Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/06/2018 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 6)

6 ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 58 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosododd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor y cyd-destun, gan nodi mai rôl y Pwyllgor oedd bodloni ei hun bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod cynigion gwella adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gweithredu, ac ni ddylai’r Pwyllgor ail-gynnal ymchwiliad i faterion a oedd o fewn maes gwaith y pwyllgorau craffu eraill.

 

Cyfeiriodd at Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn cynnwys rhestr gronolegol o’r arolygiadau a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol rhwng 2012/13 a 2017/18 ynghyd â’u cynigion ar gyfer gwella, a’r cynnydd a wnaed gan y Cyngor yn erbyn y cynigion hynny ers i’r Pwyllgor drafod y mater yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2017. Eglurodd mai sylwadau gan yr Adran berthnasol y nodir o dan y pennawd ‘Cynnydd yn erbyn y cynigion gwella’, gyda barn annibynnol swyddogion o Uned Cefnogi Busnes y Cyngor yn cael ei nodi o dan y pennawd ‘Casgliad’. Nododd mai mater i’r Pwyllgor oedd barnu os oeddent yn cytuno efo’r casgliad bod y gwaith o wireddu’r argymhelliad ‘wedi’i gwblhau’ neu yn parhau ‘ar waith’.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau:

·         Bod adroddiad ‘Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol yr Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) 2013/14’ wedi ei gyflwyno gryn amser yn ôl. Pwy oedd yn cwblhau’r asesiadau iechyd ar gyfer plant oedd yn derbyn gofal ac oedd diffyg doctoriaid yn rheswm am y gostyngiad yn y ganran perfformiad ar gyfer cofrestru gyda Meddyg Teulu cyn pen 10 diwrnod?

·         Bod y cynnydd o ran y cynigion gwella yn yr adroddiad a nodir uchod yn fater oedd angen sylw;

·         Dylid gofyn i’r Pwyllgor Craffu Gofal ystyried craffu’r materion a amlygwyd gan adroddiadau 2013/14 a 2014/15 yr AGGCC, adroddiad ‘Helpu Pobl i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon?’, ynghyd ag adroddiad ‘Arolygiad Cenedlaethol o ofal a chymorth i bobl sydd ag anableddau dysgu (Arolygiad ar y cyd gan AGGCC ac Arolygiaeth Gofal Iechyd), a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella;

·         Dylid gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ystyried craffu’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad ‘Cyflawni â Llai – yr effaith ar wasanaethau iechyd yr amgylchedd a dinasyddion’, a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella;

·         Dylid derbyn cadarnhad o ran pa bwyllgor ddylai rhoi ystyriaeth i adroddiad ‘Rheoli asedau [Tir ac Adeiladau]’;

·         O ran yr adroddiad ‘Diogelwch Cymunedol yng Nghymru’, os oedd y mater yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor hwn, fe ddylai’r Pwyllgor dderbyn adroddiad ar y mater;

·         Dylid derbyn eglurhad pam nad oedd 3 cynnig gwella o dan yr adroddiad ‘Strategaeth Pobl’ wedi eu cwblhau.

 

Holodd aelod os oedd amserlen o ran cwblhau’r gwaith i ymateb i’r cynigion gwella. Nododd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor y byddai ystyriaeth i amserlen o ran cwblhau’r gwaith i ymateb i’r argymhellion pan gyflwynir diweddariad i’r Pwyllgor mewn 6 mis.

 

Cymerodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y cyfle i ddiweddaru’r aelodau o ran y cynnydd yn erbyn yr argymhellion yng nghyswllt yr adroddiad ‘Rheoli Risg - Asesiad sy’n seiliedig ar risg o drefniadau corfforaethol y Cyngor’. Cadarnhaodd y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6


Cyfarfod: 30/11/2017 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 11)

11 ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y cyd-destun, gan nodi bod cyfrifoldeb ar y Pwyllgor i ystyried adroddiadau archwilio allanol (cenedlaethol, a lleol i Wynedd), yr argymhellion a gynhwysir ynddynt, a goblygiadau rhain i lywodraethu, rheoli risg neu reolaeth. Atgoffodd yr aelodau mai rôl y Pwyllgor oedd bodloni ei hun bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod y cynigion gwella yn cael eu gweithredu. Ychwanegodd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar ffurf naratif o dan y penawdau yn unol â chais y Prif Weithredwr.

 

Cyfeiriodd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor at Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn cynnwys rhestr gronolegol o’r arolygiadau a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol rhwng 2012/13 a 2016/17 ynghyd â’u cynigion ar gyfer gwella, a’r cynnydd a wnaed gan y Cyngor yn erbyn y cynigion hynny. Eglurodd mai sylwadau gan yr Adran berthnasol y nodir o dan y pennawd ‘Cynnydd yn erbyn y cynigion gwella’, gyda barn annibynnol swyddogion o Uned Cefnogi Busnes y Cyngor yn cael ei nodi o dan y pennawd ‘Casgliad’. Eglurwyd y byddai’r cynigion gwella a nodwyd “wedi’i gwblhau” yn cael eu tynnu o’r rhestr ac y bwriedir adrodd ar gynnydd i’r Pwyllgor ymhen 6 mis.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at gynnig gwella 2 o dan adroddiad ‘Cydnerthedd ariannol awdurdodau lleol yng Nghymru 2015-16’ - “Dylai awdurdodau lleol ddatblygu polisïau cynhyrchu incwm a chodi tâl corfforaethol” a oedd wedi ei nodi “ar waith”. Nododd y byddai gwaith ynghlwm â’r cynnig gwella ar waith yn barhaol a'i fod ef, y Prif Weithredwr a’r Cabinet yn edrych ar benawdau strategol.

 

Nododd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor ei fod yn derbyn y sylw gydag amryw o gynigion gwella yn medru bod ar waith yn barhaol a bod rhai tebyg wedi eu tynnu allan.

 

Nododd aelod y dylid nodi bod y cynnig gwella “wedi’i gwblhau” oherwydd bod polisi mewn lle ac ni ddylai ddod yn ôl gerbron y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad yn ddarostyngedig i nodi bod cynnig gwella 2 o dan adroddiad ‘Cydnerthedd ariannol awdurdodau lleol yng Nghymru 2015-16’ “wedi’i gwblhau”.