Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Cyng. Craig ab Iago. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ddatganiad o fuddiant personol ar gyfer Eitem 6: Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022/23 – 2029/30 gan Cyng. Dafydd Meurig gan ei fod yn Gadeirydd Bartneriaeth Ogwen a Cyng. Catrin Wager gan ei bod yn cael ei chyflogi gan Bartneriaeth Ogwen, roedd y ddau fuddiant yn rhagfarnu gan fod y Bartneriaeth yn cael ei enwi yn rhan o’r adroddiad a bu i’r ddau adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion brys. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 CHWEFROR 2022 PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR 2022/23-2029/30 PDF 383 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a
gweithredu’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022-2030. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNWYD Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cabinet i
fabwysiadu a gweithredu’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022-2030. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad a nodwyd fod rhybudd o gynnig wedi ei gyflwyno i’r Cyngor yn ôl ym
mis Mawrth 2019 yn amlinellu’r peryglon sy’n deillio o effeithiau newid
hinsawdd. Mynegwyd fod peth oedi wedi bod i’r cynllun newid hinsawdd oherwydd y
pandemig. Eglurwyd er hyn fod y Cynllun a gyflwynwyd yn benllanw gwaith caled a
cham cyntaf i ymateb i newid hinsawdd o fewn y Cyngor. Nodwyd y gobaith o
gyrraedd Cyngor carbon sero-net erbyn 2030. Pwysleisiwyd fod y camau sydd i’w
gweld yn y Cynllun yn rhai rhwydd ond fod her fawr o flaen y Cyngor. Ychwanegol
y Pennaeth Adran Amgylchedd fod y cynllun hwn yn un trawsadrannol ond ei bod yn
cael ei chartrefu ar hyn o bryd yn yr Adran Amgylchedd sydd yn gallu cynnig
arweiniad pan mae’r angen. Nododd
Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd fod hwn yn gynllun corfforaethol ac y bydd angen
i bob aelod o staff berchnogi’r cynllun ynghyd â gweithredu arno. Mynegwyd fod
y nod yn glir sef i fod yn gyngor sero net erbyn 2030 ac eglurwyd fod hon yn
amserlen genedlaethol sydd wedi ei gosod gan Llywodraeth Cymru. Esboniwyd fod y
cynllun yn amlygu fod y gwaith am fynd yn llawer ymhellach ‘na 2030 ond ei fod
yn rhoi sylfaen gadarn i’r Cyngor o ran y gwaith i’w wneud. Pwysleisiwyd fod
gwaith pellach i’w wneud er mwyn blaenoriaethu’r gwariant ynghyd a chynlluniau
tymor byr. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Tynnwyd sylw at yr angen am yr
ochor addysgol i’r cynllun hwn, eglurwyd fod cael plant a pobl ifanc yn rhan
o’r cynllun ac i ddysgu am newid hinsawdd yn holl bwysig i’r cynllun. ¾ Amlygwyd yr elfen o gefnogi
cymunedau i gynllunio a darparu atebion lleol i anghenion lleol gan annog
trigolion i gymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu. ¾ Nodwyd fod penderfyniad
Llywodraeth Cymru i beidio ariannu cynllun Ffordd Osgoi Llanbedr ddim yn
cynorthwyo at y cynllun hwn gan y buasai creu y ffordd yn lleihau allbynnau
carbon. ¾ Nodwyd cefnogaeth i’r adroddiad
gan nodi fod llawer o waith da wedi mynd yn benodol gan y Cyng. Catrin Wager i
wthio y cynllun yn ei flaen a mynegwyd y bydd yn dda ei weld yn datblygu dros y
blynyddoedd nesaf. ¾ Diolchwyd am yr adroddiad gan holi os oedd y Gronfa Bensiwn yn buddsoddi yn gyfrifol. Mynegwyd ddwy flynedd yn ôl fod cyflwyniad wedi ei roi i’r Aelodau Cabinet am fuddsoddi cyfrifol gan egluro beth oedd y Gronfa Bensiwn yn ei wneud. Pryd hynny mynegwyd y dylai’r Pwyllgor Pensiynau ddelio’n briodol ac yn annibynnol gyda’r buddsoddiadau, gan nad yw hyn o fewn grym penderfyniadau’r Cabinet. Nodwyd fod y Bwrdd Pensiwn wedi bod yn gweithredu ar wahân ond efallai fod cyfle i roi cyfeiriad yr waith y Gronfa Bensiwn yn y Cynllun hwn. Eglurwyd fod llawer wedi digwydd o ran buddsoddi gwyrdd ac fod fersiwn drafft o Bolisi Buddsoddi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Dafydd Wyn Williams a Bethan Richardson |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
FFIOEDD CARTREFI PRESWYL A NYRSIO AR GYFER 2022/23 PDF 142 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd ar ffioedd safonol cartrefi annibynnol preswyl a
nyrsio ar gyfer 2022/23, a’u gweithredu yn unol ag amodau a thelerau'r Cyngor
ar y lefel a ganlyn:
Gofynnwyd am adroddiad pellach ar y mater i ystyried
priodoldeb adolygiad o lefel y ffioedd ar gyfer y flwyddyn. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD Cytunwyd ar ffioedd safonol cartrefi
annibynnol preswyl a nyrsio ar gyfer 2022/23, a’u gweithredu yn unol ag amodau
a thelerau'r Cyngor ar y lefel a ganlyn:
Gofynnwyd am adroddiad pellach ar y mater i
ystyried priodoldeb adolygiad o lefel y ffioedd ar gyfer y flwyddyn. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn un technegol sydd yn cael ei
chyflwyno yn flynyddol. Eglurwyd fod yr adroddiad yn gosod costau ffioedd
safonol ar gyfer 2022/23 ond fod angen adroddiad pellach ar y mater er mwyn
ystyried priodoldeb adolygiad o lefel y ffioedd ar gyfer y flwyddyn. Eglurwyd
mai yr opsiwn ffafriedig oedd opsiwn 3 o fewn y tabl
isod:
Eglurwyd fod
angen rhagor o amser er mwyn sicrhau fod yr adran yn fyw i holl oblygiadau
cynyddu’r ffioedd i gyd-fynd ag opsiwn 3, gan gynnwys sicrhau ei fod yn
fforddiadwy nid yn unig ar gyfer eleni ond ar gyfer blynyddoedd ariannol i
ddod. Mynegwyd felly i’r Cabinet gytuno ar opsiwn 2 am y tro ac yn rhoi amser i
wneud gwaith pellach i weld os y bydd modd dod a adroddiad yn ôl i’r Cabinet
gyda’r cais o gynyddu’r ffi i opsiwn 3 ar ôl cyfnod yr etholiad. Awdur: Aled Davies |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG PDF 152 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar
gyfer cyfnod 2022-2032, cyn i’r Awdurdod ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w
gymeradwyo. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Cemlyn Williams.
PENDERFYNWYD Cymeradwywyd y Cynllun Strategol y Gymraeg
mewn Addysg ar gyfer cyfnod 2022-2032, cyn i’r Awdurdod ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi
fod y Strategaeth hon wedi ei chyflwyno yn ôl yn mis Gorffennaf ble
cytunodd y Cabinet i Gynllun Strategol y Gymraeg fynd i gyfnod ymgynghori
cyhoeddus. Mynegwyd fod nifer o bobl wedi ymateb i’r ymgynghoriad ac fod
addasiadau, ble roedd yn bosib, wedi ei ymgorffori yn y strategaeth. Pwysleisiwyd fod y cynllun yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg a nodwyd
fod y cynllun yn fwy na geiriau ar bapur. Bu i’r Aelod Cabinet fanteisio ar y
cyfle i nodi beth mae’r adran yn ei wneud ac wedi ei wneud o ran y Cynllun.
Mynegwyd fod y Cabinet yn ymwybodol eu bod wedi cytuno i fuddsoddi dros
£1miliwn i ganolfannau iaith newydd ym Mangor ac yn Nhywyn, ynghyd â gwella’r
ddarpariaeth addysgol sydd yn Ysgol Eifionydd. Ychwanegwyd fod yr adran am
fuddsoddi £1.1miliwn ychwanegol i wella’r amgylchedd ddysgu yn y canolfannau
eraill ar draws y sir a buddsoddi £1.8miliwn i gynyddu capasiti
rhai ysgolion i gefnogi cymunedau ble mae’r Gymraeg yn arwyddocaol. Amlygwyd yn ogystal fod yr adran wedi comisiynu cwmni i greu byd
rhithiol i ddysgwyr sydd yn rhan o’r cynllun Trochi. Eglurwyd drwy ddefnyddio
technoleg bydd modd i’r disgyblion allu defnyddio’r Gymraeg yn y cartref yn
ogystal. Nodwyd fod y cynllun hwn yn rhan allweddol o Gynllun Technoleg
Gwybodaeth arloesol yr adran sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cabinet, ynghyd a
amlygu fod Gwynedd yn arwain o ran y Gymraeg. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Llongyfarchwyd yr adran am arwain Cymru o ran
cynlluniau y Gymraeg. Amlygwyd o ran y canolfannau iaith fod angen i siroedd
eraill ddilyn Cyngor Gwynedd, gan mai plant yw dyfodol y Gymraeg. Awdur: Rhian Parry Jones |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ADRAN TAI AC EIDDO PDF 739 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn cyflwyno beth mae’r adran wedi bod yn ei wneud dros y misoedd
diwethaf. Eglurwyd fod yr Aelod Cabinet yn nodi ei fod yn fodlon gyda’r cynnydd
yn y prosiectau mae’r adran yn arwain atynt. Eglurwyd fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar
y cynlluniau sydd i’w gweld fel blaenoriaethau gwella o fewn Cynllun y Cyngor a
tynnwyd sylw at amrywiol gynlluniau. O ran y cynllun Diffyg Cartrefi Addas
Gwynedd mynegwyd fod y gwaith hwn yn cael ei wneud drwy’r Cynllun Gweithredu
Tai. Amlygwyd fod nifer digartref wedi cynyddu
dros 51% ers cyn y pandemig ac fod 700 yn ddigartref ar hyn o bryd. Mynegwyd
fod y galw ar y gwasanaeth yn parhau yn gyson uchel. Nodwyd fod yr adran wedi
gallu cynyddu capasiti y tîm ynghyd a cynyddu capasiti y tîm ataliol yno gystal. Ychwanegwyd fod nifer yr
unedau digartref wedi codi dros y flwyddyn ac eglurwyd yn dilyn i gynlluniau
gael eu cwblhau dros y misoedd nesaf bydd 38 uned i’w gweld ar draws y sir. Nodwyd o ran y cynllun Prynu Tai a Tiroedd
fod cynllun yn ei le i brynu 15 tŷ dros y misoedd nesaf ynghyd a thiroedd
mewn amrywiol leoliadau er mwyn datblygu. Eglurwyd o weithredu’r cynllun dros y
chwe mlynedd nesaf bydd gan y Cyngor dros 100 o dai. Mynegwyd fod cynllun
cymorth i brynu wedi ei amlygu a nodwyd fod 12 o deuluoedd yn cael ei
cynorthwyo ar hyn o bryd. Ategwyd fod yr adran wedi dyrannu 142 o grantiau dros y flwyddyn diwethaf,
ynghyd a denu £3miliwn tuag ar gynlluniau tai gwag. Mynegwyd fod 40 o geisiadau
ar hyn o bryd ar gyfer y Cynllun i Brynwyr Cyntaf. Amlygwyd y prif risgiau sydd
gan yr adran yn benodol sgil effeithiau y pandemig a brexit
ar gyflawni prosiectau o fewn amser ac o fewn cyllideb. Mynegwyd yno gystal fod
sgil effeithiau newid hinsawdd yn parhau yn risg o fewn yr adran. Awdur: Carys Fôn Williams |