 

  1. Oherwydd lleoliad, maint ac uchder y balconi a blaen yr annedd arfaethedig sy’n wynebu’r eiddo drws nesaf, ystyrir y byddai’r bwriad yn gor-edrych a chael effaith ddominyddol a gormesol ac effaith andwyol ar fwynderau’r trigolion cyfagos o ran sŵn ac aflonyddwch. Am y rheswm hwn, ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion polisi PCYFF2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026) sy’n ymwneud a diogelu mwynderau trigolion a’r ardal leol.