Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Eric M. Jones a Dilwyn Lloyd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol. Cofnod: (a) Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Dewi W. Roberts,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C18/0127/39/LL); ·
Y Cynghorydd E. Selwyn
Griffiths, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0078/44/LL); ·
Y Cynghorydd Charles Wyn
Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0132/23/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y
ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. (c) Nododd aelodau eu bod wedi eu lobio gan yr aelod lleol yng nghyswllt eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0132/23/LL). |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y
ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau
o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C18/0127/39/LL - Cwt Glan Môr, 27, Porth Mawr, Abersoch, Pwllheli PDF 96 KB Adeiladu cwt glan môr yn lle un presennol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi W. Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu cwt glan môr yn lle un presennol. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar
gyfer cyfnewid cwt glan môr presennol am gwt glan môr newydd, gan gylchdroi ei
osodiad a chynyddu ei faint. Nodwyd y byddai’r cwt glan môr arfaethedig gyda’i
osodiad wedi ei gylchdroi yn gweddu'r lleoliad gyda chytiau cyfagos wedi eu
gosod yn yr un modd. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi y derbyniwyd
cadarnhad gan yr ymgeisydd y byddai’r drws yn felyn a’r cwt yn las. Nodwyd, o ystyried mai cwt i gymryd lle'r un gwreiddiol oedd dan sylw, ni
ystyriwyd y byddai newid arwyddocaol ar dirlun yr Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE), ar fioamrywiaeth nac ar yr arfordir. Roedd y bwriad yn
dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a
roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Pryderon o ran newidiadau i’r
cytiau glan môr gyda defnydd cynyddol o ddrysau rholio; ·
Bod yr ardal yn bwysig o ran
twristiaeth; ·
Bod yr Uned AHNE a’r Cyngor
Cymuned yn nodi bod y cwt glan môr presennol mewn cyflwr gweddol dda; ·
Bod cylchdroi ei osodiad yn
welliant ond nid oedd rhesymeg ddigonol o ran cynyddu ei faint; ·
Bod yr Uned AHNE yn nodi “..y
dylid osgoi adeilad rhy lydan ac uchel. Hefyd, er cadw cymeriad hanesyddol yr
adeilad gwreiddiol awgrymir shitiau rhychog (Corrugated) yn hytrach na box
profile a drysau pren (nid shutters).”; ·
Nid oedd yn hollol wrthwynebus
i’r bwriad ond yn pryderu bod y cwt yn mynd rhy fawr; ·
Ei fod yn falch o dderbyn
cadarnhad o ran lliwiau’r gorffeniad allanol. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais. Nododd aelod nad oedd diben gwrthwynebu’r bwriad oherwydd
bod cwt glan môr wedi ei leoli ar y safle eisoes. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed y posibilrwydd o
osod amod o ran gorffeniad allanol gyda shitiau rhychog, eglurodd y Rheolwr
Cynllunio nad oedd yn ofynnol i wneud cais cynllunio i newid deunydd allanol
cwt glan môr gan ei ystyrir fel cynnal a thrwsio. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Unol â’r cynlluniau 2. Lliw gorffeniad allanol 3. Dim defnydd byw na chysgu achlysurol. |
|
Cais Rhif C18/0244/25/LL - Goetre Uchaf, Penrhosgarnedd, Bangor PDF 124 KB Codi chwech tŷ newydd gan gynnwys 4 tŷ ar wahan a 2 dŷ par gyda pharcio a gerddi cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi chwech tŷ newydd gan gynnwys 4 tŷ ar wahân
a 2 dŷ pâr gyda pharcio a gerddi cysylltiedig. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle yn gyfan
gwbl o fewn tir a glustnodwyd fel Llecyn Agored i’w Warchod ar fapiau Mewnosod
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl). Nododd bod Polisi ISA 4 y
CDLl yn annog gwrthod cynhigion a fyddai'n arwain at golli llecynnau agored
presennol, gan gynnwys mannau gwyrdd amwynder, oni bai y gellir cwrdd â phedwar
maen prawf penodol, sef: ·
Bod gormodedd cyffredinol o’r
ddarpariaeth yn y gymuned – Roedd y Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad a
gyflwynwyd gyda’r cais yn honni bod 4.93ha o lecyn agored presennol o fewn stad
Goetre Uchaf (10.55ha yn ei gyfanrwydd). Nid oedd manylion yn yr adroddiad o
ran pa dir a ystyriwyd yn llecyn agored. Nid oedd unrhyw dystiolaeth wedi ei
gyflwyno i ddangos bod yr angen am lecynnau agored yn yr ardal wedi lleihau. ·
Bod yr angen hirdymor ar gyfer
y cyfleuster wedi darfod - Wrth ystyried nad oedd y datblygiad tai presennol
eto wedi gorffen ni chredir bod modd dadlau bod yr angen hirdymor ar gyfer y
cyfleuster wedi gorffen gan nad ydoedd wedi cyrraedd ei lawn defnydd. ·
Y gellir cael darpariaeth
amgen o’r un safon mewn ardal ac sydd yr un mor hygyrch i’r gymuned leol dan
sylw - Roedd llawer o’r tir gwag a dybir sydd wedi ei gynnwys yng nghyfrifiad
yr ymgeisydd o Lecynnau Agored presennol, yn dir llethrog coediog ger yr A55 ac
ni chredir ei fod yn rhesymol ystyried y tir hwnnw fel tir o’r un ansawdd
mwynderol. ·
Y byddai ailddatblygu rhan
fechan o’r safle yn arwain at gadw ac ehangu’r cyfleuster fel adnodd hamdden –
Ni fyddai unrhyw fuddion hamdden yn deillio o’r datblygiad fel y cynigwyd. Argymhellwyd i’r Pwyllgor wrthod y cais ar y sail nad oedd cyfiawnhad
digonol wedi ei gyflwyno er caniatáu colli llecyn agored presennol felly nid
oedd y cynnig yn cwrdd gyda gofynion ISA 4 y CDLl. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y
cais. PENDERFYNWYD gwrthod y cais. Rheswm: Nid oes cyfiawnhad digonol wedi ei gyflwyno er caniatáu colli llecyn agored presennol ac felly nid yw’r cynnig yn cwrdd gyda gofynion ISA 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. |
|
Cais Rhif C18/0312/25/LL - 2, Maes Mawr, Penrhosgarnedd, Bangor PDF 118 KB Codi anecs un lloft un llawr. AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
anecs un llofft un llawr. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod y cais i godi anecs un llawr yng ngardd gefn yr eiddo a oedd
wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu Bangor. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd bod egwyddor o leoli datblygiadau newydd wedi ei
selio ym Mholisi PCYFF1 o’r CDLl a oedd yn datgan y caniateir cynigion y tu
fewn i ffiniau datblygu, credir bod y cais hwn ar gyfer darparu anecs go fechan
ei faint a’i raddfa o fewn cwrtil preswyl 2 Maes Mawr yn dderbyniol mewn
egwyddor. Manylwyd ar y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn y
cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar sail aflonyddwch sŵn, gor-ddatblygiad,
mwynderau gweledol a diogelwch ffyrdd a gofynion parcio. Yn dilyn ystyried yr holl faterion perthnasol yn ogystal â’r
gwrthwynebiadau a sylwadau a dderbyniwyd ar y cais, roedd y datblygiad yn
dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a
roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Y bwriedir adeiladu anecs
atodol yn bennaf ar gyfer ei fam fregus; ·
Eu bod wedi ystyried estyniad
i’r tŷ ond ni fyddai’n bodloni eu hanghenion ac fe fyddai’n cael mwy o
effaith ar y lleoliad; ·
Bod dyluniad yr anecs yn
cydweddu efo’r tŷ a’r adeiladau cyfagos; ·
Bod digonedd o le parcio. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt yr angen i’r
ymgeisydd dderbyn trwydded ôl-weithredol ar gyfer creu'r fynedfa yng nghefn yr
eiddo, cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio nad oedd angen caniatâd cynllunio ar
gyfer y fynedfa yng nghefn yr eiddo ond byddai’n rhaid i’r ymgeisydd dderbyn
trwydded i gyfreithloni’r defnydd. Nododd aelod ei chefnogaeth i’r bwriad i ddarparu lle byw
ar gyfer oedolyn bregus gan nodi bod maint a dyluniad yr anecs un llawr yn
dderbyniol. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau. 3. Llechi naturiol. 4. Cyfyngu defnydd yr anecs i ddefnydd atodol
i ddefnydd preswyl y prif dŷ. 5. Tynnu hawliau
datblygiad a ganiateir parthed ffenestri ac estyniadau newydd. 6. Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir parthed codi ffensys/waliau. |
|
Cais Rhif C18/0078/44/LL - Trwyn Cae Iago, Borth-y-Gest, Porthmadog PDF 122 KB Dymchwel ac ail godi tŷ. AELOD LLEOL: Cynghorydd E. Selwyn Griffiths Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel ac ail godi tŷ. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod
yr eiddo presennol wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu Borth-y-Gest, ond
roedd gweddill y safle tua’r arfordir wedi ei leoli tu allan. Tynnwyd sylw bod
y safle o fewn Ardal Tirwedd Arbennig. Nodwyd bod arwynebedd llawr yr annedd presennol yn oddeutu
173m2 gyda’r tŷ arfaethedig yn cynnwys 3 llawr ac efo
arwynebedd llawr o oddeutu 465m2. Amlygwyd yr awgrymwyd i’r ymgeisydd nad oedd y cynllun a
gyflwynwyd ar gyfer derbyn cyngor cyn cyflwyno cais yn dderbyniol oherwydd ei
leoliad tu allan i’r ffin ddatblygu, ei faint a’i raddfa. ‘Roedd y cynlluniau a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn wreiddiol yn parhau i leoli y rhan fwyaf o’r
annedd bwriedig y tu allan i’r ffin ddatblygu, ac er gwaethaf cyngor pellach yn
ystod delio gyda’r cais cynllunio, roedd cyfran o’r annedd bwriedig yn parhau i
fod tu allan i’r ffin ddatblygu, a’i faint a’i raddfa yn sylweddol fwy na’r
eiddo presennol. Nodwyd y rhoddwyd cyngor clir ar sut y gellir goresgyn effaith
gormesol ac effaith ar fwynderau’r eiddo gerllaw. Eglurwyd yr ystyrir y byddai tŷ wedi ei leoli o fewn y
ffin ddatblygu ac wedi ei ddylunio’n sensitif i barchu’r ardal o’i gwmpas yn
dderbyniol; ond yn yr achos yma; ystyrir fod maint, swmp a gosodiad y tŷ
bwriedig yn annerbyniol a golygai hyn fod y dyluniad yn creu strwythur sy’n
anghydnaws a’r ochr llethr amlwg, ac sy’n arwain at effaith weledol sylweddol
fwy na’r adeilad presennol. Nodwyd byddai’r datblygiad bwriedig yn achosi effaith weledol
sylweddol fwy na’r tŷ presennol, ac yn achosi effaith andwyol ar
fwynderau’r trigolion cyfagos, ac i’r perwyl hyn, ystyriwyd fod y bwriad yn
annerbyniol ac yn groes i’r polisïau a nodwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn gymydog a byddai’r
bwriad yn cael effaith ar ei breifatrwydd, roedd wedi gofyn i’r tŷ
bwriedig gael ei symud yn ôl i fod ar yr un llinell a’i dŷ; ·
Bod y tŷ bwriedig yn mynd
yn sylweddol tu allan i’r ffin datblygu yn enwedig ar ochr deheuol y safle; ·
Pryder o ran effaith gweledol
y datblygiad; ·
Ei bryder o ran y gwaith
peirianyddol ynghlwm â’r bwriad a’i effaith ar sylfaen ei dŷ; ·
Dylai cyflwyno arolwg
geo-dechnegol fod yn ofynnol oherwydd bod y safle ar ymyl clogwyn; ·
Byddai caniatáu’r cais yn
gosod cynsail a fyddai’n niweidiol i’r ardal a Gwynedd gyfan. (c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Diolch i’r swyddogion
cynllunio am eu gwaith a’u trafodaethau efo’r ymgeisydd; ·
Nid oedd yn erbyn datblygiadau
modern a ni fyddai’n gwrthwynebu’r bwriad o ddymchwel y tŷ presennol pe
byddai’n cynnig tŷ gwell; ·
Ei fod yn or-ddatblygiad o’r
safle gyda rhan o’r tŷ tu allan i’r ffin datblygu; · Pryder o ran y bwriad i osod wal 8 medr o uchel ar ochr y t ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais Rhif C18/0132/23/LL - Tir Cae'r Eglwys, Ffordd Llanberis, Llanrug, Caernarfon PDF 111 KB Codi 9 tŷ deulawr (gan gynnwys tŷ fforddiadwy), mynedfa newydd, llecynau parcio a throi. AELOD LLEOL: Cynghorydd Charles Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi 9 tŷ deulawr (gan gynnwys tŷ
fforddiadwy), mynedfa newydd, llecynnau parcio a throi. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli tu fewn i ffin datblygu canolfan wasanaeth
lleol Llanrug ac wedi ei ddynodi’n bwrpasol ar gyfer datblygiad tai. Nodwyd bod
y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor. Eglurwyd bod y safle yn wastad ei natur ac yn weledol iawn
o’r ffordd sirol dosbarth I cyfagos (Ffordd Llanberis). Nodwyd bod gosodiad y
tai o fewn y safle yn golygu byddai rhan sylweddol o’r safle yn ardal
amwynder/gwyrdd a chan ystyried ffurf, maint, dwysedd, edrychiad a dyluniad y
tai arfaethedig ni chredir byddai’r bwriad yn creu datblygiad estron na
gormesol a fyddai’n cael ad-drawiad sylweddol nac arwyddocaol ar fwynderau
gweledol y rhan yma o’r strydlun. Tynnwyd sylw bod y bwriad yn golygu creu mynedfa safonol
oddi ar y ffordd sirol dosbarth I cyfagos ynghyd ac ymestyn y llwybr troed
presennol i mewn i’r safle ei hun. Diwygiwyd dyluniad a chynllun ffordd y stad
ynghyd â’r llecynnau parcio er mwyn cydymffurfio gyda gofynion yr Uned
Drafnidiaeth. Nodwyd bod lleoli mynediad newydd ar y rhan yma o’r briffordd
hefyd yn dderbyniol ar sail gofynion diogelwch ffyrdd ar sail gwelededd a’r
niferoedd o dai byddai’r fynedfa yn ei wasanaethu. Nodwyd bod trydydd partïon wedi argymell dylai’r bwriad
cyfredol hwn gynnwys cylchfan, llwybr/ffordd gyswllt a llecynnau parcio fel yn
y cais blaenorol a ganiatawyd yn Rhagfyr 2012. Fodd bynnag, roedd rhaid
ystyried y ffaith bod yr elfennau hyn o’r cais blaenorol wedi eu cynnwys o fewn
y cais ei hun ar ddymuniad yr ymgeisydd bryd hynny (Esgobaeth Bangor) ac nad
oeddynt yn angenrheidiol nac yn statudol ofynnol er mwyn sicrhau diogelwch
ffyrdd nac er mwyn gwneud y bwriad yn dderbyniol o safbwynt materion cynllunio. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), nododd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y tir dan sylw wedi ei
drosglwyddo dros 100 mlynedd yn ôl i’r eglwys ar gyfer adeiladu eglwys ond ni
wnaed ac fe gadwyd y tir ar gyfer defnydd cymunedol; ·
Bod y safle gyferbyn â’r ysgol
gyda llinellau melyn o ran atal parcio ynghyd â bysiau yn stopio ar gyfer yr
ysgol ac arosfa bws arall; ·
Bod y safle yng nghanol
pentref Llanrug ac yn agos at Sgwâr y pentref lle mae cyffordd gymhleth yn
bodoli gyda phum ffordd yn cyfarfod yno; ·
Yn dilyn trafodaethau fe
gynigiodd y Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd gynllun posib i wella’r
sefyllfa o ran diogelwch ffyrdd a fe gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus. Cadarnhaodd
yr esgobaeth y byddent yn gweithredu’n unol â’r hyn a gytunwyd gan gynnwys
llwybr gysylltiol rhwng Ffordd yr Orsaf a Ffordd Llanberis ynghyd â chylchfan i
gysylltu’r safle a’r ffordd gysylltiol; · Bod yr esgobaeth wedi gwerthu’r tir am bris rhesymol oherwydd bod angen cynnwys mannau parcio, llwybr cysylltiol a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |