Lleoliad: Rhith-gyfarfod (Ar hyn o bryd nid oes modd i’r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.
Derbyniwyd diweddariad o ran gwasanaethau ailgylchu’r Cyngor yn dilyn
cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd modd i ganolfannau ailgylchu ail agor. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 EBRILL 2020 PDF 72 KB Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Ebrill
2020 fel rhai cywir. |
|
YSGOL LLANAELHAEARN PDF 771 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd i gadarnhau’n derfynol i gau Ysgol
Llanaelhaearn ar 31 Awst 2-2- a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Bro
Plennydd, Y Ffôr o 1af Medi 2020, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018. Cofnod: Cyflwynwyd
gan Cyng. Cemlyn Williams PENDERFYNIAD Penderfynwyd i
gadarnhau’n derfynol i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2-2- a chynnig lle
i’r disgyblion yn Ysgol Bro Plennydd, Y Ffôr o 1af Medi 2020, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth
Ysgolion 11/2018. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet ar 5 Tachwedd wedi penderfynu ar gynnal
cyfnod ymgynghori statudol yn unol a Deddf Safonau a Threfniadau Ysgolion ar y
cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn. Mynegwyd fod y cyfnod statudol bellach wedi
dod i ben a nad oedd dim gwrthwynebiad i’r cynnig. Ychwanegwyd drwy nodi fod yr
adran o ganlyniad yn credu mai cau yr ysgol yw’r opsiwn priodol. Diolchwyd i’r
gymuned, llywodraethwyr a rhieni am y trafodaethau aeddfed a phriodol gan
bwysleisio ei bod wedi bod yn drafodaeth anodd ar adegau. Nododd
yr Aelod Lleol ei bod yn drist iawn fod yr ysgol yn cau er ei hanes hir a
disglair. Mynegodd os yw pobl am gadw eu hysgolion lleol ar agor fod angen
iddynt eu defnyddio, diolchwyd i’r staff am eu holl waith. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Diolchwyd i’r Aelod Lleol am ei gyfraniad gwrthrychol yn ystod y trafodaethau ac am gyfraniad i’r trafodaethau. the discussions. Awdur: Gwern ap Rhisiart |
|
EFFAITH COVID-19 AR GYLLIDEB 2020/21 PDF 184 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Penderfyniad: Nodi’r
bwlch posibl yng nghyllideb 2020/21 a chefnogi ymdrechion yr Arweinydd a
swyddogion i sicrhau opsiynau ariannu addas gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd
y colledion ariannol ym mlwyddyn gyntaf (2019/20) Byw’n Iach yn sgil Covid-19,
a’r rhagdybiaeth y bydd colledion pellach yn parhau yn 2020/21 am yr un rheswm,
fod y Cabinet yn cadarnhau
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ioan Thomas PENDERFYNIAD Nodi’r bwlch posibl yng
nghyllideb 2020/21 a chefnogi ymdrechion yr Arweinydd a swyddogion i sicrhau
opsiynau ariannu addas gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd y colledion ariannol ym
mlwyddyn gyntaf (2019/20) Byw’n Iach yn sgil Covid-19, a’r rhagdybiaeth y bydd
colledion pellach yn parhau yn 2020/21 am yr un rheswm, fod y Cabinet yn
cadarnhau 1. Ei fod yn fodlon darparu y gefnogaeth
ariannol angenrheidiol i gynnal Gwasanaethau
Cwmni’n Byw’n Iach yn y man cyntaf hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol
2020/21. 2. Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid, mewn
ymgynghoriad a'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Economi a
Chymuned, ac yn unol â’r ddarpariaeth yn y Cytundeb gyda Chwmni Byw’n Iach (Atodlen 4), i ddarparu llythyr o sicrwydd i’r cwmni a
chytuno ar amodau a chynnwys y gefnogaeth. 3. Fod y Cabinet yn derbyn adroddiad penodol ar y trefniadau fel rhan o
adroddiadau adolygu cyllidebau y Cyngor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y sefyllfa yn un fregus gydag incwm wedi lleihau a
gwariant yn uwch yn ystod y cyfnod argyfwng. Ychwanegwyd fod hyn i’w gweld ym
mhob awdurdod lleol. Nododd y Pennaeth
Cyllid fod Llywodraeth Prydain wedi cynnig ariannu rhan o'r golled mewn incwm,
ynghyd â chostau ychwanegol, i awdurdodau lleol yn Lloegr. Mynegwyd fod gwahanol adrannau o Lywodraeth
Cymru yn trafod gyda’i gilydd a gobeithir y bydd cyhoeddiad yn fuan. Ategwyd
fod colled incwm y Cyngor am 3 mis oddeutu £5m, ac os fydd sefyllfa’r argyfwng
yn parhau mi fydd y golled incwm oddeutu £10m dros 6 mis. Pwysleisiwyd fod y golled yn ddibynnol ar
effaith y cyfyngiadau yn ystod y cyfnod. Mynegwyd fod
trafodaethau yn parhau gyda Llywodraeth Cymru, a’i fod yn anodd i’r Cyngor
gynllunio yn ariannol hyd nes bydd gwybodaeth gan y Llywodraeth faint o grant
disgwylir ei dderbyn, a pa mor hir y bydd yr argyfwng yn parhau. Trafodwyd sefyllfa ariannol
cwmni Byw’n Iach yn sgil cyfyngiadau’r argyfwng Covid-19, yn
2019/20 a 2020/21, a phenderfynwyd fod y
Cyngor yn cynnig cefnogaeth iddynt yn sgil effaith yr argyfwng. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd fod angen galw ar Lywodraeth Cymru i gamu ymlaen ac i gefnogi’r
Cyngor i warchod ei thrigolion. ¾ Pwysleisiwyd fod y cyfnod wedi dangos gallu’r Cyngor i ymateb a
gweithredu ar fyrder i edrych ar ôl ei thrigolion, ynghyd ag amlygu pwysigrwydd
gwasanaethau darparu. Awdur: Dafydd Edwards a Ffion Madog Evans |
|
DATGANIAD TECHNOLEG RHANBARTHOL AR AGREGAU: DRAFFT AIL ADOLYGIAD PDF 110 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd
yr Ail Adolygiad o’r Datganiad Technoleg Rhanbarthol ac i awdurdodi’r Pennaeth
Adran Cynorthwyol i gyflwyno cadarnhad o’r gymeradwyaeth y Cabinet i Lywodraeth
Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth
Griffith PENDERFYNIAD Cymeradwywyd yr Ail Adolygiad
o’r Datganiad Technoleg Ranbarthol ac i awdurdodi’r Pennaeth Adran Cynorthwyol
i gyflwyno cadarnhad o’r gymeradwyaeth y Cabinet i Lywodraeth Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r
penderfyniad. Ychwanegodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran ei bod yn ofyn i
baratoi ac adolygu'r datganiadau er mwyn darparu strategaeth ar gyfer cyflenwad
digonol i agregau adeiladau ar gyfer y dyfodol. Nodwyd fod y datganiad yn
argymell faint o agregau sydd angen i bob awdurdod gynllunio ar ei gyfer yn y
Cynlluniau Datblygu Lleol. Pwysleisiwyd wrth edrych ar Wynedd o ran y datganiad
ac ar sail fod cyflenwad wrth gefn o ran agregau a bod yr adran yn ymwybodol o ardaloedd eraill o fewn y sir ble
mae agregau yn bosib nad oes angen i’r Cyngor wneud dim byd ar frys. Mynegwyd
yn y tymor hir y bydd angen ymgorffori'r argymhelliad sydd i’w gweld yn y
datganiad wrth adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd yn ystod 2021. Mynegwyd fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei
gynnal a bod yr ymatebion i’w gweld yn atodiad 2 yr adroddiad. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|
STRWYTHUR YR ADRAN TAI PDF 118 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd
ariannu’r gost net ychwanegol o £150,500 drwy ddefnydd o gynnyrch treth y
Premiwm Treth Cyngor ar dai gwag ac ail gartrefi, er mwyn gwireddu newidiadau i
strwythur staffio’r Gwasanaeth Tai, fel amlygwyd ym mharagraffau 3.4 a 3.7 o’r
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab
Iago PENDERFYNIAD Cymeradwywyd ariannu’r gost net
ychwanegol o £150,500 drwy ddefnydd o gynnyrch treth y Premiwm Treth Cyngor ar
dai gwag ac ail gartrefi, er mwyn gwireddu newidiadau i strwythur staffio’r
Gwasanaeth Tai, fel amlygwyd ym mharagraffau 3.4 a 3.7 o’r adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi
fod y sefyllfa dai yn yng Ngwynedd yn argyfyngus gyda niferoedd digartref yn
codi ynghyd a nifer uchel o dai'r sir yn cael ei
defnyddio fel tai haf. Mynegwyd yn dilyn Adolygiad Rheolaethol y llynedd
penderfynwyd creu adran Tai ac Eiddo. Pwysleisiwyd fod yr adran yn dangos
potensial gyda swyddogion yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud
i edrych ar strwythur yr adran a bod angen arian er mwyn gwireddu newidiadau
i’r strwythur staffio. Pwysleisiwyd os na fydd ail strwythuro ni fydd modd newid y sefyllfa. Ychwanegwyd fod
yr adran wedi dod o hyd i £200k o arbedion drwy newid cyflenwyr yn y maes eiddo
ac mae posibilrwydd o ddefnyddio’r arian hwn er mwyn ariannu’r ail strwythuro. Ychwanegodd Pennaeth yr Adran
Tai mai dim ond 5 mis oed oedd yr adran pan fu i argyfwng Covid-19 daro.
Mynegwyd yn ystod y 5 mis fod y Pennaeth wedi cael amser i ddysgu mwy am y maes
tai ac i adnabod mwy o opsiynau a chynlluniau newydd. Nodwyd y bydd angen i’r
adran fod yn barod wrth fynd yn ôl i normalrwydd gan fod posibilrwydd cryf y
bydd y sefyllfa yn waeth, gan fod niferoedd digartref yn parhau i godi yn ystod
y cyfnod argyfwng. Ategodd fod yr ailstrwythuro yn gosod seiliau ar gyfer y
dyfodol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Mynegwyd fod problemau tai yn broblem sydd i’w gweld gan bob
Cynghorydd ar draws y Sir a dangoswyd cefnogaeth i’r ail strwythuro. Amlygwyd
yr argyfwng tai yng Ngwynedd yn benodol digartrefedd cudd drwy orlenwi tai gan
bwysleisio fod y sefyllfa wedi bod yn waeth yn ystod y cyfnod ble mae
cyfyngiadau. Nododd un Aelod Cabinet ei bod yn gwrthwynebu’r cais i ariannu
drwy’r premiwm Treth Cyngor ar dai gwag ac ail gartrefi, gan fod yr arian hwnnw
ar gael i gael tai i deuluoedd lleol. Holwyd pryd y bydd cynllun gweithredol ar
gael a nodwyd fod Cynllun Gweithredu yn ei le ac y bydd yn cael ei rannu mor
fuan a bo modd. ¾
Mynegwyd yr eironi fod argyfwng tai yng Ngwynedd, ond nad oes
prinder tai i’w gweld yma. Nododd fod defnyddio canran bychan iawn o’r Premiwm
Treth Cyngor yn ddefnydd dilys o’r arian. ¾
Holwyd o ran yr 1% y bydd y Cyngor yn ei dderbyn o unrhyw arbedion
a gaiff ei gwireddu gan awdurdod arall, os yn defnyddio Fframwaith Gwynedd, os
bydd hwn yn flynyddol neu yn un taliad. Mynegwyd nad ydynt yn gwbl sicr eto gan
ei bod yn ddibynnol ar faint o siroedd fydd yn rhan o’r Fframwaith. Ychwanegwyd
y bydd modd cael mwy o arbedion gan fod yr arbedion yma am gyflenwad nwy yn
unig. Awdur: Dafydd Gibbard |