Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Cemlyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 RHAGFYR 2019 PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 17 Rhagfyr
2019 fel rhai cywir. |
|
POLISI IECHYD A DIOGELWCH A LLESIANT PDF 86 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y Polisi Iechyd
Diogelwch a Llesiant newydd. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Cymeradwywyd
y Polisi Iechyd Diogelwch a Llesiant newydd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan bwysleisio fod cael Polisi Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn
ofyniad cyfreithiol. Ychwanegwyd oherwydd maint y Cyngor fod angen i’r polisi
fod yn gwbl glir. Mynegwyd fod y polisi cyfredol yn dyddio yn ôl i 2015 ac fod llawer
o newidiadau wedi bod dros y pedair blynedd diwethaf. Amlygwyd fod y polisi yn
adlewyrchu y newidiadau hyn ac yn symud tu hwnt i’r ymrwymiad cyfreithiol
gofynnol. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Nodwyd
fod y maes yn un pwysig ac yn ganolog i waith y Cyngor. Ychwanegwyd pwysigrwydd
o gael polisïau cadarn. ¾
Amlygwyd
nad oedd sylwad gan yr undeb a gofynnwyd os oedd hyn yn rhywbeth anarferol.
Mynegwyd nad oedd ac nad oedd sylwad na gwrthwynebiad i’r polisi. ¾
Tynnwyd
sylw at siart llif o’r drefn o gynnal ymgynghoriad gan bwysleisio fod trefn
cadarn i’w ddilyn. ¾
Mynegwyd
fod digwyddiadau Iechyd a Diogelwch yn digwydd a bod y polisi yno i roi
arweiniad i’r staff Awdur: Geraint Owen |
|
CYNLLUN GWYNEDD 2018-23 - ADNODDAU I'R CYNLLUN 'CYNYDDU BUDD DIGWYDDIADAU MAWRION' PDF 102 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i ymrwymo
£50,000 o’r Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor er mwyn galluogi’r adran i wireddu’r
weledigaeth o gefnogi digwyddiadau yn unol â Chynllun Gwynedd 2018-23. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Cytunwyd i ymrwymo £50,000 o’r Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor er mwyn
galluogi’r adran i wireddu’r weledigaeth o gefnogi digwyddiadau yn unol â
Chynllun Gwynedd 2018-23. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod swyddog penodol yn edrych ar ddigwyddiadau’r sir.
Ychwanegwyd fod rôl benodol er mwyn denu digwyddiadau ac i sicrhau budd gorau i
fusnesau Gwynedd. Mynegwyd er mai cyfraniad cymharol fychan sy’n cael ei gynnig
i drefnwyr digwyddiadau tynnwyd sylw at y manteision a oedd yn cynnwys cyfleoedd
i gymunedau a phobl ifanc a lle canolog i’r Gymraeg a diwylliant Gwynedd. Amlygwyd rhestr o
uchafbwyntiau yn y maes digwyddiadau yn ystod y flwyddyn diwethaf. Ychwanegwyd
fod trafodaethau yn cael ei cynnal am mewn amrywiol leoliadau ar draws Gwynedd
ac felly nid yw trafodaethau am lleoliad y Faenol yn drafodaeth tu hwnt i’r
arferol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Holwyd sut mae digwyddiadau yn derbyn ffigyrau
niferoedd. Nodwyd drwy drafodaeth a’r trefnwyr ac yna gwerthuso ac addasu. ¾
Trafodwyd
sut mae’r adran yn edrych ar effaith digwyddiadau ar yr iaith. Mynegwyd o ran
yr elfen trefnu fod cyfarfodydd yn cael ei cynnal gyda’r trefnwyr ac fod
cytundeb yn cael ei arwyddo ganddynt. O ran monitro, nodwyd fod y Swyddog
Digwyddiadau yn mynychu rhan helaeth o’r digwyddiadau ac rhoddwyd esiampl o
ddigwyddiad ‘Red Bull Hardline’ ble mae mwy o Gymraeg i’w gweld yno yn
flynyddol. ¾
Tynnwyd
sylw at werth am arian gan amlygu i pob £1 mae’r Cyngor wedi ei fuddsoddi mewn
digwyddiadau mae’n dod a elw o £140.26 i’r sir. Holwyd sut oedd modd mesur hyn.
Nodwyd fod cyfrifiannell wedi ei greu gan Lywodraeth Cymru sydd yn cael ei greu
ar sail tybiaethau sydd eu hunain yn deillio o waith maintoli budd sy’n deillio
o’r fath ddigwyddiadau Awdur: Roland Evans |
|
CYLLIDEB REFENIW - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD PDF 83 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd
i: ·
Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2019 o’r
Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth. ·
Nodi fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant eleni, gan bod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng
ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion
perthnasol a chomisiynu gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir
i ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi
ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21. ·
Nodi fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif
Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel
bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad
gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun ymateb. I geisio cyfarch y
gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r
drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21. ·
Ar gyllidebau Corfforaethol, fod: ¾
(£198k) o gynnyrch treth ychwanegol ar Bremiwm Treth y Cyngor yn
cael ei ychwanegu at y £2.7 miliwn sydd eisoes wedi ei neilltuo yn 2019/20 i'w
ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai. ¾
(£75k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa
ariannu'r rhaglen gyfalaf. ¾
(£500k) o danwariant Corfforaethol yn cael ei neilltuo i gyllido
diffyg grant yn y maes gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. ¾
(£312k) i'w ddefnyddio i gyllido bidiau un-tro sydd wedi eu
cyflwyno gan yr Adrannau ar gyfer gwariant yn 2020/21. ¾
y gweddill sef (£502k) yn
mynd i falansau cyffredinol y Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Penderfynwyd i: ·
Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad
diwedd Tachwedd 2019 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. ·
Nodi fod gorwariant sylweddol gan yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan bod angen egluro manylder cymhleth
yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi galw
cyfarfod o'r swyddogion perthnasol a chomisiynu gwaith er mwyn cael gwell
dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r
dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar
gyfer cyllideb 2020/21. ·
Nodi fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei
gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran
Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r
bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun
ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi
ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21. ·
Ar gyllidebau Corfforaethol, fod: ¾ (£198k)
o gynnyrch treth ychwanegol ar Bremiwm Treth y Cyngor yn cael ei ychwanegu at y
£2.7 miliwn sydd eisoes wedi ei neilltuo yn 2019/20 i'w ystyried ar gyfer y
Strategaeth Dai. ¾ (£75k)
yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen
gyfalaf. ¾ (£500k)
o danwariant Corfforaethol yn cael ei neilltuo i gyllido diffyg grant yn y maes
gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. ¾ (£312k)
i'w ddefnyddio i gyllido bidiau un-tro sydd wedi eu cyflwyno gan yr Adrannau ar
gyfer gwariant yn 2020/21. ¾ y gweddill sef (£502k) yn mynd i falansau
cyffredinol y Cyngor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod rhai arwyddion o drafferthion cyflawni arbedion yn cael
eu hamlygu yn yr adroddiad. Mynegwyd fod rhai adrannau a fydd yn gorwario a
trafodwyd yr adrannau yma yn unigol. Adran Oedolion
Iechyd a Llesiant – mynegwyd fod yr rhagolygon diweddaraf yn awgrymu dros
£1.8miliwn o orwariant gan yr adran. Ychwanegwyd fod y gorwariant yn cael ei
leddfu yn rhannol i £658k yn dilyn derbyniad grant a defnydd o gyllid un tro. Adran Plan a
Cefnogi Teuluoedd – nodwyd fod lefel y gorwariant yn yr adran wedi dwysau
ymhellach i £3.2miliwn gyda £2.6 miliwn yn y maes lleoliadau, gyda cyfran
sylweddol o’r gorwariant yn deillio o leoliadau all sirol. Ychwanegwyd fod
tasglu Cyllideb wedi ei sefydlu er mwyn rhoi sylw i faterion ariannol yr adran
a nodwyd nad oedd y sefyllfa hon yn anghyffredin os yn edrych ar draws Cymru. Adran Priffyrdd –
mynegwyd fod gwariant yn parhau yn y maes casglu a gwaredu gwastraff eleni, gan
nodi mae costau trosiannol cyn symud i drefniadau newydd sydd wedi arwain at y
gorwariant. Tynnwyd sylw at tanwariant yn maes corfforaethol gyda rhagolygon ffafriol o gynnyrch treth ychwanegol ar Dreth Cyngor a Premiwm Treth Cyngor er hyn amlygwyd fod parhad yn y tueddiad i ôl ddyddio trosglwyddiadau o Dreth Cyngor i Drethi Annomestig. Pwysleisiwyd yn ogystal fod niferoedd sy’n hawlio gostyngiadau Treth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
RHAGLEN CYFALAF - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD PDF 310 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2019) o’r
rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef: ·
£50,000 lleihad mewn defnydd o fenthyca ·
£1,072,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau ·
£114,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf ·
£23,000 o leihad mewn defnydd o gyfraniadau refeniw ·
Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf ·
£228,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng.
Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad ar adolygiad
diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2019) o’r rhaglen gyfalaf, a
chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: ·
£50,000 lleihad mewn defnydd o fenthyca ·
£1,072,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau ·
£114,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf ·
£23,000 o leihad mewn defnydd o gyfraniadau refeniw ·
Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf ·
£228,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Amlygwyd
fod yr adroddiad diwygiedig yn amlygu cyfanswm o £89.1miliwn dros y tair
blynedd nesaf. Ychwanegwyd fod £1.341miliwn o gynnydd yn yr y gyllideb ers y
adolygiad blaenorol. Pwysleisiwyd fod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi
£31.8 miliwn yn 2019/20 ar gynlluniau cyfalaf. Ategwyd fod £13miliwn ohono wedi
ei ariannu drwy grantiau. Mynegwyd fod £9.2miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig
wedi’i ailbroffilio o 2019/20 i 2020/21 ond nad yw’r newid hwn wedi achosi
unrhyw golled ariannol i’r Cyngor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Trafodwyd
hawliadau gweithwyr sydd yn gweithio ar gynlluniau sydd yn cael eu hariannu yn
benodol gan grantiau a mynegwyd fod angen trafodaeth bellach ar y mater. ¾
Mynegwyd
fod angen llawenhau yn y £31.7miliwn o gynlluniau cyfalaf ar gyfer 2019/20, a
diolchwyd i’r staff am gynllunio prosiectau o flaen llaw fel bod modd manteisio
ar arian munud olaf. ¾
Tynnwyd
sylw at £1.9miliwn fydd ar gael i wella adeiladau ysgolion a fydd a oblygiadau
i’r cynllun asedau. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 118 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adroddiad wedi ei seilio am gyfarfodydd herio
perfformiad yr adran ble roedd aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yno
hefyd. Tynnwyd sylw at y prif faterion oedd yn cynnwys y Strategaeth Technoleg
Gwybodaeth gan nodi fod y cynnydd yn araf ar hyn o bryd gan fod yr adran yn
canolbwyntio ar brosiect grant addysg sydd ag amserlen dynn. Nodwyd o ran system
rheoli dogfennau a chofnodion electronig fod y cynllun yn mynd yn bositif iawn
ond fod ychydig o broblemau wedi codi. Nodwyd fod angen cylchredeg neges i’r
holl ddefnyddwyr i ofyn am adborth am y system. Tynnwyd sylw at y Gwasanaeth
Technegol Gwybodaeth a mynegwyd fod amser wedi ei fuddsoddi i hyfforddi’r staff
fel eu bod wedi’i harfogi i ymateb a datrys problemau defnyddiwr dros y ffon ar
y cyswllt cyntaf. Amlygwyd yn ogystal fod cyfnod o 3 wythnos ym mis Tachwedd
fod systemau’r Cyngor wedi gweithredu oddi ar y gweinydd wrth gefn ar dri
achlysur oherwydd toriad. Pwysleisiwyd nad oedd y defnyddiwr yn ymwybodol o
hynny ac nad oedd unrhyw effaith ar eu gwaith. Mynegwyd fod gwerth
holl ddyledion amrywiol dros 6 mis oed gohiriedig a dyledion a gyfeiriwyd am
weithrediad pellach i wasanaethau eraill yn uwch ar 30 Medi 2019 ac yr oedd ar
31 Mawrth 2019. Nodwyd mai un o‘r rhesymau dros hyn yw arafwch y Bwrdd Iechyd
yn talu gan fod trafodaethau yn cael eu cynnal ar bwy ddylai fod yn talu. Amlygwyd un o brif ddarnau gwaith yr adran dros y misoedd
diwethaf sef prisiant o’r Gronfa Bensiwn. Nodwyd fod cynnydd yn y lefel
ariannu’r gronfa o 91% yn 2016 i 108% eleni. Golygiad hyn yw y gallwn weld
elfen o leihad yng nghyfraniad y Cyngor fel cyflogwr. Nodwyd fod yr Aelod
Cabinet yn fodlon â pherfformiad yr adran ond fod lle i wella. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Mynegwyd fod busnesau bach yn gwerthfawrogi fod
anfonebau yn cael eu talu yn syth gan y Cyngor. ¾
Trafodwyd
fod 9 o bobl wedi dod i gyswllt a’r tîm adfer ac a gyfeiriwyd at fudiad CAB am
gyngor dyledion sydd yn ffigwr llawer is nag mewn blynyddoedd blaenorol. Mynegwyd efallai fod angen annog pobl i
drafod â’r staff, fel bod modd eu cyfeirio i’r gefnogaeth gywir. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS AMGLYCHEDD PDF 118 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Grffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r gwaith mae’r adran wedi bod yn ei wneud dros y misoedd a
fu. Mynegwyd fod y cyfarfod herio perfformiad wedi bod gyda’r Aelod Cabinet
ynghyd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol. Amlygwyd fod yr
Adran Amgylchedd wedi sefydlu system newydd, sef Tascomi a fydd yn cael ei
ddefnyddio gan amryw o wasanaethau o fewn yr adran a fydd yn rhoi gwasanaethau
gwell i’r trigolion. Ychwanegwyd fod arbedion wedi neu ar drac i gael eu
gwireddu a bod yr adran yn debygol o danwario am eleni. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Tynnwyd
sylw at y mesurydd nifer o apeliadau i’r beirniaid annibynnol sy’n cael eu
caniatáu gan nodi fod y nifer yn parhau yn 0. Amlygwyd fod hyn yn dangos
disgresiwn swyddogion yn gywir. Ychwanegwyd efallai fod angen nodi faint sydd
yn mynd i banel pan mae cwyn yn codi. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 114 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan dynnu sylw at y prif bwyntiau yn yr adroddiad. Tynnwyd sylw at un
o brif fesuryddion yr adran ‘a wnaethom yr hyn sydd yn bwysig i’r unigolyn?’ a
phwysleisiwyd mai hyn sydd yn gyrru’r gwasanaeth. Mynegwyd fod rhai
o’r mesurau yn fesurau statudol gan Lywodraeth Cymru megis cyfradd oediad mewn gofal
am resymau gofal cymdeithasol. Ategwyd fod y mesur hwn yn gyrru gweithgaredd
ond ddim yn adlewyrchu ar brofiad y dinesydd. Mynegwyd fod Gweithlu a Recriwtio
yn y maes gofal yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r adran. Ychwanegwyd ar y
cyfan fod yr aelod yn hapus a pherfformiad yr adran. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Diolchwyd
i’r staff gan aelod o’r Cabinet am y gwasanaeth a gafwyd gan yr adran a’i
brofiad ef o hynny oedd ei fod yn wasanaeth clodwiw. ¾
Mynegwyd
nad oes gan yr adran unrhyw graffiau yn dangos eu perfformiad ond bod yna
straeon fel hyn yn adlewyrchu ar ansawdd y gwasanaeth. ¾
Amlygwyd
mai’r gyfrinach fyddai ystyried sut mae modd trosi’r profiadau unigolion yn
fesur i dangos ansawdd y gwasanaeth Awdur: Morwena Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DDATBYLGU'R ECONOMI PDF 133 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddan gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi eu bod yn nodi’r prif bwyntiau yn yr adroddiad. Mynegwyd fod
llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio yn agos iawn gyda’r trigolion gyda diweddaru
cardiau teithio bws. Ychwanegwyd fod Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru wedi
creu darlun calonogol o Lyfrgelloedd Gwynedd. Rhoddwyd
diweddariad ar waith Neuadd Dwyfor gan nodi fod tîm defnyddwyr wedi ei sefydlu
er mwyn ymgynghori gyda phobl leol. Codwyd pryder am orwariant yn Storiel ond
nodwyd fod y gwasanaeth yn adolygu’r trefniadau ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw at
gynllun ‘busnesau’n cael cymorth i ffynnu’ sydd yn sicrhau dull gweithredu yn y
Cyngor sy’n rhoi anghenion busnes yn ganolog ac yn lleihau rhwystrau. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Tynnwyd
sylw at oedi yn gynllun arbedion parcio gan nodi fod rhai adrannau yn credu fod
codi incwm yn lleihau’r arbedion. Ychwanegwyd os nad oes codiad mewn incwm fod
dod o hyd i ddatrysiad yn gallu bod yn anodd. Awdur: Dilwyn Williams |
|
BLAEN RAGLEN Y CABINET PDF 58 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod yn ddarostyngedig i addasu man addasiadau. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod yn
ddarostyngedig i addasu man addasiadau. TRAFODAETH Nodwyd fod man addasiadau angen ei gwneud i’r blaen raglen cyn ei chyhoeddi ar y wefan. Mynegwyd fod angen i Adrannau adael i’r Tîm Gwasanaethau Democratiaeth wybod am yn amserol am eitemau fydd angen ei rhoi ar y blaen raglen ac os eitemau yn llithro. |