Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Annwen Hughes. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Hefin Underwood ar golli ei frawd yn
ddiweddar. Nodwyd ymhellach bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r
sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. Nodwyd
bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd iddynt
adferiad llwyr a buan. Llongyfarchwyd
a chroesawyd y Cynghorydd Gwilym Evans, yr aelod newydd dros Ward Llanberis,
i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor.
Diolchwyd hefyd i’w ragflaenydd, Kim Jones, am ei holl waith. Nodwyd y bu’n gyfnod
o newid yn ddiweddar a diolchwyd i’r Cynghorydd Dyfrig
Siencyn am ei waith diflino yn arwain y Cyngor ers 2017. Eglurwyd y bydd cyfle i ddiolch
iddo yn ffurfiol yng nghyfarfod nesaf y Cyngor. Diolchwyd hefyd i’r Cynghorwyr
Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker Jones am eu gwaith caled
fel Aelodau Cabinet. Nodwyd y byddai’r Cyngor yn symud ymlaen gyda’r trefniadau
i adnabod yr Arweinydd nesaf
dros y dyddiau i ddod. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim
i’w nodi. |
|
Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: I beidio mabwysiadu sustem
pleidlais sengl drosglwyddiadwy ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd o hyn ymlaen
yn unol ag Adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a
Chyfreithiol yn nodi bod Adran 8 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
2021 yn caniatáu i unrhyw brif gyngor ddewis rhwng Sustem Mwyafrif Syml
(“cyntaf heibio’r postyn”) neu Sustem Pleidlais Sengl
Drosglwyddadwy (“PSD”) ar gyfer prif gynghorau, ac yn gwahodd y Cyngor i
ystyried y cwestiwn statudol a ganlyn yn dilyn cynnal ymgynghoriad ar newid y
drefn bleidleisio:- Yn
unol ag Adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fod y
Cyngor yn penderfynu mabwysiadu sustem pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer
etholiadau Cyngor Gwynedd o hyn ymlaen. Wrth gyflwyno’r adroddiad, nododd yr Aelod
Cabinet:- ·
Yn ôl gofynion y Ddeddf, y galwyd y cyfarfod hwn i drafod y penderfyniad
yma yn unig. ·
Y cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 15 Gorffennaf ac 15 Medi eleni. ·
Yn unol â phenderfyniad y Cyngor, yr ymgynghorwyd ag etholwyr
llywodraeth leol Gwynedd a chynghorau tref a chymuned, sef y gofyn statudol, a
bod dadansoddiad o ganlyniadau’r ymgynghoriad i’w gael yn Atodiad 1 i’r
adroddiad. ·
Y cynhaliwyd proses ymgynghori eang gan ddefnyddio gwefan y Cyngor, y
wasg a llyfrgelloedd y sir. Yn ogystal,
anfonwyd yn uniongyrchol at bob cyngor tref a chymuned yng Ngwynedd. ·
Bod yr ymgynghoriad wedi derbyn sylw eang yn y wasg ac ar y cyfryngau
cymdeithasol. ·
Y cymerwyd camau dros gyfnod yr ymgynghoriad i ail-wthio’r wybodaeth. ·
Mai amcan ymgynghoriad yw ceisio barn ar fwriad, ac nid cynnal
refferendwm ar y cwestiwn, a bod canlyniad ymgynghoriad yn cyfrannu at yr
ystyriaethau, yn hytrach na dyfarnu ar y cyfeiriad. ·
Ei bod yn ofynnol i benderfyniad y Cyngor, beth bynnag y bo, fod yn
seiliedig ar ystod o ystyriaethau, gan gynnwys cloriannu canlyniadau’r
ymgynghoriad. ·
Petai’r aelodau yn pleidleisio o blaid symud i Sustem PSD, byddai’n
gyfle hanesyddol i Gyngor Gwynedd arwain Cymru wrth ymuno â’r Alban, Gogledd
Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn eu defnydd o’r sustem, yn hytrach nag aros
gyda Lloegr ar y Sustem Cyntaf Heibio’r Postyn. ·
Bod pob pleidlais yn bwysig ac y dylai pob llais gael ei glywed. ·
Yn yr etholiad diwethaf, bod 28 o’r 69 sedd ar Gyngor
Gwynedd yn ddiwrthwynebiad, ac ers cyflwyno Sustem PSD yn yr Alban yn 2017,
roedd yna lai o seddi diwrthwynebiad yng nghyfanswm pob etholiad nag a fu mewn
un etholiad yng Ngwynedd yn unig yn 2022. ·
Bod Cyngor Gwynedd yn aml yn arwain y ffordd o ran cyflwyno polisïau
sy’n torri tir newydd, felly pam nid hwn? ·
Bod y Sustem PSD yn safon aur ar gyfer sustemau etholiadol a chredid mai
dyma’r peth iawn i’w wneud i bleidleiswyr, i’r Cyngor a dros ddemocratiaeth yng
Ngwynedd. Gan hynny, cynigid bod y
Cyngor yn pleidleisio o blaid cyflwyno Sustem PSD ar gyfer etholiadau Cyngor
Gwynedd. ·
Petai’r Cyngor yn penderfynu mabwysiadu Sustem PSD, byddai hynny’n
arwain at gyfarwyddyd gan y Gweinidog i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Gwynedd. ·
Mai amcan y broses fyddai creu wardiau newydd o rhwng 3-6 aelod, sy’n
ofynnol er gweithredu’r sustem. · Y byddai’r Comisiwn, yn unol â’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |