Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Stephen Churchman, Anne
Lloyd Jones, Huw G. Wyn Jones ac Edgar Wyn Owen |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi
materion protocol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr
eitem ganlynol am y rheswm a nodir: ·
Y Cynghorydd Owain Williams -
yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C19/0090/33/LL) oherwydd ei fod yn berchen Parc Carafanau llai na 6
milltir o’r safle. ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams; -
yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C19/0090/33/LL)
oherwydd ei fod yn fab i berchennog Parc Carafanau llai na 6 milltir o’r safle. -
yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C19/0338/42/LL) oherwydd ei fod wedi datgan ei farn wrth alw’r cais i bwyllgor Roedd yr aelodau
o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y
drafodaeth ar y cais (b)
Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Anwen Davies (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0990/33/LL) ·
Y Cynghorydd Glyn Daniels (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C19/0305/03/LL) ·
Y Cynghorydd Gareth Morris Jones (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio
rhif C19/0338/42/LL) Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
1.07.2019 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 01
Gorffennaf 2019, fel rhai cywir |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Lleoli 8 pod ychwanegol, estyniad safle, ffordd fynediad, mannau parcio ac ymestyn adeilad cyfleusterau AELOD LLEOL:
Cynghorydd Anwen J Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Lleoli 8 pod ychwanegol, estyniad safle, ffordd
fynediad, mannau parcio ac ymestyn adeilad cyfleusterau Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd Amlygwyd bod y
cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth aelod
o’r Cyngor. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan
nodi bod y cais yn ymwneud â chreu safle gwersylla ar gyfer 8 pod a fyddai’n
cynnwys ffordd fynediad a mannau parcio.
Nodwyd bod bwriad hefyd adeiladu estyniad i’r ystafell hunanarlwyo
presennol er mwyn gwasanaethu’r 8 pod newydd.
O’r
wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais amlygwyd y byddai cyfnod meddiannu’r
podiau rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref ac y byddai caniatâd cynllunio yn cyfyngu
meddiannu’r safle i’r cyfnod hwnnw mewn unrhyw flwyddyn. Byddai’r podiau yn
aros ar y safle trwy gydol y flwyddyn, ond ddim yn cael eu meddiannu yn ystod
misoedd y gaeaf . O ystyried na fyddai’r podiau i’w symud i’w storio ar safle
neillog yn ystod y misoedd yma ystyriwyd y cais o dan Bolisi TWR 3 sy’n ymwneud
a safleoedd carafanau sefydlog a siale a llety gwersylla amgen parhaol.
Gorweddai’r safle oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig ac mae Polisi TWR 3 yn
datgan y gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd llety gwersylla amgen parhaol
newydd oddi fewn i’r Ardal Tirwedd Arbennig.
Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol, adroddwyd bod y cae, oedd yn destun y cais, oddeutu 3 medr
yn uwch na lefel daear y safle carafanau presennol ac fel rhan o’r bwriad, bydd
y cae yn cael ei gloddio fel bod y lefel yn gostwng rhyw 1 medr. O ganlyniad, byddai oddeutu medr isaf y
podiau wedi eu suddo yn y ddaear o’i gymharu â lefel daear bresennol y
cae. Er i ochrau’r safle fod wedi eu
graddio wrth wneud y gwaith cloddio, ystyriwyd y byddai rhan uchaf y podiau yn
parhau'n weledol ac nid oedd bwriad gan yr ymgeisydd i wneud gwaith tirlunio
fel rhan o’r cais. Cydnabuwyd y byddai lliw to’r podiau o wyrdd tywyll yn
lleihau eu hamlygrwydd yn y dirwedd, ond nid yn goresgyn y ffaith y byddai’r
podiau wedi eu lleoli ar dir uwch na’r tir gerllaw. O ystyried hyn, ni fyddai’r bwriad yn gwneud dim i gynnal, gwella neu
adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig a bod y bwriad yn groes
i ofynion Polisi PCYFF 4 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol. Wrth ystyried
materion trafnidiaeth a mynediad nodwyd y byddai mynediad i’r safle ar hyd trac
amaethyddol presennol ac er y byddai’r safle arfaethedig yn rhannu’r un fynedfa
i’r ffordd sirol bydd mynediad gwahanol i’r safle arfaethedig a’r safle
carafanau presennol. Byddai cyfleusterau
fel y toiledau / cawodydd ac ystafell cyfleusterau yn cael eu rhannu rhwng y
safle presennol a’r bwriad arfaethedig. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o
ran diogelwch ffyrdd ac yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- · Yn dilyn awgrym gan Uned Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd am roi gwely ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C19/0305/03/LL - 1 Bro Ddwyryd, Blaenau Ffestiniog PDF 84 KB Estyniad cefn deulawr a lolfa haul ochr AELOD LLEOL:
Cynghorydd R Glyn Daniels Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad cefn
deulawr a lolfa haul ochr Amlygwyd bod y
cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ddymuniad yr
Aelod Lleol. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi estyniad deulawr tô fflat cefn ynghyd â
lolfa haul unllawr ar bwys wal dalcen y tŷ. Amlygwyd y byddai’r estyniad cefn yn mesur
7.8 medr o hyd a 4.8 medr o led ac yn ymestyn o wal gefn y tŷ hyd at wal
derfyn gefn ble mae storfa unllawr ar hyn o bryd. Er nad yw’r bwriad yn debygol
o greu nodwedd amlwg yn y tirlun ehangach, amlygwyd pryder ynglŷn â
graddfa a dyluniad/ffurf yr estyniad cefn mewn perthynas â chymeriad y tŷ
presennol. Nodwyd bod Polisi PCYFF3 yn
cefnogi cynigion os ydynt yn ychwanegu at ac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad
y safle, yr adeilad neu’r ardal a’u bod
yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol. Ategwyd bod yr eiddo wedi ei leoli y tu allan i ffin datblygu ac oddi fewn i
Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Er nad oedd
gwrthwynebiad i ymestyn y tŷ, ystyriwyd nad oedd dyluniad a graddfa'r
estyniad cefn bwriededig, fyddai’n ymestyn 15 medr i’r cefn o’i gymharu ag ochr
y tŷ presennol sy’n mesur 7.2 medr, yn gweddu gydag edrychiad a chymeriad
yr eiddo nac yn dilyn egwyddorion dylunio da. O ganlyniad, nid yw’n cyfarfod
amcanion polisi PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol na gofynion y Canllaw Dylunio.
Adroddwyd hefyd nad oedd y cais yn ymateb gofynion PCYFF 2CDLl oherwydd, er bod
maint cwrtil yr eiddo yn caniatáu lleoli estyniad deulawr, bod yr Uned
Cynllunio wedi awgrymu i’r ymgeisydd bod safle mwy derbyniol ar gael. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod
Lleol, a oedd yn gwrthwynebu’r cais, y pwyntiau canlynol:- ·
Bod yr estyniad yn amharu ar nodweddion yr
ardal ·
Nad oedd yn gweddu i’r safle ·
Bod cais am estyniad ar yr un safle wedi ei
wrthod yn Medi 2018 ·
Pryder yn lleol mai uned gwyliau fydd defnydd yr
estyniad i’r dyfodol c)
Cynigwyd ac eiliwyd
i wrthod cais yn unol a’r argymhelliad ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
Bod cais wedi ei wrthod yn 2018 ·
Bod yr estyniad yn rhy fawr PENDERFYNWYD gwrthod y
cais. 1.
Byddai’r estyniad cefn deulawr, oherwydd ei hyd
a’i raddfa yn creu nodwedd ormesol a ddominyddol fyddai’n cael effaith
niweidiol andwyol ar fwynderau trigolion eiddo cyfagos. Mae'r cais felly'n groes i bolisi PCYFF 2 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol. 2.
Mae’r bwriad yn golygu codi estyniad deulawr
cefn sydd o raddfa a dyluniad nad yw’n cydweddu â chymeriad yr eiddo ac felly
nad yw yn ychwanegu at nac yn gwella ymddangosiad y safle. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisi
PCYFF 3 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol. |
|
Cais Rhif C19/0338/42/LL - Bwthyn Bridyn, Lon Bridyn, Morfa Nefyn, Pwllheli PDF 143 KB Estyniad blaen, creu balconi llawr cyntaf, addasiadau i'r to
ac ymestyn adeilad allanol i greu anecs AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth T Morris Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad blaen,
creu balconi llawr cyntaf, addasiadau i'r to ac ymestyn adeilad allanol i greu
anecs Amlygwyd bod y
cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol a dau Aelod arall. (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer codi
estyniad porth ar flaen y tŷ; gosod balconi llawr cyntaf ar hyd blaen y
tŷ uwchben rhannau tô gwastad presennol; ymgymryd ag addasiadau i’r tô
trwy osod tô llechi a drws gromen fechan i’r blaen; decin blaen; ymestyn
adeilad allanol presennol o fewn cwrtil yr eiddo yn anecs ym Mwthyn Bridyn, Lon
Bridyn, Morfa Nefyn. Nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli gyfochrog a mynediad i
draeth Morfa Nefyn, ond ar lefel ychydig uwch na’r traeth, gyda wal derfyn
uchel yn amgylchynu’r blaen ac ochrau. Adroddwyd bod y
cais yn cynnwys dwy elfen, sef yr estyniad a’r newidiadau i’r tŷ a’r
estyniad i’r adeilad allanol i greu anecs. Adroddwyd mai tô dalennau asbestos
sydd i’r tŷ yn bresennol gyda’r bwriad yn golygu ei ail doi â llechi sydd
yn welliant ynghyd â drws gromen ddigon bychan na fyddai’n amharu’n sylweddol
ar edrychiad a chymeriad y wyneb blaen. Derbyniwyd sawl
gwrthwynebiad i’r bwriad yn mynegi pryder am gyflwyno nodweddion modern i’r
eiddo gan fod y bythynnod pysgotwyr presennol heb eu difethaf. O ystyried mai sgrin wydr ysgafn fyddai i
flaen y balconi ac na fyddai siâp yr adeilad yn newid yn arwyddocaol, ni
ystyriwyd y byddai’r newidiadau yn amharu’n sylweddol ar edrychiad yr eiddo i
gyfiawnhau gwrthod yr addasiadau. Gan
mai cymharol fychan yw’r newidiadau i’r tŷ, ystyriwyd eu bod yn
ychwanegiadau derbyniol o ran ymddangosiad, graddfa a’r driniaeth drychiadau ac
yn cydymffurfio â gofynion polisi PCYFF 3 y Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd bod yr ail
elfen yn golygu codi estyniad ar yr adeilad allanol presennol sy’n ffurfio rhan
o berchnogaeth yr eiddo. Gan fod y
cwrtil wedi ei amgáu gan wal derfyn uchel, dim ond ychydig o wal a thô fyddai’n
weledol o ffordd fynediad y traeth.
Amlygwyd fod y gwrthwynebiadau
wedi datgan pryder am newid golwg adeilad hanesyddol, fodd bynnag ni ystyriwyd
fod y newidiadau yn sylweddol ymwthiol nac yn annerbyniol o ran graddfa, uchder
a mas ar y safle hwn sydd wedi ei amgáu gan wal uchel. Ystyriwyd bod yr anecs yn cydymffurfio â
gofynion PCYFF3. Cyfeiriwyd at y
materion llifogydd oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd a sylw bod y
cynlluniau wedi newid yn sylweddol ers i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig
gyflwyno gwrthwynebiadau. Wedi pwyso a mesur
y cais a’r cynlluniau diwygiedig yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ynghyd
a’r holl sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori,
ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu gyda’r amodau perthnasol. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod gan ei deulu barch tuag at y pentref ·
Bod addasiadau i’r cynlluniau wedi eu cytuno · Bod defnyddio llechi ar y to yn cydweddu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |