Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: ybrid - Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, LL55 1SH ac ar Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a’r Swyddogion i’r cyfarfod gan Arweinydd y Cyngor.

 

Diolchwyd i holl staff y Cyngor a fu’n gweithio i warchod a diogelu trigolion Gwynedd yn ystod tywydd eithriadol storm Darragh yn ddiweddar. Adroddwyd bod nifer o ffyrdd wedi cau oherwydd difrod y storm a nifer fawr o gartrefi a rhai cartrefi gofal wedi cael eu heffeithio gan ddiffyg trydan. Rhannwyd diolchiadau i’r gwasanaethau gofal gan fod aelodau staff wedi gweithio oriau estynedig er mwyn sicrhau bod unigolion mwyaf bregus Gwynedd yn parhau i dderbyn gwasanaeth, er gwaethaf y tywydd garw.

 

Mynegwyd siom bod Cyngor Gwynedd dim ond wedi derbyn cynnydd o 3.2% o’i gymharu â chyllideb y llynedd, wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r setliad. Cadarnhawyd y golyga hyn bod Cyngor Gwynedd o blith y tri Awdurdod Lleol yng Nghymru sydd yn derbyn cyfran leiaf o’r setliad am y flwyddyn i ddod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dewi Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 26 TACHWEDD pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2024 fel rhai cywir.

 

6.

STRATEGAETH LLESIANT STAFF pdf eicon PDF 160 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Llio E. Owen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y Cynllun Llesiant fel cynllun ar gyfer cefnogi a hybu llesiant staff tros y blynyddoedd nesaf. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd y Cynllun Llesiant fel cynllun ar gyfer cefnogi a hybu llesiant staff tros y blynyddoedd nesaf. 

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd bod Cynllun Llesiant Staff yn weithredol a'i fod wedi derbyn Gwobr Lefel Aur gan Lywodraeth Cymru nifer o weithiau am Safon Iechyd Corfforaethol. Er hyn, eglurwyd bod cyfnod Covid wedi arwain at nifer o newidiadau i lesiant staff ac mae anghenion yn dra gwahanol erbyn hyn, i’r disgwyliadau cyn y pandemig. Eglurwyd ei fod yn amserol i adolygu’r Cynllun yn llawn er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn addas i bwrpas i’r dyfodol.

 

Adroddwyd bod y Cynllun Llesiant yn ymdrin â nifer o ddyletswyddau megis y ddyletswydd foesol i warchod iechyd a llesiant staff. Manylwyd bod y Cynllun hefyd yn cyfarch dyletswyddau cyfreithiol i warchod diogelwch, iechyd a llesiant staff. Eglurwyd hefyd bod dyletswyddau ariannol o fewn y Cynllun Llesiant er mwyn sicrhau bod y staff yn iach a bodlon. Cadarnhawyd bod costau absenoldebau salwch dros y flwyddyn ddiwethaf yn £5.7m.

 

Cadarnhawyd bod ‘Gweithlu Iach a Bodlon’ yn ffrwd gwaith o fewn Cynllun Ffordd Gwynedd gan ei fod yn ddull o ddenu gweithwyr newydd, cadw gweithwyr presennol, gostwng cyfraddau absenoldeb salwch a gwella perfformiad a datblygiad staff y Cyngor. Ymfalchïwyd bod rhan gyfan o’r Holiadur Llais Staff wedi manylu ar lesiant staff eleni ac mae’r canlyniadau wedi cael eu bwydo mewn i’r cynllun.

 

Eglurwyd bod tri sylfaen i’r Cynllun newydd sef ‘Arwain a Rheoli’, ‘Cefnogaeth gynaliadwy’ ac ‘Yr Amgylchedd Waith’. Eglurwyd bod sylfaen ‘Arwain a Rheoli’ yn ymgymryd â datblygu Arweinyddion a Rheolwyr i gefnogi llesiant staff yn well gan roi pwyslais ar rôl greiddiol y Rheolwyr i gefnogi llesiant. Ymhelaethwyd bod y sylfaen ‘Cefnogaeth Gynaliadwy’ yn sicrhau bod trefniadau mewn lle megis cynigion cwnsela, ffisiotherapi, gwiriadau iechyd a chefnogaeth Uned Iechyd Galwedigaethol yn parhau er mwyn cynnig cefnogaeth llesiant meddyliol, corfforol, cymdeithasol ac ariannol. Tynnwyd sylw bod sylfaen ‘Yr Amgylchedd Waith’ yn ffocysu ar weithleoedd yn y Cyngor er mwyn sicrhau bod yr adeiladau yn hybu llesiant tra hefyd yn cefnogi timoedd os oes patrymau absenoldebau yn codi.

 

Cadarnhawyd bod y Cynllun Llesiant wedi dilyn proses ymgynghori cyn ei gyflwyno i’r Cabinet gan ei fod wedi derbyn mewnbwn gan y Tîm Rheoli Corfforaethol, Fforwm Iechyd Diogelwch a Llesiant, Panel Iechyd Diogelwch a Llesiant, y Rhwydwaith Rheolwyr a staff y Cyngor drwy’r Holiadur Llais Staff.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Gofynnwyd a yw’r costau absenoldebau salwch yn uchel o’i gymharu gydag Awdurdodau eraill.

o   Mewn ymateb i’r cwestiwn, cadarnhaodd Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol nad yw pob Awdurdod Lleol yn adrodd ar y niferoedd hyn. Fodd bynnag, cadarnhawyd mai costau Cyngor Gwynedd yw’r lleiaf ond un o ystyried ffigyrau’r 13 Awdurdod Lleol sy’n datgelu’r wybodaeth.

·       Cefnogwyd y Cynllun gan ei fod yn arwain at waith Ataliol pwysig iawn. Pwysleisiwyd bod hyrwyddo gweithgareddau a’r gefnogaeth sydd ar gael yn holl bwysig i iechyd a llesiant staff. Ychwanegwyd ei fod yn bwysig derbyn adborth gan staff am y cynigion hyn gan ddiolch i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Ian Jones, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Catrin Love, Pennaeth Cynorthwyol - Gwasanaethau Corfforaethol

7.

ADRODDIAD CWYNION A GWELLA GWASANAETH CHWARTER 1-2 2024/25 pdf eicon PDF 270 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Llio E. Owen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar berfformiad y Cyngor o ymdrin â chwynion a gwella gwasanaethau, yn unol â’r disgwyliad i ddiweddaru’r Cabinet pob 6 mis. Nodwyd bod yr adroddiad yn amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau dros y cyfnod o’r chwe mis diwethaf. Tynnwyd sylw at ddata meintiol ac ansoddol er mwyn mesur perfformiad y Cyngor yn o gystal â gwybodaeth gymharol o’r blynyddoedd diwethaf.

 

Cadarnhawyd bod y nifer o Gwynion Ffurfiol a chwynion sydd wedi mynd at yr Ombwdsman wedi gostwng yn y chwe mis diwethaf o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Ymhelaethwyd bod tueddiad dros gyfnod hirach yn dangos bod nifer Cwynion Ffurfiol wedi gostwng yn raddol rhwng 2018/19 a 2021/22 nes gwelwyd cynnydd sylweddol bryd hynny yn dilyn y pandemig. Pwysleisiwyd bod y sefyllfa yn parhau i sefydlogi yn flynyddol i’r sefyllfa cyn Covid.

 

Ymfalchïwyd bod newid mewn diwylliant o fewn y Cyngor, gyda’r mwyafrif o Wasanaethau yn derbyn bod cwynion yn gyfle positif ac adeiladol i ddysgu gwersi. Nodwyd hefyd bod y cyfnod amser cyn ymateb i gwynion gyda datrysiadau yn gostwng yn raddol. Mynegwyd balchder bod niferoedd cwynion am ddiffyg ymateb neu weithrediad wedi gostwng oddeutu 50% hyd yma eleni, wrth edrych ar y data cymharol.

 

Diolchwyd i’r Swyddog Gwella Gwasanaeth am ei gwaith diflino o fewn y maes hwn ac am gydweithio’n agos gydag adrannau sydd yn derbyn cwynion, gan gynnig sesiynau hyfforddi pan yn briodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Ymfalchïwyd bod diwylliant y Cyngor bellach yn ymdrin â chwynion fel arf i wella gwasanaethau a dysgu gwersi.

·       Tynnwyd sylw bod negeseuon o ganmoliaeth hefyd yn cael ei dderbyn yn gyson gan yr Adrannau.

·       Gofynnwyd i’r Aelodau Cabinet i sicrhau bod trafodaethau yn cael eu cynnal o fewn eu hadrannau i ymdrechu i ganfod datrysiadau i bob cwyn sydd eisoes yn bodoli.

·       Tynnwyd sylw penodol at niferoedd cwynion ffurfiol a dderbyniwyd o fewn y 6 mis diwethaf gan nodi bod 14 cwyn wedi cael ei dderbyn, o’i gymharu â 27 cwyn o fewn yr un cyfnod y llynedd. Yn yr un modd, cadarnhawyd bod 8 cwyn am gamgymeriadau neu weithrediad anghywir wedi cael ei dderbyn o fewn y 6 mis diwethaf o’i gymharu â 21 yn yr un cyfnod y llynedd.

·       Cadarnhawyd bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn fuan er mwyn sicrhau bod trefniadau cwynion yn caniatáu i unigolion gyflwyno cwyn mewn modd priodol a chyfleus. Ymhelaethwyd bydd adroddiad ar Siarter Gofal Cwsmer newydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn fuan, gan nodi y bydd yn cadarnhau’r hyn sydd yn ddisgwyliedig gan adrannau’r Cyngor. Eglurwyd bydd y Siarter Gofal Cwsmer hefyd yn gosod disgwyliadau ar drigolion a defnyddwyr gwasanaethau ynglŷn â sut mae cwynion yn cael eu cyflwyno. Pwysleisiwyd bydd y datblygiadau hyn yn derbyn sylw wrth i’r Adran adrodd ar berfformiad Cwynion a Gwella Gwasanaeth (Chwarter 3 a 4) ymhen chwe mis.

 

Awdur: Ian Jones, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol