Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2025 fel rhai cywir. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
|
Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. |
|
|
Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
|
|
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2026-27 Cyflwyno adroddiad y Aelod Cabinet Cyllid. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD 2024/25 Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
TREFNIADAU DATRYS MEWNOL Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
RHYBUDDION O GYNNIG (A) RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD BECA BROWN Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Beca Brown yn cynnig fel a ganlyn:- Hoffem groesawu cyhoeddi’r Adolygiad Ymarfer Plant ar Dachwedd 4ydd, gan gofnodi ein diolch dwfn i’r cadeirydd Jan Pickles am ei gwaith gofalus, a felly hefyd i’r panel ac i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru. Hoffem nodi teitl yr adroddiad, Sef Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y teitl bob amser wrth drafod yr adroddiad hwn, gan ei fod yn talu teyrnged gwbwl haeddiannol i ddewrder plant – plant oedd i fod yn saff yn eu hysgolion, a phlant ddaeth â blynyddoedd o droseddu erchyll un o ddynion mwyaf grymus y sir yma i ben. Mae’n dyled iddynt yn enfawr. Mae’n meddyliau ni gyda nhw ac rydym yn diolch o waelod calon iddynt am eu penderfynoldeb a'u gwytnwch rhyfeddol. Ymrwymwn fel cyngor i ddysgu pob gwers a ddaw yn sgil yr adroddiad, ond ymhellach na hynny, ymrwymwn i edrych ar unrhyw faterion perthnasol sydd wedi disgyn tu allan i gylch gorchwyl yr AYP, a oedd yn edrych ar achos y troseddwr hwn yn y cyfnod rhwng 2017 a Medi 2023. Galwn felly ar y cabinet i ystyried pa ymchwiliadau annibynnol pellach sydd eu hangen er mwyn cyfrach yr hyn sydd yn mynd tu hwnt i ffiniau’r AYP. Rydym yn gwbwl effro i’r ffaith fod gwaith pellach i’w wneud, ac yn gofyn I’r Cabinet fynd ati yn ddiymdroi I adnabod yr hyn sydd eto i’w gyflawni. Mynegwn unwaith eto ein ymddiheuriadau didwyll i’r plant sydd wedi dioddef niwed, a byddwn yn ymroi i droi pob carreg er mwyn sicrhau, hyd orau, ein gallu, fod ‘byth eto’ yn golygu ‘byth eto’ (B) RHYBUDD
O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD NIA JEFFREYS Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Nia Jeffreys yn cynnig fel a ganlyn:- Cynnig bod y Cyngor Nodwn hefyd mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth pobl ifanc i fyny at 35 oed yn ol yr elusen Papyrus, oherwydd nad yw pobl ifanc yn marw o achosion eraill yn aml iawn. Dynion canol oed rhwng 30-44 oed yng Nghymru sydd fwyaf
tebygol o ladd eu hunain. Roedd 76% o’r marwolaethau gan hunanladdiad yn
ddynion. Mae perthynas rhwng tlodi a hunanladdiad, efo 15.8 mewn 100,000 o
hunanladdiadau yn digwydd mewn ardaloedd difreintiedig, ac 8.6 mewn 100,000 yn
yr ardaloedd lliaf difreintiedig. Mae 126.7 mewn 100,000 yn ddiwaith. Mae modd atal hunanladdiad, ac mae cefnogaeth ar gael. |
|
|
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL (1) Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Gwynfor Owen I gyfarfod 3 Gorffennaf 2025 o’r Cyngor ynglŷn a datganoli Rheilffyrdd Cymru. (2) Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Rhys Tudur i gyfarfod 3 Gorffennaf 2025 o’r Cyngor ynglŷn a’r shifft iaith. Dogfennau ychwanegol: |