Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan amlygu ei bod yn Wythnos Gofalwyr yr wythnos hon, a diolchwyd i holl ofalwyr y sir am eu gwaith.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatgan buddiant, ond bu i Cyng. Llio Elenid Owen eistedd fel Aelod Lleol ar gyfer eitem 6 – Cynllun Rheoli Maes Parcio Dinas Dinlle ac o ganlyniad nid oedd ganddi bleidlais ar y mater.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 MAI 2025

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Mai 2025 fel rhai cywir

6.

CYNLLUN RHEOLI MAES PARCIO DINAS DINLLE pdf eicon PDF 187 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Richard Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i ddechrau proses ar gyfer gwneud gorchymyn parcio oddi ar y stryd barhaol ym Maes Parcio Dinas Dinlle a dirprwyo awdurdod i Bennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r aelod Cabinet a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi gorchymyn fydd yn gwneud y gorchymyn arbrofol yn barhaol, ac yna rhoi rhybudd o hyn yn y wasg yn unol â’r Rheoliad 22 a 23 o’r Rheoliadau.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R. Medwyn Hughes.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i ddechrau proses ar gyfer gwneud gorchymyn parcio oddi ar y stryd barhaol ym Maes Parcio Dinas Dinlle a dirprwyo awdurdod i Bennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r aelod Cabinet a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi gorchymyn a fydd yn gwneud y gorchymyn arbrofol yn barhaol, ac yna rhoi rhybudd o hyn yn y wasg yn unol â’r Rheoliad 22 a 23 o’r Rheoliadau.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd adroddiad gan nodi ei fod ar gyfer sefydlu trefniadau newydd ar gyfer talu am barcio yn barhaol ym Maes Parcio Dinas Dinlle. Eglurwyd fod y Cabinet wedi cymeradwyo symud ymlaen i weithredu cynlluniau arbedion a oedd yn cynnwys sefydlu ffioedd parcio ar draeth Dinas Dinlle.

 

Mynegwyd yn ôl yn 2022/23 fod yr adran wedi adnabod adnoddau er mwyn gwneud gwaith i uwchraddio’r maes parcio a llwyddwyd i ddenu grant o raglen Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru. Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i ail-wynebu, addasu mynedfeydd, marcio mannau parcio, darparu llecyn bws, tirweddu ac uwchraddio cyfleusterau. Pwysleisiwyd fod y gwaith o fuddsoddi yn holl bwysig gan fod y traeth yn un poblogaidd iawn ac yn denu nifer o ymwelwyr yn lleol ac yn dwristiaid.

 

Eglurwyd fod cyfnod arbrofol wedi ei gynnal yn ystod haf 2024 ble roedd ffioedd parcio i’w dalu dros dro, ac yn dilyn yr arbrawf trefnwyd ymgynghoriad cyhoeddus i wahodd adborth gan drigolion, busnesau lleol, defnyddwyr, sefydliadau statudol a grwpiau lleol. Diolchwyd i Gyngor Cymuned Llandwrog am eu mewnbwn drwy gydol y cyfnod. Amlygwyd y prif bwyntiau yn dilyn y cyfnod hwn a’r argymhellion ar gyfer datblygu trefniadau gwell a oedd yn cynnwys

·         Cyflwyno ffioedd tymhorol rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref

·         Cyflwyno tocyn tymor am ffi resymol

·         Cyflwyno awr gyntaf am ddim fel rhan o’r strwythur ffioedd arfaethedig.

Amlygwyd y camau nesaf ar y daith sef i gychwyn camau cyfreithiol o gyflwyno Gorchymyn Parcio Oddi ar y Stryd, ac fel rhan o’r broses bydd ymgynghoriadau gyda sefydliadau statudol a lleol ynghyd â chyfnod ymgynghori cyhoeddus yn cael eu cynnal.

 

Bu i’r Aelod Lleol nodi fod y traeth yn un poblogaidd tu hwnt, a diolchwyd i Gyngor Cymuned Llandwrog am ymateb i bob ymgynghoriad. Diolchwyd fod yr argymhellion yn dilyn y cyfnod arbrofol yn cynnwys tocyn tymor fforddiadwy a bod ffioedd yn cael eu codi rhwng 9:00 a 17:00. Amlygwyd y gwaith uwchraddio sydd wedi ei wneud gan bwysleisio fod cyfleusterau yn llawer gwell. Nodwyd yr angen i sicrhau fod arian yn cael ei glustnodi i gadw safon y maes parcio. Mynegwyd yr angen am lwybr beicio a fuasai yn ddefnyddiol a saff i bobl allu mynd i Dinas Dinlle ar feic neu ar droed.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·         Cefnogwyd y penderfyniad gan nodi’r angen i gadw safon y safle gan sicrhau fod arian yn cael ei glustnodi i wneud hyn.

·         Mynegwyd nad oedd y penderfyniad yn un hawdd ond yn rhan o nifer o benderfyniadau anodd i sicrhau gwasanaethau ar draws y sir. Croesawyd fod safon y maes parcio yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Llyr B Jones, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned

7.

STRATEGAETH GWASTRAFF AC AILGYLCHU pdf eicon PDF 211 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr hawl i Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu mynd i ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn derbyn adborth gan drigolion Gwynedd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago. 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr hawl i Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu mynd i ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn derbyn adborth gan drigolion Gwynedd. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai gofyn am ganiatâd i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus oedd y ddogfen. Nodwyd balchder yng nghynnwys y ddogfen gan egluro fod y strategaeth wedi ei arwain gan y cyn aelod Cabinet Cyng. Dafydd Meurig. Eglurwyd fod y strategaeth yn amlygu beth yw egwyddorion yr adran ar wastraff ac ailgylchu ynghyd a sut fydd modd gweithredu yn unol ar egwyddorion yma. Pwysleisiwyd fod argyfwng amgylcheddol a bod angen edrych yn ehangach na’r Cyngor i’w ddatrys.

 

Mynegwyd fod problemau amlwg i’w gweld yn rhyngwladol gyda chwmnïau dillad yn gollwng tunelli o wastraff yn flynyddol. Eglurwyd fod targed cenedlaethol yn un i ailgylchu 70% ond holwyd pam na ddylid ailgylchu mwy.

 

Nodwyd wrth edrych yn genedlaethol nad oes cynllun amlwg i’w weld, ond fod cynghorau’r gogledd yn cyd-weithio er mwyn llosgi gwastraff na ellir ei ailgylchu i greu trydan. Amlygwyd  yr angen i weld gwastraff fel adnodd.

 

Bu i’r Pennaeth Adran ychwanegu fod y strategaeth yn gosod egwyddorion y gwasanaeth yn dilyn newid adran rhyw flwyddyn a hanner yn ôl. Nodwyd fod blaenoriaethau a oedd yn cynnwys gwella gofal cwsmer, mynd i’r  afael a lefelau salwch, rheoli gorwariant a chyrraedd y targed cenedlaethol o 70%. Eglurwyd fod lefelau salwch bellach yn gostwng, fod lefel gofal cwsmer wedi cynyddu, a nifer y cwynion a gorwariant y gwasanaeth wedi lleihau.

 

Nodwyd fod y Cyngor wedi methu llwyddo cyrraedd ei darged eleni ac felly fod angen y strategaeth er mwyn gosod llwybr clir ar sut i gyflawni’r targed flwyddyn nesaf. Amlygwyd fod 57% o wastraff y sir ar hyn o bryd yn wastraff bin yn wastraff a all ei ailgylchu. Nodwyd fod 6 amcan y strategaeth am gynorthwyo i leihau gwastraff ac i gyrraedd targedau. Pwysleisiwyd mai dechrau’r daith oedd cyflwyno’r strategaeth heddiw er mwyn cael mynd i ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·         Cefnogwyd yr adroddiad gan nodi'r pwyslais sydd ei angen ar addysgu trigolion, gan amlygu fod y trigolion angen bod yn bartner i’r Cyngor. Diolchwyd am yr adroddiad cydraddoldeb sydd yn rhoi sylwadau teg ac ystyriol o anghenion pobl hyn neu ag anableddau.

·         Diolchwyd am adroddiad syml a hawdd i’w ddarllen a’i ddeall.

·         Holwyd sut y bydd yr adran yn mynd i wneud yr ymgynghori, a holwyd os yw’r bocsys ailgylchu yn parhau i fod yn ffit i bwrpas gan fod mwy a mwy o gardfwrdd yn cyrraedd cartrefi. Nodwyd fod yr adran yn cyd-weithio gyda’r adran gyfathrebu er mwyn ceisio cael nifer uchel o ymatebion, a byddant hefyd yn mynd at gymunedau ac at grwpiau penodol yn ogystal. O ran cartiau-gylchu, nodwyd fod cerbydau ailgylchu wedi ei llunio ar gyfer maint y bocsys sydd ar gael ar hyn o bryd, ac efallai fod angen addysgu pa gardfwrdd sydd yn ei roi yn y cart a pryd mae angen defnyddio’r canolfannau ailgylchu.

 

 

Awdur: Dafydd Williams, Pennaeth Adran a Roland Thomas, Dirprwy Bennaeth yr Adran

8.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT (FERSIWN YMGYNGHORI): RHEOLI'R DEFNYDD O DAI FEL LLETY GWYLIAU (AIL GAREFI A LLETY GWYLIAU TYMOR BYR) pdf eicon PDF 194 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd newidiadau a awgrymir i’r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus fel y cynhwysir yn yr Adroddiad Ymgynghori (Atodiad 1) a ymgorfforir yn y fersiwn diwygiedig o’r Canllaw (gweler Atodiad 2)

 

Mabwysiadwyd CCA: Rheoli’r Defnydd o Dai fel Llety Gwyliau (Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr) i’w ddefnyddio fel ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth wneud penderfyniadau cynllunio yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd.

 

Dirprwywyd yr hawl i Bennaeth Adran yr Amgylchedd wneud unrhyw addasiadau ansylweddol y gallai fod yn ofynnol i'r CCA cyn iddo gael ei gyhoeddi ar ei ffurf derfynol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd newidiadau a awgrymir i’r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus fel y cynhwysir yn yr Adroddiad Ymgynghori (Atodiad 1) a ymgorfforir yn y fersiwn diwygiedig o’r Canllaw (gweler Atodiad 2) 

 

Mabwysiadwyd CCA: Rheoli’r Defnydd o Dai fel Llety Gwyliau (Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr) i’w ddefnyddio fel ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth wneud penderfyniadau cynllunio yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd. 

 

Dirprwywyd yr hawl i Bennaeth Adran yr Amgylchedd wneud unrhyw addasiadau ansylweddol y gallai fod yn ofynnol i'r CCA cyn iddo gael ei gyhoeddi ar ei ffurf derfynol. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyo'r argymhellion o’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ac i fabwysiadu’r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA). Eglurwyd fod yr eitem wedi cael ei drafod yn ôl ym mis Chwefror, a gofynnwyd i’r swyddogion i egluro ymhellach beth sydd wedi ei nodi yn yr ymgynghoriad a beth mae’r adran yn ei fabwysiadu.

 

Nododd Pennaeth Cynorthwyol yr adran Amgylchedd fod ymgynghoriad cyhoeddus bellach wedi ei gynnal ac mae ystyriaeth wedi rhoi i’r sylwadau a gyflwynwyd. Eglurwyd fod angen mabwysiadu’r CCA er mwyn iddo gael ei ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

Eglurwyd ers i gyfarwyddyd Erthygl 4 ddod i rym ym mis Medi'r llynedd, fod yr angen cais cynllun wrth newid prif fan annedd yn ail gartref neu yn llety gwyliau tymor byr. Ategwyd fod y cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi dod i rym ar ôl i’r Cyngor fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol. O ganlyniad i hyn, nodwyd fod y CCA yn ganllaw dros dro i lenwi’r bwlch polisi tan y bydd Cynllun Datblygu Lleol wedi ei greu a mabwysiadu er mwyn cyfarch y materion.

 

Mynegwyd fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal dros gyfnod o chwe wythnos, a bod 28 o sylwadau dilys wedi ei derbyn gan 24 o ymatebwyr. Nodwyd fod nifer o’r sylwadau yn canolbwyntio ar gyfarwyddiadau Erthygl 4 yn hytrach na’r canllaw yn benodol. Esboniwyd fod y math o sylwadau yn cynnwys addasrwydd rhai tai fel prif annedd ac o ganlyniad rhoi hyblygrwydd o ran ail gartrefi. Nodwyd fod rhoi hyblygrwydd mor fuan yn gallu arwain at danseilio Erthygl 4. Esboniwyd fod pob sylwad wedi cael ystyriaeth fanwl ond nad oedd un o’r sylwadau wedi arwain at newidiadau sylfaenol i’r canllaw, dim ond man newidiadau. Eglurwyd fod yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ogystal â'r canllaw drafft wedi cael ystyriaeth bellach gan y Gweithgor Polisi sydd wedi nodi cefnogaeth i’r ymateb i’r ymatebion ac i’r cynllun atodol drafft.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·         Amlygwyd y sialens o gael balans rhwng cefnogi economi twristiaeth ac amddiffyn mynediad pobl leol at dai a holwyd sut mae cael y balans yn gywir. Nodwyd fod sylwadau o’r math wedi treiddio drwy’r ymgynghoriadau cyhoeddus a bod angen rhoi ystyriaeth fanwl i hyn wrth greu Cynllun Gweithredu Lleol newydd  ynghyd a’r polisïau manylach fydd ei angen. Eglurwyd yr angen i gydblethu’r ddau amcan. 

Awdur: Gareth Jones

9.

CYNLLUNIAU CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN 2025-26 GWYNEDD pdf eicon PDF 192 KB

Mae Atodiad 1 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet n unig. Mae’r Atodiad yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae cynnwys yr eitem yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a masnachol sensitif am nifer o brosiectau. Mae hyn yn berthnasol i nifer o sefydliadau.

Cyflwynwyd gan: Cyng. Richard Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i ymrwymo hyd at £7,901,000 o ddyraniad 2025/26 Gwynedd o Gronfa Ffyniant Cyffredin y DG I'r 14 cynllun a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Dirprwywyd yr hawl I'r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr i gadarnhau’r manylion y cynlluniau a’r cyfraniad ariannol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R. Medwyn Hughes 

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i ymrwymo hyd at £7,901,000 o ddyraniad 2025/26 Gwynedd o Gronfa Ffyniant Cyffredin y DG I'r 14 cynllun a nodwyd yn yr adroddiad. 

 

Dirprwywyd yr hawl i'r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr i gadarnhau’r manylion y cynlluniau a’r cyfraniad ariannol.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y gronfa yn un a ariennir gan Lywodraeth y DU er mwyn datblygu’r economi a chymunedau fel rhan o’r cynlluniau a grëwyd i sicrhau arian yn dilyn gadael Ewrop. Amlygwyd fod gan y Cyngor 3 rôl wrth ddelio gyda’r gronfa, y Cyngor yw’r corff arweiniol ar gyfer y gogledd, eu bod penderfynu ar ba gynlluniau sydd yn cael eu hariannu yma yng Ngwynedd ac yn arwain ar brosiectau yn ogystal. Nodwyd fod £8.19m ar gael i Wynedd, gyda £7.9m ar gael i brosiectau.

 

Eglurwyd fod y prosiectau sydd wedi eu cyflwyno wedi bod o flaen panel y gronfa ac wedi eu trafod yn y Tîm Arweinyddiaeth, ac o ganlyniad wedi ei graffu yn fanwl. Mynegwyd fod y prosiectau yn dod a’r gwerth mwyaf i drigolion Gwynedd.

 

Ychwanegodd Rheolwyr Gwasanaethau Datblygu’r Economi fod y pecyn prosiectau sydd wedi eu cynnig yn rhai sydd yn adeiladu ar beth sydd wedi ei ddysgu ynghyd a’r llwyddiannau dros y tair blynedd diwethaf. Eglurwyd fod eleni yn gyfnod pontio yn ariannol a bod y cynlluniau wedi eu lledaenu yn deg yn ddaearyddol ac o ran carfannau o gymdeithas yng Ngwynedd. Nodwyd fod saith cynllun yn gweithredu yng Ngwynedd yn unig gyda saith cynllun arall yn gweithredu ar y cyd gyda siroedd eraill. Tynnwyd sylw at brosiectau sydd yn gronfeydd llai i gefnogi amrywiaeth o gynlluniau llai i bobl ar draws Gwynedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·         Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd balchder o weld cynlluniau penodol i weithio gyda phobl ifanc ynghyd a phartneriaethau gyda chymunedau i’r tyfu a’i datblygu.

·         Amlygwyd fod y cynlluniau yn amlwg wedi eu craffu ac yn hapus i weld prosiectau cytbwys. Nodwyd yr angen i ariannu am gyfnod tu hwnt i fyr a bod angen cynlluniau tymor hir.

·         Holwyd os yw’r iaith wedi cael ei ystyried wrth benderfynu ar gynlluniau. Eglurwyd fod iaith yn ganolog i bob penderfyniad a bod amodau o ran derbyn arian o’r gronfa i gyd-fynd a pholisi iaith y Cyngor ynghyd a hyrwyddo’r iaith. Nodwyd fod nifer o’r cynlluniau i ddatblygu cyfleodd gwaith, ac felly gyda’r iaith rhan wreiddiol ac yn cyfrannu ar ddatblygu’r iaith.

 

 

Awdur: Dylan Griffiths, Rheolwr Gwasanaeth Datblygu’r Economi,

10.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 121 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. 

 

11.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn dilyn y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig o dan baragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cytunwyd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn dilyn y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig o dan baragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Eglurwyd fod budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabuwyd fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau.

12.

ARWEINIAD AR GYFER SYSTEM RHEOLI'R SEFYDLIAD

Cyflwynwyd gan: Cyng. Llio Elenid Owen a Cyng. Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd rhoi cam cyntaf prosiect DSB5 - System Rheoli’r Sefydliad yn y Cynllun Digidol ar waith er mwyn diwallu anghenion Adnoddau Dynol a Chyflogau, ond i oedi datblygiad system rheolaeth ariannol newydd tan fydd cymeradwyaeth bellach gan y Cabinet.

 

Cymeradwywyd rhyddhau £1.2m o adnoddau o’r Gronfa Drawsffurfio fel cyfraniad at gostau un-tro datblygu'r system Cyflogau / Adnoddau Dynol newydd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones a’r Cyng. Llio Elenid Owen.  

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd rhoi cam cyntaf prosiect DSB5 - System Rheoli’r Sefydliad yn y Cynllun Digidol ar waith er mwyn diwallu anghenion Adnoddau Dynol a Chyflogau, ond i oedi datblygiad system rheolaeth ariannol newydd tan fydd cymeradwyaeth bellach gan y Cabinet. 

 

Cymeradwywyd rhyddhau £1.2m o adnoddau o’r Gronfa Drawsffurfio fel cyfraniad at gostau un-tro datblygu'r system Cyflogau / Adnoddau Dynol newydd.  

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr eitem

Awdur: Huw Ynyr, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid (Digidol)