Lleoliad: Rhith-gyfarfod (Ar hyn o bryd nid oes modd i’r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Dyfrig Siencyn, Cyng.
Nia Jeffreys, Cyng. Gareth Thomas, Cyng. Cemlyn Williams a Morwena Edwards
(Cyfarwyddwr Corfforaethol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 MEHEFIN 2020 PDF 322 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin
2020 fel rhai cywir. |
|
STRATEGAETH DDIGIDOL YSGOLION PDF 230 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Cymeradwyo’r strategaeth mewn egwyddor b) Ein
bod yn gofyn i Lywodraethwyr pob ysgol yn unigol i nodi a fyddent yn fodlon
tanysgrifio’r gost adnewyddu dyfeisiadau o’u cyllidebau/ cronfeydd ysgolion ac
os ddim i nodi pam; c) Bod
y gwasanaeth yn agor trafodaethau ar fyrder gyda rhanddeiliad perthnasol i
fanylu mwy ar sut y bwriedir cynnal y gyfundrefn a sut y bwriedir talu amdano
gyda golwg ar gynnwys hynny yn y strategaeth ; d) Gan
gymryd nad ydym am gael yr holl arian ar gyfer cyflawni’r strategaeth yn Medi,
bod y gwasanaeth yn ystyried ac yn gosod allan beth fyddai’r cynllun ar gyfer
mewnosod y strategaeth yn raddol; e) Bod
adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 8 Medi yn
nodi lle dan ni wedi cyrraedd gyda hyn oll, gyda golwg ar i ni unai
gymeradwyo’r Strategaeth yn derfynol neu i gymeradwyo gosod yr archeb gyntaf. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Garem Jackson. PENDERFYNIAD a) Cymeradwyo’r
strategaeth mewn egwyddor b) Ein bod yn gofyn i Lywodraethwyr pob ysgol yn unigol i nodi a fyddent yn fodlon tanysgrifio’r gost adnewyddu dyfeisiadau o’u cyllidebau/ cronfeydd ysgolion ac os ddim i nodi pam; c) Bod y gwasanaeth yn agor trafodaethau ar fyrder gyda rhan ddeiliad perthnasol i fanylu mwy ar sut y bwriedir cynnal y gyfundrefn a sut y bwriedir talu amdano gyda golwg ar gynnwys hynny yn y strategaeth ; d) Gan gymryd nad ydym am gael yr holl arian ar gyfer cyflawni’r strategaeth yn Medi, bod y gwasanaeth yn ystyried ac yn gosod allan beth fyddai’r cynllun ar gyfer mewnosod y strategaeth yn raddol; e) Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 8 Medi yn nodi lle dan ni wedi cyrraedd gyda hyn oll, gyda golwg ar i ni unai gymeradwyo’r Strategaeth yn derfynol neu i gymeradwyo gosod yr archeb gyntaf; TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth mewn egwyddor i’r strategaeth. Mynegwyd fod
arian ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ei wario ar offer sydd wedi ei
gaffael yn genedlaethol. Nodwyd y bydd y buddsoddiad yn cryfhau isadeiledd
technoleg gwybodaeth mewn ysgolion er mwyn cyfoethogi profiadau pobl ifanc.
Ychwanegwyd fod Covid-19 wedi amlygu gwerth technegol gwybodaeth i gryfhau
addysg o ran dysgu cyfunol a bod dysgu o bell wedi bod yn allweddol i gadw
cysylltiad yn ystod y cyfnod. Mynegwyd fod y strategaeth sydd wedi ei
lunio yn un cyffroes sydd yn amlygu llwybr clir. Esboniwyd fod angen gwneud
cais am arian cychwynnol ac er mwyn gwneud hyn fod angen i’r Cabinet mabwysiadu
mewn egwyddor i symud ymlaen a’r gwaith. Ychwanegwyd y bydd adroddiad pellach
yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn dilyn trafodaethau gyda rhan ddeiliaid. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd fod y Llywodraeth yn ariannu y rhan gyntaf y strategaeth o
brynu'r cyfarpar technoleg gwybodaeth ond fod angen dod o hyd i’r arian er mwyn
diweddaru a chefnogi’r dyfeisiadau. ¾ Mynegwyd fod y strategaeth a bwriad gwych ond fod yr ymrwymiad yn
sylweddol. Holwyd beth yw’r safon mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei
gyrraedd a beth mae awdurdodau eraill yn ei wneud. Holwyd os oes opsiynau
eraill a phwysleisiwyd pwysigrwydd o gael ymgynghoriad ac ysgolion. Nodwyd nad
yw’r cyfarpar sydd ar gael yn ddigon da a bod hyn i’w weld ledled Cymru.
Amlygwyd y safonau sydd yn ddisgwyliedig sydd yn cynnwys safonau diogelwch a
rheoli dyfeisiadau. Pwysleisiwyd fod Gwynedd yn awyddus i roi dyfais i bob
plentyn yn yr ysgol uwchradd fel bod modd iddynt gael ei defnyddio ymhob gwers
gan roi’r cyfle i bob plentyn barhau gyda’r dysgu adref yn ogystal. ¾ Amlygwyd fod diweddaru'r cyfarpar am fod oddeutu £2m a bod y strategaeth yn nodi cyfraniadau gan ysgolion sydd yn ddigon teg, ond pwysleisiwyd yr angen i gael trafodaethau gyda’r ysgolion. Nodwyd fod trafodaethau wedi cychwyn a'i bod wedi amlygu fod y symiau yn rhy uchel i rai ysgolion gan ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Gwern ap Rhisiart a Huw Ynyr |
|
PROSIECT PROFI OLRHAIN DIOGELU PDF 254 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ¾
Ymrwymo i Gytundeb Rhwng Awdurdodau (CRA) gydag
awdurdodau lleol eraill y Gogledd i reoli’r gwaith o recriwtio a rheoli staff
ychwanegol i weithredu’r prosiect Profi Olrhain Diogelu; ¾
Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth
Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i
gytuno dogfen derfynol a chwblhau y gytundeb. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth
Griffith PENDERFYNIAD ¾ Ymrwymo i Gytundeb Rhwng Awdurdodau (CRA) gydag awdurdodau lleol eraill
y Gogledd i reoli’r gwaith o recriwtio a rheoli staff ychwanegol i weithredu’r
prosiect Profi Olrhain Diogelu; ¾ Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Amgylchedd mewn ymgynghoriad
gyda’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno dogfen derfynol a
chwblhau'r cytundeb. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod nifer o drafodaethau wedi ei cynnal am yr eitem hwn.
Amlygwyd y penderfyniad gan nodi y bydd yn ymrwymo’r Cyngor i gytundeb a fydd
yn rheoli’r gwaith ac y recriwtio y gwaith i Brofi Olrhain Diogelu. Tynnwyd
sylw at sylwadau’r swyddogion statudol oedd i’w gweld yn yr adroddiad. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd cefnogaeth i’r cynllun gan nodi i fod yn amlygu cydweithio ar
draws y gogledd ac yn sicrhau nad yw’r awdurdodau yn ceisio cystadlu am yr un
staff. ¾
Nodwyd
ei bod yn falch fod trefniadau pendant yn ei lle ond gan fod recriwtio ac adnoddau dynol yn cael ei wneud
yn Sir Fflint gofynnwyd os oes modd sicrhau fod safonau iaith yn cael ei gadw
ynghyd ag oriau o fewn y cytundeb. Pwysleisiwyd y bydd y Gymraeg yn cael ei
flaenoriaethu pan yn creu rhestr fer yng Ngwynedd, a nodwyd fod yr oriau o fewn
y cytundeb yn cyd fynd a’r gwaith – gall cyfnodau fod yn brysur ac yn
dawel. Ymhelaethwyd gan nodi nad yw’n
amlwg faint o staff fydd ei angen Awdur: Dafydd Wyn Williams |