Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Nid oedd unrhyw
faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYFRIFON TERFYNOL 2018/19 - ALLDRO REFENIW PDF 71 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd
i: 1.1 Nodi sefyllfa ariannol
derfynol adrannau’r Cyngor am 2018/19. 1.2 Cymeradwyo’r
symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad
yn Atodiad 1) sef -
1.3 Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau
ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) – ·
Yr
Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £1,544k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen
gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo
i symud ymlaen i wynebu her 2019/20. ·
Yr
Adran Addysg i dderbyn cymorth ariannol rhannol un-tro o £16k gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario
ymlaen gan yr Adran i £100k. ·
Digolledu'r Adran Economi a
Chymuned £157k, sef swm y gorwariant o ganlyniad i lithriad yn yr
amserlen sefydlu cwmni Byw'n Iach i redeg y cyfleusterau hamdden, sydd
felly yn cyfyngu lefel y gorwariant i'w gario ymlaen gan yr Adran i £28k. ·
Yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £518k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr
Adran i £100k,
i'w cynorthwyo i wynebu her 2019/20. ·
Yn unol
â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i ganiatáu i'r Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant,
a symud (£392k) sef y swm uwchlaw
(£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2018/19. ·
Ar
gyllidebau Corfforaethol, trosglwyddo: - (£19k) cysylltiedig â'r premiwm Treth y Cyngor i
gronfa benodol i'w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai. - (£551k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa
ariannu'r rhaglen gyfalaf. - (£738k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw. ·
Defnyddio (£1,843k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau
sydd wedi gorwario yn 2018/19. ·
Bydd
gweddill tanwariant Corfforaethol (£173k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor. 1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o
gronfeydd a darpariaethau penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn
adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, sef: ·
Cynaeafu (£3.931m)
o gronfeydd a (£69k) o ddarpariaethau. ·
Trosglwyddo £3m i’r
Gronfa Trawsffurfio ar gyfer Cynllun y Cyngor. ·
Trosglwyddo £1m i
Falansau Cyffredinol y Cyngor. ·
Neilltuo £262k am
gyfnod o flwyddyn o’r gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth
Ariannol i bontio’r ffynhonnell ariannu ymrwymiadau perthnasol i’r
Gronfa Bensiwn. COFNODION: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNWYD 1.1
Nodi’r sefyllfa ariannol derfynol
adrannau’r Cyngor am 2018/19 1.2
Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan)
Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1) sef –
1.3
Cymeradwyo’r argymhellion a’r
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) ·
Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o
£1,544k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i
£100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2019/20. ·
Yr Adran Addysg i dderbyn cymorth ariannol rhannol un-tro o £16k
gan gyfyngu
lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k. ·
Digolledu'r Adran Economi a Chymuned £157k, sef swm y gorwariant o
ganlyniad i
lithriad yn yr amserlen sefydlu cwmni Byw'n Iach i redeg y
cyfleusterau
hamdden, sydd felly yn cyfyngu lefel y gorwariant i'w gario mlaen
gan yr Adran i
£28k. ·
Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol
un-tro rhannol o £518k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario mlaen gan yr
Adran i £100k, i'w cynorthwyo i wynebu her 2019/20. ·
Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i
ganiatáu i'r Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£392k)
sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi
gorwario yn 2018/19. ·
Ar gyllidebau Corfforaethol, trosglwyddo: -
(£19k) cysylltiedig â'r premiwm Treth y Cyngor i gronfa benodol i'w ystyried ar
gyfer y Strategaeth Dai. -
(£551k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf. -
(£738k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw. ·
Defnyddio (£1,843k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau
sydd wedi gorwario yn 2018/19. ·
Bydd gweddill tanwariant Corfforaethol (£173k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor. 1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau
ariannol o gronfeydd a darpariaethau penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn
dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, sef: ·
Cynaeafu
(£3.931m) o gronfeydd a (£69k) o ddarpariaethau. ·
Trosglwyddo
£3m i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer Cynllun y Cyngor. ·
Trosglwyddo
£1m i Falansau Cyffredinol y Cyngor. ·
Neilltuo
£262k am gyfnod o flwyddyn o’r gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i bontio’r ffynhonnell ariannu ymrwymiadau
perthnasol i’r Gronfa Bensiwn. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor am 2018/19.
Diolchwyd i’r Cyng. Peredur Jenkins am ei ymrwymiad i sicrhau sefyllfa ariannol y Cyngor dros y
blynyddoedd diwethaf. Mynegwyd fod rheolaeth ariannol y Cyngor wedi bod yn
effeithiol yn ystod y flwyddyn er y gofynion i gyflawni arbedion. Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi sefyllfa derfynol yr holl adrannau, a thynnwyd sylw at y prif faterion. Nodwyd fod hanner yr adrannau wedi medru cadw o fewn eu cyllidebau. Tynnwyd sylw at welliant yn sefyllfa’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant erbyn diwedd y flwydd o ganlyniad ... view the full COFNODION text for item 5. Awdur: Ffion Madog Evans |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN CYFALAF 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (31 MAWRTH 2019) PDF 88 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad ar
adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2019) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef:
COFNODION: Cyflwynwyd gan
Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad
ar adolygiad
diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2019) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4
o’r adroddiad, sef:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi mai prif ddiben yr adroddiad yw cyflwyno sefyllfa derfynol rhaglen
gyfalaf 2018/19. Mynegwyd fod yr
adroddiad yn rhoi dadansoddiad fesul adran o’r rhaglen gyfalaf o £53.53 miliwn
am y 3 blynedd 2018/19 - 2020/21. Tynnwyd sylw at
brif gasgliad, sef fod y Cyngor wedi gwario dros £22.8m drwy gynlluniau
cyfalaf, ble mae 55% ohono wedi ei ariannu drwy grantiau. Codwyd pryderon am
ostyngiad yn nifer y staff o fewn y Cyngor a’r capasiti
fydd ar gael i sicrhau fod cynlluniau yn aeddfed i’w cyflwyno am grantiau yn y
dyfodol. Esboniwyd fod cyfanswm o £12.7m yn llithro o 2018/19 o’i gymharu â
£15.6m ar ddiwedd 2017/18. Ymhelaethwyd ar y prif resymau dros y llithriadau a
oedd yn cynnwys Grant Cynnal a Chadw Ysgolion o £1.8m yn cyrraedd yn hwyr,
newid mewn amseriad gwario ar gyfer adnewyddu cerbydau’r Cyngor a disgwyl am
benderfyniadau arian cyfatebo gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau yn y maes
Eiddo. Pwysleisiwyd fod y
Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn grantiau ychwanegol ers yr adolygiad
diwethaf, yn cynnwys grantiau Cynnal a Chadw Ysgolion a’r grant Cronfa Gofal
Canolradd. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Holwyd,
gan fod y rhai gwasanaethau yn ddibynnol ar grantiau, sut y gall hyn
effeithio’r Cyngor yn y dyfodol. Nodwyd fod y Cyngor yn ceisio rhoi pwysau ar y
Llywodraeth i grantiau gael ei rhoi yn rhan o’r setliad, mynegwyd fod
gwasanaethau yn ddibynnol ar grantiau yn peri ansicrwydd ac yn ei gwneud yn
anodd cynllunio i’r dyfodol. ¾
Diolchwyd
i staff am eu gwaith caled yn sicrhau grantiau ac i gynllunio ar gyfer
cynlluniau’r dyfodol. Awdur: Ffion Madog Evans |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD AR GYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 334 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad a’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau
arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol. COFNODION:
Awdur: Ffion Madog Evans |