Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Craig ab Iago a Dilwyn Morgan. Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion
i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganwyd bod
gan aelodau’r Cabinet fuddiant gydag Eitem
5 gan fod y Cabinet yn ymddiriedolwyr Amgueddfa Lloyd George.
Cadarnhawyd
nad oedd y buddiant hwn yn un sy’n rhagfarnu. Derbyniwyd datganiad o
fuddiant personol gan y Cynghorydd Dafydd Meurig gyda Eitem 5 oherwydd ei fod
yn Gadeirydd ar fwrdd un o’r ymgeiswyr. Nodwyd bod y buddiant hwn yn un oedd yn
rhagfarnu ac bu i’r Cynghorydd adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. Derbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Ioan Thomas gydag Eitem 5 gan
fod cysylltiad teuluol iddo yn Brif Weithredwr un o’r ymgeiswyr. Nodwyd bod y
buddiant hwn yn un sy’n rhagfarnu a bu i’r Cynghorydd adael y cyfarfod ar gyfer
y drafodaeth. Derbyniwyd datganiad o
fuddiant personol gan Sion Huws (Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau (Dirprwy
Swyddog Monitro)) oherwydd cysylltiad teuluol gyda un o’r ymgeiswyr. Nodwyd bod
y buddiant hwn yn un sy’n rhagfarnu ac bu i’r swyddog adael y cyfarfod
ar gyfer y drafodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd bydd y Cyngor yn
ariannu’r gost o ddarparu cynllun ‘Darpariaeth Prydau Ysgol am ddim yn ystod y Gwyliau’
i deuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dros wyliau’r Haf 2023. Pwysleisiwyd bod y penderfyniad
hwn yn berthnasol i’r gwyliau hwn yn unig yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru
mewn llythyr dyddiedig 28 Mehefin 2023 ble ddywedwyd nad oeddent yn ymestyn y
cynllun gros gyfnod gwyliau Haf 2023. Cytunwyd i lunio llythyr i
Lywodraeth Cyrmu er mwyn mynegi siomedigaeth y Cabinet nad oedd y cynllun yn
cael ei gynnal dros yr Haf ac gan bod y cadarnhad nad oedd hynny’n digwydd wedi
cyrraedd yn agos iawn i wyliau’r Haf. Eglurwyd byddai’r llythyr yn cynnwys
rhesymau’r Cabinet i ariannu’r cynllun dros yr Haf. Cofnod: TALIADAU I DEULUOEDD SY’N GYMWYS AM BRYDAU
YSGOL AM DDIM DROS WYLIAU’R HAF 2023 Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown PENDERFYNWYD Penderfynwyd
bydd y Cyngor yn ariannu’r gost o ddarparu cynllun ‘Darpariaeth Prydau Ysgol am
ddim yn ystod y Gwyliau’ i deuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dros
wyliau’r Haf 2023. Pwysleisiwyd
bod y penderfyniad hwn yn berthnasol i’r gwyliau hwn yn unig yn dilyn
cyhoeddiad Llywodraeth Cymru mewn llythyr dyddiedig 28 Mehefin 2023 ble
ddywedwyd nad oeddent yn ymestyn y cynllun dros gyfnod gwyliau Haf 2023. Cytunwyd i
lunio llythyr i Lywodraeth Cymru er mwyn mynegi siomedigaeth y Cabinet nad oedd
y cynllun yn cael ei gynnal dros yr Haf ac gan bod y cadarnhad nad oedd hynny’n
digwydd wedi cyrraedd yn agos iawn i wyliau’r Haf. Eglurwyd byddai’r llythyr yn
cynnwys rhesymau’r Cabinet i ariannu’r cynllun dros yr Haf TRAFODAETH Mynegwyd siomiant bod Llywodraeth Cymru wedi
cyhoeddi’r toriad ariannol hwn yn agos iawn at wyliau’r haf, yn enwedig yn sgil
argyfwng costau byw diweddar. Cadarnhawyd bod cost tebygol ariannu’r cynllun hwn
dros wyliau’r Haf 2023 oddeutu £316,000. Eglurwyd bod y ffigwr hwn wedi cael ei
amcangyfrif ar gost o £117 y disgybl (cyfanswm o £3.90 y diwrnod am gyfnod o 30
diwrnod dros wyliau’r haf). Manylwyd bod oddeutu 2700 o ddisgyblion wedi bod yn
hawlio prydau ysgol am ddim. Eglurwyd mai arian un tro yw’r cynnig hwn a byddai angen gwneud bid parhaol
er mwyn galluogi ariannu cynllun o’r fath yn y dyfodol. Manylwyd na fydd
ariannu’r cynllun hwn yn amharu ar gyllidebau parhaol a hir dymor y Cyngor
oherwydd ei fod yn daliad un tro ariannir o gyllideb wrth gefn. Cadarnhawyd na
fyddai caniatáu’r taliad hwn yn creu trafferthion ariannol i’r Cyngor. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DG: YMRWYMIADAU O DDYRANIAD GWYNEDD PDF 137 KB Mae Atodiadau 1 a 2
ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet yn unig. Mae’r ddau atodiad yn eithriedig
o dan paragraff 14 o Atodiad
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn
â thrafodion Ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol (yn cynnwys
yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig
mewn bod yn agored ynglŷn â
defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er
gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth
o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r
atodiadau i’r adroddiad yn benodol ynglŷn
a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai
cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i
fuddiannau’r yr ymgeiswyr ac yn tanseilio hyder rhai eraill i rannu gwybodaeth
sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn
yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am
y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Cytunwyd
i ymrwymo cyfanswm o £21,352,966 o ddyraniad Gwynedd o Gronfa Ffyniant
Gyffredin y DG i’r Cynlluniau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn unol â’r
symiau a nodwyd. 2. Awdurdodwyd
Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth
Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr, i awdurdodi rhyddhau
llythyrau cynnig i’r cynlluniau yn ddarostyngedig i gwblhau gwiriadau terfynol
a derbyn sêl bendith Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd i unrhyw amodau
arbennig. 3. Cytunwyd
i sefydlu pedair Cronfa Galluogi (gyda cyfanswm cyllideb o £6,131,000) i
ddosbarthu symiau llai o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a
chymunedau’r Sir gan awdurdodi gweithredu tair cronfa dan reolaeth Cyngor
Gwynedd. 4. Gofynwyd i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gynnal ymchwiliad i’r maes gwaith gefnogi mentra cymunedol / cymdeithasol er cynyddu dealltweiaeth y Cyngor a sicrhau fod ymdrechion sefydliadau yn cydweddu ac yn ategu eu gilydd Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn. PENDERFYNIAD 1.
Cytunwyd i ymrwymo cyfanswm o £21,352,966 o ddyraniad Gwynedd
o Gronfa Ffyniant Cyffredin y DG i’r Cynlluniau a restrir yn Atodiad 1 yr
adroddiad yn unol â’r symiau a nodwyd. 2.
Awdurdodwyd Pennaeth Economi a Chymuned, mewn
ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif
Weithredwr, i ryddhau llythyrau cynnig i’r cynlluniau yn ddarostyngedig i
gwblhau gwiriadau terfynol a derbyn sêl bendith Panel Cronfa Ffyniant
Cyffredin: Gwynedd i unrhyw amodau arbennig. 3.
Cytunwyd i sefydlu pedair Cronfa
Galluogi (gyda cyfanswm cyllideb o £6,131,000) i ddosbarthu symiau llai o arian
Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a chymunedau’r Sir gan awdurdodi gweithredu
tair cronfa dan reolaeth Cyngor Gwynedd. 4.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gynnal
ymchwiliad i’r maes gwaith cefnogi mentra cymunedol / cymdeithasol er cynyddu
dealltwriaeth y Cyngor a sicrhau fod ymdrechion sefydliadau yn cydweddu ac yn
ategu ei gilydd. TRAFODAETH Eglurwyd bod penderfyniad
y Cabinet yng nghyfarfod 24 Ionawr 2023 wedi sefydlu gweithdrefn ar gyfer
gweinyddu Cronfa Ffyniant Cyffredin yng Ngwynedd. Esboniwyd bod Panel Cronfa
Ffyniant Cyffredin: Gwynedd wedi’i sefydlu yn dilyn y penderfyniad hwn, i
gadarnhau pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian, yn dilyn cyfnod
o dderbyn ceisiadau. Adroddwyd bod y
gronfa werth £24.4miliwn ac y dylid ei ddyrannu erbyn diwedd mis Mawrth 2025.
Nodwyd bod Panel Cronfa Ffyniant Cyffredin: Gwynedd wedi derbyn 144 o geisiadau
(cyfwerth â £52 miliwn). Cadarnhawyd bod 38 o’r ceisiadau hynny wedi bod yn
llwyddiannus, a bod cronfeydd ychwanegol wedi eu sefydlu er mwyn cefnogi
mentrau llai. Diolchwyd i
swyddogion am asesu ceisiadau’r gronfa ffyniant yn effeithiol a thryloyw. Cadarnhawyd bod
trawstoriad o brosiectau wedi derbyn cefnogaeth y gronfa, gyda nifer o fathau
gwahanol o gynlluniau a lleoliadau wedi cael eu cynnwys ar derfyn y cyfnod
ceisiadau agored. Manylwyd y bwriedir agor cronfeydd am symiau bychan o arian
gan ddefnyddio’r gronfa hon er mwyn sicrhau bod yr arian yn cyrraedd pob ardal
o fewn Gwynedd. Mynegwyd siomiant bod y cyfnod amser i wario arian y gronfa wedi cael ei
leihau yn sgil cadarnhad hwyr o drefniadau Llywodraeth Prydain.
Awdur: Dylan Griffiths (Rheolwr Gwasanaeth Datblygu'r Economi)) and Siwan Lisa Evans (Rheolwr Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd)) |
|
PENNAETH CYNORTHWYOL TRAFNIDIAETH PDF 711 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd fod y Cyngor yn
rhyddhau £265,000 o’r gronfa trawsffurfio i gyllido swydd Pennaeth Cynorthwyol
Trafnidiaeth am gyfnod o 3 blynedd i gychwyn. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.
PENDERFYNIAD Penderfynwyd fod y Cyngor yn rhyddhau £265,000 o’r gronfa
trawsffurfio i gyllido swydd Pennaeth Cynorthwyol Trafnidiaeth am gyfnod o 3
blynedd i gychwyn. TRAFODAETH Eglurwyd byddai cyflogi Pennaeth Cynorthwyol
Trafnidiaeth yn galluogi’r Adran Amgylchedd i gyflawni mwy o fewn y maes.
Nodwyd bod y swydd wedi cael ei diddymu yn 2019 yn dilyn adolygiad rheolaethol,
gyda’r nod o geisio ymdopi heb lenwi’r swydd. Adroddwyd bod pwysau cynyddol yn y maes trafnidiaeth
yn dilyn y pandemig, yn ogystal â phrosiectau newydd, wedi arwain i’r dyhead
hwn i ail-benodi swyddog i’r rôl. Mae’r materion hyn yn cynnwys: ·
Coridor Gwyrdd Ardudwy ·
Teithio Llesol ·
Cludiant cyhoeddus a’r
Cynllun argyfwng bysiau ·
Adolygiad trafnidiaeth
cyhoeddus ·
Cynllun 20mya ·
Meysydd parcio a
gorfodaeth parcio ·
Materion yn codi o
adroddiad Comisiwn Trafnidiaeth Cymru ·
Rhwydwaith gwefru
cerbydau trydan ·
Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd a’r cynllun trafnidiaeth ranbarthol Cydnabuwyd bod capasiti’r
Adran i ymdrin a phwysau cynyddol wedi bod yn brin ar adegau. Teimlwyd bod
penodi swyddog i’r rôl er mwyn cyfarch y materion hyn oll yn angenrheidiol. Awdur: Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr) |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig
mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau
ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei
gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes
ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol
sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor. Byddai
hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.
Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel
y’u diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 –
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd
adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag
fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen
trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol
ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig.
Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn
niweidiol i fuddiannau’r Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
CANOLFAN IECHYD A LLES BANGOR (Dogfennau I
Aelodau’r Cabinet yn unig) Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Cefnogwyd
y cyfeiriad ynglŷn a sefydlu Canolfan Iechyd a Lles Bangor ac awdurdodi
Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad gyda Phennaeth Gwasanaeth
Cyfreithiol a Pennaeth Cyllid i barhau gyda’r trafodaethau ac adnodd ymhellach
i’r Cabinet yn unol a’r rhaglen amlinellol. 2. Awdurdodwyd
i’r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad gyda Phennaeth Gwasanaeth
Cyfreithiol i gwblhau Cytundeb Opsiwn ar gyfer rhannau o’r Ganolfan Menai,
Bangor yn unol â thelerau i’w pennu gan Reolwr Stadau’r Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn PENDERFYNIAD 1.
Cefnogwyd y cyfeiriad ynglŷn â sefydlu Canolfan
Iechyd a Lles Bangor ac awdurdodi Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad
gyda Phennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i barhau gyda’r
trafodaethau ac adrodd ymhellach i’r Cabinet yn unol â’r rhaglen amlinellol. 2.
Awdurdodi y Pennaeth Economi a Chymuned
mewn ymgynghoriad gyda Phennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol i gwblhau Cytundeb
Opsiwn ar gyfer rhannau o Ganolfan Menai, Bangor yn unol â thelerau i’w pennu
gan Reolwr Stadau’r Cyngor. TRAFODAETH Trafodwyd yr
adroddiad. Awdur: Llŷr Beaumont Jones (Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned) and Lowri Roberts (Rheolwr Stadau, Adran Tai ac Eiddo) |