Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Stephen
Churchman, Anwen Davies, Eddie Dogan, Aled Evans, Christopher Hughes, Llywarch
Bowen Jones, Sion Jones, Linda Morgan a John Wyn Williams. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a
gynhaliwyd ar 14 Mai, 2015 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2015 fel rhai cywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (1) Cydymdeimlad Nodwyd bod y Cyngor yn dymuno
cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli
anwyliaid yn ddiweddar. Safodd y Cyngor fel arwydd
o barch. (2) Dymuniadau gorau Dymunwyd yn dda i’r
Cynghorydd Eddie Dogan yn dilyn anhwylder diweddar ac i’r Cynghorydd Linda Morgan oedd yn derbyn triniaeth
ar hyn o bryd. (3) Llongyfarchiadau Llongyfarchwyd y canlynol:- ·
Yr holl bobl ifanc
a phlant o Wynedd fu’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd
yng Nghaerffili. ·
Ysgol Glanaethwy ar eu llwyddiant yn dod yn drydydd yn y
gystadleuaeth ‘Britain’s Got Talent’. ·
Ysgol Abererch, ar ennill y Wobr Menter
Bwyta’n Iach gyda’r prosiect SMŴ-FI.
‘Roedd y rhain yn wobrau cenedlaethol ac ‘roedd dros 2,500 o ysgolion
wedi cystadlu. ·
Ymdrech a
llwyddiant Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn ar ennill y Wobr Platinwm Eco-Sgolion, sef yr ysgol gyntaf drwy Wynedd
i dderbyn y wobr hon. ·
Ysgol Edern ar
ennill Gwobr Masnach Deg cwmni Devine. ·
Y Cynghorydd Dewi
Owen ar gael ei ethol ar Fwrdd Gogledd Cymru o Undeb
Amaethwyr Cymru. Nodwyd hefyd bod Ysgol Craig y Deryn, Llanegryn ar y rhestr fer
ar gyfer Medal Aur Pensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod a hefyd wedi ennill Gwobr
Prydain Sefydliad Cynllunio Tref Frenhinol yn ddiweddar,
yn dilyn ennill Gwobr Cymru
yn 2014. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn
unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig
dan gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diolchodd yr Aelod Cabinet Adnoddau i bawb, yn aelodau a swyddogion,
fu’n rhan o’r Gweithdai Craffu
Toriadau gan nodi y byddai prif
sylwadau’r sesiynau wedi’u hymgorffori yn yr argymhellion
i’r Cabinet ar 30 Gorffennaf. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan
Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN STRATEGOL CYNGOR GWYNEDD 2015-17 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn argymell
i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Strategol penodol ar gyfer y flwyddyn
i ddod. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Gan gyfeirio at y Prosiect Gwynedd Digidol,
holwyd a fyddai’n bosib’ ymestyn y band eang yn ysgolion gwledig y sir i
adeiladau a thrigolion cyfagos fel bod y gymuned ehangach yn gallu manteisio ar
y ddarpariaeth. Nododd y Cadeirydd fod
hwn yn bwynt y gellid edrych i mewn iddo.
Gofynnwyd hefyd am sicrwydd y bydd y Cyngor yn dwyn pwysau ar BT Openreach i sicrhau bod band eang cyflym yn cyrraedd yr
holl ardaloedd gwledig. Nododd y
Cadeirydd fod hynny’n fater fydd yn cael sylw. ·
Gan gyfeirio at y templed Cynnal Asesiad
Effaith Cydraddoldeb yn Atodiad 2, nododd aelod iddi dderbyn cŵyn yn ddiweddar bod y pecyn priodi ar gyfer cyplau
un rhyw yn cynnwys y geiriau ‘priodferch’ a ‘phriodfab’ wedi’u
croesi allan a ‘phartner 1’ a ‘phartner 2’ wedi’u gosod yn eu
lle, a hefyd yn cynnwys y geiriau ‘ef’ a ‘hi’. ‘Roedd ar ddeall hefyd nad oedd yna gyfle i
rywun dywys y partneriaid i lawr yr eil.
Ychwanegodd fod hyn yn eithrio pobl a gofynnodd am i’r mater gael ei
drafod mewn pwyllgor craffu. Mewn
ymateb, nododd y Cadeirydd bod y rhain yn faterion y tu allan i’r Cynllun
Strategol, ond yn faterion sydd angen sylw, ac y byddai’r neges yn cael ei
phasio ymlaen i’r adran berthnasol. ·
Llongyfarchwyd y
Cabinet a’r swyddogion ar y Cynllun Strategol.
Nodwyd bod y ffocws yn glir iawn yn y ddogfen a chytunwyd mai dyma’r prif feysydd y dylai’r Cyngor fod yn edrych arnynt
yn strategol dros y cyfnod hynod o heriol sydd i ddod. ·
Gofynnwyd i’r
swyddogion wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod Gwynedd yn elwa ar gyfran
deg o’r £9m o arian Rhaglen Datblygu Gwledig a glustnodwyd gan Lywodraeth Cymru
ar gyfer ardaloedd a chymunedau gwledig.
Nododd y Cadeirydd y byddai’r sylw’n cael ei basio ymlaen i’r
Cabinet. Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd
fod rhaid i’r Cyngor fod yn ofalus ei fod yn denu cymaint â phosib’ o arian o
gronfeydd Ewrop. ‘Roedd record Cyngor
Gwynedd yn y maes yma’n arbennig o dda a diau y
byddai’r gwaith hwnnw’n parhau er sicrhau cymaint o
fudd ag y gellir i economi wledig y sir. ·
Nodwyd bod rhaid i’r Cyngor ei hun gymryd
camau i gryfhau’r economi leol, ond ‘roedd y system gynllunio bresennol yn milwrio
yn erbyn datblygiadau economaidd, a phwysleisiwyd y dylai’r Cyngor allu cefnogi
busnesau bach yn eu bro eu hunain, yn hytrach na’u gyrru i stadau diwydiannol
yn y trefi. Cytunodd y Dirprwy Arweinydd
â’r sylw gan nodi bod gweithgor o un o’r pwyllgorau
craffu yn edrych i mewn i’r sefyllfa er mwyn gweld sut y gellir
creu trefn gynllunio gadarnhaol sy’n annog, yn hytrach nag yn rhwystro, yr
economi. · Nodwyd bod agor ysgol newydd Y Groeslon wedi golygu cau ysgol Carmel, oedd â dros 60 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2014/15 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol a Chyfarwyddwr Corfforaethol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau
Cymdeithasol ar gyfer 2014/15. Yn ei chyflwyniad, rhoddodd y Cyfarwyddwr amlinelliad o berfformiad y
gwasanaethau cymdeithasol yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn a fu, gan adrodd ar
berfformiad da ynghyd â meysydd lle mae angen gwella, a hynny o fewn cyd-destun
lle mae angen trawsffurfio a newid er mwyn ymateb i ofynion deddfwriaethol ac
ariannol. Ymhelaethodd hefyd ar yr hyn
sy’n wynebu’r Gwasanaethau Cymdeithasol dros y cyfnod nesaf ac i ba raddau
mae’r perfformiad yn rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa gref neu beidio. Cymerodd y cyfle
hefyd i ddiolch i holl staff yr adrannau a hefyd y gweithwyr gofal ar hyd a
lled Gwynedd, yn fewnol ac allanol, am eu gwaith caled ac ymroddiad llwyr i’r
gwaith pwysig hwn. Diolchodd yn benodol
i’r ddau Aelod Cabinet, y Cynghorwyr Gareth Roberts a Mair Rowlands am eu
cefnogaeth ac i’r cyn-aelod Cabinet, y Cynghorydd Wyn Williams am ei waith yn
ystod y flwyddyn. Diolchodd hefyd i Aled
Davies am sefyll yn y bwlch fel Pennaeth yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant,
gan ddymuno gwellhad buan i Gwenan Parry. Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd y Cyfarwyddwr i gyfres o gwestiynau /
sylwadau gan yr aelodau mewn perthynas â:- ·
Yr angen am dri Phencampwr Gofal - un dros
Arfon, Dwyfor a Meirionnydd. Nodwyd,
gyda’r newidiadau mawr sydd ar y gorwel, y byddai’n anodd i’r Pencampwr Gofal
presennol barhau i weithredu dros Wynedd gyfan a chan fod yna gyswllt agos
rhwng y rôl a gwaith y Cyngor Iechyd Cymdeithas, awgrymwyd y gallai’r ddau
aelod sy’n cynrychioli ardaloedd Arfon a Dwyfor ar y corff hwnnw ymgymryd â
rhywfaint o waith y Pencampwr Gofal yn yr ardaloedd hynny. Nododd y Cadeirydd y byddai’r sylw’n cael ei
basio ymlaen i’r gwasanaeth ei ystyried. ·
Siomedigaeth bod y
Cyngor wedi gwneud i ffwrdd â swydd y Swyddog Anableddau yn dilyn ymddeoliad
cyn-ddeilydd y swydd a chais i ail-sefydlu’r swydd. Nododd y Cadeirydd y byddai’r sylw’n cael ei
basio ymlaen i’r gwasanaeth ei ystyried. ·
Cydweithio gyda’r
gwasanaeth iechyd yn wyneb trafferthion presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr. ·
Llwyddiant y
Prosiect yn Alltwen. ·
Morâl y staff a sut
mae monitro hynny. ·
Y cyfle i hyrwyddo
ffyrdd gwahanol o weithio ac arloesi a symud yr agenda trawsffurfio yn ei
flaen. ·
Llwyddiant y Tîm Trothwy Gofal sy’n edrych ar
drawsnewid y gwasanaeth plant. ·
Yr her o gadw’r
staff presennol a denu staff newydd o’r ysgolion, y prifysgolion a’r colegau
lleol yn y sefyllfa ariannol sydd i ddod. ·
Pwy a beth sy’n
gwneud i gost y gwasanaeth fod mor uchel, o gofio nad yw llawer o bobl byth yn
mynd ar ofyn y gwasanaeth? ·
Pam bod lefelau cancr mor uchel yng
Ngwynedd? Atebodd y Cyfarwyddwr y gallai
hi a’r Aelod Cabinet Oedolion ac Iechyd godi’r math yma o gwestiwn yn y Fforwm
Sirol gyda swyddogion a rheolwyr y Bwrdd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r
trydydd sector. Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr a’i staff am eu holl waith yn ystod y flwyddyn. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn adolygu cydbwysedd
gwleidyddol y Cyngor. PENDERFYNWYD mabwysiadu
dyraniad seddau ar bwyllgorau’r Cyngor yn unol
â’r tabl isod:- PWYLLGORAU CRAFFU
PWYLLGORAU ERAILL
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ABSENOLDEB AELOD O'R CYNGOR Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad
yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo
absenoldeb y Cynghorydd
Linda Morgan o gyfarfodydd y Cyngor
oherwydd ei bod yn derbyn triniaeth
ar hyn o bryd, sy’n debygol
o effeithio ar ei gallu i fynychu
cyfarfodydd ffurfiol o’r awdurdod am gyfnod. Dymunwyd yn dda i’r
Cynghorydd a nodwyd y byddai ei chyd-gynghorwyr
yn cynnig pob gwasanaeth all fod o gymorth iddi
yn ei hardal. PENDERFYNWYD cymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Linda Morgan o gyfarfodydd
y Cyngor oherwydd yr amgylchiadau personol, yn unol
ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, gan ei galluogi
i barhau i fod yn aelod o Gyngor
Gwynedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(A) Yn unol â’r
Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran
4.20 y Cyfansoddiad, bydd y
Cynghorydd R.H.Wyn Williams
yn cynnig fel a ganlyn:- “Galwn ar Lywodraeth
San Steffan i ddatganoli pwerau Comisiwn y Goron i Lywodraeth Cymru fel bod Cymru'n
manteisio ar incwm a geir o diroedd ac arfordir Cymru. Bydd hyn
yn golygu y bydd Cymru yn
fwy llewyrchus drwy fod yn
berchen ar yr hawliau i bysgota,
mwyngloddio, chwilio am nwy ac olew, ynni'r
llanw a thonnau'r môr a ffermydd gwynt, aur ac arian,
a'r holl ynni a'r adnoddau
sydd o fewn dyfroedd a ffiniau tiriogaethol dynodedig Cymru. Rydym hefyd
yn gofyn i Awdurdodau Lleol eraill Cymru gefnogi'r
cais." (B) Cyflwyno, er gwybodaeth, lythyr gan Mark Thomas, Golygydd y Daily
Post, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Sian Gwenllian i’r cyfarfod diwethaf ynghylch penderfyniad Trinity
Mirror i gau Swyddfa’r
Herald yng Nghaernarfon. (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd R.H.Wyn Williams, dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd. “Galwn ar Lywodraeth
San Steffan i ddatganoli pwerau
Comisiwn y Goron i Lywodraeth Cymru fel bod Cymru'n manteisio ar incwm
a geir o diroedd ac arfordir Cymru. Bydd hyn yn golygu
y bydd Cymru yn fwy llewyrchus
drwy fod yn berchen ar
yr hawliau i bysgota, mwyngloddio, chwilio am nwy ac olew, ynni'r llanw
a thonnau'r môr a ffermydd gwynt, aur ac arian, a'r
holl ynni a'r adnoddau sydd
o fewn dyfroedd a ffiniau tiriogaethol dynodedig Cymru. Rydym hefyd yn
gofyn i Awdurdodau Lleol eraill Cymru
gefnogi'r cais." Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd:- ·
Er y croesawid yr
egwyddor y tu ôl i’r cynnig, nad oedd hyn mor syml ag y mae’n swnio gan y
byddai’n rhaid i Gymru fod yn wlad annibynnol o’r
bron i gael yr hawliau yma. ·
Bod hyn am ddigwydd
yn yr Alban. ·
Y cefnogid y
cynnig, a phetai hyn yn cael ei wireddu a bod yr arian yn dod i Gymru, y dylai fynd i’r ardaloedd hynny o ble mae’r arian
yn dod, ac nid i Gaerdydd. Cefnogwyd y cynnig. PENDERFYNWYD derbyn y cynnig. (b) Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr gan Mark Thomas, Golygydd y Daily
Post, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Sian Gwenllian i’r cyfarfod diwethaf ynghylch penderfyniad Trinity
Mirror i gau Swyddfa’r
Herald yng Nghaernarfon. PENDERFYNWYD nodi’r llythyr. |