Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Dyfrig Siencyn a’r Cyng.
Gareth Thomas. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Derbyniwyd
Datganiad o Fuddiant Personol gan y Cyng. Ioan Thomas ar gyfer eitem 8 gan ei
fod yn ymddiriedolwr Harbwr Caernarfon. Nodwyd nad oes angen i’r aelod adael y
cyfarfod oni bai fod trafodaeth o sylwedd ar yr Harbwr yn uniongyrchol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 a 26 MAI 2020 PDF 227 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 a 26
Mai 2020 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYFRIFON TERFYNOL 2019/20 - ALLDRO REFENIW PDF 220 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Penderfynwyd: 1.1 Nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r cyngor
am 2019/20. 1.2 Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn
“Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad sef:
1.3
Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol
canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) – ·
Yr
Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £3,259k i gyfyngu
lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i
symud ymlaen i wynebu her 2020/21. ·
Yr
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £447k i
gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i 2020/21 i
£100k, i'w cynorthwyo i wynebu her 2020/21. ·
Yn unol
â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i ganiatáu i'r Adran
Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£70k) sef y swm uwchlaw
(£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2019/20. ·
Ar
gyllidebau Corfforaethol, defnyddio (£1,012k) o'r tanwariant net i gynorthwyo'r
adrannau sydd wedi gorwario yn 2019/20. 1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o
gronfeydd a darpariaethau penodol: ·
fel
amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau,
cynaeafu (£801k) o gronfeydd a (£24k) o ddarpariaethau gan ddefnyddio’r
cyfanswm o (£825k) i gynorthwyo’r adrannau sydd yn gorwario yn 2019/20. ·
Cyllido
gweddill y gorwariant adrannol o (£1,799k) o Gronfa Strategaeth Ariannol y
Cyngor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn
manylu ar wariant y Cyngor yn 2019/20. Amlygwyd y meysydd ble mae gwahaniaeth
sylweddol yn dilyn yr adroddiad diwethaf ar y cyfrifon. Pwysleisiwyd fod heriau
sylweddol yn wynebu’r maes gofal a’r maes gwastraff, ynghyd â thrafferthion gan
rai adrannau i gyflawni arbedion. Mynegwyd fod gwelliant yn y sefyllfa’r Adran
Oedolion erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, a bod hyn yn dilyn derbyn ac
ail-gyfeirio grantiau hwyr a defnydd o gyllid un-tro o £420k. Nodwyd fod cynnydd pellach yn y tueddiad gorwariant gan
yr Adran Plant a Theuluoedd, gyda £3.4miliwn o orwariant erbyn diwedd y
flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd nad yw’r sefyllfa yn un unigryw i Wynedd a'i
fod yn sefyllfa bryderus sydd i’w gweld ar draws y wlad. Ychwanegwyd fod
£2miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i’r Adran Blant a Theuluoedd yn 2020/21 ar
gyfer cwrdd â’r pwysau cynyddol. Amlygwyd fod lleihad yn y lefel gorwariant
gan yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, ond fod y maes gwastraff yn parhau i
fod yn broblemus. Nodwyd fod tanwariant gan yr Adran Amgylchedd ac yn y
penawdau Corfforaethol. Ategwyd fod digonolrwydd cronfeydd wedi ei adolygu wrth
gau’r cyfrifon a bod £825mil o adnoddau wedi ei gynaeafu. O ganlyniad, bydd
modd trosglwyddo £1.799 miliwn o’r gronfa strategaeth ariannol hefyd er mwyn
cyllido’r bwlch a mantoli sefyllfa ariannol 2019/20. Drwy wneud hyn, ategwyd,
ni fydd angen defnyddio balansau cyffredinol y
Cyngor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN GYFALAF 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN PDF 388 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Penderfyniad:
¾
£245,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca ¾
£2,363,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau ¾
£17,000 lleihad mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf ¾
£244,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw ¾ Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf ¾ £74,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ioan Thomas PENDERFYNIAD
¾
£245,000
cynnydd mewn defnydd o fenthyca ¾
£2,363,000
cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau ¾ £244,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw ¾
Dim
newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf ¾
£74,000
cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai’r diben oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig a
chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Nodwyd mai’r prif gasgliadau yw
bod y Cyngor wedi llwyddo i wario oddeutu £29.1miliwn ar gynlluniau cyfalaf,
gyda £16.2 miliwn ohono wedi’i ddenu drwy grantiau penodol. Ychwanegwyd y
bydd £22.8miliwn yn llithro ymlaen o 2019/20, o’i gymharu â £12.7miliwn ar
ddiwedd 2018/19, ond pwysleisiwyd nad oedd hynny’n golygu colled arian grant.
Amlygwyd y rhesymau dros y llithriadau a oedd yn cynnwys amseru cynlluniau
Ysgolion Ganrif 21, Grant Cynnal a Chadw Ysgolion ynghyd â llithriad ar y
cynlluniau sydd yn rhan o’r Strategaeth Tai. Tynnwyd sylw at y grantiau
ychwanegol llwyddodd y Cyngor i’w denu ers yr adroddiad diwethaf a oedd yn
cynnwys Grant HWB Seilwaith Ysgolion a Grantiau Ailgylchu a Gwastraff. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾
Nodwyd fod yr adroddiad hwn yn adroddiad
technegol, ond fod gwariant cyfalaf y Cyngor yn sylweddol. Ategwyd, wrth
ystyried y sefyllfa sydd ohoni gyda Covid-19, os bydd modd gwario'r holl arian
yn 2020/21£17,000 lleihad mewn
defnydd o dderbyniadau cyfalaf Awdur: Ffion Madog Evans |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COVID-19: YSTYRIAETHAU FFIOEDD PENODOL PDF 235 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Penderfyniad: Penderfynwyd ar
addasiadau i’r ffioedd isod o ganlyniad i argyfwng COVID19, er mwyn i'r
adrannau weithredu yn unol â hyn.
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Penderfynwyd ar
addasiadau i’r ffioedd isod o ganlyniad i argyfwng COVID19, er mwyn i'r
adrannau weithredu yn unol â hyn.
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi'r penderfyniad. Nodwyd
fod y Cyngor Llawn ar 5 Mawrth wedi cymeradwyo’r gyllideb net o £262 miliwn ar
gyfer 2020/21 gyda’r gyllideb gros am y flwyddyn yn £421 miliwn. Mynegwyd fod
£59 miliwn, sef 14% o incwm y Cyngor yn dod o ffioedd, werthiannau a
cyfraniadau. Ychwanegwyd, yn
sgil yr argyfwng, fod ystyriaethau i’w gweld yn ymwneud a ffioedd penodol.
Nodwyd fod y Cyngor yn derbyn ystod eang o ffioedd a thaliadau ar draws nifer o
wasanaethau, ac ychwanegwyd fod natur yr incwm yn amrywio o ran taliadau.
Amlygwyd ar addasiadau i’r ffioedd a oedd yn cael ei argymell i’r Cabinet i’w
cytuno. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth ¾
Mynegwyd
fod bywyd pawb wedi ei newid yn dilyn gosod y gyllideb yn ôl yn nechrau mis
Mawrth. Ychwanegwyd o ran ffioedd amlosgfa, yn arferol mae cynnydd i gyd-fynd a
chwyddiant, ond yn wyneb yr argyfwng fod yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn
awyddus i gadw’r ffioedd ar lefel prisau 2019/20. Yn
ogystal, nodwyd fod yr Adran yn awyddus
i beidio anfon anfonebau am gasgliadau gwastraff i’r cwmnïau sydd wedi gofod
cau yn ystod yr argyfwng, a bwriedir anfonebu busnesau fel maent yn defnyddio’r
gwasanaeth. ¾
Pwysleisiwyd
ei bod yn rhesymol i roi cyfle i rieni gael ad-daliad am ginio ysgol a chlybiau
ysgol. ¾
Nodwyd
fod y Cyngor wedi dioddef o golled incwm yn ystod cyfnod yr argyfwng, a dylai’r
Llywodraeth ddigolledu’r awdurdodau lleol. Ychwanegwyd fod Lywodraeth Cymru
wedi neilltuo cronfa o £78miliwn a gobeithir fod y swmp o’r swm hwnnw ar gyfer
colledion incwm awdurdodau lleol yn y 3 mis Ebrill i Fehefin. Awdur: Dafydd Edwards a Ffion Madog Evans |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager Penderfyniad: Cymeradwywyd yr
egwyddor o roi hawl i’r corff Cymeradwyo SDC godi ffi am y gwasanaeth cyn-gais
maent yn ei ddarparu. Cytunwyd ar y
ffioedd amlinellwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad fel y ffioedd bydd y Corff
Cymeradwyo SDC yn eu codi. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Catrin Wager PENDERFYNIAD Cymeradwywyd yr
egwyddor o roi hawl i’r corff Cymeradwyo SDC godi ffi am y gwasanaeth cyn-gais
maent yn ei ddarparu. Cytunwyd ar y ffioedd amlinellwyd yn Atodiad
1 i’r adroddiad fel y ffioedd bydd y Corff Cymeradwyo SDC yn eu codi. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod y maes yn un technegol o ran natur yr adroddiad.
Mynegwyd fod Deddf Rheoli
Llifogydd a Dŵr (DRhLlD) 2010 wedi dod yn
weithredol yn Ionawr 2019 yn gorchymyn i unrhyw ddatblygiadau newydd sydd gydag
oblygiadau draenio ac ardal adeiladu 100m2 neu fwy, gydymffurfio â Safonau
Cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDCau). Pwysleisiwyd fod hyn yn golygu fod angen i
ddatblygwyr feddwl am sut i symud dŵr o’i safle yn gynaliadwy. Mynegwyd
fod yr angen yma ar gyfer unrhyw ddatblygiad dros 100medr2 gan amlygu ei
debygrwydd i gais cynllunio. Pwysleisiwyd fod y maes yn newydd a bod gan y
Cyngor arbenigwyr yn y maes a fydd ar gael i gynghori datblygwyr o flaen llaw
ar ba systemau a fuasai yn gweithio yn eu datblygiad cyn iddynt gyflwyno eu
cais. Ychwanegwyd y byddai hyn yn golygu hwyluso'r broses i ddatblygwyr a
lleihau unrhyw oedi yn y datblygiad. Awdur: Emlyn Jones |