Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Craig ab Iago a Dilwyn Morgan.

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganwyd bod gan aelodau’r  Cabinet fuddiant gydag Eitem 5 gan fod y Cabinet yn ymddiriedolwyr Amgueddfa Lloyd George. Cadarnhawyd nad oedd y buddiant hwn yn un sy’n rhagfarnu.

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Dafydd Meurig gyda Eitem 5 oherwydd ei fod yn Gadeirydd ar fwrdd un o’r ymgeiswyr. Nodwyd bod y buddiant hwn yn un oedd yn rhagfarnu ac bu i’r Cynghorydd adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. 

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Ioan Thomas gydag Eitem 5 gan fod cysylltiad teuluol iddo yn Brif Weithredwr un o’r ymgeiswyr. Nodwyd bod y buddiant hwn yn un sy’n rhagfarnu a bu i’r Cynghorydd adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Sion Huws (Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau (Dirprwy Swyddog Monitro)) oherwydd cysylltiad teuluol gyda un o’r ymgeiswyr. Nodwyd bod y buddiant hwn yn un sy’n rhagfarnu ac bu i’r swyddog adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. 

 

3.

MATERION BRYS pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd bydd y Cyngor yn ariannu’r gost o ddarparu cynllun ‘Darpariaeth Prydau Ysgol am ddim yn ystod y Gwyliau’ i deuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dros wyliau’r Haf 2023.

 

Pwysleisiwyd bod y penderfyniad hwn yn berthnasol i’r gwyliau hwn yn unig yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru mewn llythyr dyddiedig 28 Mehefin 2023 ble ddywedwyd nad oeddent yn ymestyn y cynllun gros gyfnod gwyliau Haf 2023.

 

Cytunwyd i lunio llythyr i Lywodraeth Cyrmu er mwyn mynegi siomedigaeth y Cabinet nad oedd y cynllun yn cael ei gynnal dros yr Haf ac gan bod y cadarnhad nad oedd hynny’n digwydd wedi cyrraedd yn agos iawn i wyliau’r Haf. Eglurwyd byddai’r llythyr yn cynnwys rhesymau’r Cabinet i ariannu’r cynllun dros yr Haf.

 

Cofnod:

TALIADAU I DEULUOEDD SY’N GYMWYS AM BRYDAU YSGOL AM DDIM DROS WYLIAU’R HAF 2023

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd bydd y Cyngor yn ariannu’r gost o ddarparu cynllun ‘Darpariaeth Prydau Ysgol am ddim yn ystod y Gwyliau’ i deuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dros wyliau’r Haf 2023.

 

Pwysleisiwyd bod y penderfyniad hwn yn berthnasol i’r gwyliau hwn yn unig yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru mewn llythyr dyddiedig 28 Mehefin 2023 ble ddywedwyd nad oeddent yn ymestyn y cynllun dros gyfnod gwyliau Haf 2023.

 

Cytunwyd i lunio llythyr i Lywodraeth Cymru er mwyn mynegi siomedigaeth y Cabinet nad oedd y cynllun yn cael ei gynnal dros yr Haf ac gan bod y cadarnhad nad oedd hynny’n digwydd wedi cyrraedd yn agos iawn i wyliau’r Haf. Eglurwyd byddai’r llythyr yn cynnwys rhesymau’r Cabinet i ariannu’r cynllun dros yr Haf

 

TRAFODAETH

 

Mynegwyd siomiant bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r toriad ariannol hwn yn agos iawn at wyliau’r haf, yn enwedig yn sgil argyfwng costau byw diweddar.

 

Cadarnhawyd bod cost tebygol ariannu’r cynllun hwn dros wyliau’r Haf 2023 oddeutu £316,000. Eglurwyd bod y ffigwr hwn wedi cael ei amcangyfrif ar gost o £117 y disgybl (cyfanswm o £3.90 y diwrnod am gyfnod o 30 diwrnod dros wyliau’r haf). Manylwyd bod oddeutu 2700 o ddisgyblion wedi bod yn hawlio prydau ysgol am ddim.

 

Eglurwyd mai arian un tro yw’r cynnig hwn a byddai angen gwneud bid parhaol er mwyn galluogi ariannu cynllun o’r fath yn y dyfodol. Manylwyd na fydd ariannu’r cynllun hwn yn amharu ar gyllidebau parhaol a hir dymor y Cyngor oherwydd ei fod yn daliad un tro ariannir o gyllideb wrth gefn. Cadarnhawyd na fyddai caniatáu’r taliad hwn yn creu trafferthion ariannol i’r Cyngor.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DG: YMRWYMIADAU O DDYRANIAD GWYNEDD pdf eicon PDF 137 KB

Mae Atodiadau 1 a 2 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet yn unig.

 

Mae’r ddau atodiad yn eithriedig o dan paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion Ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r atodiadau i’r  adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r yr ymgeiswyr ac yn tanseilio hyder rhai eraill i rannu gwybodaeth sensitif  ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

 

 

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cytunwyd i ymrwymo cyfanswm o £21,352,966 o ddyraniad Gwynedd o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DG i’r Cynlluniau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn unol â’r symiau a nodwyd.

 

2.    Awdurdodwyd Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr, i awdurdodi rhyddhau llythyrau cynnig i’r cynlluniau yn ddarostyngedig i gwblhau gwiriadau terfynol a derbyn sêl bendith Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd i unrhyw amodau arbennig.

 

3.    Cytunwyd i sefydlu pedair Cronfa Galluogi (gyda cyfanswm cyllideb o £6,131,000) i ddosbarthu symiau llai o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a chymunedau’r Sir gan awdurdodi gweithredu tair cronfa dan reolaeth Cyngor Gwynedd.

 

4.    Gofynwyd i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gynnal ymchwiliad i’r maes gwaith gefnogi mentra cymunedol / cymdeithasol er cynyddu dealltweiaeth y Cyngor a sicrhau fod ymdrechion sefydliadau yn cydweddu ac yn ategu eu gilydd

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Cytunwyd i ymrwymo cyfanswm o £21,352,966 o ddyraniad Gwynedd o Gronfa Ffyniant Cyffredin y DG i’r Cynlluniau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn unol â’r symiau a nodwyd.

 

2.    Awdurdodwyd Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr, i ryddhau llythyrau cynnig i’r cynlluniau yn ddarostyngedig i gwblhau gwiriadau terfynol a derbyn sêl bendith Panel Cronfa Ffyniant Cyffredin: Gwynedd i unrhyw amodau arbennig.

 

3.    Cytunwyd i sefydlu pedair Cronfa Galluogi (gyda cyfanswm cyllideb o £6,131,000) i ddosbarthu symiau llai o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a chymunedau’r Sir gan awdurdodi gweithredu tair cronfa dan reolaeth Cyngor Gwynedd. 

 

4.    Gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gynnal ymchwiliad i’r maes gwaith cefnogi mentra cymunedol / cymdeithasol er cynyddu dealltwriaeth y Cyngor a sicrhau fod ymdrechion sefydliadau yn cydweddu ac yn ategu ei gilydd.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod penderfyniad y Cabinet yng nghyfarfod 24 Ionawr 2023 wedi sefydlu gweithdrefn ar gyfer gweinyddu Cronfa Ffyniant Cyffredin yng Ngwynedd. Esboniwyd bod Panel Cronfa Ffyniant Cyffredin: Gwynedd wedi’i sefydlu yn dilyn y penderfyniad hwn, i gadarnhau pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian, yn dilyn cyfnod o dderbyn ceisiadau.

 

Adroddwyd bod y gronfa werth £24.4miliwn ac y dylid ei ddyrannu erbyn diwedd mis Mawrth 2025. Nodwyd bod Panel Cronfa Ffyniant Cyffredin: Gwynedd wedi derbyn 144 o geisiadau (cyfwerth â £52 miliwn). Cadarnhawyd bod 38 o’r ceisiadau hynny wedi bod yn llwyddiannus, a bod cronfeydd ychwanegol wedi eu sefydlu er mwyn cefnogi mentrau llai.

 

Diolchwyd i swyddogion am asesu ceisiadau’r gronfa ffyniant yn effeithiol a thryloyw.

 

Cadarnhawyd bod trawstoriad o brosiectau wedi derbyn cefnogaeth y gronfa, gyda nifer o fathau gwahanol o gynlluniau a lleoliadau wedi cael eu cynnwys ar derfyn y cyfnod ceisiadau agored. Manylwyd y bwriedir agor cronfeydd am symiau bychan o arian gan ddefnyddio’r gronfa hon er mwyn sicrhau bod yr arian yn cyrraedd pob ardal o fewn Gwynedd.

 

Mynegwyd siomiant bod y cyfnod amser i wario arian y gronfa wedi cael ei leihau yn sgil cadarnhad hwyr o drefniadau Llywodraeth Prydain.

 

Awdur: Dylan Griffiths (Rheolwr Gwasanaeth Datblygu'r Economi)) and Siwan Lisa Evans (Rheolwr Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd))

6.

PENNAETH CYNORTHWYOL TRAFNIDIAETH pdf eicon PDF 711 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd fod y Cyngor yn rhyddhau £265,000 o’r gronfa trawsffurfio i gyllido swydd Pennaeth Cynorthwyol Trafnidiaeth am gyfnod o 3 blynedd i gychwyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.    

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd fod y Cyngor yn rhyddhau £265,000 o’r gronfa trawsffurfio i gyllido swydd Pennaeth Cynorthwyol Trafnidiaeth am gyfnod o 3 blynedd i gychwyn. 

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd byddai cyflogi Pennaeth Cynorthwyol Trafnidiaeth yn galluogi’r Adran Amgylchedd i gyflawni mwy o fewn y maes. Nodwyd bod y swydd wedi cael ei diddymu yn 2019 yn dilyn adolygiad rheolaethol, gyda’r nod o geisio ymdopi heb lenwi’r swydd.

 

Adroddwyd bod pwysau cynyddol yn y maes trafnidiaeth yn dilyn y pandemig, yn ogystal â phrosiectau newydd, wedi arwain i’r dyhead hwn i ail-benodi swyddog i’r rôl. Mae’r materion hyn yn cynnwys:

 

·       Coridor Gwyrdd Ardudwy

·       Teithio Llesol

·       Cludiant cyhoeddus a’r Cynllun argyfwng bysiau

·       Adolygiad trafnidiaeth cyhoeddus

·       Cynllun 20mya

·       Meysydd parcio a gorfodaeth parcio

·       Materion yn codi o adroddiad Comisiwn Trafnidiaeth Cymru

·       Rhwydwaith gwefru cerbydau trydan

·       Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a’r cynllun trafnidiaeth ranbarthol

 

Cydnabuwyd bod capasiti’r Adran i ymdrin a phwysau cynyddol wedi bod yn brin ar adegau. Teimlwyd bod penodi swyddog i’r rôl er mwyn cyfarch y materion hyn oll yn angenrheidiol.

 

Awdur: Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr)

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’u diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

8.

CANOLFAN IECHYD A LLES BANGOR

(Dogfennau I Aelodau’r Cabinet yn unig)

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cefnogwyd y cyfeiriad ynglŷn a sefydlu Canolfan Iechyd a Lles Bangor ac awdurdodi Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad gyda Phennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a Pennaeth Cyllid i barhau gyda’r trafodaethau ac adnodd ymhellach i’r Cabinet yn unol a’r rhaglen amlinellol.

 

2.    Awdurdodwyd i’r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad gyda Phennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol i gwblhau Cytundeb Opsiwn ar gyfer rhannau o’r Ganolfan Menai, Bangor yn unol â thelerau i’w pennu gan Reolwr Stadau’r Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Cefnogwyd y cyfeiriad ynglŷn â sefydlu Canolfan Iechyd a Lles Bangor ac awdurdodi Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad gyda Phennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i barhau gyda’r trafodaethau ac adrodd ymhellach i’r Cabinet yn unol â’r rhaglen amlinellol.

 

2.    Awdurdodi y Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad gyda Phennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol i gwblhau Cytundeb Opsiwn ar gyfer rhannau o Ganolfan Menai, Bangor yn unol â thelerau i’w pennu gan Reolwr Stadau’r Cyngor. 

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.

 

Awdur: Llŷr Beaumont Jones (Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned) and Lowri Roberts (Rheolwr Stadau, Adran Tai ac Eiddo)