Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoleb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Trevor Edwards, Chris Hughes, Brian Jones, Peter Read, Mair
Rowlands a Glyn Thomas. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2016 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2016 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eglurodd y Swyddog
Monitro y byddai’r prif swyddogion oedd yn bresennol yn gadael y siambr ar
gyfer eitem 10 ar y rhaglen ‘Adolygiad Blynyddol – Polisi Tâl y Cyngor’ gan fod
yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau.
Byddai’r prif swyddogion i gyd, ac eithrio’r Prif Weithredwr, yn gadael
ar gychwyn y drafodaeth ac yna byddai’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn
dychwelyd ar gyfer y materion cyflogaeth eraill a’r Prif Weithredwr yn gadael
er rhoi cyfle i’r aelodau godi unrhyw fater penodol yng nghyswllt cyflog y Prif
Weithredwr. Datganodd
y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr Corfforaethol, y Pennaeth Cyllid, y Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol / Swyddog Monitro
fuddiant personol yn yr eitem hon gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u
cyflogau. ‘Roeddent
o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Cyfarwyddwyr
Corfforaethol, Y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol / Swyddog
Monitro y cyfarfod yn ystod yr holl drafodaeth, a’r Prif Weithredwr a’r
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn ystod rhan o’r drafodaeth, ar yr eitem. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlad Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Mair Rowlands
ar farwolaeth ei nain. Nodwyd bod y Cyngor hefyd yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir
oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Safodd y Cyngor
fel arwydd o barch. Dymuniadau
gorau Dymunwyd yn dda i’r canlynol:- ·
Y
Cynghorydd Peter Read yn dilyn llawdriniaeth ddiweddar, a hefyd y Cynghorwyr
Trevor Edwards a Brian Jones oedd yn dioddef o anhwylder ar hyn o bryd. ·
Merch
y Cynghorydd Louise Hughes, oedd wedi derbyn dau drawsblaniad organ yn
ddiweddar, ac atgoffwyd pawb o bwysigrwydd rhoi organau. ·
Clwb
Ffermwyr Ifanc Dinas Mawddwy ar ennill cystadleuaeth hanner awr o adloniant yn
Sir Feirionnydd, gan ddymuno pob lwc iddynt yn y rownd derfynol ym Mhorth
Talbot dydd Sadwrn. ·
Pawb
o’r aelodau fyddai’n sefyll etholiad ym mis Mai. Croeso Croesawyd y Cynghorydd Tudor Owen yn ôl yn
dilyn anhwylder diweddar. Llongyfarchiadau Llongyfarchwyd y
Cynghorydd Gethin Williams a’i wraig ar eu priodas yn Gretna Green yn
ddiweddar. Gair o ddiolch Gan mai hwn fyddai
ei gyfarfod olaf yn y gadair, diolchodd y Cadeirydd i’w gyd-aelodau am bob
cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf. |
|
DATGANIAD GAN ARWEINYDD Y CYNGOR Derbyn datganiad gan Arweinydd
y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd yr
Arweinydd ddatganiad yn sgil cyhoeddi ei fwriad i sefyll i lawr o’i rôl fel
Arweinydd a chynghorydd dros Benygroes ym mis Mai. Nododd y bu’n Arweinydd y Cyngor ers 2008 ac
y byddai ei olynydd yn etifeddu cyngor sefydlog ac uchelgeisiol sydd wedi
gwneud gwahaniaeth er gwell i gymunedau a phobl y sir. Cyfeiriodd at nifer o lwyddiannau’r Cyngor
dros y tymor hwn, a hynny er gwaethaf y cyd-destun ariannol heriol, a nododd
fod pob aelod o’r Cyngor wedi chwarae ei ran yn y llwyddiant hwn. Diolchodd i’r
aelodau am eu cyfraniad a’u hymroddiad, nid yn unig i’w wardiau, ond i Wynedd
gyfan. Diolchodd hefyd i arweinwyr y
grwpiau gwleidyddol am y cydweithio, i aelodau ei grŵp ei hun am fod yn
gefn iddo, i’r Dirprwy Arweinydd am ei gefnogaeth ac i’r Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd am eu gwaith bugeiliol.
Mynegodd ei werthfawrogiad o ymroddiad y staff i waith y Cyngor gan
ddiolch i’r staff hynny fu’n ei gynorthwyo dros y blynyddoedd, Bethan, Einir a
Llywela, a Thïm y Cabinet yn gyffredinol.
Diolchodd yn arbennig i’r Prif Weithredwr am ei waith a’i barodrwydd i
gofleidio newid ac arwain drwy esiampl. Diolchodd y Cadeirydd
i’r Arweinydd am ei ddatganiad, ac ar ran yr holl aelodau, diolchodd iddo am ei
arweiniad i’r Cyngor dros y blynyddoedd, gan ddymuno’n dda iddo i’r dyfodol. Mynegodd y Dirprwy
Arweinydd ei werthfawrogiad o arweiniad cadarn a doeth yr Arweinydd gan nodi
iddo gynrychioli’r Cyngor hwn ar lefel genedlaethol a rhyng-genedlaethol ag
urddas. Llwyddodd hefyd i ymestyn ar
draws y pleidiau gan lobïo a rhoi yn ddiflino dros bobl Gwynedd. Diolchodd y Prif
Weithredwr i’r Arweinydd, ar ran y staff, am ei arweinyddiaeth gadarn a chlir
a’i allu i herio mewn ffordd adeiladol a chefnogol. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu
fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y
rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: “Pa elw / grantiau
mae Cyngor Gwynedd wedi ei dderbyn dros y 10 mlynedd ddiwethaf drwy Undeb Ewrop
ynghyd â grantiau eraill a dderbyniwyd trwy bartneriaeth / busnes yng Ngwynedd yn ystod y cyfnod 10 mlynedd?” Ateb gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod
Cabinet Economi a Chymuned (Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn gwreiddiol i’r aelodau ymlaen llaw.) “Ers 2007, mae
Cyngor Gwynedd wedi derbyn £48.5m o arian gan Gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd
sydd wedi galluogi i gyfanswm o £89.6m gael ei fuddsoddi yn y sir. Hefyd, mae cyrff eraill allanol fel Prifysgol
Bangor, fel y gwelwch, yn cael arian sylweddol.
Mae’r cwestiwn ynghlwm â’r arian, ond ‘rwy’n
meddwl, o fynd o gwmpas fy ngwaith dydd i ddydd dros y 2 flynedd ddiwethaf, yr
hyn yr hoffwn dynnu sylw ato ydi’r hyn mae’r arian yma wedi ei alluogi, sef
cefnogi swyddi a chefnogi syniadau, a hyn, mi gredaf, sy’n bwysig i’w fesur
ynghlwm â’r arian.” Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd R.H.Wyn Williams “Sut mae’r Cyngor
yn gweld y sail o golli cymaint o gymorth yn y dyfodol a lle a beth yw’r patrwm
at y dyfodol?” Ateb gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod
Cabinet Economi a Chymuned “Mae hwn yn dipyn o gwestiwn ac ni allaf ond ateb o’m profiad i o’r trafodaethau ‘rwyf wedi gael yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cabinet. ‘Rwy’n gweld sawl cyfeiriad o newid, bod yna gydweithio hefo 6 sir ar draws y Gogledd, ac mae hynny’n dda o beth, ond i fod yn rhan o’r arian ‘rwy’n credu mai cyfeiriad llywodraeth San Steffan yw gwario ar isadeiledd a diwydiannau penodol. Mae’n rhaid i ni fod yn rhan o’r trafodaethau yna. Mae’n bwysig bod yn rhan o isadeiledd trydaneiddio Rheilffordd y Gogledd, ac ati. Ond hefyd mae yna dynfa i’r cydweithio yna fynd ar draws yr ardaloedd dinesig, y Northern Powerhouse, ac mae’r De yn gweithio gyda Bryste. Ac mae yna dynfa yma sydd yn fy mhryderu braidd. Mae’r prosiectau a welwch ar y rhestr yn brosiectau penodol i bwrpas penodol sy’n hawdd eu mesur ac yn cael dylanwad da, mi gredaf. ‘Rydym eisoes wedi rhestru prosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus yng Ngwynedd. Mae perygl ein bod yn colli’r prosiectau bychain yma ar draul bod yn rhan o’r trafodaethau isadeiledd mawr a hynny yw fy mhryder. Ymhellach ymlaen ar y rhaglen, byddwn yn trafod ail-drefnu llywodraeth leol ac ‘rwy’n credu mai yna efallai mae ein cyfraniad ni fel Cyngor, h.y. ein bod yn sicrhau bod unrhyw ad-drefniant a chydweithio rhanbarthol yn sicrhau bod ein llais ni yna ar gyfer y pethau mân a bychain sy’n gwneud gwir wahaniaeth i fywydau ac i gyfleoedd pobl ynghyd â’r isadeiledd. Felly mae tipyn o waith o’n blaenau. O bosib’ daw arian yn ôl yn gyfatebol i Gymru ond mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod y budd economaidd i ni, nid yn fudd i’r rhanbarthau dinesig, ond yn fudd i fywydau pobl go iawn. Dyna pam bod angen economi gref, er mwyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2017-18 PDF 137 KB Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd
2017/18, oedd yn ymestyniad blwyddyn o Gynllun Strategol Cyngor Gwynedd 2013 -
17 a hefyd yn pontio’r cyfnod rhwng y Cynllun Strategol a’r cynllun newydd a
fydd yn cael ei baratoi a’i fabwysiadu gan y Cyngor a fydd yn cael ei ethol ym
mis Mai. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod arian wedi’i
glustnodi yn y gyllideb fel ymrwymiad ar gyfer ariannu’r cynlluniau i wella
hynny sydd angen adnoddau ychwanegol er mwyn parhau i fedru cyflawni eu
hymrwymiadau. ·
Sylwyd bod canran gwariant y Cyngor gyda busnesau
lleol wedi gostwng o 40.42% yn 2014/15 i 38% yn 2015/16 a gofynnwyd am
ymroddiad bod y Cyngor yn gwario’n fwy lleol yn hytrach nag yn mynd allan o’r
sir am waith. Mewn ymateb, eglurwyd bod
mesurydd eithaf llym yn cael ei ddefnyddio i fesur y gwariant ond bod gwaith ar
droed i geisio newid hynny a bod gwaith yn parhau
hefyd i gynyddu’r gwariant yn lleol. PENDERFYNWYD
mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2017/18. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2017-18 PDF 83 KB Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Adnoddau
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau adroddiad yn argymell i’r Cyngor
gymeradwyo Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2017/18. Nodwyd bod y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion
wedi ystyried y Polisi Tâl yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror 2017 ac yn argymell
i’r Cyngor ei fabwysiadu. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Holwyd a oedd modd ail-edrych ar y polisi o beidio
eithrio cyn-swyddogion, a dderbyniodd daliadau diswyddo, ar sail gormodedd neu
bensiwn, rhag cael eu hail gyflogi.
Atebodd y Prif Weithredwr fod bwriad i wneud hynny yn y Cyngor newydd. ·
Codwyd cwestiwn ynglŷn ag ariannu codiad o 7%
yng nghyflogau prif swyddogion. Atebodd
y Prif Weithredwr nad oedd a wnelo unrhyw godiad cyflog flynyddoedd yn ôl â’r Polisi Tâl cyfredol ond bod croeso i’r aelod ddod i
drafod ymhellach gydag ef ar ôl y cyfarfod. PENDERFYNWYD
cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i’r Cyngor
fabwysiadu’r drafft o Ddatganiad Polisi Tâl ar gyfer 2017/18 yn Atodiad 1 i’r
adroddiad. |
|
CYLLIDEB 2017/18 A STRATEGAETH ARIANNOL 2017/18 - 2019/20 PDF 132 KB Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Adnoddau
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau:- ·
Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei
chymeradwyo ar gyfer 2017/18. ·
Atodiad yn manylu ar faterion i’w hystyried wrth
sefydlu’r gyllideb, ynghyd â’r strategaeth
tymor-canol. ·
Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar
argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 2.8%) ynghyd â thablau yn
dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned. Nododd yr Aelod
Cabinet fod y drefn o sefydlu Strategaeth Ariannol y Cyngor wedi bod yn drefn gynhwysol
o gydweithio a diolchodd i’r Prif Weithredwr, yr Uned Ymchwil, y Pennaeth
Cyllid a staff yr Adran Gyllid am eu cydweithrediad dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Yn ystod y
drafodaeth, nodwyd:- ·
Bod y Cyngor wedi cymeradwyo gwario arian dan
eitemau 6 a 7 uchod, ond yn penderfynu codi arian yma. Atebodd y Pennaeth Cyllid fod y
penderfyniadau hynny yn golygu symud ymlaen â materion oedd eisoes yn y
gyllideb. ·
Bod arbedion effeithlonrwydd yn golygu lleihad yn
nifer y staff sy’n golygu na all cynghorwyr gael gafael ar neb i basio cwynion
ymlaen. Mewn ymateb, nododd yr Aelod
Cabinet nad oedd arbedion effeithlonrwydd yn doriadau a bod modd cynnal
gwasanaeth yn fwy effeithiol heb dorri staff.
Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid, yn sgil yr arbedion effeithlonrwydd a’r
toriadau a gymeradwywyd eisoes, ei bod yn rhesymol cynhyrchu tua £1m o arbedion
effeithlonrwydd pellach er mwyn cadw’r dreth ar y lefel sy’n cael ei argymell
ac na fyddai’r arbedion effeithlonrwydd hyn yn cael effaith ar y trethdalwyr. ·
Bod y penderfyniad i wneud i ffwrdd â’r swyddog anabledd wedi cael effaith. ·
Bod trethdalwyr Môn a Cheredigion
yn talu llai na threthdalwyr Gwynedd, ac er y croesawid y ffaith bod Gwynedd
wedi derbyn y setliad gorau yng Nghymru eleni, ‘roedd hon yn sir dlawd iawn a
byddai’r codiad yn anodd iawn i bobl sydd eisoes yn cael anhawster cael deupen
llinyn ynghyd. ·
Y byddai cyfyngu’r cynnydd yn y dreth i 1.5% yn dod
â Gwynedd yn agosach at Fôn a chymdogion eraill. Nodwyd hefyd bod lefel chwyddiant yn is na 2%
erbyn hyn. ·
Bod pwysau hefyd ar gynghorau cymuned a thref a’r
Awdurdod Heddlu i godi eu trethi a bod cynnydd o 2.8% yn rhesymol iawn. ·
Bod y toriadau o £4.3m yn y maes addysg yn taro’r
sector cynradd sy’n golygu bod plant yn symud i fyny i’r uwchradd heb gyrraedd
y safon ddisgwyliedig a bod hynny, yn ei dro, yn golygu mwy o waith gyda llai o
adnoddau. ·
Bod pobl yn gweld eu hunain yn talu mwy am lai o
wasanaethau. ·
Bod y dreth ar dŷ Band D yng Ngwynedd yn ddrutach na thŷ Band D yng Nghaerdydd a Gwynedd oedd y 6ed uchaf yn 2016. · Y byddai 2% yn unig o godiad yn y dreth yn golygu lleihad o £13 y flwyddyn i drigolion Band D ac £1.47m o incwm yn lle £2.06m. Byddai gan y Cyngor £5m o falansau ar ddiwedd Mawrth a gellid defnyddio £0.5m o’r balansau hynny i falansio’r gyllideb. Mewn ymateb, eglurodd y Prif Weithredwr fod angen cynnydd o 2.8% i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Adnoddau
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu’r
strategaethau arfaethedig. Nodwyd y cyflwynwyd y strategaethau
i’r Pwyllgor Archwilio ar 9 Chwefror, lle eglurwyd a derbyniwyd y cynigion yn gyffredinol,
ymhellach i gwestiynau gan aelodau, ac y penderfynodd y Pwyllgor hwnnw argymell
i’r Cyngor fabwysiadu’r strategaethau. Diolchodd Is-gadeirydd y Pwyllgor
Archwilio i gwmni Arlingclose, ymgynghorwyr trysorlys
y Cyngor, am eu heglurhad clir o’r gwahanol risgiau. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad
Strategaeth Rheolaeth Trysorlys, y Strategaeth Darpariaeth Lleiafswm Refeniw
a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2017/18 (Atodiad A), y Dangosyddion
Darbodus (Atodiad B) a’r Atodlenni Rheolaeth Trysorlys (Atodiad C). |
|
PWL BUDDSODDI CYMRU - CYTUNDEB RHWNG AWDURDODAU PDF 303 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau adroddiad yn:- ·
Nodi
cefndir y trefniadau pŵl buddsoddiadau ar draws yr wyth Cronfa Bensiwn
Awdurdod Lleol yng Nghymru a’r angen i ymrwymo’n ffurfiol i gytundeb rhwng y
cronfeydd i sefydlu trefniadau gweinyddol a llywodraethol i reoli’r trefniadau
pŵl. ·
Argymell Cytundeb Rhyng-Awdurdodau
i’r Cyngor. Mewn ymateb i ymholiad, ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid ar rôl a
chyfrifoldebau’r Pwyllgor Pensiynau yn sgil sefydlu’r Cyd-bwyllgor newydd. PENDERFYNWYD
bod y Cyngor yn:- 1.
Nodi cynnwys y
Cytundeb Rhwng-Awdurdodau (IAA) drafft sydd wedi'i amgáu yn Atodiad A i’r
adroddiad ac yn dirprwyo caniatâd i'r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad â
Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, i
gymeradwyo a gweithredu fersiwn terfynol yr IAA. 2.
Cymeradwyo sefydlu
Cyd-bwyllgor (y cyfeirir ato o hyn allan fel y Cyd-bwyllgor Llywodraethu) wedi
cwblhau'r IAA y cyfeirir ato yn argymhelliad 1 uchod ac ar sail y cylch
gorchwyl sydd ynghlwm. 3.
Dirprwyo gweithrediad
rhai swyddogaethau penodol i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu fel y nodir yn y cylch
gorchwyl ac yn nodi'r swyddogaethau hynny sydd wedi'u cadw i'r Cyngor. 4.
Cymeradwyo penodi
Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau neu ei D(d)irprwy a
enwebir gan y Pwyllgor Pensiynau i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu fel
cynrychiolydd Cyngor Gwynedd. 5.
Ble cyfyd gofyn
penodol er rhoi effaith i delerau’r
Cytundeb Rhwng-Awdurdodau dirprwyo i gynrychiolydd enwebedig awdurdod
Cyngor Gwynedd i weithredu o fewn cylch gorchwyl y Cyd-bwyllgor Llywodraethu er
mwyn galluogi gweithredu unrhyw swyddogaethau sydd wedi'u dirprwyo. 6.
Cymeradwyo bod
Cyngor Sir Gâr (Cronfa Bensiwn Dyfed) yn gweithredu fel Cyngor Lletya gyda'r
cyfrifoldebau sydd wedi'u nodi yn y Cytundeb Rhwng-Awdurdodau. 7.
Dirprwyo hawl i'r
Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, i gytuno unrhyw fân addasiadau pellach i'r Cytundeb
Rhwng-Awdurdodau. |
|
ADOLYGIAD O'R DREFN GRAFFU PDF 340 KB Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn cyflwyno
argymhellion y Pwyllgor Archwilio ar fodel craffu newydd ar gyfer Mai 2017. Gosodwyd y cyd-destun gan y Dirprwy Arweinydd cyn i Is-gadeirydd y
Pwyllgor Archwilio gyflwyno’r argymhelliad yn absenoldeb Cadeirydd y pwyllgor. Awgrymwyd y dylid adrodd yn ôl i’r Cyngor llawn ymhen blwyddyn ar
lwyddiannau / methiannau’r drefn graffu newydd, pa fodel bynnag sy’n cael ei
fabwysiadu. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn o blaid Opsiwn 1 (model un prif bwyllgor
craffu):- ·
Aelodaeth y pwyllgor yn cymryd y trosolwg ac yn
sicrhau bod y materion craffu yn bethau sydd wir angen eu craffu. ·
Y pwyllgor yn cyfarfod i gyd-fynd â chyfarfodydd y
Cabinet er mwyn dilyn trywydd penderfyniadau’r Cabinet ac yn trafod gyda’r
Aelodau Cabinet. ·
Y pwyllgor yn gallu sicrhau bod yr ymchwiliadau wedi
gwneud eu gwaith yn drylwyr. ·
Y balans o ran meysydd yn
cael ei benderfynu gan y pwyllgor craffu felly gall roi pwyslais ar ba faterion
mae’n dymuno. ·
Yn chwalu silos a’r sylw
sydd ei angen yn cael ei roi i bob adran o’r Cyngor. ·
Cynghorwyr yn dod i ddeall yn well sut mae’r Cyngor
yn gweithio yn ei gyfanrwydd. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn o blaid Opsiwn 2 (model tri phwyllgor
craffu):- ·
Yn rhannu’r baich yn hytrach nag yn rhoi’r pwysau i
gyd ar un prif bwyllgor craffu fydd hefyd yn atebol am yr holl ymchwiliadau
craffu. ·
Yn gwahanu’r meysydd Addysg a Gwasanaethau
Cymdeithasol sydd gyda’i gilydd yn gyfrifol am 80% o wariant y Cyngor. ·
Yn haws sicrhau craffu o werth drwy gael gwell
gafael ar bynciau. ·
Y model un pwyllgor craffu yn ddim mwy na chabinet
cysgodol heb y cyfrifoldeb. ·
Yn amhosib’ i un pwyllgor o 15 aelod roi trosolwg o
bob dim ar draws y Cyngor. Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant bod y Cyngor yn mabwysiadu model tri
phwyllgor craffu. Gan fod canlyniad y
bleidlais ar y gwelliant yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw
o blaid y gwelliant. O ganlyniad,’roedd y gwelliant wedi cario. PENDERFYNWYD
1. Symud i’r model tri phwyllgor craffu sy’n
cael ei ddangos yn Atodiad 2 i’r adroddiad gyda’i fanteision ac anfanteision
fel y model gorau ar gyfer y Cyngor newydd. 2. Mabwysiadu argymhellion (a) i (f) ym
mharagraffau 9.1 i 9.5 o’r adroddiad, sef:- (a) Sefydlu trefn o sesiynau trafod rheolaidd. (b) Bod y rhaglen waith am y flwyddyn yn cynnwys
cyfran uwch eto o faterion sydd yn cael
eu craffu ymlaen llaw. (c) Y dylid cael trefn lle mae Aelodau Cabinet yn gwahodd aelodau
craffu atynt i wneud gwaith penodol
ar ddatblygu polisïau. (ch) Bod y Tîm Arweinyddiaeth
yn edrych yn rheolaidd gyda’r
craffwyr ar Gofrestr Risg Gorfforaethol
y Cyngor. (d) Bod mwy o bwyslais yn cael ei
roi ar gyfiawnhau
pam bod mater yn cael ei graffu. (dd) Cyflwyno syniad
newydd o drefn “Gwyntyllu”. (e) Bod y peilot craffu perfformiad
yn dod yn
rhan o drefniadau rheolaidd y Cyngor. (f) Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |
|
CALENDR PWYLLGORAU 2017-18 PDF 300 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Tynnwyd yr eitem hon yn ei hôl gan fod y calendr wedi’i seilio ar fodel
un pwyllgor craffu, sef argymhelliad gwreiddiol y Pwyllgor Archwilio i’r
Cyngor, a chytunwyd i gyflwyno calendr diwygiedig i’r Cyngor Blynyddol ar 18
Mai ar sail y model tri phwyllgor craffu. |
|
PENODI AELOD LLEYG I'R PWYLLGOR ARCHWILIO PDF 196 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog
Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a baratowyd ganddo ar y cyd â’r Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo’r drefn
a argymhellir yn yr adroddiad ar gyfer penodi aelod lleyg i’r Pwyllgor
Archwilio. Cynigiwyd yr argymhelliad gan Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Cwestiynodd aelod bwrpas y swyddogaeth ond eglurodd y Swyddog Monitro ei
bod yn ofynnol cael o leiaf un aelod lleyg ar y pwyllgor yn unol â gofynion
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r drefn a argymhellir yn yr adroddiad ar gyfer penodi aelod lleyg
i’r Pwyllgor Archwilio. |
|
PAPUR GWYN - LLYWODRAETH LEOL - CADERNID AC ADNEWYDDIAD PDF 429 KB Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i ystyried ac
addasu sylwadau drafft a baratowyd fel sail i ymateb y Cyngor i brif gynigion a
chwestiynau Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:- ·
Bod
morâl yn isel yn y cynghorau cymuned o ganlyniad i orfod derbyn mwy o
gyfrifoldebau gan y Cyngor hwn. Atebodd
yr Arweinydd fod y Papur Gwyn yn cyfeirio at yr angen i ymateb i’r newid yn
sefyllfa cynghorau tref a chymuned ac i wneud gwaith pellach er mwyn gweld pa
strwythur o gynghorau cymuned fydd ei angen i’r dyfodol er mwyn bod yn addas i
ymdopi â’r cyd-destun newydd. ·
Bod
y Papur Gwyn yn rhoi popeth i bawb, ond o fynd dan yr wyneb, gwelir arwyddion cryf o ganoli gwasanaethau i ranbarth Gogledd Cymru. Mae’r cwestiynau sydd wedi’u gosod yn ymwneud
â phethau ymylol sy’n hawdd eu hateb, ond dylid gofyn beth yw pwrpas awdurdod
lleol a lle mae’r egwyddor ddemocrataidd a’r atebolrwydd o fynd â phethau oddi
wrth y cynghorau i ryw gorff rhanbarthol?
Hefyd, mae yna ddryswch partneriaethau ar draws y Gogledd sydd bron yn
amhosib’ i’w ddeall. Pwy sy’n gyfrifol
am wneud penderfyniadau yn lle a phryd a phwy sydd yn eu craffu? Mae’n beryg’ na fydd gan Gyngor Gwynedd fawr
i’w wneud ymhen 10 mlynedd. Byd popeth
wedi mynd i rywle arall a beth fydd effaith hynny ar ein polisi iaith? ·
Bod
angen gwneud sylwadau cyffredinol cryf yn mynegi
pryder ynglŷn â’r daith sy’n cychwyn yma i
ganoli gwasanaethau i lefel rhanbarth Gogledd Cymru. Mae hefyd yn mynd yn groes i’r Byrddau
Gwasanaethau Lleol sydd wedi’u sefydlu gan ddeddfwriaeth arall a beth fydd rôl
rheini wedyn? Mae perygl dyblygu gwaith
ac mae’r sefyllfa’n ddryslyd iawn. ·
Os gwahardd Aelodau Cynulliad rhag sefyll fel
cynghorwyr, rhagdybir na fyddai’n bosib’ i gynghorwyr sefyll fel Aelodau
Cynulliad chwaith. Gwelwyd unigolion yn
gwasanaethu fel cynghorwyr tra’n Aelodau Cynulliad yn y gorffennol ac nid
penodiad i’r ddwy swydd yn atal unigolyn rhag cyflawni’r gwaith yn llawn. ·
Nid yw’r Papur yn cyfarch y rheol 6 mis ac mae angen
tynhau ar hynny. ·
Mae’r
ddogfen yn codi amheuaeth ynglŷn â gweithredu rhanbarthol. Mae sôn am Gwe yma, er enghraifft, a gwerth
hynny ar ddiwedd y dydd. Mae sôn yma am
rôl cynghorwyr a chwestiynwyd a fyddai symud i fodel rhanbarthol yn ei gwneud
yn fwy anodd ymgysylltu gyda’r cyhoedd.
Mae sôn y dylai cynghorau eu hunain benderfynu ar eu trefn bwyllgorau eu
hunain, ac mae hynny i’w ganmol. Mewn
ymateb, nododd yr Arweinydd iddo ddadlau dros ad-drefnu ar sail llinellau
cadarn, ond nad oedd yn rhannu'r un brwdfrydedd dros ad-drefnu sy’n ymddangos
yn llac ac yn niwlog gyda diffyg atebolrwydd.
Nododd hefyd ei bod yn rhyfedd fod materion fel trefn bwyllgorau a
system bleidleisio yn ddewisol o fewn deddfwriaeth. · Bod deddfwriaeth niwlog, sydd ddim yn plethu at ei gilydd yn ei gwneud yn fwy anodd gweithredu fel cynghorydd ac i’r cyhoedd ddeall pwy sy’n gyfrifol. Mae pwyllgorau rhanbarthol yn bell i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 17. |
|
ADRODDIAD ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH GOGLEDD CYMRU PDF 136 KB Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Plant a Phobl Ifanc
a’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant adroddiad yn
argymell i’r Cyngor gymeradwyo Adroddiad Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd
Cymru a gynhyrchwyd yn unol â gofyn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014. Law yn llaw â
hyn, er mwyn ymateb i’r gofynion deddfwriaethol yn llawn, ac yn unol ag
argymhelliad y Cabinet (14 Chwefror 2017), byddai angen sicrhau bod fersiwn
benodol i Wynedd o’r Adroddiad Asesiad Anghenion
Poblogaeth yn cael ei chynhyrchu’n fuan. Cwestiynwyd cywirdeb
y rhagolygon poblogaeth oedd yn darogan cynnydd yng Ngwynedd
ond gostyngiad ar Ynys Môn oherwydd, petai Wylfa B yn dod, byddai poblogaeth yr
ynys yn cynyddu’n sylweddol. Mewn
ymateb, eglurodd yr Aelod Cabinet fod yr adroddiad yn asesiad blynyddol o
anghenion blynyddol, ac wrth i amser fynd ymlaen a gwybodaeth ddod yn fwy
eglur, byddai’r cynnwys yn cael eu haddasu i adlewyrchu’r sefyllfa ar y pryd. PENDERFYNWYD
cymeradwyo Adroddiad Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru a gynhyrchwyd
yn unol â gofyn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL RHIANT CORFFORAETHOL GWYNEDD 2016/17 PDF 600 KB Ystyried adroddiad yr Aelod
Cabinet Plant a Phobl Ifanc (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden, cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Addysg adroddiad blynyddol y Panel Rhiant Corfforaethol oedd yn
amlygu rôl a chyfrifoldebau’r Cyngor i weithredu fel rhieni corfforaethol i
blant mewn gofal, yn rhannu gwybodaeth am weithrediad y panel dros y flwyddyn
2016/17 ac yn amlinellu bwriadau’r panel ar gyfer y dyfodol. Gofynnwyd i’r panel ystyried sefydlu gweithgor i edrych ar effaith
diwygiadau lles ar y niferoedd plant sy’n dod i ofal. Cytunodd yr Aelod Cabinet fod y ffigurau wedi
codi rhywfaint ond pwysleisiodd y byddai’r cynnydd wedi bod yn llawer uwch heb
ymdrechion y Tïm Trothwy Gofal i atal plant rhag dod
i mewn i ofal. |
|
ADOLYGIAD COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU PDF 123 KB Ystyried
adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn ceisio caniatâd gan y Cyngor
i swyddogion weithredu ar lunio cynigion drafft ar gyfer y Comisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol Cymru yn y cyfnod cyn yr etholiad er mwyn cwrdd ag amserlen
heriol. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Holwyd a fyddai yna ymgynghori gyda’r cynghorau
cymuned a thref cyn yr etholiad. Atebodd
y Prif Weithredwr mai diwedd Mai oedd y dyddiad cau am sylwadau i bawb, ac
eithrio’r Cyngor hwn. Petai’r cynghorau
cymuned yn dymuno cyflwyno sylwadau i’r Comisiwn, ‘roedd yn bwysig eu bod yn
gwneud hynny a byddai’n fuddiol pe byddent yn anfon copi o’u sylwadau at y
Cyngor hwn hefyd. Pe dymunai’r cynghorau
cymuned weld cynigion drafft y Cyngor hwn yn gyntaf, byddai’n rhaid iddynt aros
tan ddechrau Mai. Gan hynny, byddai’n eu
cynghori i gyfarfod ym mis Mai, ond awgrymodd fod yr aelod yn dod i’w weld os
oedd am gael eglurhad pellach. ·
Holwyd a fyddai’r adolygiad yn cynnwys trethdalwyr
hefyd gan fod yna fwy o drethdalwyr nag o etholwyr mewn nifer o ardaloedd. Atebodd y Prif Weithredwr ei fod yn sicr bron
na fyddai trethdalwyr fel y cyfryw yn cyfri’. ·
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â chost yr
adolygiad hwn a hefyd y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol, nododd y Prif
Weithredwr y gallai wneud ymholiadau, ond mai’r llywodraeth, yn hytrach na’r
Cyngor, fyddai’n ysgwyddo’r gost. ·
Awgrymwyd
nad oedd y Comisiwn yn deall daearyddiaeth y sir hon. Atebodd y Prif Weithredwr mai dyna pam ei bod
yn bwysig bod y Cyngor hwn yn rhoi ei sylwadau ymlaen. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn
gweithredu’n rhagweithiol er mwyn cynnig cynigion i’r Comisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol Cymru o fewn amserlen arfaethedig i’w gytuno gyda hwy, gan
ddilyn y camau a nodir isod er mwyn gweithredu fel a ganlyn:- ·
Cyfnod cyn etholiad: swyddogion i greu cynigion drafft ac
ymgynghori (lle bo’r angen a lle mae modd oherwydd yr amserlen) gydag aelodau a
chynghorau cymuned perthnasol. ·
Rhannu’r cynigion drafft gyda holl aelodau’r Cyngor
newydd yn dilyn yr etholiad. ·
Y Pwyllgor Archwilio (fel y corff sy’n gyfrifol am
lywodraethu) i edrych ar y cynigion a’r sylwadau gan aelodau ac i benderfynu ar
yr argymhellion drafft i’w cyflwyno i’r Cyngor. ·
Y Cyngor Llawn ym Mehefin 2017 i benderfynu ar y cynigion
i’w cyflwyno i’r Comisiwn. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Lesley Day Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi dan
Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd
Lesley Day yn cynnig fel a ganlyn:- “Mae sawl rhan o Wynedd yn dioddef yn sgil problemau a achosir gan bobl sy'n
mynnu gwaredu eu sbwriel ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd anghywir. Mae
gwastraff a ellir ei ailgylchu yn cael ei anfon i dirlenwi a biniau gorlawn y
cael eu gadael allan ar y pafin. Mae llygod mawr a gwylanod yn gwasgaru'r
gwastraff ymhellach. Mae ein swyddogion diwyd a'r casglwyr sbwriel yn
gweithio'n hynod o galed i ddelio â'r llanast ond ni
allant ymdopi â maint y broblem. Mae canlyniad hyn yn beryglus i iechyd a'r
amgylchedd. Yn y pendraw, bydd costau aruthrol i'r Cyngor os ydym yn methu
cyrraedd ein targedau ailgylchu. Ond eto mae'r drwgweithredwyr yn osgoi unrhyw
gosb. Nid oes neb yn cael ei ddirwyo na'i gosbi. Galwaf ar y Cyngor
i ofyn i'r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ystyried cyflwyno cosb effeithiol
fel mater o flaenoriaeth ac y dylai’r mater gael ei adolygu gan Bwyllgor Craffu
erbyn mis Rhagfyr 2017.” Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Lesley Day o dan
Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i heiliwyd:- “Mae
sawl rhan o Wynedd yn dioddef yn sgil problemau a
achosir gan bobl sy'n mynnu gwaredu eu sbwriel ar y diwrnod anghywir neu yn y
ffordd anghywir. Mae gwastraff a ellir
ei ailgylchu yn cael ei anfon i dirlenwi a biniau gorlawn yn cael eu gadael
allan ar y pafin. Mae llygod mawr a
gwylanod yn gwasgaru'r gwastraff ymhellach.
Mae ein swyddogion diwyd a'r casglwyr sbwriel yn gweithio'n hynod o
galed i ddelio â'r llanast ond ni allant ymdopi â
maint y broblem. Mae canlyniad hyn yn
beryglus i iechyd a'r amgylchedd. Yn y
pendraw, bydd costau aruthrol i'r Cyngor os ydym yn methu cyrraedd ein targedau
ailgylchu. Ond eto mae'r drwgweithredwyr
yn osgoi unrhyw gosb. Nid oes neb yn
cael ei ddirwyo na'i gosbi. Galwaf
ar y Cyngor i ofyn i'r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ystyried cyflwyno cosb
effeithiol fel mater o flaenoriaeth ac y dylai’r mater gael ei adolygu gan
Bwyllgor Craffu erbyn mis Rhagfyr 2017.” Mewn ymateb i’r cynnig, nododd yr Aelod Cabinet Amgylchedd:- ·
Bod rhaid bod yn ofalus iawn cyn cyflwyno dirwy neu
gosb gan fod yna bobl sy’n oedrannus ac yn anghofus, neu ddim yn deall y
system. ·
Bod gan y Cyngor hawl i ddirwyo pobl am roi’r
deunydd anghywir yn y biniau anghywir neu am roi’r biniau allan ar y dyddiau
anghywir, ond bod rhaid ystyried goblygiadau hynny i’r Cyngor. ·
Y byddai’n awgrymu bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau
ar ei newydd wedd yn sefydlu ymchwiliad i’r mater fel un o’i swyddogaethau cyntaf. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:- ·
Rhaid mynd i’r afael â’r
broblem amgylcheddol hon sy’n creu risg i iechyd yn ogystal â risg ariannol i’r
Cyngor. ·
Bod pawb yn cael gwneud fel y mynnent ac nad oes
cymhelliant i bobl wella. ·
Bod y trefniadau casglu ysbwriel yn gweithio’n dda
mewn rhai ardaloedd ond bod angen adolygiad o’r system mewn ardaloedd sydd â
dwysedd uchel o gartrefi gan nad oes gan bobl ddigon o le i storio biniau a
bocsys glas. ·
Bod biniau cymunedol yn broblemus hefyd. ·
Bod cwmnïau’n pecynnu bwydydd yn ormodol. PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig. |
|
Dogfennau ychwanegol: |