Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Morwena Edwards. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Catrin Wager ar gyfer eitem 8
gan fod y Crwner yn aelod o’i theulu. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHARFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2 EBRILL 2019 PDF 98 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Tynnwyd sylw at y
rhestr o’r Cynghorwyd presennol yn y cyfarfod diwethaf gan nodi fod
camgymeriadau i’w gweld yno, nodwyd fod angen diweddaru'r rhestr. Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 2 Ebrill 2019, fel rhai cywir. |
|
STRATEGAETH TOILEDAU CYHOEDDUS PDF 231 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn
a mabwysiadu’r Strategaeth Toiledau Cyhoeddus. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Catrin Wager PENDERFYNWYD Derbyn a mabwysiadu’r Strategaeth Toiledau Cyhoeddus. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei diolch am ddod yn rhan o dîm y Cabinet. Mynegwyd fod rhan
8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn rhoi gofyn statudol i’r Cyngor
lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol. Fel rhan o’r broses i ddatblygu’r
strategaeth, pwysleisiwyd fod ymarferiadau ymgynghori wedi digwydd.
Pwysleisiwyd fod 1,200 o ymatebion wedi ei derbyn yn rhan o’r ymgynghoriad
cyhoeddus a bod y prif negeseuon o’r ymgynghoriad wedi creu amcanion clir i’r
strategaeth. Nodwyd fod
ymgynghoriad wedi ei gynnal ar yr amcanion a nodwyd y canlyniadau’r
ymgynghoriad. Pwysleisiwyd fod y cyhoedd wedi nodi eu bod yn fodlon i gyfrannu
at gost o gadw toiledau cyhoeddus. Ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud
sicrhau fod datblygiadau yn cael ei wneud fel bod y Cyngor yn cyrraedd safonau’r
amcanion. Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr adran wedi dechrau gwneud gwaith o
uwchraddio rhai o’r toiledau. Nodwyd y llynedd
fod risg mawr i gau nifer uchel o doiledau cyhoeddus, ond oherwydd gwaith yr
adran i weithio gyda chymunedau, mynegwyd bellach fod 63 o doiledau cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd.
Mynegwyd fod hyn yn golygu fod Gwynedd yr ail sir yng Nghymru o ran nifer uchaf
o doiledau cyhoeddus ac y trydydd drwy Brydain. Diolchwyd i staff yr adran ac
i’r cynghorau Cymuned am gadw cymaint o doiledau ar agor. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Tynnwyd
sylw at waith caled yr adran yn creu'r adroddiad. Mynegwyd fod niferoedd o
doiledau wedi gostwng cymaint ar draws y wlad ond fod gwaith calonogol wedi ei
wneud i sicrhau toiledau yn y sir. -
Nodwyd
cefnogaeth i’r strategaeth ond tynnwyd sylw at Gynllun Grantiau Toiledau
Cymunedol. Mynegwyd nad yw’r defnydd o’r grant ddim yn ddigonol a bod adborth
wedi nodi nad yw’r cyhoedd yn gyffredinol yn ymwybodol o’r cynllun. Mynegwyd
nad oedd y wefan ar gyfer y cynllun ddim yn hawdd i’w ddefnyddio ond
ychwanegwyd fod yr adran yn edrych ar ffyrdd eraill i rannu’r wybodaeth. -
Mynegwyd
fod aelod o’r cyhoedd wedi cysylltu ag un o’r Aelodau Cabinet yn nodi nad oes
biniau misglwyf ar gael mewn toiledau cyhoeddus ar draws y sir. Nodwyd fod
diffyg yn y ddarpariaeth ar draws y sir a bydd gwaith yn cael ei wneud yn y
misoedd nesaf. -
Diolchwyd
i Gynghorau Cymuned a Thref am fod mor barod i addasu ac i gynnal gwasanaethau. Awdur: Steffan Jones |
|
CYNLLUN Y CYNGOR: CAIS AM ADNODDAU DATBYLGU TECHNOLEG I GEFNOGI FFORDD GWYNEDD PDF 51 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo
dyraniad am £341,046 (tua £113,000 y flwyddyn am dair blynedd) o’r Gronfa
Trawsffurfio i gwrdd â chynnydd sylweddol mewn galw i ddatblygu systemau
cyfrifiadurol i wella gwasanaethau ar draws Cyngor Gwynedd yn sgil
darganfyddiadau ymarferion Ffordd Gwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Cymeradwyo dyraniad o £341,046
(tua £113,000 y flwyddyn am dair blynedd) o’r Gronfa Trawsffurfio i gwrdd â
chynnydd sylweddol mewn galw i ddatblygu systemau cyfrifiadurol i wella
gwasanaethau ar draws Cyngor Gwynedd yn sgil darganfyddiadau ymarferion Ffordd
Gwynedd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen cefnogi y cais am arian i
gwrdd â chynnydd sylweddol mewn galw i ddatblygu systemau cyfrifiadurol i wella
gwasanaethau ar draws y Cyngor yn sgil darganfyddiadau ymarferion Ffordd
Gwynedd. Ychwanegwyd fod yr Uned Datblygu Technoleg Gwybodaeth yn datblygu
systemau cyfrifiadurol ar gyfer holl wasanaethau’r Cyngor a bod y galw am
gynnych yr uned yma’n hanesyddol uchel. Ategwyd yn dilyn llwyddiant ymarferion
ffordd Gwynedd ar draws y Cyngor fod galw’n llawer uwch na’r gallu i gyflenwi. Yn aml, nodwyd oherwydd natur Ffordd Gwynedd o roi pobl Gwynedd yn
ganolog mae’r datrysiadau ar gyfer gwasanaethau’n unigryw ac angen teilwra’n
bwrpasol yn unol â darganfyddiadau’r ymarferion Ffordd Gwynedd. Ategwyd fod yr
adran o ganlyniad i hyn wedi bod yn arloesol ac yn aml yn creu systemau
cyfrifiadurol i gyd fynd a’r angen am wasanaeth wedi ei deilwra’n bwrpasol. Mynegwyd na fydda’i chais am arian yn diwallu yn llwyr ond y bydda’i
sicrhau fod y gwaith yn ysgafnhau. Ychwanegwyd y byddai swydd prentis gradd yn
cael ei greu yn ystod yr haf. Nodwyd y byddai’r arian yn hwb i wella'r
ddarpariaeth technoleg Gwybodaeth sydd a’r gael i’r gwasanaethau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Tynnwyd
sylw at y Cyngor yn creu systemau cyfrifiadurol newydd holwyd oes modd
gwerthu’r gwasanaethau i gwmnïau a chynghorau eraill. ¾
Mynegwyd
fod angen i’r adran fod yn fentrus a'i bod yn uchelgais i’r adran fod ar flaen
y gad o ran Technoleg Gwybodaeth Awdur: Huw Ynyr |
|
TREFNIADAU TAL CRWNER PDF 109 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol, mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth
Cyllid, i gytuno ar drefniadau i dalu cyflog i’r Uwch Grwner, a ffi i’r Crwner
Cynorthwyol yn unol a’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol, mewn
ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid, i gytuno ar drefniadau i dalu cyflog i’r Uwch
Grwner, a ffi i’r Crwner Cynorthwyol yn unol a’r adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn un technegol.
Nodwyd fod Deddf y Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 yn darparu fod gan uwch
grwneriaid hawl i gyflog, tra telir ffi i grwneriaid cynorthwyol. Mynegwyd gan
fod Deddf 2009 wedi dod a newidiadau mawr i strwythur y gwasanaeth, ychwanegwyd
yr angen am sail newydd ar gyfer talu’r uwch grwneriaid ynghyd a’r crwneriaid
cynorthwyol. Cynhaliwyd trafodaethau Cenedlaethol, a chyhoeddwyd canllaw tal
newydd yng Nghylchlythyrau 61 a 62. Mynegwyd fod mwyafrif o grwneriaid yn llawn amser ond nodwyd fod Gwynedd
a Môn yn boced ble mae Crwner rhan amser. Nodwyd fod y Cylchlythyr yn nodi mai
tan sylfaenol Uwch Grwneriaid Rhan-amser yw £20,000 sydd yn cynnwys gwaith ‘ y
tu allan i oriau’ statudol, ac yna taliadau ar gyfer pob diwrnod a weithir. Yn
dilyn trafodaethau a’r Uwch Grwner daethpwyd i gytundeb a fyddai’n golygu y
byddai’r sail y’i teilir arno yn wahanol i’r dull a nodwyd yn y Cylchlythyr.
Nodwyd fod y dull yn asesu nifer tebygol y dyddiau y disgwylir i’r Uwch Grwner
weithio bob blwyddyn a throsi i ffigwr blynyddol gan gynnwys yr elfen gyflog
sylfaenol yn ogystal. Ychwanegwyd y bydd gofyn am adolygiad cyfnodol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd
nad oedd gan y Cyngor lawer o reolaeth dros y mater gan ei fod yn fater i’r
goron. Ychwanegwyd gan ei fod ar y cyd rhwng Gwynedd a Môn fod cyfraniad Cyngor
Gwynedd ychydig yn uwch o ganlyniad i’r boblogaeth. Awdur: Iwan Evans |
|
ADOLYGIAD RHEOLAETHOL PDF 136 KB Mae atodiad ar wahân ar gyfer aelodau’r Pwyllgor yn
unig. Mae’r atodiad yn eithriedig o dan Baragraff 12 o
Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn ag unigolyn
penodol. Mae’r atodiad i’r adroddiad
yn son am faterion yn ymwneud a chyflogaeth aelodau a staff penodol, eu hamodau
gwaith a thrafodaethau ynglŷn â’r materion yma sydd yn eu hanfod yn
gyfrinachol Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: a)
Yn amodol ar (b), cytuno gydag asesiad y Prif Weithredwr fod y
strwythur rheolaethol a ddangoswyd yn Atodiadau 1 i 10 yn addas i bwrpas. b)
Cytuno i leihau’r nifer uwch o swyddi o fewn y Cyngor o 40 i 37
fel y nodir yng nghymalau 61, 62 a 64 yr adroddiad gan arbed isafswm o £211,000
yn flynyddol. c)
Gan nodi’r gofynion ym mharagraff 95 o’r adroddiad, cytuno i greu
Adran Tai ac Eiddo newydd er mwyn ein galluogi i roi mwy o ffocws ar gyflawni
ein Strategaeth Tai a gofyn i’r Prif Weithredwr ail edrych ar sefyllfa
Ymgynghoriaeth Gwynedd er mwyn gweld a oes modd arall o wireddu’r amcanion a
nodir yn yr adroddiad o ran strwythur rheolaethol ac arbedion effeithlonrwydd
pellach. ch) Nodi’r man
newidiadau pellach y bwriedi’r eu gweithredu fel y’u hamlinellir yng nghymalau 76-88 yr adroddiad sy’n cynnwys
symud rheolaeth adeiladu i’r adran Amgylchedd er mwyn iddo fod yn agosach at
Cynllunio. d)
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol addasu
Cynllun Dirprwyo’r Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau wrth iddynt ddod yn
weithredol. Cofnod: PENDERFYNIAD a)
Yn
amodol ar (b), cytuno gydag asesiad y Prif Weithredwr fod y strwythur
rheolaethol a ddangoswyd yn Atodiadau 1 i 10 yn addas i bwrpas. b)
Cytuno i leihau’r nifer uwch o swyddi o fewn y
Cyngor o 40 i 37 fel y nodir yng nghymalau 61, 62 a 64 yr adroddiad gan arbed
isafswm o £211,000 yn flynyddol. c)
Gan
nodi’r gofynion ym mharagraff 95 o’r adroddiad, cytuno i greu Adran Tai ac
Eiddo newydd er mwyn ein galluogi i roi mwy o ffocws ar gyflawni ein
Strategaeth Tai a gofyn i’r Prif Weithredwr ail edrych ar sefyllfa Ymgynghoriaeth
Gwynedd er mwyn gweld a oes modd arall o wireddu’r amcanion a nodir yn yr adroddiad
o ran strwythur rheolaethol ac arbedion effeithlonrwydd pellach. ch)
Nodi’r man newidiadau pellach y bwriedi’r eu gweithredu fel y’u
hamlinellir yng nghymalau 76-88 yr adroddiad sy’n cynnwys symud rheolaeth
adeiladu i’r adran Amgylchedd er mwyn iddo fod yn agosach at Cynllunio. d)
Dirprwyo’r
hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol addasu Cynllun Dirprwyo’r Cyngor i
adlewyrchu’r newidiadau wrth iddynt ddod yn weithredol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y mater
wedi codi yn dilyn trafodaeth a gynhaliwyd y llynedd wrth ystyried toriadau i
wasanaethau. Mynegwyd fod y drafodaeth wedi codi’r cwestiwn os yw’r drefn
reolaethol yn un cywir. Ategwyd fod cyhoedd yn aml yn holi faint o reolwyr ac
uwch-reolwyr sydd gan y Cyngor ac os yw’r niferoedd yn gywir. Mynegwyd fod y
Cabinet wedi comisiynu’r Prif Weithredwr i adolygu’r drefn reolaethol. Tynnwyd sylw at y
drefn a ddilynwyd o adolygu’r strwythur bresennol gyda Phenaethiaid, lle cafodd
yr Aelodau Cabinet a'r Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion Craffu y cyfle i glywed
y gwaith herio. Ychwanegwyd fod Rhaglen Ffordd Gwynedd wedi amlygu’r angen am
fod yn gliriach ynglŷn â rolau swyddi penodol o fewn y sefydliad, gan
amlygu rôl gyda phwyslais gwahanol ac aeddfetach ar gyfer rheolwyr. Ychwanegwyd
fod y Prif Weithredwr wedi iddo weld y darlun cychwynnol o strwythurau adrannol
wedi dod i’r casgliad fod nifer o swyddi oedd yn dwyn teitl “rheolwr” wedi
esblygu dros amser, ac nad oedd oeddent yn arddel swydd rheolwr fel yr oedd yn
cael ei ddisgrifio yn y swydd ddisgrifiad diiwygiedig
ar gyfer rheolwyr. Ymhelaethwyd drwy nodi fod gwaith herio wedi ei wneud a
bellach mae’r nifer o swyddi wedi newid eu teitlau i wneud yn glir nad rheolwyr
yn unol â’r diffiniad yw’r swyddi yma. O ganlyniad i hyn, ychwanegwyd, fod y
nifer o reolwyr bellach wedi disgyn o 235 i
111. Edrychwyd yn bellach ar stwythur rheolaethol Uwch Swyddogion gan holi os oes gormod o Uwch Reolwyr. Mynegwyd o edrych dros Gymru mai dim ond 5 Cyngor arall sydd a llai o swyddi Penaethiaid a Chyfarwyddwyr na 12. Ychwanegwyd fod gan y Cyngor 43 o swyddi ar lefel Uwch Reolwr neu uwch yn 1996 ac fod y nifer wedi gostwn erbyn 2004 i 40. Holwyd y cwestiwn os yw’r nifer yn parahu i fod yn rhy uchel, nodwyd mai mater o farn a fyddai hyn. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Dilwyn Williams |