Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Richardson
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau To receive
apologies for absence Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Ioan Thomas a Dyfed Edwards, a Dilwyn Williams (Prif Weithredwr). |
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Peredur Jenkins fuddiant personol yn eitem 7 ar y
rhaglen (Ysgol Machreth, Dalgylch Ysgol y Gader), oherwydd bod ei Ferch yn
Bennaeth Ysgol Gynradd Rhydymain/Brithdir. Roedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant oedd
yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Datganodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn fuddiant personol yn eitem 7 ar y
rhaglen (Ysgol Machreth, Dalgylch Ysgol y Gader), oherwydd perthynas deuluol
gyda’r Cyng. Peredur Jenkins. Roedd yr aelodau o’r farn nad oedd yn fuddiant
oedd yn rhagfarnu ac fe gymerodd ran yn y drafodaeth ar yr eitem. |
|||||||||||||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|||||||||||||
Materion yn codi o Bwyllgorau Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu. |
|||||||||||||
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 2il o Fehefin 2015 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet
a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2015. |
|||||||||||||
Cymeradwyo Cynllun Strategol 2015/17 Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn. Eiliwyd gan y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNIAD Argymell i’r Cyngor Llawn eu bod yn mabwysiadu Cynllun
Strategol 2015-17 fel ag y’i cyflwynwyd i’r cyfarfod, ond gyda man ddiwygiadau,
gan gynnwys y canlynol i’r adran ‘Tlodi, Amddifadedd, Economi, Tai’ – ·
Yn y cyflwyniad i’r adran hon, ychwanegu
cyfeiriad at y rôl y Cyngor fel Partner ar Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, a’r
angen i gymryd cyfleoedd sy’n codi ar lefel rhanbarthol. ·
T2 – ychwanegu cyfeiriad at bwysigrwydd
cadwyni cyflenwi lleol. ·
Ychwanegu pennawd – Gwella mynediad pobl
y Sir i waith ac ymateb i rwystrau. |
|||||||||||||
Ysgol Machreth, dalgylch Ysgol y Gader Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas. Eiliwyd gan y Cyng. Dyfed Edwards. PENDERFYNIAD 1. Tynnu’r
rhybudd statudol ynglŷn ag Ysgol Machreth yn ôl. 2. Cymeradwyo
cychwyn proses amgen ar sail cynnig i gau yr ysgol yn fuan yn 2016 – Opsiwn 3
yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod. 3. Wrth
ddilyn y prosesau statudol, cynnig lle i ddisgyblion Ysgol Machreth yn Ysgol
Ieuan Gwynedd, Rhydymain yn ystod y cyfnod trosiannol cyn sefydlu’r Ysgol
Ddilynol Ddalgylchol ar 1 Medi 2017. |
|||||||||||||
Cynllun Rheoli Carbon Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. John Wynn Jones. Eiliwyd gan y Cyng. PENDERFYNIAD 1.
Mabwysiadu Ail Gynllun Rheoli Carbon ar
gyfer y cyfnod 2015/16 – 2020/21, gan osod targed o leihad carbon o 40% yn
erbyn y waelodlin erbyn diwedd oes y Cynllun. 2.
Ariannu cyfanswm gwariant y Cynllun
(£3.259m) drwy gyfuniad o ffynonellau ariannol –
|
|||||||||||||
Adolygiad o Gronfeydd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas. Eiliwyd gan y Cyng. Mair Rowlands. PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo Polisi’r Cyngor ar Gronfeydd fel a ganlyn – 1.1 Mae’r Cyngor yn dal nifer o gronfeydd fel rhan o’i
strategaeth i reoli adnoddau yn ddarbodus. Defnyddir y cronfeydd yma i bwrpasau
penodol er lles cymunedau Gwynedd. Mae’r defnydd o gronfeydd yn cefnogi
cyflawni gwasanaethau a gwelliannau yn y sir, fel amlinellir yn y cynllun
strategol corfforaethol. 1.2 Cedwir cronfeydd penodol (neu reserfau wedi’u clustnodi) naill ai dan rym wedi’i
ddirprwyo i brif swyddogion, neu gan y Cabinet. 1.3 Er mwyn diffinio “cronfeydd”,
rhaid nodi’r driniaeth o “darpariaethau”. Mae darpariaethau wedi’u nodi yn y
cyfrifon ar gyfer setlo amcangyfrif o ymrwymiadau sy’n codi o ddigwyddiadau yn
y gorffennol. 1.4 Mae cronfeydd yn symiau sydd
wedi’u neilltuo ar gyfer pwrpasau penodol, neu yn arian wedi’i adeiladu i gwrdd
ag ymrwymiadau a ragwelir. 1.5 Ar gyfer pob cronfa a sefydlir,
bydd y pwrpas / defnydd (rheswm dros ei greu / sut gellid ei ddefnyddio) wedi’i
ddiffinio, a bydd rheolaeth dros drafodion (pa brif swyddog sydd â’r grym dirprwyedig i’w wario) wedi’i adnabod. 1.6 Dim ond yn lleol gellid
cyrraedd barn ystyrlon, a chymerir penderfyniadau gan aelodau etholedig wedi
iddynt ystyried gwybodaeth a chyngor a ddarperir gan y Prif Swyddog Cyllid. 1.7 Defnyddir cronfeydd adrannau
unigol neu gronfeydd corfforaethol er mwyn llyfnhau pwysedd dros flynyddoedd
(e.e. y gronfa argyfwng tywydd garw yn y maes gwasanaeth Priffyrdd). 1.8 Mewn cyfnod o galedi parhaus,
bydd mwy o ofyn i feysydd gwasanaeth newid ac addasu i fod yn effeithiol. Mae
cynlluniau effeithiolrwydd yn cynnwys newidiadau gyda chostau un-tro, ac mae
polisi cronfeydd y Cyngor yn adnabod hynny, gyda’r Adrannau yn dal cronfeydd
i’w defnyddio yn unol ag egwyddorion cyffredinol wedi’u cytuno gan y Prif
Swyddog Cyllid a’r Cabinet. 1.9 Sefydlir cronfeydd adrannol o adnoddau
tanwariant o fewn blwyddyn, a bydd yr Aelod Cabinet perthnasol yn goruchwylio’r
defnydd o gronfeydd ar brosiectau penodol. Lle ni ellir cwrdd â phwysau ar
wasanaethau o fewn blwyddyn, yna gellid defnyddio cronfeydd adrannol er mwyn
wynebu’r pwysedd net. 1.10 Sefydlir / defnyddir cronfeydd corfforaethol gan y Prif Swyddog
Cyllid a’r Cabinet, ar sail angen a gofynion wedi’u cynllunio / rhagweld. 1.11 Gellid ariannu gwariant anorfod anrhagweledig / argyfwng o’r balansau cyffredinol, dim ond gyda chymeradwyaeth y
Cabinet. 1.12 Mae gan y Prif Swyddog Cyllid gyfrifoldeb personol statudol (dan
Adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003) i sicrhau stiwardiaeth briodol o
gronfeydd, felly bydd yn cynnal adolygiad parhaus o’i digonolrwydd a’i defnydd.
Bydd yr adroddiad cyllideb blynyddol i’r Cyngor yn cynnwys barn y Prif Swyddog
Cyllid ar gronfeydd, yng nghyd-destun y strategaeth ariannol tymor canol.
Hefyd, adroddir i’r Cabinet er cymeradwyaeth o addasiadau sylweddol i
gronfeydd. 1.13 Bydd archwilwyr allanol yn adolygu trefniadau i sicrhau fod statws ariannol y Cyngor yn gadarn, a bydd hyn yn cynnwys adrodd ar y lefel o reserfau, yng nghyd-destun eu gwybodaeth o berfformiad ariannol yr awdurdod. Er hynny, nid cyfrifoldeb yr archwilwyr yw pennu lefel gorau neu isafswm y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|||||||||||||
Blaenraglen Cabinet Cyngor Gwynedd Chwarter 2 2015/16 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn. Eiliwyd gan y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Flaenraglen a gyflwynwyd i’r cyfarfod. |