Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer
2019/20. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Etholwyd y
Cynghorydd Edgar Wyn Owen yn gadeirydd am 2019/20. Llofnododd y
Cynghorydd Edgar Wyn Owen ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor
Gwynedd am 2019/20. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd ar gyfer
2019/20. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Etholwyd y
Cynghorydd Simon Glyn yn is-gadeirydd am 2019/20. Llofnododd y
Cynghorydd Simon Glyn ddatganiad yn derbyn y swydd o is-gadeirydd Cyngor
Gwynedd am 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Craig
ab Iago, Anwen Davies, John Brynmor Hughes, Linda Morgan, W.Roy Owen, W.Gareth
Roberts, Hefin Underwood a Gethin Glyn Williams. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2019 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Mawrth,
2019 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â’r
Cynghorydd Linda Ann Jones a’r teulu ar golli mab yn ddiweddar. Nodwyd hefyd bod y
Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid
yn ddiweddar. Safodd y Cyngor fel arwydd o barch. Croesawyd y Cynghorydd Gareth Tudor Morris Jones, yr aelod newydd dros
Ward Morfa Nefyn, i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor. Llongyfarchwyd:- ·
Y criw o Gynghorwyr a enwebwyd gan Prostate Cymru am
wobr ar ôl codi dros £8,000 i Elusen Prostate Cymru yn ystod digwyddiad “Trôns
dy Dad” yn Awst 2018. Nodwyd y bu’r
Cynghorwyr Dilwyn Lloyd, Roy Owen a Steven Churchman yn y seremoni wobrwyo yng
Nghaerdydd ym mis Ebrill. ·
Mali Jones o Ysgol y Berwyn, Y Bala, am sgorio cais gwych i Dîm Rygbi
Merched dan 18 Cymru yn erbyn Lloegr yn ddiweddar. ·
Lowri Howie, o Ysgol Gynradd Llanbedr, ar ennill cystadleuaeth sgïo
slalom rhyng-ysgolion Prydain yn ddiweddar yn Pila, yr Eidal, gan ei gwneud yn
brif enillydd y merched dan 10 oed, a thrwy hynny roi Ysgol Gynradd Llanbedr,
ynghyd â Gwynedd, ar y map. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu
fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd
rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.) (1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Morris
Jones “Yn dilyn yr holl drafferthion gyda’r sefyllfa
barcio yn Llanberis dros y Pasg, byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod beth mae’r
Cyngor yma yn bwriadu wneud i wella’r sefyllfa, gan gadw mewn cof bod rhaid
cael cydbwysedd gyda hybu twristiaeth ac iechyd a diogelwch yn yr ardal?” Ateb gan yr Aelod
Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith “Mae’n glir bod yr
Adran wedi cael amser prysur dros y Pasg - roedd y tywydd yn boeth ofnadwy, ac
mae’r Aelod yn adrodd yr hyn a welsom yn yr ardal, pryd roedd yna gymaint o
dwristiaid yma dros y Pasg. O ran beth
mae’r Adran yn mynd i’w wneud, mae’r Adran yn ymdrechu i wneud gwaith dros y
sir yn gyfan gwbl. Mae yna waharddiadau
parcio, mae yna arwyddion, mae yna ddirwyon wedi cael eu gosod, a bydd y
sefyllfa yn cael ei fonitro dros y cyfnodau yma i wella trefniadau, nid yn unig
i dwristiaid, ond hefyd i drigolion Gwynedd.
Felly, mae’n waith anodd, a gan fod y Pasg yn hwyrach y tro yma, roedd
yna dipyn mwy o bobl a’r tywydd yn ofnadwy o boeth ac yn denu pobl i’r
ardal. Bydd y sefyllfa yn cael ei
fonitro ac mae’r Adran hefyd yn cymryd y cyfle i siarad gydag unrhyw un sydd â
phroblemau yn eu ward hwy.” Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Kevin Morris Jones “Efallai bod hi’n amser cael y faniau towio allan a dangos i dwristiaid
bod ni’n agored ac yn ddiogel i ymwelwyr a phobl leol ymweld â ni?” Ateb gan yr Aelod
Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith “Mae’r Adran yn barod i siarad hefo unrhyw gynghorydd o unrhyw
ward. Mae’r Adran wedi bod yn
dirwyo. Rwy’n derbyn y pwynt mae’r aelod
yn ei wneud ac fe gawn drafodaeth bellach a gweld sut mae pethau’n mynd dros yr
haf.” (2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Paul Rowlinson “Yn y cyfarfod diwethaf, wrth drafod y
gyllideb, fe amlinellwyd beth oedd ar droed er mwyn ceisio atal tai haf rhag
symud i’r Dreth Fusnes ac osgoi’r premiwm tai haf. A fedr yr Arweinydd ein diweddaru ar unrhyw
lobïo sydd wedi bod yn digwydd i fynd i’r afael ar hyn?” Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn “Ein bwriad ni oedd paratoi tystiolaeth, a hoffwn ddiolch i’r Prif Weithredwr am wneud y gwaith yna a’r Adran Gyllid hefyd, a chasglu gwybodaeth allan o’r siroedd sy’n aelodau o’r Fforwm Gwledig, ac mae yna naw sir yn aelod o’r Fforwm. Fe ddaru ni, yn y cyfarfod ar 10 Ebrill, gyflwyno papur i’r Fforwm Gwledig yn amlygu’r gost mewn difri’, nid yn unig i gynghorau unigol, ond y gost i gyllideb y wlad Cymru gyfan o fod yn colli’r Dreth Ddomestig yma o’n cyllidebau. Rwy’n falch o ddweud bod y Fforwm Gwledig i gyd wedi cytuno i gefnogi ein cais i’r Gymdeithas Llywodraeth Leol ymgymryd ar ran y Fforwm Gwledig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad yn amlinellu’r prif
negeseuon am berfformiad gwasanaethau cymdeithasol fydd yn cael eu hamlygu yn
yr adroddiad blynyddol maes o law, yn ogystal â rhoi amlinelliad o’r prif
heriau a rhaglenni trawsffurfio ar gyfer 2019/20. Eglurodd y Cyfarwyddwr:- ·
y byddai’r adroddiad blynyddol ar gael yn ei ffurf
orffenedig ym mis Gorffennaf ac y byddai’n cael ei gylchredeg i holl aelodau’r
Cyngor. ·
oherwydd ymrwymiadau
personol, na fyddai’n bosib’ iddi ddod i’r Cyngor llawn ym mis Gorffennaf i
gyflwyno’r adroddiad, felly eleni roedd adroddiad cynnar lefel uchel yn cael ei
gyflwyno i’r cyfarfod hwn o’r Cyngor. Manteisiodd y
Cyfarwyddwr ar y cyfle i ddiolch i’r holl staff, yn fewnol ac allanol, am eu
gwaith diflino ac ymroddedig eto eleni.
Diolchodd i Marian Parry Hughes (Pennaeth Plant a Theuluoedd) ac Aled
Davies (Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant) am eu gwaith ymroddgar a
gwerthfawr drwy gydol y flwyddyn.
Diolchodd hefyd i’r craffwyr am eu mewnbwn ac i’r Aelodau Cabinet yn y
maes gofal, y Cynghorwyr W.Gareth Roberts a Dilwyn Morgan am eu cefnogaeth dros
y flwyddyn. Nododd hefyd ei bod yn
edrych ymlaen at weithio gyda’r Cynghorydd Dafydd Meurig, oedd wedi cymryd
drosodd y portffolio oedolion, iechyd a llesiant. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Croesawyd yr adroddiad a nodwyd bod y gyfres o glipiau
fideo ar Hafan y Sêr, Hafod y Gest, Plas Hafan a Go Dementia, a ddangoswyd fel
rhan o’r cyflwyniad, wedi dod â gwaith y gwasanaeth i fyw i’r aelodau. ·
Nodwyd bod y ddarpariaeth wedi’i drawsffurfio yn y blynyddoedd
diwethaf a chroesawyd nifer o gynlluniau newydd ac arloesol, megis tai gofal
ychwanegol Hafod y Gest, y cynllun peilot ym Methesda ar gyfer trawsnewid gofal
cartref a Mwy na Geiriau. Cyfeiriwyd yn
benodol at Hafan y Sêr, a nodwyd y dylid ymfalchïo ynddo, fel yr unig
ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar gyfer plant a phobl ifanc anabl, gan
ledaenu’r neges ar draws Cymru i ddangos beth sy’n bosib’. ·
Awgrymwyd y dylai pob
aelod fynd i ymweld â chartrefi henoed yn eu hardal er mwyn gweld y gwaith arbennig
sy’n cael ei wneud gan y staff. ·
Gofynnwyd am gynnwys
adran yn yr adroddiad blynyddol llawn ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd o ran
gwasanaethau ar gyfer unigolion ag awtistiaeth. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau unigol, nodwyd:- ·
Bod y cynnydd yn niferoedd plant mewn gofal yn
adlewyrchu ein cymdeithas a’r heriau roedd llawer o’r plant a’r teuluoedd yn
wynebu. Dyna pam bod y gwaith ataliol
a’r ymyrraeth gynnar mor allweddol fel bod modd cynnig y gefnogaeth yma i
deuluoedd a phlant, drwy weithio gyda’r ysgolion, ayb, yn y ffordd fwyaf addas
i atal problemau rhag dwysau. Roedd
disgwyliadau wedi cynyddu yn sgil y gwaith o godi ymwybyddiaeth pobl o faterion
diogelu ac roedd y ffaith bod yna blant mewn gofal bellach yn parhau i fyw
gartref gyda’u rhieni wedi cyfrannu at y cynnydd yn y niferoedd hefyd. · Ei bod wedi mynd yn beth cyffredin i glywed am gwmnïau gofal annibynnol preifat yn mynd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH Y GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2018/19 PDF 253 KB Cyflwyno
adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth (Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol) ei adroddiad blynyddol ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd, yn canolbwyntio ar ddatblygiadau 2018/19 a’r blaenoriaethau
datblygu yn 2019/20. Diolchodd y
Pennaeth i holl aelodau’r pwyllgor am eu cefnogaeth a’u harweiniad, yn arbennig
y Cadeirydd, y Cynghorydd Dewi Owen, a’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Anne Lloyd
Jones, a hefyd i’r Tîm Democratiaeth, dan arweiniad y Rheolwr Democratiaeth. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Nododd aelod ei fod yn cael problemau parhaus
gyda’r Surface Pro. ·
Nodwyd bod Ystafell yr Aelodau wedi dyddio
bellach ac nad oedd argraffydd yno. |
|
PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd. [Yn unol a gofynion adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor Llawn sydd i
benodi cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei
gynrychioli ar y weithrediaeth.] Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd ar gyfer 2019/20. PENDERFYNWYD ethol
y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am
2019/20. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2018/19 PDF 22 KB Cyflwyno adroddiad blynyddol craffu (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd y Fforwm Craffu, y Cynghorydd Beth Lawton,
adroddiad blynyddol craffu ar gyfer 2018/19.
Esboniodd mai rôl y Fforwm Craffu oedd cymryd trosolwg o waith yr holl
bwyllgorau craffu a gofynnodd i’r aelodau gysylltu ag unrhyw aelod o’r fforwm
os oeddent o’r farn bod mater angen ei graffu.
Diolchodd i’w chyd-gadeiryddion a’r is-gadeiryddion, a phawb sy’n
ymwneud â chraffu, am eu gwaith. Nododd aelod ei bod yn falch o weld bod toiledau cyhoeddus yn dal i gael
sylw, ond ei bod yn siomedig nad oedd y mater wedi ei ddatrys mewn 10
mlynedd. Mewn ymateb, nodwyd bod yna
Strategaeth Toiledau Cyhoeddus newydd ar y gweill ac atgoffwyd yr aelodau o’u
hawl i alw i mewn unrhyw fater sy’n mynd gerbron y Cabinet. Diolchwyd i Gadeirydd y Fforwm Craffu am gyflwyno’r adroddiad ar ran y
cadeiryddion craffu. |
|
CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 92 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar gydbwysedd
gwleidyddol y Cyngor a materion perthynol. Nodwyd bod y sefyllfa wedi newid ers paratoi’r adroddiad gan fod sedd wag
Morfa Nefyn wedi ei llenwi bellach ac aelodaeth y Cyngor yn ôl yn 75. Os derbynnir cais, bydd angen cyflwyno
adroddiad pellach i gyfarfod nesaf y Cyngor yn adlewyrchu hynny. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd y newid gyda’r
un sedd yn arwain at unrhyw newid i’r dyraniad seddau, ac roedd y sefyllfa yn
parhau’n union fel a nodwyd yn yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Mynegodd Arweinydd y
Grŵp Annibynnol ei siomedigaeth nad oedd Is-gadeiryddiaeth y Cyngor wedi
mynd i’r Grŵp Annibynnol, yn unol â’r arfer bod Grŵp Plaid Cymru a’r
Grŵp Annibynnol yn cael y sedd bob yn ail.
Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd darpariaeth yn y Cyfansoddiad
ar gyfer neilltuo’r Is-gadeiryddiaeth i grŵp penodol. ·
Mynegwyd siomedigaeth nad oedd pob grŵp yn penodi
aelodau ar y pwyllgorau craffu a holwyd faint o amser oedd ganddynt cyn colli’r
seddau hynny. Mewn ymateb, eglurodd y
Swyddog Monitro, os nad oedd grŵp yn penodi o fewn amserlen, bod
darpariaeth yn y Cyfansoddiad oedd yn rhoi’r hawl i’r Cyngor benodi aelodau ar
bwyllgorau ar sail gyffredinol, heb ddilyn cydbwysedd gwleidyddol. Fodd bynnag, gydag unrhyw adolygiadau dilynol
o’r cydbwysedd, roedd rhaid dychwelyd i’r drefn flaenorol, oedd yn cynhyrchu ei
broblemau ei hun. Mewn ymateb i honiad
nad oedd dim yn cael ei wneud ynglŷn â’r sefyllfa, nododd y Prif
Weithredwr y byddai’n codi’r mater gyda’r Grŵp Busnes er ceisio datrysiad. PENDERFYNWYD (a) Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac
is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn yr
atodiad i’r cofnodion hyn ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r hyn
a nodir yn yr atodiad. (b) Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth
Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac
yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol. (c) Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau
craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor Craffu Cymunedau Grŵp
Annibynnol Pwyllgor Craffu Gofal Grŵp
Annibynnol |