Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a
chraffu. |
|
CAIS AM ADNODD TRAWSNEWID GWASANAETH I'R GWASANAETH PLANT A CEFNOGI TEULUOEDD PDF 77 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Neilltuo
£34,382 o Gronfa Cynllun y Cyngor i ariannu swydd swyddog trawsnewid am gyfnod
penodol o flwyddyn yn yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd i gynnal adolygiad
penodol er mwyn sicrhau fod gwasanaethau’r Adran yn gweithredu yn y modd mwyaf
effeithlon posib. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan PENDERFYNIAD Neilltuo £34,382 o Gronfa Cynllun
y Cyngor i ariannu swydd swyddog trawsnewid am gyfnod penodol o flwyddyn yn yr
Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd i gynnal adolygiad penodol er mwyn sicrhau fod
gwasanaethau’r Adran yn gweithredu yn y modd mwyaf effeithlon posib. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd yn adran
uchelgeisiol. Mynegwyd eu bod yn awyddus i gynnal adolygiad o waith yr adran er
mwyn sicrhau eu bod yn gweithio yn effeithlon. Ychwanegwyd fod derbyn yr adnodd
am sicrhau tystiolaeth er mwyn herio, nid yn unig, prosesau’r adran ond
prosesau partneriaid rhanbarthol a chenedlaethol yn ogystal. Mynegwyd fod
adnabod cyfleoedd cydweithio ar draws y Cyngor a phartneriaid yn rhan allweddol
o’r gwaith, a'i fod yn cyd-fynd a’r weledigaeth ehangach fel datblygu
Strategaeth Cefnogi Teuluoedd. Ategwyd y bydd manteision ariannol i’r adran yn
dilyn yr adolygiad ond pwysleisiwyd nad hyn yw prif amcan yr adran, ond yn
hytrach i sicrhau fod yr adran yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithlon posib. Ychwanegodd
Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd fod trafodaethau wedi eu cynnal er
mwyn i’r adran symud tuag at weithio yn fwy effeithlon, gan nodi yn hanesyddol
nad yw’r gwasanaeth wedi gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i wireddu effeithlonrwydd. Ategwyd mai rhan
allweddol o’r gwaith fydd i newid diwylliant ac i atgyfnerthu meddylfryd Ffordd
Gwynedd, a drwy hyn cynnig y gwasanaeth gorau i drigolion Gwynedd. Mynegwyd fod
yr adran wedi derbyn archwiliad Cenedlaethol llawn o’i gwasanaethau'r llynedd
ac felly mae’r adran yn ymwybodol eu bod yn eu prosesau yn gadarn ac
effeithiol. Mynegwyd fod y cais ar gyfer Swyddog Rhan Amser 3 diwrnod yr
wythnos, am gyfnod penodol a fydd nid yn unig yn gwneud yr adolygiad ond yn
adnodd i wireddu’r argymhellion. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth -
Mynegwyd
y byddai cael rhywun a’r secondiad i’r swydd yn syniad da gan fod y staff yn
deall meddylfryd Ffordd Gwynedd. Ychwanegwyd fod secondiad yn ogystal yn cynnig
cyfle i swyddogion ddatblygu eu sgiliau yn ogystal. -
Trafodwyd
adolygu prosesau gan nodi ei fod yn bwysig os yn dod o hyd i heriau tu hwnt i
brosesau’r Cyngor ei bod yn bwysig fod yr adran yn eu herio. -
Nodwydd
y bydd yr ymarfer yn un gwerthfawr a fydd ac oblygiadau tu hwnt i’r Cyngor yn y
maes Plant. Awdur: Marian Parry Hughes |
|
CYNLLUN PRENTISIAETHAU - BID I'R GRONFA CYNLLUN Y CYNGOR PDF 114 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Cymeradwyo
sefydlu cynllun prentisiaethau. b)
Ymrwymo
£300,000 o’r Gronfa Cynllun y Cyngor er mwyn sefydlu cynllun prentisiaethau i
gyflogi o leiaf 20 prentis newydd yn 2019. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD a)
Cymeradwyo sefydlu cynllun prentisiaethau. b)
Ymrwymo £300,000 o’r Gronfa Cynllun y Cyngor er
mwyn sefydlu cynllun prentisiaethau i gyflogi o leiaf 20 prentis newydd yn
2019. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
cynllun yn un syml ond arloesol a blaengar. Diolchwyd i staff am eu gwaith
caled yn datblygu’r cynllun. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet ar y weledigaeth
wleidyddol sydd tu ôl i’r cynllun.
Mynegwyd fod modd i adrannau fod yn rhan o’r
cynllun, a bydd angen i benaethiaid gysylltu er mwyn gweld beth yw cyfloed yn
eu gwasanaethau. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Mynegwyd
fod yr eitem yn amserol wrth feddwl am Wylfa. Mynegwyd y bydd cael
prentisiaethau o fewn yn sicr yn rhoi cyfle i bobl ifanc i aros yn yr ardal ac
i ddefnyddio’r Gymraeg. -
Nodwyd
fod angen cofio fod arian ar gael i gynlluniau arloesol er yr holl son am arbedion.
Amlygwyd pwysigrwydd cadw pobl ifanc yn yr ardal er mwyn cynnal cymunedau
cynaliadwy. -
Pwysleisiwyd
pwysigrwydd roi cyfleoedd a buddsoddi mewn pobl ifanc. Awdur: Geraint Owen |
|
CAIS AM ADNODDAU CYNLLUN Y CYNGOR I DRAWSNEWID Y GYFUNDREFN ADDYSG PDF 109 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Ymrwymo £103,492 o Gronfa Cynllun y Cyngor
am gyfnod o ddwy flynedd i ariannu swydd Rheolwr Prosiect a fyddai’n galluogi’r
Adran i ymateb a gweithredu ar brosiectau unigol i drawsnewid y gyfundrefn
ysgolion yn amserol ac fel maent yn codi ac yn unol â’r egwyddorion addysg
mabwysiedig. b)
I adolygu’r sefyllfa pan ddaw’r ddwy
flynedd gychwynnol i ben, a/neu os rhagwelir cynnydd yn nifer y prosiectau
unigol pellach fydd angen eu gweithredu i drawsnewid y gyfundrefn ysgolion yn
sgil mabwysiadu’r egwyddorion addysg. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNWYD a) Ymrwymo £103,492 o Gronfa
Cynllun y Cyngor am gyfnod o ddwy flynedd i ariannu swydd Rheolwr Prosiect a
fyddai’n galluogi’r Adran i ymateb a gweithredu ar brosiectau unigol i
drawsnewid y gyfundrefn ysgolion yn amserol ac fel maent yn codi ac yn unol â’r
egwyddorion addysg mabwysiedig. b) I adolygu’r sefyllfa pan ddaw’r
ddwy flynedd gychwynnol i ben, a/neu os rhagwelir cynnydd yn nifer y prosiectau
unigol pellach fydd angen eu gweithredu i drawsnewid y gyfundrefn ysgolion yn
sgil mabwysiadu’r egwyddorion addysg. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gan yr
adran Addysg nifer o gynlluniau cyffroes yn rhan o Gynllun y Cyngor. Nodwyd fod
yr Adran yn gyfrifol am nifer o brosiectau lefel uchel sydd yn cwmpasu o
amgylch trawsnewid y gyfundrefn, cryfhau arweinyddiaeth a moderneiddio addysg. Ychwanegwyd
fod yr adran wedi mabwysiadu Egwyddorion Addysg newydd a fydd yn sail i wireddu
gweledigaeth yr adran. Nodwyd fod gan yr adran gynlluniau
di-gyfalaf fydd angen sylw o dan arweiniad y Swyddogion Addysg Ardal. Ategwyd
fod y cynlluniau yn cyd-fynd a’r egwyddorion megis: ·
Sefydlu
trefniaint federal ffurfio rhwng Ysgol Brynaerau ac Ysgol Talysarn ·
Newid
oedran mynediad Ysgol dyffryn Ardudwy ac Ysgol Llanbedr ·
Dyfodol
Cwm y Glo. Mynegwyd y bydd angen i bob un o’r
prosiectau ddilyn proses statudol gyflawn, sydd yn drwm waeth pa mor fychan
yw’r cynllun. Nodwyd ei bod yn gyfnod gydag amryw o newidiadau o fewn yr adran
addysg ac mae’n bosib y bydd cyfloed di-gyfalaf eraill yn codi. Er mwyn
galluogi’r Adran i ymateb a dilyn yr egwyddorion, eglurwyd, bydd angen sicrhau
adnodd ychwanegol. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth Nodwyd fod yr arian yn mynd i sicrhau fod prosiectau yn cael eu cwblhau ac yn symud y gyfundrefn addysg yn eu blaen Awdur: Garem Jackson |
|
CYLLIDEB REFENIW 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD PDF 82 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: -
Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2018 o’r
Gyllideb Refeniw, a nodi y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob
adran / gwasanaeth. -
Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Oedolion, Iechyd a
Llesiant, ynghyd â'r Pennaeth Adran, i fynd at wraidd gorwariant y gwasanaeth
Darparu a chymryd camau i leihau'r gorwariant, ac i adrodd i'r Cabinet ar y
cynllun ymateb. -
Oherwydd cynnydd yn y gorwariant ar nifer o benawdau'r
gyllideb gan yr Adran Plant a Theuluoedd ers yr adolygiad diwethaf, i ystyried
y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet (Cabinet
29/01/19) gyda golwg ar geisio lleihau'r gorwariant erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol. -
Oherwydd lefel y gorwariant ar gludiant disgyblion gan yr
Adran Addysg, i ystyried y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad yr Aelod Cabinet
(Cabinet 29/01/19). -
Caniatáu'r Adran Amgylchedd i neilltuo (£60k) o danwariant
yr adran ar gyfer cynnal adolygiad gan gomisiynu ymchwil gan y Brifysgol a
chyflogi swyddogion ychwanegol i gasglu tystiolaeth yn y maes Cludiant
Cyhoeddus yn dilyn nifer o faterion dros y blynyddoedd diwethaf. -
Cynaeafu (£2,984k) o'r tanwariant net ar gyllidebau
Corfforaethol, ·
gyda (£700k) cysylltiedig â’r premiwm Treth y Cyngor i’w
neilltuo i gronfa benodol i’w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai. ·
(£435k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i’w drosglwyddo i
gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf. ·
gyda’r gweddill sef (£1,849k) i'w drosglwyddo i Gronfa
Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un-tro ar
gyllidebau'r Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNIAD -
Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2018 o’r
Gyllideb Refeniw, a nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob
adran / gwasanaeth. -
Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Oedolion, Iechyd a
Llesiant, ynghyd â'r Pennaeth Adran, i fynd at wraidd gorwariant y gwasanaeth
Darparu a chymryd camau i leihau'r gorwariant, ac i adrodd i'r Cabinet ar y
cynllun ymateb. -
Oherwydd cynnydd yn y gorwariant ar nifer o benawdau'r
gyllideb gan yr Adran Plant a Theuluoedd ers yr adolygiad diwethaf, i ystyried
y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet (Cabinet
29/01/19) gyda golwg ar geisio lleihau'r gorwariant erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol. -
Oherwydd lefel y gorwariant ar gludiant disgyblion gan yr
Adran Addysg, i ystyried y sefyllfa pan dderbynnir adroddiad yr Aelod Cabinet
(Cabinet 29/01/19). -
Caniatáu'r Adran Amgylchedd i neilltuo (£60k) o danwariant
yr adran ar gyfer cynnal adolygiad gan gomisiynu ymchwil gan y Brifysgol a
chyflogi swyddogion ychwanegol i gasglu tystiolaeth yn y maes Cludiant
Cyhoeddus yn dilyn nifer o faterion dros y blynyddoedd diwethaf. -
Cynaeafu (£2,984k) o'r tanwariant net ar gyllidebau
Corfforaethol, ·
gyda (£700k) cysylltiedig â’r premiwm Treth y Cyngor i’w
neilltuo i gronfa benodol i’w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai. ·
(£435k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i’w drosglwyddo i
gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf. ·
gyda’r gweddill sef (£1,849k) i'w drosglwyddo i Gronfa
Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un-tro ar
gyllidebau'r Cyngor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adran yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw a’r rhagolygon at
ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod y darlun yn gymysg gyda rheolaeth
ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau’r Cyngor. Ychwanegwyd fod gorwariant
sylweddol yn cael ei ragweld yn yr Adran Addysg, Plant a Chefnogi Teuluoedd a
Phriffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw y bydd pum adran ynghyd a
chyllidebau Corfforaethol yn tanwario, ond bydd y pum adran arall yn gorwario.
Mynegwyd fod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gorwario o ganlyniad i
orwariant yn y gwasanaeth Darparu a llithriad yn y cynlluniau arbedion.
Ychwanegwyd y bydd lleihad yn y gorwariant o ganlyniad i ddefnydd o arian
grant. Nodwyd fod gorwariant yn yr Adran Blant a
Chefnogi Teuluoedd yn dwysau, er hyn mae derbyn grant diweddar gan Lywodraeth
Cymru wedi lleihau’r gorwariant ychydig. Esboniwyd mai cludiant tacsis a bysus
ysgolion sydd yn parhau i greu gorwariant o fewn yr Adran Addysg. Wrth edrych ar yr adran Economi, nodwyd mai
llithriad yn y cynllun arbedion yn y maes Hamdden a gostyngiad yn y rhagolygon
incwm yw’r rhesymau dros y gorwariant. Mynegwyd fod yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol wedi cychwyn ar gymryd camau i leihau’r gorwariant yn y maes
Gwastraff. Nodwyd wrth edrych ar gyllidebau
corfforaethol fod y rhagolygon yn ffafriol, ac mai 2018/19 yw’r flwyddyn gyntaf
o gasglu’r Premiwm Treth Cyngor. Ychwanegwyd fod y rhagolygon o gynhaeafu’r
dreth ychwanegol yma’n uwch, ond fod ôl-ddyddio trosglwyddiadau eiddo o’r
rhestr Treth Cyngor i’r rhestr Treth Busnes yn lleihau’r incwm. Sylwadau yn codi o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dafydd L Edwards |
|
RHAGLEN CYFALAF 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD PDF 160 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30
Tachwedd 2018) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a
gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: -
£9,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca -
£3,502,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau -
£30,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf -
£488,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw -
£220,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac
eraill Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur
Jenkins PENDERFYNIAD Derbyn yr
adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2018) o’r rhaglen gyfalaf,
a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: -
£9,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca -
£3,502,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau -
£30,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf -
£488,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw -
£220,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac
eraill TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai prif
ddiben yr adroddiad yw cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig a chymeradwyo’r
ffynonellau ariannu. Nodwyd fod dadansoddiad yn yr adroddiad o’r rhaglen
gyfalaf gwerth £51m am y dair blynedd nesaf. Ategwyd fod yr adroddiad yn manylu ar y
ffynonellau, yn bennaf grantiau wedi’u denu, i ariannu’r cynnydd net dros £4m
ers yr adolygiad diwethaf. Nodwyd fod gan y Cyngor gynlluniau pendant
yn eu lle er mwyn buddsoddi oddeutu £28.5 miliwn eleni, ac mae £6.9milibwn
ohono wedi’i ariannu drwy grantiau. Awdur: Dafydd L Edwards |
|
TROSOLWG ARBEDION 2018/19 - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 199 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag at
wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur
Jenkins PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu
cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad a oedd yn nodi
cynnydd ar wireddu cynlluniau arbedion y Cyngor yn flynyddol. Tynnwyd sylw ar
yr atodiad sydd yn dangos fod dros 95% o’r arbedion ar gyfer 2015/16 - 2017/18
wedi’u gwireddu. Ategwyd gan nodi fod ychydig o lithriad ar 15 cynllun a saith
ohonynt gan yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ble mae her o wireddu'r
cynlluniau yn parhau. Ychwanegwyd fod pedwar cynllun yn yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol, ble mae’r Cabinet wedi cytuno i ohirio eu gweithredu ar gynllun
‘Canolfannau Ailgylchu’. Nodwyd fod un cynllun sef ‘Dechrau I’r Diwedd’ yn cael
ei lithro gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Nodwyd fod cynlluniau gwerth dros £2.5miliwn
o arbedion gan y Cyngor yn Strategaeth Ariannol 2018/19. Ychwanegwyd fod 64%
o’r cynlluniau wedi’u gwireddu, gyda 7 ar drac i gyflawni o fewn amser, a 5
cynllun yn llithro. Mynegwyd mai un o’r llithriadau yw’r Cynllun
‘Dechrau I’r Diwedd’ a bod adolygiad o’r cynllun wedi ei gynnal gan yr Adran
Plant, gyda swyddogion Cyllid a’r Rheolwr Ymchwil a Gwybodaeth yn ail ymweld â
thybiaethau’r model gwreiddiol. Esboniwyd fod gwireddu bron i £27m o
arbedion ers Ebrill 2015 wedi bod yn amser heriol i’r Cyngor a diolchwyd i
staff ac i’r holl Aelodau Cabinet am eu gwaith. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Diolchwyd
am y gwaith, gan ychwanegu ei bod yn dda fod y Cyngor yn gweithredu’n
effeithlon. Ategwyd fod y Cyngor yn wynebu gorfod gwireddu mwy o arbedion, ond
fod angen sicrhau lles pobl Gwynedd wrth wneud y penderfyniadau yma. Awdur: Dafydd L Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH CORFFORAETHOL PDF 114 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dyma
ail adroddiad perfformiad yr Aelod Cabinet. Tynnwyd sylw at brosiectau'r
adrannau gan bwysleisio rhai prosiectau penodol. Wrth edrych ar y prosiect o
hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn Gwasanaethau’r Cyngor nodwyd ei bod yn falch
fod y Cyngor yn gweithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg. Ategwyd fod y
Cyngor yn sicrhau fod cefnogaeth ar gael i ddarparu’r gwasanaeth gorau i
drigolion Gwynedd. Nodwyd fod cefnogaeth i swyddogion a rheolwyr yn ogystal i
ddatblygu eu sgiliau ieithyddol bellach gan fod Swyddog Dysgu a Datblygu
penodol ar gyfer y Gymraeg. A diolchwyd
i’r Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesiant am eu gwaith caled yn sicrhau fod
deunyddiau’r cwrs IOSH bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mynegwyd fod cynnydd o 4% o wariant refeniw
a chyfalaf y Cyngor, a phwysleisiwyd pwysigrwydd o daro’r balans rhwng sicrhau
gwerth am arian a’r budd o wario gyda chwmnïau lleol. Tynnwyd sylw at y cynllun
‘Lleihau’r Bwlch Cyflog Rhwng Merched a Dynion’ sydd yn ceisio hybu’r nifer o
ferched o fewn arweinyddiaeth y Cyngor. Nodwyd fod angen dileu unrhyw elfen o’r
amodau gwaith o fewn y Cyngor sydd yn rhwystr i ferched ymgeisio am swydd
arweiniol. Tynnwyd sylw at ddatblygiad Hunanwasanaeth
ar wefan y Cyngor sydd yn rhoi mynediad at wybodaeth i drigolion 24 awr y dydd.
Mynegwyd fod niferoedd o gyfrifon hunanwasanaeth yn parhau i gynyddu gyda
36,197 cyfri bellach. Nodwyd fod dau ‘digwyddiad gwybodaeth’ wedi ei gynnal
rhwng Gorffennaf a diwedd Hydref ble mae gwybodaeth wedi ei anfon i gyfeiriad
anghywir neu wybodaeth wedi ei ddwyn/colli. Nodwyd y rhesymau dros hyn gan nodi
fod trefniadau wedi eu tynhau ers mwyn sicrhau na fydd yn digwydd eto. Nodwyd fod yr Aelod Cabinet yn hapus a
chynnydd yn y Gwasanaeth Cyfreithiol, a bu i’r Aelod longyfarch y Gwasanaeth am
lwyddo i gynnal safon LEXCEL, sydd yn safon cydnabyddedig Cymdeithas y Gyfraith
o ran “Excellence in Legal Practive Management and Client Care”. Materion yn codi o’r drafodaeth - Tynnwyd sylw at y nifer o ddiffygion wedi eu
hamlygu mewn archwiliadau rhaglenedig yn yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol, a
nododd yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol y bydd yn trafod y data
a’r adran. -
Trafodwyd
App Gwynedd gan holi am niferoedd sydd yn defnyddio’r ap, mae 386 wedi ei lawr
lwytho hyd yma, ond ychwanegwyd nad yw wedi cael ei lansio yn llawn eto. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AEOD CABINET DROS DDATBYLGU'R ECONOMI PDF 122 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad wedi ei greu yn dilyn cyfarfodydd herio perfformiad yr adran sydd ag
aelodau o’r Pwyllgor Craffu yn rhan o’r panel. Trafodwyd prosiectau Cynllun y
Cyngor gan dynnu sylw yn gyntaf at gynllun Busnesau sy’n cael Cymorth i Ffynnu.
Nodwyd fod rhai busnesau yn cael trafferth i gysylltu â’r Cyngor, mynegwyd fod
Cyngor Dinbych bellach ac un aelod o staff i ddelio ac unrhyw ymholiadau
ynglŷn â datblygu’r economi gan fusnesau. Mynegwyd fod yr Aelod Cabinet yn
awyddus symud ymlaen i ddatblygu cynllun o’r fath yng Ngwynedd. Trafodwyd cynllun Creu Swyddi Gwerth Uchel a
nodwyd fod gwaith o ddatblygu safle Llanbedr yn parhau. Nodwyd y bydd datganiad
gan y Parc Cenedlaethol yn fuan yn rhoi diweddariad ar y cynllunio i adeiladu
ffordd newydd yn Llanbedr. Nodwyd fod perchnogion y Maes Awyr Llanbedr fod
cynnydd wedi bod yn nifer yr ymholiadau gan fusnesau awyrennau a gofod er mwyn
lleoli yn achlysurol ac i sylfaenu o fewn y safle datblygu. Ychwanegwyd fod y
gwaith adeiladu yn parhau er mwyn datblygu'r safle ymhellach. Tynnwyd sylw at Raglen Arloesi Gwynedd
Wledig gan nodi fod Ysgol Dronau wedi ei redeg yn ystod y cyfnod ble mynydd
dros 25 o bobl ifanc am 6 penwythnos o weithgareddau wedi bod yn llwyddiannus.
Ychwanegwyd yn dilyn cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru i ddarpariaeth WiFi
cyhoeddus mewn cymunedau gwledig, fod trefniadau mewn lle ar gyfer gosod offer
mewn 7 o gymunedau. Mynegwyd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig
bellach wedi cadarnhau mai enwebiad Llechi Gwynedd fydd y nesaf i gael ei
gyflwyno I Bwyllgor Treftadaeth y Byd o Brydain. Trafodwyd Gwasanaeth Morwrol a Pharciau
Gwledig gan fod gwaith carthu basn marina Doc Fictoria wedi bod yn
llwyddiannus. Nodwyd ei bod yn amserol i edrych ar ddyfodol Hafan, Pwllheli a
nodwyd fod Bwrdd Prosiect wedi ei benodi. Nodwyd fod gwaith o greu Gwefan
twristiaeth Eryri Mynyddoedd ac Mor yn parhau gan y Gwasanaeth Twristiaeth,
Marchnata Digwyddiadau. Ychwanegwyd fod fersiwn newydd o’r wefan ar fin gael ei
ryddhau i’r sector am fewnbwn cyn iddi fynd yn fyw o fewn y misoedd nesaf. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth - Tynnwyd sylw at ddiffyg gorfod busnes yn parhau i fod yn rhwystr ar gyfer cwmnïau sydd yn awyddus i leoli yn sir. Nodwyd fod trafodaethau am y Cynllun Asedau am y deg mlynedd nesaf ar droed ac efallai bydd modd darparu gofod busnes, ychwanegwyd mai adeiladau mae busnesau yn awyddus i’w cael yn hytrach nac unedau Awdur: Iwan Trefor Jones |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 113 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNIAD Derbyn a
nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn
amlinellu beth sydd wedi digwydd yn yr Adran Gyllid, gan nodi fod yr Aelod Cabinet
ar y cyfan yn gyfforddus â’r perfformiad, ond fod camau priodol wedi’u cymryd
er mwyn gwella perfformiad pan yn briodol. Wrth edrych ar werth holl ddyledion amrywiol
dros 6 mis oed, mynegwyd mai’r Bwrdd Iechyd oedd yn gyfrifol am gyfran
sylweddol o’r dyledion hynny, ac yn dilyn y cyfarfod perfformiad bu
trafodaethau gyda swyddogion perthnasol o’r Bwrdd Iechyd er mwyn datrys y
broblem. Mynegwyd fod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol,
fel rhan o ychwanegu gwerth ac i ddenu incwm, wedi darparu gwasanaeth archwilio
i 67 o gynghorau tref a chymuned. Ychwanegwyd fod Swyddfa Archwilio Cymru mewn
adolygiad cenedlaethol diweddar, wedi arddangos ffurf adroddiad Gwynedd fel
‘arfer da’. Trafodwyd y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth
(TG), gan nodi fod Strategaeth TG newydd yn destun trafodaethau, a bydd hwnnw’n
dod i’r Cabinet yn ystod mis Mai. Ychwanegwyd fod gwaith wedi cael ei wneud ar
y cyd â’r Adran Addysg er mwyn datblygu strategaeth TG newydd i’r ysgolion
hefyd. Esboniwyd fod y cyswllt yr ysgolion i’r rhyngrwyd wedi gwella a
chyflymu’n sylweddol. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Diolchwyd
i staff yr Adran am wneud eu gwaith mor effeithiol Awdur: Dilwyn Williams |