Lleoliad: Rhith-gyfarfod (Ar hyn o bryd nid oes modd i’r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad, |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS COFNODION: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU COFNODION: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|
COFNODION Y CYFARFOD GYNHALIWYD AR 10 MAWRTH 2020 PDF 83 KB COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2020 fel rhai cywir. |
|
CAIS AM ADNODDAU I'R ADRAN ADDYSG PDF 86 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Penderfyniad: Penderfynwyd ymrwymo £180,000 o gyllid un tro o gronfa
trawsffurfio’r Cyngor hyd at diwedd Mawrth 2022 ar gyfer galluogi’r Adran
Addysg i gael adnodd ychwanegol ar delerau secondiad am gyfnod o ddwy flynedd er
mwyn targedu, cefnogi a chynnig her briodol ac amserol i’r ysgolion uwchradd
gan wireddu un o’r ymrwymiadau yng Nghynllun y Cyngor er mwyn gwella’r
deilliannau i blant a phobl ifanc. COFNODION: Cyflwynwyd gan
Cyng. Cemlyn Williams PENDERFYNIAD Penderfynwyd ymrwymo £180,000 o gyllid un
tro o gronfa trawsffurfio’r Cyngor hyd at ddiwedd Mawrth 2022 ar gyfer
galluogi’r Adran Addysg i gael adnodd ychwanegol ar delerau secondiad am gyfnod
o ddwy flynedd er mwyn targedu, cefnogi a chynnig her briodol ac amserol i’r
ysgolion uwchradd gan wireddu un o’r ymrwymiadau yng Nghynllun y Cyngor er mwyn
gwella’r deilliannau i blant a phobl ifanc. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cais
yn gofyn am arian ar gyfer swydd secondiad am gyfnod o ddwy flynedd.
Ychwanegwyd fod dwy ran i’r swydd y cyntaf i roi cefnogaeth i ysgolion uwchradd
y sir i ymateb i’r problemau sydd yn codi o fewn y maes uwchradd ac yn ail i
ryddhau adnoddau i’r gwasanaeth Ysgolion Unfed Ganrif ar Hugain - Moderneiddio
Addysg. Nododd y Pennaeth yr Adran Addysg fod yr
adran wedi cydnabod fod rhai sefyllfaoedd yn y maes Uwchradd ble mae angen
cymorth a chefnogaeth ychwanegol er mwyn gwella deilliannau ysgolion. Mynegwyd fod y cynllun hwn yn gysylltiedig â
un o flaenoriaethau strategol y Cyngor sef i ddatblygu arweinyddiaeth.
Ychwanegwyd fod heriau i’w gweld yn yr
Uwchradd, yn benodol ym Meirionydd, gyda diffyg niferoedd yn ymgeisio am swyddi
arweinyddiaeth o fewn ysgolion. Ategwyd o ganlyniad i hyn mae trafodaethau i
ail edrych ar recriwtio yn cael ei gynnal gyda’r holl benaethiaid. Mynegwyd fod
diffyg adnoddau yn y maes Moderneiddio Addysg
ar hyn o bryd a bydd yr arian yn sicrhau'r adnodd yma. Yn ychwanegol at
hyn, nodwyd y bydd yr adnodd ar gael i gynorthwyo gyda heriau newydd o sicrhau
fod plant, ac yn benodol plant bregus, yn parhau mewn addysg yn ystod y cyfnod
argyfwng hwn. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Holwyd am y sefyllfa o ran y Gronfa Trawsffurfio, nodwyd fod y sefyllfa yn iach ac ar gael ar hyn o bryd ond ei fod yn ddibynnol ar faint fydd yr angen yn dilyn argyfwng Covid-19. Awdur: Garem Jackson |
|
DIWEDDARIAD AR YR YMATEB I BANDEMIG COVID-19 Adroddiad
llafar Penderfyniad: Nodi’r
wybodaeth a diolch i staff am eu gwaith yn ystod y cyfnod argyfwng. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams PENDERFYNIAD Nodi’r wybodaeth a diolch i
staff am eu gwaith yn ystod y cyfnod argyfwng. TRAFODAETH Bu i’r Prif
Weithredwr nodi y bydd yn rhoi diweddariad a fydd yn amlinellu beth mae’r
Cyngor yn ei wneud i ymateb i’r argyfwng
Covid-19. Mynegwyd y bydd aelodau etholedig yn derbyn nodyn diweddariad cyn
diwedd yr wythnos. Rhoddwyd cliplun o’r sefyllfa staffio gan
nodi fod 137 yn y categori gwarchodaeth y Llywodraeth, 175 o staff yn sâl gyda
46 o’r rheini o ganlyniad i symptomau covid-19. Ychwanegwyd fod dros 1800 o
staff bellach yn gweithio o’u cartrefi ac mai dim ond 132 o aelod o staff sydd
bellach yn gweithio o swyddfa. Mynegwyd, ar hyn o bryd, fod y maes gofal yn
dygymod yn eithaf ond fod achosion wedi codi mewn tri chartref henoed, ond fod
y sefyllfaoedd bellach yn cael eu rheoli. Mynegwyd fod ystadegau yn dangos Gwynedd yn
lled llwyddiannus a bod yr achosion ar waelod yr amrediad a amlygwyd yn y
senarios posib. Ychwanegwyd unwaith y bydd y rheoliadau yn cael ei lleihau ac y
bydd angen cynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf. Nodwyd fod llawer o sôn am
gyfarpar diogelwch PPE ond pwysleisiwyd y lefel cyfarpar yng Ngwynedd yn iawn
ond fod nifer y masgiad yn peri pryder. Mynegwyd fod cyflenwadau gan y
Llywodraeth a nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud i weld lefel y costau ychwanegol
a fydd yn wynebu’r sector breifat. Pwysleisiwyd fod cyfundrefn gwirfoddolwyr yn
gweithio yn dda, gyda byddin o bobl Gwynedd yn barod i gynorthwyo. Mynegwyd fod
addysg yn parhau i warchod plant gweithwyr allweddol a bregus. Pwysleisiwyd fod
y gwasanaeth biniau wedi parhau drwy’r cyfnod ond y bydd Canolfannau Ailgylchu
yn parhau ar gau ar hyn o bryd. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Diolchwyd i’r Prif Weithredwr a Prif swyddogion am yrru'r gwaith drwy’r cyfnod.
Ychwanegwyd fod yr aelodau Cabinet wedi bod yn cyfarfod yn anffurfiol yn gyson. ¾ Nododd yr Aelod Cabinet dros Gyllid ddiolch i staff yr adran am eu
gwaith yn ystod y cyfnod yn benodol i staff Technoleg Gwybodaeth i sicrhau fod
modd i staff weithio o’u cartrefi. Pwysleisiwyd yn ogystal na fydd unrhyw dreth
cyngor yn cael ei adennill hyd ddiwedd Mehefin a mynegwyd fod gwaith yn cael ei
wneud er mwyn mesur effaith y cyfnod yn ariannol ar y Cyngor. ¾ Pwysleisiwyd fod y cyfnod hwn yn un argyfyngus ble mae taro pawb yn
wahanol i’r argyfyngau sydd wedi taro'r sir o’r blaen, ble mae cymunedau
penodol wedi eu taro. Mynegwyd o ran y maes Oedolion fod y staff yn gweithio yn
galed a diolchwyd am eu gwaith o dan yr amodau heriol. ¾ Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol i’r staff am
fod yn barod i weithio ac i sicrhau gwasanaeth i drigolion Gwynedd. Mynegwyd
fod tipio wedi bod yn codi pryder ond fod lefel yr achosion sydd wedi bod ddim
llawer yn uwch nac arferol. ¾ Nodwyd fod yr unigolion sydd yn ddigartref bellach wedi eu ... view the full COFNODION text for item 7. Awdur: Dilwyn Williams |