Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Catrin Wager. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nodwyd y bydd y newidiadau yn eitem 6 ar deithio staff yn effeithio’r swyddogion presennol, ond nad oedd angen iddynt adael y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 HYDREF 2019 PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 Medi 2019 fel rhai cywir. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd
i gychwyn cyfnod o ymgynghori statudol yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf
Safonau Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol
Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Bro Plenydd,
Y Ffor, ar y 1af Medi 2020. Cofnod: Cyflwynwyd gan y
Cyng. Cemlyn Williams PENDERFYNIAD Cytunwyd
i gychwyn cyfnod o ymgynghori statudol yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf
Safonau Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol
Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Bro Plenydd, Y Ffor, ar y 1af Medi 2020. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi eu bod yn cynnig i gychwyn cyfnod ymgynghorol statudol ar y
cynnig arfaethedig i gau Ysgol Llanaelhaearn. Ategwyd mai’r rheswm dros y
penderfyniad i gychwyn y cyfnod statudol yw bod nifer y disgyblion wedi lleihau
dros y blynyddoedd ac mai dim ond 8 disgybl sydd bellach ar y gofrestr. Mynegwyd fod gan y
Cyngor ddyletswydd i sicrhau addysg a phrofiadau o safon uchel i bob disgybl, a
gyda chyn lleied o blant nad oedd cyfleoedd teg iddynt o ran profiadau.
Pwysleisiwyd mai cais i ystyried cyfnod statudol o ymgynghoriad yw hwn ac nid
penderfyniad i gau’r ysgol. Ategwyd fod y trafodaethau sydd wedi cael ei gynnal
yn lleol wedi bod yn urddasol a diolchwyd i’r aelod lleol, y corff llywodraethol
a’r budd-ddeiliad am drafod yr opsiynau posib. Bu i’r Swyddog
Addysg Ardal Dwyfor / Meirion esbonio’r drefn a ddilynwyd o ran y drafodaeth a
gafwyd yn lleol. Nodwyd sut y daethpwyd i symud ymlaen ar y cynnig arfaethedig. Mynegodd yr Aelodau
Lleol ofid a siom am y sefyllfa’r ysgol, gan ychwanegu fod y lefel o addysg yn
cyrraedd safon arbennig. Nododd ei fod yn derbyn fod y niferoedd yn gostwng ac
o ganlyniad fod cost y plentyn yn llawer uwch nac y canran sirol. Pwysleisiodd
y bydd cau’r ysgol yn creu effaith hir dymor ar y gymuned ond fod yr
ymgynghoriad hyd yma a’r gymuned wedi bod yn un teg a thrylwyr. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Holwyd
beth oedd y camau sydd wedi ei gymryd ar hyn o bryd o ran ymgynghori a phobl
leol. Mynegwyd fod trafodaethau wedi digwydd ond fod y broses statudol ychydig
yn wahanol ond y bydd ychydig o ail adrodd yn cael ei wneud. Pwysleisiwyd fod
llawer o opsiynau wedi eu hystyried cyn cyrraedd y cynnig arfaethedig. ¾
Nodwyd
nad oedd angen i drafodaeth flaenorol gael ei gynnal i drafod opsiynau gyda’r
gymuned gan fod y niferoedd wedi disgyn o dan 10 disgybl ond fod yr adran wedi
teimlo dyletswydd i drafod a staff, rhieni, llywodraethwyr a budd-ddeiliaid er
mwyn sicrhau fod y trafodaethau yn dryloyw Awdur: Gwern ap Rhisiart |
|
ARBEDION TEITHIO STAFF CYNGOR GWYNEDD PDF 320 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i
fabwysiadu’r cynllun teithio amgen i staff, a chwtogi cyllidebau adrannol fel a
ganlyn i adlewyrchu lefel cytunedig yr arbedion perthnasol (cyfanswm £117,998)
– Addysg £9,775 Amgylchedd £8,772 Cefnogaeth Gorfforaethol £7,064 Cyllid £2,379 Economi a Chymuned £6,526 Oedolion £33,183 Plant £31,463 Priffyrdd a Bwrdeistrefol £3,463 Tîm Arweinyddiaeth £1,159 Ymgynghoriaeth £13,130 Tai ac Eiddo £1,084 Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNIAD Cytunwyd i fabwysiadu’r cynllun teithio amgen i staff, a chwtogi
cyllidebau adrannol fel a ganlyn i adlewyrchu lefel cytunedig yr arbedion
perthnasol (cyfanswm £117,998) – Addysg
£9,775 Amgylchedd
£8,772 Cefnogaeth Gorfforaethol £7,064 Cyllid
£2,379 Economi a Chymuned £6,526 Oedolion
£33,183 Plant
£31,463 Priffyrdd a Bwrdeistrefol £3,463 Tîm Arweinyddiaeth £1,159 Ymgynghoriaeth
£13,130 Tai ac Eiddo £1,084 TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cynllun hwn yn cael ei arwain gan
yr adran Amgylchedd ond ei fod yn effeithio ar waith y Cyngor i gyd. Nodwyd cefndir
yr eitem gan esbonio ei fod yn deillio o ymgynghoriad gan ymgynghorwyr
arbenigol o’r enw Edge Public
Solution yn 2014. Ategwyd fod yr adroddiad yn 2014 yn mynegi fod arbediad o 15% yn
bosibl ar y gyllideb teithio staff a bod y Cyngor wedi dechrau cynllunio ar y
sail yma. Pwysleisiwyd nad oedd y gwaith a wnaethpwyd i’r Adroddiad yn 2014 wedi
ei seilio ar waith trylwyr ac o
ganlyniad fod gwaith pellach wedi ei wneud gan y Cyngor. Mynegwyd fod yr adran
wedi bod yn edrych ar wahanol ffyrdd o gyfathrebu ac i bwysleisio mai’r ffordd
amlycaf i wneud arbediad yw i staff beidio gwneud y daith o gwbl. Amlygwyd y
ffyrdd gwahanol o deithio i wahanol
gyfarfodydd a oedd yn cynnwys cludiant gyhoeddus a cheir pwl. Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i gyfathrebu gyda’r adrannau ac mae
enghreifftiau ble mae adrannau wedi rheoli teithiau yn well ac wedi sicrhau
cost y filltir o 35c drwy geir pwl. Tynnwyd sylw at y tabl yn yr adroddiad sydd
yn nodi targedau’r adrannau. Esboniwyd fod rhai swyddi yn cael ei eithrio megis
Gofalwyr Cartref a bod y rhain wedi cael ystyriaeth yn yr hafaliad. Mynegwyd
felly y bydd yr arbediad oddeutu £120,000 sydd yn llawer yn is nac y ffigwr a
welwyd yn yr adroddiad yn 2014. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Nodwyd ei
bod yn bwysig fod rhai swyddi yn cael eu heithrio fel gofalwyr cartref gan mai
rhain yw asgwrn cefn y Cyngor ac yn swyddi 'na fyddai modd eu gwneud drwy
ddulliau dechnegol. ¾ Diolchwyd am yr adroddiad a derbyniwyd fod
yr arbediad yn llawer is na’rswm gwreiddiol. Holwyd
pam fod y Cyngor wedi defnyddio ymgynghorwyr allanol. Nodwyd fod profiadau yn
gymysg gydag ymgynghorwyr allanol gan eu bod weithiau yn dod o ogwydd ariannol
ac o ganlyniad yn fwy mathemategol sydd ddim yn realiti yng Ngwynedd oherwydd ei
daearyddiaeth. Ychwanegwyd mewn achosion eraill fodd ymgynghorwyr allanol wedi
gwneud i’r Cyngor feddwl mewn ffordd wahanol ac yn rhoi syniadau newydd. Roedd
angen ystyried y balans rhwng y budd tebygol a’r gost
wrth ystyried comisiynu ymgynghorwyr gan ei fod weithiau yn gallu dod a
manteision i ni ddefnyddio rhywun o’r tu allan ond ddim bob tro. ¾ Mynegwyd fod y Cyngor wedi cynllunio’r arbedion yma ond bellach ddim am gyflawni, felly gofynnwyd a fydd angen cynllunio ar gyfer hyn. Nodwyd y bydd lleihau gwerth yr arbediad yma yn ychwanegu at fwlch ariannu’r Cyngor erbyn 2020/21, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|
FFRAWMAITH DATBYGLU CENEDLAETHOL:YMGYNGHORIAD PDF 451 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd i: ¾ Gymeradwyo’r
ymateb drafft i ymgynghoriad Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ¾ Roi’r hawl i’r
Pennaeth Cynorthwyol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i ymgymryd ag unrhyw
newidiadau sydd yn deillio o drafodaethau’r Cabinet gan gynnwys newidiadau
golygyddol a gweinyddol ¾ Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol
mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i lunio blaen-lythyr i amlygu prif
bwyntiau’r Cabinet a’i gyflwyno gyda’r ymateb erbyn 15 Tachwedd 2019. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNIAD Penderfynwyd i: ¾ Gymeradwyo’r
ymateb drafft i ymgynghoriad Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ¾ Roi’r hawl i’r
Pennaeth Cynorthwyol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i ymgymryd ag unrhyw
newidiadau sydd yn deillio o drafodaethau’r Cabinet gan gynnwys newidiadau
golygyddol a gweinyddol ¾ Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol
mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i lunio blaen-lythyr i amlygu prif
bwyntiau’r Cabinet a’i gyflwyno gyda’r ymateb erbyn 15 Tachwedd 2019. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod trafodaeth wedi ei gynnal yn dilyn cael copi drafft
cyntaf y Fframwaith gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegwyd fod trafodaethau wedi eu
cynnal gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn ogystal â bod eu hymateb i’r Fframwaith i
raddau'r un peth a Chyngor Gwynedd. Pwysleisiwyd
pwysigrwydd y fframwaith gan ei fod yn delio o gyfnod o 20 mlynedd ac felly fod
angen rhoi llawer o sylw iddo. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Nodwyd fod y ddogfen yn dangos
twf economaidd yn ardal Wrecsam a Glannau Dyfrdwy ond yn dangos diffyg
dealltwriaeth o ardaloedd gwledig a datganwyd siomedigaeth yn y fframwaith a
nodwyd fod angen ymateb cryf iddo. ¾
Tynnwyd sylw at y ffordd mae’r
iaith yn cael ei bortreadu. Mynegwyd ei bod yn warthus fod cyn lleied o
ddealltwriaeth o iaith gan Lywodraeth Cymru ac yr ymdeimlad yn y Fframwaith yw
nad yw’r Gymraeg yn iaith fyw. ¾
Esboniwyd pan ddarllenwyd y
Fframwaith ei bod yn swnio fel jôc gan fod anghysondebau o ran rhanbarthau yng
Nghymru ac mai hwn fydd gweledigaeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf. Tynnwyd sylw
at fap yn y Fframwaith gan nodi’r amryw o brosiectau a chysylltiadau
rhanbarthol wedi eu gadael allan ohono gan nodi fod angen i’r Llywodraeth ail
gychwyn y gwaith o greu’r Fframwaith. ¾
Mynegwyd fod y Fframwaith wedi ei
greu i edrych ar ranbarthau ac nid ar y wlad. Ychwanegwyd nad oes sôn am sut i
greu gwlad nac ychwaith sut i sicrhau fod pob rhanbarth yn cysylltu. Tynnwyd
sylw yn ogystal fod Prif Ysgol Leeds wedi cynorthwyo
i greu’r Fframwaith gan holi’r cwestiwn pam fod angen mynd allan o Gymru pan
mae Prif Ysgolion ar gael yma. ¾
Holwyd beth yw’r ymatebion gan
siroedd eraill, a nodwyd fod yr ymateb yn debyg ar draws y wlad. ¾
Nodwyd tristwch am ddiffyg
gweledigaeth ac uchelgais Llywodraeth Cymru a bod y Fframwaith yn dal y wlad yn
ôl i gyflawni ei botensial. Ychwanegwyd nad oes son
am economi gwledig o ran newid amaeth, ynni a thwristiaeth a bod angen ei ail
lunio gyda gweledigaeth ac uchelgais glir Awdur: Gareth Jones |