Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Dafydd Meurig.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 fel rhai cywir

6.

ADOLYGIAD POLISI DIOGELU pdf eicon PDF 151 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu'r ‘Polisi a Chanllawiau ar gyfer Diogelu plant ac Oedolion sydd mewn perygl o gam-drin ac esgeulustod’ diwygiedig ynghyd a’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Panel Strategol Diogelu.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadu'r ‘Polisi a Chanllawiau ar gyfer Diogelu plant ac Oedolion sydd mewn perygl o gam-drin ac esgeulustod’ diwygiedig ynghyd a’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Panel Strategol Diogelu.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ofyn i’r Cabinet fabwysiadu Polisi a chanllawiau ar gyfer diogelu plant ac  oedolion sydd mewn perygl o gam-drin ac esgeulustod diwygiedig ynghyd a’r cylch gorchwyl ar gyfer y Panel y Strategol Diogelu. Mynegwyd fod y polisi yn nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu cyflawni ei gyfrifoldeb statudol ar gyfer diogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Eglurwyd fod y fersiwn bresennol yn addasiad o bolisi a grëwyd yn 2013, ac felly roedd yn amserol i baratoi polisi o’r newydd yn hytrach na diweddaru’r ddogfen yn unol â’r drefn arferol.

 

Amlygwyd fod gweithdy wedi ei gynnal yn ôl ym mis Hydref, ble mynychodd cynrychiolaeth o swyddogion ar draws y Cyngor i drafod  y Polisi newydd a chryfhau trefniadau adrodd a monitro. Nodwyd camau nesaf sef y bydd copi yn mynd gerbron y Cyngor Llawn ac yna gwaith pellach er mwyn hyrwyddo’r Polisi diwygiedig ymysg holl staff y Cyngor.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y polisi wir angen ei ddiwygio bellach yn amlygu’r gwahaniaeth rhwng diogelu ac amddiffyn, ac mae’r diffiniadau wedi  eu nodi yn y polisi. Mynegwyd fod newidiadau wedi eu gwneud i’r Cylch Gorchwyl y Panel gan amlygu rôl ac aelodaeth. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Croesawyd y polisi newydd gan bwysleisio ei bod yn holl bwysig fod pobl yn ymwybodol fod gan bawb o fewn y Cyngor rôl i sicrhau diogelwch plant ac oedolion sy’n wynebu risg.

·         Nodwyd pwysigrwydd fod y polisi yn mynd o flaen y Cyngor Llawn i amlygu pwysigrwydd y rôl sydd gan Gynghorwyr.

 

Awdur: Huw Dylan Owen

7.

CYTUNDEB CYFLAWNI, CYNLLUN DATBLYGU LLEOL - YMATEB I'R CYFNOD YMGYNGHORI CYHOEDDUS pdf eicon PDF 219 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu i’r Cabinet gytuno i:

       i.          Gyflwyno’r cytundeb Cyflawni Drafft diwygiedig i’r Cyngor Llawn ar gyfer eu cymeradwyaeth

      ii.          Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran wneud addasiadau golygyddol er mwyn sicrhau cywirdeb yn ôl yr angen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Bu i’r Cabinet gytuno i:

  1. Gyflwyno’r cytundeb Cyflawni Drafft diwygiedig i’r Cyngor Llawn ar gyfer eu cymeradwyaeth
  2. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran wneud addasiadau golygyddol er mwyn sicrhau cywirdeb yn ôl yr angen.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai paratoi a derbyn cymeradwyaeth o’r Cynllun Cyflawni yw’r cam cyntaf statudol yn gysylltiedig â’r broses o baratôi Cynllun Datblygu Lleol newydd. Mynegwyd fod y Cabinet wedi penderfynu mynd i ymgynghoriad cyhoeddus yn ôl mis Hydref  a nodwyd fod yr adroddiad yn nodi canlyniadau’r cyfnod ymgynghori hwn. Nodwyd fod 14 o unigolion / sefydliadau wedi ymateb i’r ymgynghoriad gyda chyfanswm o 37 sylw.

 

Eglurwyd nad oedd unrhyw faterion sylweddol yn codi o’r sylwadau a dderbyniwyd, a bod rhai o’r sylwadau ac awgrymiadau o ran sut i ddiwygio’r ddogfen a nodwyd fod y diwygiadau yn ychwanegu gwerth ac eglurdeb i’r Cytundeb Cyflawni.

 

Mynegwyd fod y Cytundeb Cyflawni wedi ei gyflwyno i gyfarfod y Gweithgor Polisi Cynllunio ym mis Ionawr. Amlygwyd fod y gweithgor wedi holi os oes modd diwygio’r profion cadernid wrth ystyried yr iaith. Nodwyd nad oes angen gan fod y gofyn yn cael ei gyfarch yn y profion ar ei ffurf bresennol a thrwy ofynion statudol sydd ar y Cyngor. Eglurwyd y bydd y Cytundeb Cyflawni bellach yn mynd i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth ac yna bydd modd dechrau ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol yn ffurfiol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Nodwyd fod niferoedd ymateb yn ymddangos yn isel ond nodwydd fod nifer yr ymatebwyr yn amlygu’r cam hwn – sef sefydlu’r broses yn hytrach ‘na datblygu’r polisi ei hun.

 

 

Awdur: Gareth Jones

8.

YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU; 'PAPUR GWYN AR ROI DIWEDD AR DDIGARTREFEDD YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cynnwys yr ymateb drafft i ymgynghoriad y Llywodraeth ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd cynnwys yr ymateb drafft i ymgynghoriad y Llywodraeth ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod pawb eisiau rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Ond amlygwyd os eisiau rhoi diwedd arno fod angen ei dorri yn ddau ran, sef sut i ddelio a digartrefedd a beth sydd yn achosi digartrefedd. Felly er bod y ddogfen hon yn uchelgeisiol nodwyd fod Llywodraeth San Steffan wedi cynyddu digartrefedd drwy Brexit, cyfnod o lymder ac o’i ganlyniad wedi cynyddu tlodi a digartrefedd. Cytunwyd a sut i ddelio a’r broblem ond amlygwyd fod angen delio a gwraidd y broblem.

 

Ychwanegodd Pennaeth Adran Tai ac Eiddo fod Llywodraeth Cymru wedi lansio'r ymgynghoriad yma yn ôl ym mis Hydref, gyda’r bwriad o basio'r ddeddf cyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026. Mynegwyd yn gyffredinol fod yr adran yn hapus gyda’r argymhellion ond fod gweithredu am fod yn anodd o ganlyniad i’r angen am adnoddau ychwanegol. Amlygwyd yr angen i gael sêl bendith y Cabinet o ganlyniad y sgil effaith posib y gall y papur gwyn yma ei gael ar adnoddau a chyllidebau’r Cyngor. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Diolchwyd am ymatebion y Cyngor sydd yn nodi pryder am ddileu'r elfen cysylltiad lleol.

·         Mynegwyd fod angen gwneud mwy o waith er mwyn edrych ar y rhesymau dros ddigartrefedd, a bod gweithredu yn peri pryder yn enwedig o ganlyniad i’r sefyllfa ariannol sydd ohoni a beth fydd yn wynebu’r Cyngor dros y blynyddoedd nesaf.

 

Awdur: Carys Fon Williams

9.

CYMERADWYO CYNLLUN CYDWEITHIO - CANOLFAN MONITRO ARFORDIROL CYMRU pdf eicon PDF 172 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Bu i’r Cabinet gytuno i:

       i.          Wynedd barhau i gyd-weithio gyda’r Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru a neilltuo adnoddau ar gyfer hynny

      ii.          Dirprwyo’r awdurdod i Bennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC mewn ymgynghoriad a Phennaeth Adran Gyfreithiol i gymeradwyo’r Cytundeb Cydweithio.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Bu i’r Cabinet gytuno i:

  1. Wynedd barhau i gyd-weithio gyda’r Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru a neilltuo adnoddau ar gyfer hynny
  2. Dirprwyo’r awdurdod i Bennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC mewn ymgynghoriad â Phennaeth Adran Gyfreithiol i gymeradwyo’r Cytundeb Cydweithio.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gofyn i ffurfioli’r drefn sydd yn ei le yn barod ar yn o bryd. Nodwyd y bydd y cynllun cydweithio yn gyfle i ddenu incwm i Ymgynghoriath Gwynedd (YGC)  i’r dyfodol gan na fuasai angen cystadlu am waith.

 

Ychwanegodd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd fod sêl bendith wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru i ailsefydlu Canolfan Monitro Arfordirol Cymru yn ôl yn 2018. Nodwyd fod y Cyngor wedi bod yn rhan o’r Ganolfan ers 2018, a nodwyd os na fydd angen i YGC gystadlu am y gwaith y bydd yn defnyddio arbenigedd sydd o fewn y Cyngor. Eglurwyd fod y data sydd yn cael ei gasglu yn rhan o gynllun hir dymor sydd wedi bod yn bwydo i mewn i strategaethau cenedlaethol. Ategwyd fod gan y ganolfan rôl holl bwysig o ran cynlluniau newid hinsawdd.

Awdur: Steffan Jones

10.

DIWYGIO’R DREFN TRETH CYNGOR - YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU: TRETH GYNGOR DECACH: CAM 2 pdf eicon PDF 488 KB

Cyflwynwyd gan: Cllr. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cynnwys yr ymateb drafft i ymgynghoriad y Llywodraeth ar  ddiwygio Treth Cyngor yng Nghymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas. 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd cynnwys yr ymateb drafft i ymgynghoriad y Llywodraeth ar  ddiwygio Treth Cyngor yng Nghymru.

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r papur i ymgynghoriad gan nodi opsiynau o ran a mor bell a pa mor gyflym y bydd newid o ran diwygio’r drefn dreth Cyngor. Nodwyd o ran cyflymder y newid ei fod yn amrywio o’i gwblhau erbyn Ebrill 2025 i Ebrill 2028, a bod pa mor bell y bydd y diwygio yn ei fynd yn mynd o raddfa fach iawn i fod yn ddiwygiad ehangach.

 

Amlygwyd ar gyfartaledd fod pris eiddo yng Nghymru wedi cynyddu oddeutu 150% rhwng 2003 a 2022, fodd bynnag nid yw’r cynnydd ar draws Cymru wedi bod yn gyson. Eglurwyd fod Gwynedd wedi gweld y cynnydd 7fed uchaf drwy Gymru yn ystod y cyfnod, ac o ganlyniad y gall nifer uwch na’r cyfartalog symud i fyny o leiaf un band yng Ngwynedd.

 

Eglurwyd ei bod yn ymddangos y bydd mwy o drethdalwyr Gwynedd yn colli nac a fyddai’n ennill dan unrhyw un o’r diwygiadau a gynigir, yn gyffredinol nodwyd fod posibilrwydd cryf y buasai oddeutu 40% o bobl Gwynedd yn talu rhai cannoedd o bunnoedd yn fwy o drethi fel canlyniad i’r diwygiadau. Mynegwyd o ran diwygio  fe ellir dadlau fod prisiau tai wedi cynyddu mewn rhai ardaloedd ond fod cyflogau unigolion heb wneud a all arwain at nifer o bobl yn methu fforddio talu eu bil Treth Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Nodwyd fod opsiwn 3 sef diwygiad ehangach yn arwain at greu system decach, gyda mwy o fandiau ar gael.

·         Amlygwyd y bydd unrhyw gynnydd ar y cyfan yn sylfaen drethiannol y Cyngor yn golygu gostyngiad yn y grant a dderbynnir gan y Llywodraeth.  Ond pwysleisiwyd nad bwriad y diwygiadau yw codi mwy o dreth gan y bydd y cyfanswm cenedlaethol yn parhau'r un peth ond ei fod yn decach.

 

 

Awdur: Dewi A Morgan

11.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2023-2028 - ADOLYGIAD 2024/25 pdf eicon PDF 203 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu i’r Cabinet gymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028 – Adolygiad 2024/25 (y Cynllun) i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 7fed o Fawrth 2024.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Bu i’r Cabinet gymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028 – Adolygiad 2024/25 (y Cynllun) i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 7fed o Fawrth 2024.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gofyniad i gynnal adolygiad o Gynllun Cyngor Gwynedd er mai dim ond blwyddyn sydd wedi bod ers ei basio. Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu’r diwygiadau sydd i’w gweld.

 

Bu i Reolwr Gwasanaeth Busnes y Cyngor amlygu bod adolygiad ysgafn wedi ei gynnal er mwyn sicrhau fod y cynllun yn parhau i fod yn gyfredol. Pwysleisiwyd fod y meysydd blaenoriaethau, a oedd yn cyd-fynd a’r amcanion llesiant o ganlyniad i’r ddeddf a rhestr uchelgeisiau’r Cyngor yn parhau fel ac y mae hi.

 

Amlygwyd fod addasiadau wedi ei gwneud i brosiectau megis Cinio am Ddim yn yr Adran Addysg gan fod y cynllun hwn bellach yn rhan o waith dydd i ddydd yr adran. Cynllun arall sydd wedi ei dynnu allan yw adolygu’r Polisi Iaith gan ei bod wedi ei derbyn gan y Cyngor Llawn yn ei chyfarfod cyn y Nadolig. Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i ail becynnu prosiect Gofal Oedolion er mwyn symleiddio’r disgrifiad ac i gyfuno prosiectau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Nodwyd fod addasu ac adolygu’r ddogfen yn amlygu fod hon yn ddogfen fyw ac wedi bod yn ymarferiad da iawn i weld beth sydd wedi ei gyflawni.

·         Pwysleisiwyd nad oes dim newid wedi bod i’r amcanion y cynlluniau sydd wedi eu hail becynnu yn yr adran Oedolion, ond yn hytrach ei gwneud yn haws i allu creu cerrig milltir ac o ganlyniad bydd modd adrodd ar hynny.  

 

Awdur: Dewi Wyn Jones

12.

CYNLLUN ARBEDION 2024/25 pdf eicon PDF 228 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu I'r Cabinet gytuno i:

 

a)     Cymeradwyo’r arbedion a thoriadau a restrir yn Atodiad A (£4.4M) i’w defnyddio fel cyfraniad tuag at ein bwlch cyllidol yn 2024/25, a chomisiynu’r Adrannau i symud ymlaen i weithredu y cynlluniau gan ddal sylw at y materion a amlygwyd yn yr adroddiad.

b)     Gosod cyllideb gytbwys yn 2024/25, cymeradwyo gwerth y toriadau ac arbedion a restrir yn Atodiad B (£0.8M) a nodi y bydd angen camau pellach cyn gallu dod i benderfyniad terfynol i’w gweithredu, fel amlinellir yn 2.13, gan ddefnyddio arian wrth gefn i bontio yr arbedion na fydd yn cael eu cyflawni yn 24/25.

c)     Gwneud darpariaeth o £0.52M i gyfarch y lefel risg sydd yn ynghlwm â gwireddu y cynllun toriadau hwn.

d)     Dirprwyo’r hawl i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud addasiadau i’r Cynllun Arbedion hwn o fewn y cyfansymiau Adrannol wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A a B ddatblygu, o fewn y cyfansymiau cyllidol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad Dafydd Gibbard.

 

PENDERFYNIAD

 

Bu i'r Cabinet gytuno i:

 

a)    Cymeradwyo’r arbedion a thoriadau a restrir yn Atodiad A (£4.4M) i’w defnyddio fel cyfraniad tuag at ein bwlch cyllidol yn 2024/25, a chomisiynu’r Adrannau i symud ymlaen i weithredu'r cynlluniau gan ddal sylw at y materion a amlygwyd yn yr adroddiad.

b)    Gosod cyllideb gytbwys yn 2024/25, cymeradwyo gwerth y toriadau ac arbedion a restrir yn Atodiad B (£0.8M) a nodi y bydd angen camau pellach cyn gallu dod i benderfyniad terfynol i’w gweithredu, fel amlinellir yn 2.13, gan ddefnyddio arian wrth gefn i bontio'r arbedion na fydd yn cael eu cyflawni yn 24/25.

c)    Gwneud darpariaeth o £0.52M i gyfarch y lefel risg sydd yn ynghlwm â gwireddu'r cynllun toriadau hwn.

d)    Dirprwyo’r hawl i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud addasiadau i’r Cynllun Arbedion hwn o fewn y cyfansymiau Adrannol wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A a B ddatblygu, o fewn y cyfansymiau cyllidol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi tristwch ei bod bellach yn arferol i orfod trafod eitem am arbedion cyn bod modd mynd i osod y gyllideb. Pwysleisiwyd o ganlyniad i’r argyfwng ariannol sydd yn wynebu awdurdodau lleol, mae’n eitem angenrheidiol. Eglurwyd fod y Cyngor yn derbyn cynnydd o 2.3% o Grant Llywodraeth Leol, ond ei fod yn sylweddol is na lefel chwyddiant ac islaw yn hyn fydd ei angen i gynnal lefel gwasanaethau presennol. Eglurwyd o ganlyniad bydd angen i’r Cyngor ymdopi a bwlch ariannol o bron i £15m.

 

Mynegwyd er mwyn gwneud hyn bydd angen i’r gyllideb gynnwys cyfuniad o orfod cynyddu’r dreth Cyngor a chyflawni toriadau mewn cyllidebau ar draws y Cyngor. Eglurwyd yn ôl ym mis Hydref cynhaliwyd gweithdai i holl aelodau etholedig er mwyn blaenoriaethu cynlluniau arbedion ar gyfer 2024/25. Nodwyd fod y cynigon a chyfanswm gwerth o oddeutu £8m. Cynhaliwyd asesiad effaith ar bob cynnig ynghyd ac asesiad cyfreithiol ac ariannol i sicrhau eu bod yn gynlluniau oedd posib eu cyflawni.

 

Casgliadau’r gweithdai oedd  bod posib gweithredu oddeutu £5m o gynlluniau, a chyflwynwyd y rhestr o doriadau ac arbedion yn ddwy ran. Eglurwyd fod rhestr A yn cynnwys cynlluniau gellir symud ymlaen i'w gweithredu gan yr Adran. Amlygwyd y cynlluniau o dan y penawdau megis arbedion effeithlonrwydd, cynyddu incwm a defnyddio ffynonellau eraill i ariannu.

 

Nodwyd fod y rhestr B yn adlewyrchu cynlluniau sydd yn ddarostyngedig i gamau statudol neu benderfyniadau pellach cyn gellir eu cadarnhau. Amlygwyd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi craffu'r broses, ond wedi codi pryder am y lefel arian wrth gefn ar gyfer cynlluniau arbedion gan ei fod wedi gostwng o 20% i 10%. Er hyn nodwyd eu bod yn fodlon a bod y broses yn gynhwysfawr a thrylwyr.

 

Eglurwyd fod y grant gan y Llywodraeth am fod yn lleihau dros y blynyddoedd i ddod, a bydd angen  mynd ati yn syth i gychwyn cylch newydd o arbedion, gan edrych ar sut i ymdopi ac o bosib i ail ddiffinio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

Awdur: Dewi A Morgan

13.

CYLLIDEB 2024/25 pdf eicon PDF 741 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1)     Sefydlu cyllideb o £330,590,040 ynghyd ag unrhyw arian ychwanegol a dderbynnir yn y setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232,092,110, gan ychwanegu unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad terfynol, a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%).

2)     Sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

3)     Fod y Grant Llywodraeth ychwanegol terfynol a dderbynnir uwchlaw y £232,092,110 – a amcangyfrifir i fod oddeutu £969,000 – yn cael ei ddefnyddio i leihau’r bwlch o £2M sydd heb ei gyfarch yn ein cynlluniau ariannol yn 2024/25 ac yn gorfod cael ei gyfarch o gronfeydd am eleni fel y cyfeirir ato ym mharagraff 5.4.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

1)    Sefydlu cyllideb o £330,590,040 ynghyd ag unrhyw arian ychwanegol a dderbynnir yn y setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232,092,110, gan ychwanegu unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad terfynol, a £98,497,930 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54%).

2)    Sefydlu rhaglen gyfalaf o £85,224,800 yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

3)    Fod y Grant Llywodraeth ychwanegol derfynol a dderbynnir uwchlaw y £232,092,110 - a amcangyfrifir i fod oddeutu £969,000 - yn cael ei ddefnyddio i leihau’r bwlch o £2M sydd heb ei gyfarch yn ein cynlluniau ariannol yn 2024/25 ac yn gorfod cael ei gyfarch o gronfeydd am eleni fel y cyfeirir ato ym mharagraff 5.4

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi rhoi addewid o arian ychwanegol i awdurdodau Cymru o ganlyniad i arian ychwanegol sydd wedi ei ddyrannu i gynghorau Lloegr yn ddiweddar. Amcangyfrifir y bydd y Cyngor yn derbyn ffigwr ychwanegol oddeutu £969,000. Yn ogystal â hyn, nodwyd fod yr adran wedi eu hysbysu ddiwedd wythnos ddiwethaf o grantiau penodol fydd yn cael eu trosglwyddo i’r setliad, a sydd hefyd yn cael effaith ar y ffigyrau terfynol. Eglurwyd y bydd y ffigyrau yn derfynol erbyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar 7 Mawrth.

 

Nodwyd fod y penderfyniad a geisir yn argymell i’r Cyngor yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2024 y dylid sefydlu cyllideb o £331 miliwn ynghyd ag unrhyw arian ychwanegol a dderbynnir yn y setliad terfynol ar gyfer 2024/25 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £232 miliwn gan ychwanegu unrhyw gynnydd yn y grant a dderbynnir yn y setliad terfynol a £98 miliwn o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 9.54% ar dreth anheddau unigol).  Yn ogystal i sefydlu rhaglen gyfalaf o £85 miliwn  yn 2024/25 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

Ychwanegwyd yr amcangyfrif byddai’r Grant Llywodraeth ychwanegol derfynol oddeutu £969k yn uwch na’r hyn oedd yn y setliad drafft a bydd cyllid ychwanegol (yn y terfynol uwchlaw’r setliad drafft) yn cael ei ddefnyddio i leihau’r defnyddio o £2m o gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Pwysleisiwyd fod y gyllideb yn cael ei argymell mewn cyfnod ble mae awdurdodau lleol Cymru yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Amlygwyd fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant ar gyfer 2024/25 a oedd ymysg yr isaf yng Nghymru. Eglurwyd nad yw’r swm yma yn ddigonol i gwrdd â chwyddiant, heb sôn am bwysau ychwanegol ar wasanaethau.

 

Tynnwyd sylw at ddarpariaeth chwyddiant cyflogau o £15.1m. Mynegwyd fod y ffigwr hwn yn unol â’r mwyafrif o awdurdodau lleol eraill. Nodwyd fod y Cyngor wedi cynllunio yn ddarbodus yn 2023/24 ar gyfer cynnydd o 6%, ond roedd y cytundeb terfynol yn uwch, ac felly o ganlyniad bydd chwyddiant cyflogau yng nghyllideb 2024/25 yn cynnwys elfen i gywiro’r bwlch yma yn ogystal ag ystyried chwyddiant tybiannol o 5% ar gyfer yr holl weithlu.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

Awdur: Dewi A Morgan

14.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ECONOMI pdf eicon PDF 291 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn a Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi balchder yn gweld cynnydd mewn cynlluniau ar draws yr adran, ac yr ystod eang o wasanaethau mae’r adran yn ei gynnig. Ychwanegwyd fod y gwasanaethau yma yn holl bwysig i bobl Gwynedd a diolchwyd i’r staff am eu gwaith.

 

Amlygodd y Pennaeth Adran brif faterion yr adran  a oedd yn cynnwys grantiau mae’r Cyngor yn gynnig i fusnesau ar draws Gwynedd fel rhan o flaenoriaeth y Cyngor - Gwynedd Lewyrchus. Eglurwyd drwy raglen ARFOR, Cronfa Trawsffurfio Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Cyffredin gan Lywodraeth Prydain fod pecyn o wahanol gronfeydd wedi ei sefydlu. Mynegwyd fod ymateb sylweddol wedi bod i’r cronfeydd gyda gwerth ceisiadau yn £13.26m a dim ond £3.46m oedd y gyllideb. Mae’r adran yn parhau i weithio gyda’r busnesau a oedd yn aflwyddiannus i gynnig adborth a chyngor pellach.

 

Mynegwyd fod adferiad yn parhau i Gwmni Byw’n Iach gyda’r niferoedd sy’n ymweld yn  Rhagfyr 2023 yn uwch na’r nifer ymweliadau mis Rhagfyr 2019. Eglurwyd fod y gwaith yn parhau i annog defnydd o’r canolfannau ac e bod yn gobeithio adfer y sefyllfa yn llwyr. Yn y Gwasanaeth Morwrol nodwyd fod y gwaith o uwchraddio maes parcio Dinas Dinlle yn parhau a'u bod yn gobeithio y bydd yn cael ei gwblhau erbyn Mawrth 2024. Mynegwyd fod cynnydd o 4% yn nifer cwsmeriaid a chytundeb angorfa yn harborau’r sir a bod rhagolygon ar gyfer 2024 yn galonogol iawn. Er hyn amlygwyd fod gostyngiad yn niferoedd Hafan Pwllheli o ganlyniad i gynnydd mewn costau byw. Er hyn nodwyd fod y rhestr aros yn parhau i fod yn gryf ar hyn o bryd.

 

Mynegwyd fod y gwaith i uwchraddio Amgueddfa Lloyd George yn parhau a byddant yn adrodd ymhellach ar y prosiect i’r dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Tynnwyd sylw at gynllun Symbolau Lluniau Cyfathrebu 'Boardmaker', sy’n adnodd i deuluoedd plant nad ydynt yn gallu cyfathrebu'n llafar, ar gael bellach mewn tair llyfrgell yng Ngwynedd.

 

Awdur: Sioned Williams

15.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH GORFFORAETHOL A'R GWASANAETH CYFREITHIOL pdf eicon PDF 403 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod am gychwyn gydag adroddiad perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol. Mynegwyd fod yr adroddiad yn amlinellu’r hyn sydd wedi digwydd hyd yma yn erbyn addewidion Cynllun Cyngor Gwynedd. Tynnwyd sylw at rai cynlluniau yn benodol megis Merched mewn Arweinyddiaeth. Nodwyd fod dros 40 o ferched bellach wedi bod yn dilyn y rhaglen ddatblygol gyda 33% o’r mynychwyr wedi derbyn swydd uwch ers cwblhau’r Rhaglen. Ychwanegwyd fod cynllun peilot ar droed i osgoi rhagfarn ddiarwybod a sicrhau cydraddoldeb drwy gyflwyno ffurflenni cais dienw ar gyfer swyddi lefel Arweinyddion Timau ac uwch.

 

Fel rhan o raglen Iaith y Cyngor amlygwyd fod y Strategaeth Iaith wedi ei fabwysiadu yn ôl ym mis Rhagfyr. Nodwyd yn sgil y gwaith ymchwil pellach ar newid enwau strydoedd mewn dwy ardal beilot, mae nifer o gymhlethdodau wedi eu hamlygu ac felly yn nid yw’n ymarferol bwrw ymlaen gyda’r agwedd yma ar hyn o bryd. O ganlyniad, eglurwyd fod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar y cynllun gosod arwyddion ar dreflannau, pontydd a ffiniau ardaloedd er mwyn cynyddu gwelededd y prosiect.

 

Amlygwyd fod yr adran yn rhagweld y byddant yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd fod cyfuniad o resymau dros y gorwariant tebygol, megis pwysau cynyddol ar gyllideb benodol, e.e. cynnydd mewn galw ar gwnsela a diffyg cyrraedd targed incwm ar gyfer amryw o wasanaethau.

 

O ran y Gwasanaeth Cyfreithiol nodwyd fod yr Aelod Cabinet yn fodlon â pherfformiad yr adran o ddydd i ddydd. Pwysleisiwyd fod y sefyllfa recriwtio bellach mewn lle iach gyda staff wedi eu penodi. Eglurwyd o ran Priodoldeb fod rhaglen o seminarau am gael ei chynnal a chyff yn esbonio hanfodion penderfyniadau mewn cyrff cyhoeddus ynghyd a’r fframwaith cyfansoddiadol a rheoleiddio.

 

Nodwyd fod yr adran wedi bod yn gweithio i gefnogi Swyddog Canlyniadau a’r Swyddog Cofrestru Etholiadau er mwyn ymateb i ffiniau newydd i’r etholaethau etholiadau DU, Deddf Etholiadau 2022 a pharatoi ar gyfer newidiadau Etholiadol Senedd Cymru. Eglurwyd fod trefniadau ar gyfer etholiadau yn lle bellach gyda Chyngor Conwy a Chyngor Dinbych ble mae ffiniau etholaethau yn croesi ffiniau sirol.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Nodwyd fod gwaith wedi cychwyn i ailddechrau ar gyfer ceisio gael ardystiad lefel 2 y cynllun Hyderus o ran Anabledd, a bod gobaith y bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2024. Eglurwyd fod yr adran yn uchelgeisiol ac yn awyddus i gyrraedd lefel 3.

·         Amlygwyd fod Prosiect 15, sydd yn rhan o gynllun Hybu Defnydd o’r Gymraeg, fod gwaith arbennig o dda wedi ei wneud, a diolchwyd i’r unigolyn ifanc a oedd yn datblygu a creu cynnwys gwreiddio Cymraeg ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.

·         Amlygwyd fod gwaith Merched mewn Arweinyddiaeth yn arloesol ac yn cael ei amlygu yn allanol yn ogystal.

 

 

Awdur: Ian Jones a Iwan G Evans