Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r
Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Annwen Hughes, aelod lleol Llanbedr. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion
yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
CYNLLUN GWELLA'R A496 LLANBEDR (MYNEDIAD I GANOLFAN AWYROFOD ERYRI) PDF 395 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Awdurdodi gwneud Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) mewn
perthynas â Chynllun Gwella Ffordd Llanbedr yr A496. Awdurdodi Pennaeth yr Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad ag
Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i gaffael yr
holl fuddiannau angenrheidiol yn y tir a nodir yn Atodiad 5 yr adroddiad i
gyflawni Cynllun Gwella Ffordd Llanbedr yr A496 a, lle bo angen cymryd yr holl
gamau angenrheidiol i gaffael y buddion hynny trwy gyfrwng CPO gan gynnwys
dilyn ei gadarnhad gyda Gweinidogion Cymru pe bai'r Cyngor yn methu â dod i
setliad wedi'i negodi ar gyfer prynu'r buddion hynny o fewn amserlenni'r
cynllun. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth
Griffith. PENDERFYNIAD a) Awdurdodi gwneud Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO)
mewn perthynas â Chynllun Gwella Ffordd Llanbedr yr A496. b) Awdurdodi Pennaeth
yr Adran Amgylchedd mewn
ymgynghoriad ag Aelod Cabinet yr Amgylchedd a
Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i gaffael yr holl fuddiannau angenrheidiol
yn y tir a nodir yn Atodiad 5 yr adroddiad i gyflawni Cynllun Gwella Ffordd
Llanbedr yr A496. Yn ogystal ag hyn, lle bo angen cymryd yr holl gamau
angenrheidiol i gaffael y buddion hynny trwy gyfrwng CPO pe bai'r Cyngor yn
methu â dod i setliad wedi'i negodi o fewn amserlen y cynllun TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
nodi y bydd gofyn i’r cabinet awdurdodi dau beth. Yn gyntaf caniatâd i gychwyn
y broses o wneud gorchymyn prynu gorfodol (sef CPO) mewn perthynas â chynllun
gwella A496. Yn ail, awdurdodi Pennaeth yr Adran Amgylchedd, mewn ymgynghoriad
ag aelod cabinet yr amgylchedd a’r gwasanaeth cyfreithiol, i gaffael yr holl
fuddiannau angenrheidiol i gyflawni cynllun gwella ffordd Llanbedr. Cofnodwyd un newid yn yr
adroddiad. Ym mhwynt 2.3 - Cyllid Ewrop - noder yn yr adroddiad y byddai’r
‘gyllideb wedi ei wario erbyn diwedd mis Mawrth 2019’, dilëwyd hyn gan newid y
dyddiad i Ragfyr 2022 sef y dyddiad sydd bellach wedi ei gytuno gyda
Llywodraeth Cymru drwy law Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Dylid nodi
fod swyddogion y Cyngor yn cwrdd yn fisol gyda WEFO i’w diweddaru ar gynnydd
gyda’r prosiect a bod parodrwydd i ystyried ymestyn y dyddiad ymhellach wrth
i’r gwaith fwrw yn ei flaen. Ychwanegodd Pennaeth Adran yr
Amgylchedd y byddai hynny’n rhoi sicrwydd i’r adran wireddu’r cynllun yn unol
â’r amserlen ond yn y cyfamser y byddant yn parhau i negodi gyda thirfeddianwyr
i ddod i gytundeb pryniant. Parhawyd i nodi bod
cyfyngiadau ar yr amserlen o ganlyniad i’r sefyllfa gyllidol a bydd y gallu i
gyhoeddi gorchymyn drafft yn hwyluso unrhyw oedi. Atgoffwyd yr aelodau bod y
cynllun gerbron wedi bod o flaen awdurdod cynllunio'r Parc Cenedlaethol
dwywaith yn y gorffennol ond mai gwedd wahanol i’r cynllun sydd o flaen y
Cabinet heddiw. Dywed fod angen tiroedd er mwyn sicrhau mynediad safle at yr
awyrofod fel bod unrhyw ddatblygiadau pellach yn bosib. Agorwyd y drafodaeth i’r
aelodau gwestiynu ymhellach. Rhoddwyd sylwadau ar y cynllun gan gynnwys
cydnabod ei bod y gweill ers cyfnod hir a bod croeso i ddatblygiadau a fydd yn
sicrhau bod y cynllun yn cael ei wireddu. Cynigwyd bod angen diolch i'r Adran
yr Amgylchedd am eu dyfalbarhad efo’r cynllun i sicrhau bod cyllid yn cael ei
ddarparu er mwyn gwireddu’r cynllun. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod ar
ddyraniad cyllid y cynllun, cyfeiriodd Pennaeth Adran yr Amgylchedd at yr
adroddiad wrth nodi y byddai cost adeiladu'r ffordd osgoi /ffordd fynediad
oddeutu £14.38m.Nododd bod cyfraniad gan y Cyngor ond bod gweddill yr arian fel
y nodwyd ym mhwynt 2.1 yn yr adroddiad. Adroddwyd ar ran yr Aelod Lleol ei bod yn hynod gefnogol i’r cynllun symud yn ei blaen. Adroddwyd sylwadau gan drigolion lleol sydd wedi bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |