Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 20 EBRILL 2021 PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 20 Ebrill 2021 fel rhai cywir |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSGOL NEWYDD YNG NGHRICIETH PDF 425 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd
statudol, i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle
amgen y cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi 2023, yn unol ag Adran 53 o’r
Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod
Trefniadaeth Ysgolion 11/2018. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn
Williams. PENDERFYNIAD Cadarnhawyd yn
derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gynyddu capasiti
Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle
amgen y cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi 2023, yn unol ag Adran 53 o’r
Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth
Ysgolion 11/2018. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn
bleser ei gyflwyno. Mynegwyd fod yr adroddiad yn adrodd yn ôl i’r Cabinet yn
dilyn y cyfnod gwrthwynebu ar gyfer cynyddu capasiti
Ysgol Treferthyr ac i adleoli mewn safle amgen.
Pwysleisiwyd fod y cynllun hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal a'i fod yn
rhan o raglen Moderneiddio Addysg. Tynnwyd sylw at Faniffesto Plaid Cymru ar
gyfer etholiad Llywodraeth Leol 2017 a oedd yn amlygu’r angen i wella adnoddau
addysg o fewn y sir. Amlygwyd fod y cynllun yma yn un sydd yn cyd-fynd a’r
weledigaeth o fewn y maniffesto. Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Addysg fod y
cynllun hwn yn gynllun cyffroes ac amlygwyd yr angen am fuddsoddiad yn yr
ardal. Nododd y Swyddog Addysg fod yr eitem hon wedi
ei drafod lawer gwaith yn y Cabinet ac mai’r penderfyniad yma fydd y cam
statudol olaf. Mynegwyd fod y Cabinet yn ôl ym mis Ionawr wedi penderfynu
cychwyn y cyfnod gwrthwynebu ac yn ystod y cyfnod na dderbyniwyd unrhyw
wrthwynebiad. Pwysleisiwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno ag achos busnes y
cynllun ac wedi cadarnhau cyfraniad o £3.174m tuag at y Cynllun £5m. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Croesawyd yr
adroddiad gan nodi fod y diffyg gwrthwynebiad yn amlygu cryfder y sgwrs sydd
wedi ei gynnal yn lleol. Holwyd os oes y bydd cyfnod galw i mewn. Mynegwyd fod
cyfnod galw mewn gyda meini prawf penodol ond nad oedd yr adran yn rhagweld
unrhyw broblemau penodol. ¾
Nodwyd fod cynyddu'r niferoedd
yn benderfyniad da gan fod niferoedd yn dueddol o godi yn dilyn adeiladu ysgol
newydd. ¾
Pan ofynnwyd pryd fydd yr
ysgol newydd yn agor mynegwyd Medi 2023, ond y bydd y camau i ddechrau cyntaf o
ran cynllunio yn dechrau yn ystod yr haf. Awdur: Gwern ap Rhisiart |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN PRENTISIAETHAU A CYNLLUN RHEOLWYR AC ARBENIGWYR YFORY PDF 423 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ymrwymo £1.1m o gyllid un-tro o dderbyniad grant Covid-19 i ariannu'r cynllun Prentisiaethau yn ogystal
â’r Cynllun Rheolwyr ac Arbenigwyr Yfory.
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia
Jeffreys PENDERFYNIAD Ymrwymo £1.1m o gyllid un-tro o dderbyniad
grant Covid-19 i ariannu'r cynllun Prentisiaethau yn ogystal â’r Cynllun
Rheolwyr ac Arbenigwyr Yfory. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r penderfyniad o ymrwymo £1.1m i ariannu’r Cynllun
Prentisiaethau yn ogystal â’r Cynllun Rheolwyr ac Arbenigwyr Yfory. Amlygwyd
fod y cynlluniau hyn nid yn unig yn datblygu sgiliau unigolion ond yn
cynorthwyo i ddatblygu'r gweithlu i’r dyfodol. Nodwyd dwy flynedd
yn ôl fod y Cyngor wedi clustnodi swm i ariannu'r Cynllun Prentisiaethau,
gyda’r swm hwn llwyddwyd i benodi 35 prentis ac mae 9 o’r rhain wedi eu penodi
i swyddi o fewn y Cyngor. Ymhelaethwyd fod y cynllun hwn wedi bod yn llwyddiant
a bod wedi gwireddu mwy na’ beth a gynlluniwyd amdano ddwy flynedd yn ôl.
Mynegwyd fod y cynllun hwn wedi bod yn ceisio annog nid yn unig pobl ifanc i
gymryd rhan yn y cynllun ond pobl hyn yn ogystal. Amlygwyd fod diffyg yn y sir
am ddarpariaeth prentisiaethau dwyieithog a bod yr elfen hon yn flaenllaw yn y
cynllun. Amlygwyd fod y cyfleoedd
prentisiaethau mewn lleoliadau penodol er mwyn sicrhau dyfodol gwasanaethau. Mynegwyd yn
ogystal y bydd yr arian yn cyfrannu yn ogystal at gynllun Rheolwyr ac
Arbenigwyr Yfory. Nodwyd ei fod yn gynllun ar gyfer graddedigion sydd yn rhoi
swyddi mewn lleoliadau allweddol. Pwysleisiwyd fod y cynllun hwn yn un sydd yn
bodoli ers nifer o flynyddoedd ac wedi profi ei werth, gan amlygu ei fod yn
cyd-fynd a gweledigaeth yr aelodau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd fod ariannu'r
cynllun hwn yn angenrheidiol er mwyn creu cymunedau cynaliadwy. ¾ Croesawyd yr adroddiad
gan holi os yw’r prentisiaethau yn arwain at swyddi parhaol o fewn y Cyngor.
Nodwyd fod 9 wedi cael swydd barhaol ac 8 yn parhau i fod yn y cynllun
prentisiaethau. Mynegwyd ei fod yn gynllun poblogaidd a bod nifer uchel wedi
ymgeisio am swydd prentisiaeth trydanwr ac yn y maes technoleg gwybodaeth. ¾ Amlygwyd fod y ddau
gynllun yn rhai cadarnhaol a bod cefnogaeth lwyr iddynt. Holwyd os oes
cefnogaeth i’r rhai sydd ddim yn llwyddiannus. Holwyd os oes nifer uchel o
ddiddordeb oes modd creu mwy o cyfleoedd yn y maes. Nodwyd fod perthynas gyda
darparwyr a'u bod yn gwbl ffyddiog y buasai modd cael cynnal dialog i arwain
unigolion sydd ddim yn derbyn swydd. ¾
Tynnwyd
sylw at y slogan – Tai, Gwaith ac Iaith gan bwysleisio fod y cynllun gweithredu
tai yn ei le ar gyfer yr elfen dai gan amlygu’r angen i gefnogi er mwyn gallu
cynnig swyddi drwy’r Gymraeg i unigolion y sir. Awdur: Geraint Owen |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS - RHEOLI CWN PDF 236 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd ymgymryd â’r broses o ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu
Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli cŵn ledled y Sir yn unol â’r
Gorchymyn Arfaethedig drafft. Awdurdodwyd y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd â phroses
ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod gan gychwyn ar 24 Mai 2021, gan ddychwelyd y
mater i’r Cabinet am benderfyniad ynghylch a chyflwyno GDMC rheoli cŵn, yn
ogystal ag unrhyw ddirprwyaeth gysylltiol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Catrin Wager. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd
ymgymryd â’r broses o ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn
perthynas â rheoli cŵn ledled y Sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig
drafft. Awdurdodwyd y
Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd â phroses ymgynghori am gyfnod o
28 diwrnod gan gychwyn ar 24 Mai 2021, gan ddychwelyd y mater i’r Cabinet am
benderfyniad ynghylch a chyflwyno GDMC rheoli cŵn, yn ogystal ag unrhyw
ddirprwyaeth gysylltiol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y papur yn
gofyn am ganiatâd i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar reolaeth cŵn o fewn
y sir. Pwysleisiwyd fod teimladau cryf i’w gweld am gŵn a bod angen i’r
rheoliadau barchu ystod eang o deimladau am gŵn. Pwysleisiwyd fod nifer
uchel o unigolion yn cymryd rheolaeth cŵn o ddifri ond fod baw cŵn
wedi mynd yn annerbyniol. Amlygwyd ymgyrchoedd sydd wedi ei gynnal gan y Cyngor
i geisio lleihau'r nifer baw ci sydd ar strydoedd. Pwysleisiwyd fod rheoliadau wedi bod mewn lle ers
peth amser, esboniwyd er y bydd hwn yn orchymyn newydd yn sgil newidiadau
deddfwriaethol nid yw natur y rheoliadau yn newid. Amlygwyd nad oedd llawer o
addasiadau oni bai am rai traethau yn benodol addasu ffiniau yn Tywyn,
Abersoch, Y Friog a Chricieth. Nodwyd y bydd rhai
addasiadau i’r holl sir, yn benodol i gadw cŵn ar dennyn a chodi baw
ci. Mynegwyd y bydd modd derbyn dirwy
lom am beidio codi baw cŵn ac os yw'n peidio talu'r ddirwy ar amser a bod
posibilrwydd o fynd i’r llys. Esboniwyd fod teimlad cyffredinol, yn benodol wedi
blwyddyn o nifer o bobl yn cerdded mwy yn eu hardal, fod nifer uchel o faw
cŵn i’w gweld ar y strydoedd. Pwysleisiwyd yr angen am gymunedau glan a
thaclus a gofynnwyd i drigolion gymryd yr amser i leisio eu barn. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Pwysleisiwyd fod diddordeb yn y maes gan drigolion a
phwysigrwydd dechrau’r ymgynghoriad. Amlygwyd yr amserlen gan nodi y bydd yr
adran yn adrodd yn ôl i’r Cabinet ym mis Gorffennaf er mwyn symud ymlaen i
gyhoeddi’r Gorchymyn. ¾
Nodwyd
fod y maes yma yn holl bwysig i bobl leol a bod y flwyddyn ddiwethaf wedi
amlygu’r broblem ond fod yr adroddiad hwn yn amlygu bwriad y Cyngor i wneud
rhywbeth am y mater. Awdur: Steffan Jones |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
AWDURDOD LLETYA PARTNERIAETH CHWARAEON GOGLEDD CYMRU PDF 264 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i Gyngor Gwynedd fod yr awdurdod lletya ar gyfer Partneriaeth
Chwaraeon Gogledd Cymru. Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gytuno a chwblhau
cytundeb cyd-weithio addasedig. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth
Thomas PENDERFYNIAD Cytunwyd i Gyngor
Gwynedd fod yr awdurdod lletya ar gyfer Partneriaeth Chwaraeon Gogledd
Cymru. Dirprwywyd yr
hawl i’r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gytuno a chwblhau cytundeb
cyd-weithio addasedig. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Cabinet yn ôl mis Rhagfyr wedi cymeradwyo fod yn rhan o’r Bartneriaeth. Nodwyd
pan wnaethpwyd y penderfyniad roedd bwriad i Gyngor Conwy yn awdurdod lletya.
Bellach, mynegwyd fod Cyngor Conwy yn methu cwrdd â'r gofynion o ran yr elfen
awdurdod lletyol, nodwyd fod gofyniad i Gyngor
Gwynedd i weithredu yn eu lle. Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn awdurdod lletya
ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a GwE, ond y buasai lletya'r
Bartneriaeth yn llawer llai o waith ar gyfer swyddogion y Cyngor. Nodwyd y
penderfyniad a geisiwyd. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Holwyd gyda’r Cyngor yn
lletya amrediad o gynlluniau ar draws y gogledd holwyd am faint y gwaith y
buasai ei angen i’w letya. Nododd y Pennaeth Cyllid fod graddfa'r cynllun yma
yn llawer yn llai, amlygwyd nad oedd yn gydbwyllgor gan ei fod yn bartneriaeth
anffurfiol. Er bod gwaith i ddyrannu’r arian grant, ei bod ar raddfa llawer yn
llai o ran cyfrifon blynyddol. ¾
Amlygwyd
fod y Cyngor yn lletya cymaint o gynlluniau a holwyd os ddylid llongyfarch y
Cyngor am fod llwyddiannus yn gwneud y gwaith. Ychwanegwyd fod Gwynedd yn
arwain ar lawer o gynlluniau a bod angen bod yn falch o hynny, ond pwysleisid
yr angen i gadw golwg i sicrhau nad yw’n tarfu ar waith dydd i ddydd y Cyngor. Awdur: Sioned Williams |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LLYTHYR ARCHWILIAD SICRWYDD AROLYGIAETH GOFAL CYMRU PDF 213 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig ac y Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd cynnwys y Llythyr Archwiliad Sicrwydd a
gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ynghylch eu canfyddiadau am
wasanaethau cymdeithasol Cyngor Gwynedd yn dilyn archwiliad ar 18-22 Ionawr
2021. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd
Meurig a Cyng. Dilwyn Morgan. PENDERFYNIAD Derbyniwyd cynnwys y Llythyr Archwiliad Sicrwydd a gyhoeddwyd
gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ynghylch eu canfyddiadau am wasanaethau
cymdeithasol Cyngor Gwynedd yn dilyn archwiliad ar 18-22 Ionawr 2021. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi ei bod yn cael ei chyflwyno er gwybodaeth i’r aelodau Cabinet. Nodwyd
fod yr archwiliad wedi ei gynnal yn ystod mis Ionawr ac yn ystod yr ail don y pandemig. Croesawyd yr archwiliad fel modd o sicrhau safon
o fewn y gwasanaethau. Esboniwyd fod y llythyr yn canmol gwaith y ddwy adran ar
y cyfan. Tynnwyd sylw at y prif negeseuon o ran yr Adran Oedolion a oedd yn
cynnwys fod gwaith da yn cael ei wneud yn y maes atalion ond y buasent yn
gwerthfawrogi mwy o fuddsoddiad yn y maes. Mynegwyd yr angen am wella amser
aros ar gyfer therapi galwedigaethol, ond atgoffwyd fod y Cabinet yn ddiweddar
wedi cytuno i gynyddu’r gyllideb o fewn y maes i gynyddu adnoddau’r adran. Pwysleisiwyd fod y Cyngor wedi ymdopi yn dda
gyda’r pandemig a chanmolwyd y defnydd amserol o
ffyrdd digidol, rhannu’r cyfarpar diogelu unigol ynghyd a sicrhau fod unigolion
yn dychwelyd adref yn amserol yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty. Ychwanegodd yr Aelod
Cabinet dros Blant a Theuluoedd fod y bartneriaeth gyda’r Arolygaeth Gofal yn
holl bwysig ac esboniwyd fod yr archwiliad yn edrych yn benodol ar ddiogelwch a
llesiant. Nodwyd ei fod yn deimlad braf fod y llythyr yn amlygu materion ble
roedd yr adran yn ymwybodol ohonynt a'u bod yn rhan o’r rhaglen waith.
Diolchwyd i staff yr arolygaeth am y modd iddynt drefnu’r arolwg ynghyd a’r
staff am eu cynorthwyo yng nghanol pandemig ac i’r
defnyddwyr gwasanaeth am roi eu hamser yn ogystal. Nododd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol ei diolch i’r penaethiaid, rheolwyr a staff am fod mor barod i
drefnu’r arolwg gan sicrhau fod gwaith dydd i ddydd yn cael ei flaenoriaethu yn
ogystal. Diolchwyd i’r Archwilwyr am fynd ati mor ystyrlon gan sicrhau nad oedd
yn ormod o fyrdwn i staff. Pwysleisiwyd ei bod yn braf cael adroddiad nad oedd
yn codi dim o’r newydd, a bod mwyafrif ohonynt wedi ei amlygu yn y rhaglen
waith. Nodwyd fod y Llythyr wedi ei anfon at y Pwyllgor Craffu yn ogystal er
gwybodaeth. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾ Mynegwyd fod y maes mor
eang a cynhennus nodwyd fod cynnwys llythyr da. Ychwanegwyd ei bod yn arbennig
o dda fod y llythyr yn cydnabod meysydd mae’r adrannau yn ymwybodol ohonynt yn
barod. Awdur: Morwena Edwards |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYFRIFON TERFYNOL 2020-21 - ALLDRO REFENIW PDF 394 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.1 Nodwyd y
sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2020/21. 1.2 Cymeradwywyd y symiau
i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r
talfyriad yn Atodiad 1), sef –
1.3 Cymeradwywyd yr
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad
2) – ·
Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth
ariannol un-tro o £1,261k i ddiddymu y gorwariant yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn
ymwneud â’r argyfwng eleni. Fel bod modd i’r adran symud ymlaen i wynebu
her 2021/22. ·
Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at
y drefn arferol i ganiatáu i'r Adran Addysg gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£159k) sef y
swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario
yn 2020/21. ·
Caniatáu i’r Adran Tai ac Eiddo drosglwyddo (£848k)
cynnal a chadw corfforaethol i gronfa cynnal a chadw i ariannu'r gwariant i'r
dyfodol. ·
Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at
y drefn arferol i ganiatáu y Tim Rheoli Corfforaethol
a Chyfreithiol gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£6k) sef y swm uwchlaw
(£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn 2020/21. ·
Ar gyllidebau Corfforaethol: ¾ defnyddio (£926k)
o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo'r Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21. ¾ fod (£2,047k) cynlluniau cyfalaf sydd i'w hariannu o refeniw i'w
trosglwyddo i gronfa i alluogi ailbroffilio'r adnodd. ¾ fod £600k yn cael ei ryddhau o falansau
cyffredinol y Cyngor. ¾ (£4,000k) yn cael ei neilltuo i gronfa Trawsffurfio y Cyngor i gefnogi
gwaith trawsffurfiol ac o natur un-tro. ¾ (£2,519k) yn cael ei neilltuo i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil
Covid19. 1.4 Cymeradwywyd y
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir yn Atodiad 4 yn
dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£170k) o gronfeydd i gynorthwyo’r
Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas. PENDERFYNIAD 1.1 Nodwyd y sefyllfa ariannol derfynol
adrannau’r Cyngor am 2020/21. 1.2 Cymeradwywyd y symiau i’w cario ymlaen
(y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1),
sef –
1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –
ddiddymu y gorwariant yn llwyr, o ystyried
yr amgylchiadau eithriadol yn ymwneud â’r argyfwng eleni. Fel bod modd i’r
adran symud ymlaen i wynebu her 2021/22.
i'r Adran Addysg gadw (£100k) o'i
danwariant, gan symud (£159k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i
gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn 2020/21.
¾
defnyddio
(£926k) o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo'r Adran Plant sydd wedi
gorwario yn 2020/21. ¾
fod
(£2,047k) cynlluniau cyfalaf sydd i'w hariannu o refeniw i'w trosglwyddo i
gronfa i alluogi ailbroffilio'r adnodd. ¾
fod
£600k yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol
y Cyngor. ¾
(£4,000k)
yn cael ei neilltuo i gronfa Trawsffurfio y Cyngor i gefnogi gwaith
trawsffurfiol ac o natur un-tro. ¾
(£2,519k)
yn cael ei neilltuo i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil
Covid19. 1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau
ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r
cronfeydd, gan gynaeafu (£170k) o gronfeydd i gynorthwyo’r Adran Plant sydd
wedi gorwario yn 2020/21. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn
2020/21. Tynnwyd sylw at dalfyriad o’r sefyllfa derfynol yr holl adrannau a
oedd i’w gweld yn yr adroddiad gyda’r symiau i’w cario ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol yn y golofn Gor / Tan Wariant Addasedig. Amlygwyd y prif faterion a meysydd ble gwelwyd gwahaniaethau sylweddol. Nodwyd fod effaith ariannol Covid wedi bod yn sylweddol i’r Cyngor gyda £20m wedi ei hawlio o’r gronfa caledi a Furlough erbyn diwedd y flwyddyn. Esboniwyd yn dilyn derbyn nifer o grantiau sylweddol eraill cysylltiedig â Covid-19 yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, golyga hyn fod y sefyllfa ariannol 2020/21 wedi ei drawsnewid erbyn diwedd y flwyddyn. Cyn dyrannu'r grantiau digolledu am Covid19 gan Lywodraeth Cymru nodwyd fod 5 adran yn gorwario, ond yn dilyn y dyraniad dim ond yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd sydd yn gorwario yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. Awdur: Ffion Madog Evans |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN GYFALAF 2020-21 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2021) PDF 329 KB Cyflwynwyd gan: Cllr. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn
(sefyllfa 31 Mawrth 2021) o’r rhaglen gyfalaf. Nodwyd y gwariant o £27,667,000 ar y rhaglen gyfalaf yn
ystod y flwyddyn ariannol 2020/21, fydd yn cael ei ddefnyddio yn y datganiadau
ariannol statudol ar gyfer 2020/21. Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef: ¾
£3,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca ¾
£10,561,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau ¾
Dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf ¾
£234,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw ¾
Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf ¾
£200,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas. PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31
Mawrth 2021) o’r rhaglen gyfalaf. Nodwyd y gwariant o £27,667,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn
ariannol 2020/21, fydd yn cael ei ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol
ar gyfer 2020/21. Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad,
sef: ·
£3,000
cynnydd mewn defnydd o fenthyca ·
£10,561,000
cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau ·
Dim
newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf ·
£234,000
cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw ·
Dim
newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf ·
£200,000
cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn cyflwyno’r
rhaglen gyfalaf diwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol.
Nodwyd fod yr adroddiad yn dadansoddi’r rhaglen gyfalaf £114.6m am y tair
blynedd 2020/21 – 2022/23 fesul adran. Ychwanegwyd fod yr adran yn manylu ar y
ffynonellau i ariannu’r cynnydd net sydd
oddeutu £11m ers yr adolygiad blaenorol.
Mynegwyd
fod y Cyngor wedi llwyddo i wario £27.7m yn 2020/21 ar gynlluniau cyfalaf, gyda
£18.2m ohono wedi’i ariannu drwy grantiau penodol. Esboniwyd fod effaith
Covid19 a’r cyfnod clo i’w weld yn glir. Ategwyd fod £14.1m adroddwyd arno yn
yr adolygiadau blaenorol 2020/21 fod £19.3m pellach o wariant arfaethedig
wedi’i ail-broffilio i 2021/22 gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys £4.5m
Cynllunia Ysgolion Ganrif 21, £3.3m Adnewyddu Cerbydau, £2.2m ar Gynnal a Chadw
Ysgolion a gyrhaeddodd ym Mawrth 2021, gyda hawl benodol gan Lywodraeth Cymri i
ddisodli ariannu cyfredol a’i lithro i’r flwyddyn ganlynol a £1.7m i gynllun
Cei Aberdyfi. Tynnwyd
sylw at y grantiau ychwanegol y llwyddodd i’r Cyngor ei ddenu ers yr adolygiad
diwethaf a oedd yn cynnwys £7.2m o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol a Llwybrau
Diogel, £0.6m Grant Tai Arloesol i gynorthwyol gyda lleihau digartrefedd a
£0.5m Grant Cronfa Gofal Canolraddol. Nododd
y Pennaeth Cyllid fod yr adroddiad yn ymwneud a chynlluniau cyfalaf.
Ychwanegwyd fod y drefn monitro perfformiad am ail gychwyn mewn ychydig a bydd
monitro cynlluniau cyfalaf yn cael ei ymgorffori yn y drefn yn ogystal. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾
Nodwyd
ei bod yn rhyfeddol y bydd y Cyngor am wario £64m ar gynlluniau cyfalaf yn
ystod y flwyddyn nesaf i fuddsoddi yn nyfodol y sir. Diolchwyd i staff am
sicrhau fod cynlluniau yn ei lle yn barod i pan mae cyfleoedd yn codi, ac i fod
mor barod i wneud defnydd o grantiau hwyr.
¾
Tynnwyd sylw at rai o’r cynlluniau tu ôl i’r
ffigyrau yn benodol cynlluniau economi gylchol sydd yn amlygu newid sylweddol o
sut y bydd modd delio a gwastraff mewn ffordd wahanol i sicrhau fod adnoddau yn
cael ei ail ddefnyddio a'i gadw mewn defnydd o fewn cymunedau. Awdur: Ffion Madog Evans |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
BLAEN RAGLEN Y CABINET PDF 275 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r
cyfarfod. Cofnod: Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. |