Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Rhithiol a Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Hybrid Meeting - Virtual and Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 MEDI pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.

LLECHEN LÂN - GWASANAETHAU CYMDEITHASOL POBL HŶN I'R DYFODOL pdf eicon PDF 370 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·        Derbyniwyd canlyniadau gwaith Llechen Lân - Gwasanaethau Cymdeithasol Pobl Hŷn i’r Dyfodol (Atodiad 1).  

·        Mabwysiadwyd cyfeiriad strategol a chynllun gweithredu Llechen Lân (Atodiad 2). 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL RHIANT CORFFORAETHOL 2023-2024 pdf eicon PDF 133 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn 2023-24. 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD, DIOGELWCH A LLESIANT pdf eicon PDF 641 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a chymeradwywyd yr argymhellion. 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL - CYFLOGAETH pdf eicon PDF 312 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2023/24.  

10.

CYNLLUNIAU A FFIOEDD PARCIO pdf eicon PDF 253 KB

Cyflwynwyd gan: Cllr. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.               Cymeradwywyd a galluogwyd y Gwasanaeth Parcio i fwrw ymlaen i wireddu dau gynllun arbedion sydd wedi eu cymeradwyo gan Gabinet y Cyngor yn 2023/24, sef:  

·      1.1.1 Cynyddu ffioedd parcio Pen y Gwryd o £2.00 am hanner diwrnod a £4.00 am ddiwrnod llawn i £4.00 am 6 awr a £8.00 am 12 awr. 

·      1.1.2 Cynyddu pris Tocyn Parcio Blynyddol o £140 i £145 y flwyddyn a phris Tocyn Parcio Lleol o £70 i £75 y flwyddyn. 

 

2.               Cymeradwywyd a galluogwyd y  Gwasanaeth Parcio i fwrw ymlaen i wireddu dau gynllun arbedion sydd angen ystyriaeth bellach cyn dod i benderfyniad terfynol yn 2024/25, sef:  

·      1.2.1 Ymestyn oriau gorfodaeth meysydd parcio arhosiad byr o 10:00 hyd at 16:30 i 9:00 hyd at 17:00.  

·      1.2.2 Addasiad i Strwythur Ffioedd Arhosiad Hir Band 2 yn unol a’r hyn a welwch yn Atodiad A. 

 

3.               Cytunwyd cynyddu holl ffioedd parcio 40% i alluogi’r Gwasanaeth Parcio gyfarch targed incwm sydd yn creu diffyg sylweddol yn y cyllidebau. 

 

4.               Nodwyd petai Aelodau’r Cabinet yn penderfynu cymeradwyo’r cynlluniau arbed a nodir oddi fewn 1.2.1 ac 1.2.2  bydd 10 diwrnod o gyfnod segur cyn medru trosglwyddo’r mater i Adran Gyfreithiol y Cyngor er mwyn cyflawni cyfnod ymgynghori statudol yn unol a Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol 

 

5.               Nodwyd, fel rhan o’r cyfnod ymgynghori, bydd gofyn hanfodol i’r Cyngor hysbysebu’r newidiadau arfaethedig yn y papurau newydd lleol yn ogystal ag arddangos y wybodaeth (cynnwys y ffioedd newydd) mewn safle amlwg yn y meysydd parcio a cheir eu heffeithio. 

 

6.               Cadarnhawyd y bwriad o fwrw mlaen gyda’r paratoadau er mwyn gweithredu’r holl newidiadau o 1af Ebrill 2025

 

11.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL 2023-2024 pdf eicon PDF 211 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd adroddiad Monitro Blynyddol 6 (Atodiad 1) a chytunwyd i’w gyflwyno i’r Llywodraeth erbyn diwedd mis Hydref 2024. 

12.

CYLLIDEB REFENIW 2024/25 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2024 pdf eicon PDF 625 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gan nodi bod rhagolygon o orwariant o £7.6 miliwn gan adrannau’r Cyngor, derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2024 o’r gyllideb refeniw, a chefnogwyd y camau mae’r Prif Weithredwr wedi eu cyflwyno i ymdrin â’r gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd. 

 

Cymeradwywyd trosglwyddiad o £1,868k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor. 

 

13.

RHAGLEN GYFALAF 2024/25 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·        Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2024) o’r rhaglen gyfalaf. 

  

·        Cymeradwywyd yr addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a gymeradwywyd ar 7 Mawrth 2024 o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef:  

 

14.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 742 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2024/25 a blynyddoedd blaenorol. 

15.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r tendrwyr a’r Cyngor Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

16.

COSTAU SYSTEM GOFAL CYMDEITHASOL NEWYDD (WCCIS)

(Dogfennaeth i Aelodau Cabinet yn unig)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·      Rhoddwyd awdurdod cyllidol i fwrw ymlaen ar sail yr achos busnes i brynu system ddata Gwasanaethau Cymdeithasol newydd ar y cyd â’r Clwstwr Rhanbarth Gogledd Cymru.  

·      Er cyflawni (a), rhagdybiwyd y broses ceisiadau ariannol ar gyfer 2025/26 ar gyfer cyllid un-tro ac yna cyllid refeniw blynyddol o 2026 ymlaen.