Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi
materion protocol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Y Cynghorydd Owain Williams yn eitem 5.2 ar
y rhaglen, (C21/0106/40/LL) oherwydd
ei fod yn
berchen maes carafanau llai na 7 milltir i
ffwrdd o’r safle Roedd yr Aelod o’r farn ei
fod yn fuddiant
a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y cais. b) Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Peter Read (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 ar y rhaglen
(C19/1215/40/EIA) ·
Y Cynghorydd
Dilwyn Lloyd (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar
y rhaglen, (C21/0647/17/DT) ·
Y Cynhgorydd
Elwyn Jones (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.4 ar y rhaglen (C21/0085/18/LL) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 6ed o
Fedi 2021 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 6ed o Fedi 2021 fel rhai
cywir |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas
â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C19/1215/40/EIA Parc Gwyliau Hafan y Mor, Pwllheli, LL53 6HX PDF 745 KB Prif gynllun
arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer
lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys
teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr
Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio,
mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig) AELOD LLEOL:
Cynghorydd Peter Read Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle (yn
ddarostyngedig i gynnal asesiad risg fyddai’n ystyried priodoldeb a mesurau
diogelwch yng nghyd-destun canllawiau covid 19) Cofnod: Prif gynllun
arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer
lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys
teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr
Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio,
mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig) Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar
gefndir y cais. Rhannwyd y datblygiad yn barseli: · Parsel B - Lleoli 27 o
garafanau sefydlog. · Parsel E - Lleoli 3
carafan sefydlog a codi dau adeilad deulawr i ddarparu llety i staff. · Parsel F - Dymchwel 4 bloc
rhandai (56 rhandy / 272 gofod i ymwelwyr) a lleoli 26 o garafanau sefydlog. · Parsel G - Lleoli 80 o
garafanau sefydlog. · Parsel H - Ailddatblygu
cyn safle gwaith trin carthion a chodi caffi unllawr gyda theras yn y blaen a
maes parcio · Parsel I - Lleoli 18 o
garafanau sefydlog. · Parsel J - Gwaith
amddiffyn yr arfordir sy'n cynnwys gwaith ar 320m o'r arfordir. Mae’r bwriad yn
golygu ail-linio'r arfordir i gyfeiriad y tir i greu traethau tywod a graean
rhwng pedwar morglawdd cerrig amddiffyn ar siâp cynffon pysgodyn. Bydd oddeutu 120m o'r gwaith yn cymryd lle yr
amddiffynfeydd carreg llinellol presennol. Bydd Llwybr Arfordir Cymru hefyd yn
cael ei ail-alinio. Oherwydd maint y safle,
diffinwyd y cais fel ‘datblygiad mawr’ ac o ystyried bod sawl elfen i’r cynllun
aseswyd pob un ar wahân. Adeiladu Caffi un-llawr newydd ar ffin ddwyreiniol y safle
fyddai’n cynnwys gofod parcio ceir, tirlunio a gwaith plannu. O ystyried bod y safle
ar dir a oedd yn ffurfio rhan o'r cyn safle trin carthion, ystyriwyd bod hwn yn
dir a ddatblygwyd o'r blaen gyda’r defnydd hefyd yn briodol yng nghyd-destun
defnydd y safle ehangach fel parc gwyliau. Er bod adeiladau mwy wedi'u lleoli
tuag at ganol y parc gwyliau, mae'r strwythurau sydd i'w gweld ar hyd y morlin
yn bennaf yn siales a charafanau un-llawr.
Amlygwyd bod y cynllun gwreiddiol yn cynnwys adeilad caffi deulawr. Yn
dilyn cynnal trafodaethau gyda swyddogion, cytunwyd i’r adeilad fod yn un-llawr a bod
gyda gostyngiad yn raddfa a chymeriad yr adeilad bellach yn briodol ar gyfer ei
leoliad arfordirol. Ystyriwyd bod y dyluniad yn un o ansawdd uchel o ran ei
ddyluniad, gosodiad ac ymddangosiad ac y byddai yn ymestyn yr amrediad o
gyfleusterau yn ardal y cynllun. Cefnogwyd y bwriad gan Ddatganiad Economaidd
oedd yn amlygu y byddai’r cynllun yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth leol. Adroddwyd bod modd cael
mynediad at y safle gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus, beicio a cherdded gyda’r
safle wedi'i leoli union gyferbyn â'r llwybr Arfordir -
nodwyd bod y datganiad cefnogi cynllunio yn cadarnhau bod y Caffi ar
gael i ddefnyddwyr y Llwybr Arfordir. Ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio â
gofynion polisi MAN 1, MAN 6 a TWR 1 a bod yr egwyddor o adeiladu caffi yn
dderbyniol. Gwaith Amddiffyn i 320m o'r morlin, gan gynnwys ail-alinio'r tir ar y traethlin, gosod pedwar morglawdd 'rock-armour' mewn siâp cynffon pysgodyn a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C21/0106/40/LL Fferm Llwyndyrys, Llwyndyrys, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6RH PDF 454 KB Newid defnydd tir
ar gyfer gosod 10 pod gwyliau ynghyd a newidiadau i fynedfa bresennol, creu
llecynnau pasio, creu ffordd fynediad mewnol a thirlunio AELOD LLEOL:
Cynghorydd Peter Read Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Gohirio, yn dilyn cais gan yr asiant i gynnal trafodaethau pellach Cofnod: Newid defnydd tir ar gyfer
gosod 10 pod gwyliau ynghyd a newidiadau i fynedfa bresennol,
creu llecynnau pasio, creu ffordd
fynediad mewnol a thirlunio a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cais wedi dod i
law gan asiant yr ymgeisydd i
ohirio’r penderfyniad fel bod modd cynnal
trafodaethau pellach. Nodwyd bod yr aisant
wedi cyflwyno sylwadau ychwanegol mewn ymateb i’r
rhesymau gwrthod ac y byddai gohirio yn rhoi cyfle
i asesu’r sylwadau hynny a diwygio’r adroddiad fel bo’ angen. b) Cynigwyd
ac eiliwyd i ohirio’r penderfyniad PENDERFYNWYD:
Gohirio, yn dilyn cais gan yr asiant i gynnal trafodaethau pellach |
|
Cais Rhif C21/0647/17/DT 1 Tai Trallwyn, Cilgwyn, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7SB PDF 302 KB Cais i adeiladau
Sied a Swyddfa at flaen tŷ annedd AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol gyda chynlluniau. 3. Defnydd atodol i’r tŷ annedd. Cofnod: Cais
i adeiladau sied a swyddfa at flaen tŷ annedd a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio
bod y cais yn cael ei gyflwyno
i Bwyllgor gan fod yr
ymgeisydd yn gyflogedig i Adran
Gynllunio Cyngor Gwynedd a bod angen
caniatâd cynllunio oherwydd bod y bwriad yn golygu codi
adeiladu o flaen prif edrychiad y tŷ. Nodwyd nad oedd gwrthwynebiadau
wedi eu derbyn
a chyfeiriwyd at Polisi
PCYFF3 sy’n datgan bod disgwyl i bob cynnig
arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n
rhoi llawn ystyriaeth i gyd-destun
yr amgylchedd adeiledig o gwmpas. Ystyriwyd bod y dyluniad yn un syml ac o faint bychan sy’n adlewyrchu
strwythurau tebyg a ddisgwylir gweld fel defnydd atodol
o fewn ardd tŷ annedd. Mae’r strwythurau
dan sylw yn guddiedig, tu ôl
i wrychoedd uchel ar waelod
ardd sydd ar ddiwedd rhes
o dai ac yn gweddu’n briodol gyda’i leoliad. Tynnwyd sylw at Polisi
PCYFF 2 sy'n annog gwrthod cynigion fydd yn cael
effaith andwyol sylweddol ar fwynderau
eiddo lleol. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau gan gymdogion yn dilyn
gosod rhybudd safle ac wedi ystyried
yr holl faterion
perthnasol cynllunio, ni fyddai niwed
arwyddocaol ychwanegol i fwynderau cymdogion,
na’r ardal yn gyffredinol, yn deillio o’r
datblygiad. Ystyriwyd fod y bwriad o osod sied a swyddfa
at flaen tŷ annedd yn dderbyniol
ac yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol. b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr Aelod Lleol
y pwyntiau canlynol: ·
Ei fod yn gefnogol i’r bwriad ·
Bod y safle yn guddiedig a’r gwrychoedd
yn uchel ·
Dim gwrthwynebiadau
wedi eu derbyn c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais PENDERFYNWYD:
Caniatáu y cais 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol gyda chynlluniau. 3. Defnydd
atodol i’r tŷ annedd |
|
Ail-ddylunio
lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán teithiol ychwanegol
a lleoli 8 carafán statig i ddisodli lleiniau carafanau teithiol presennol AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais.
Cofnod: Ail-ddylunio
lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán deithiol ychwanegol
a lleoli 8 carafán statig i ddisodli lleiniau carafanau teithiol presennol a) Amlygodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais
llawn ydoedd ar gyfer ail-ddylunio
lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán
deithiol ychwanegol a lleoli 8 carafán statig i ddisodli
lleiniau carafanau teithiol presennol ar safle Maes
Carafanau Tros y Waen a sefydlwyd yn ôl yn
1979. Ategwyd bod y bwriad hefyd yn cynnwys
yr elfennau canlynol:- • Gwella’r
cyfleusterau ymolchi/toiledau presennol sydd ar y safle. • Gosod
cyfarpar offer trin carthion preifat ar ymylon gorllewinol
y safle. • Ymgymryd
â gwaith tirlunio (coed a llwyni) o fewn y safle. • Lledu’r
rhodfa breifat sy’n gwasanaethu’r maes carafanau lle bo angen. Cyflwynwyd
y cais i bwyllgor oherwydd bod ardal y datblygiad yn fwy na’r
hyn a ganiateir o dan y drefn dirprwyo. Ategwyd
bod diwygiadau i’r cais a gyflwynwyd yn wreiddiol yn
cynnwys man addasiadau tirlunio gan gynnwys
cadw coed yn ogystal â chadarnhau
gwneuthuriad y lleiniau. Adroddwyd
bod y safle wedi ei leoli i’r
de-orllewin o bentref Rhiwlas yng nghefn
gwlad agored gyda sgrin ar
ffurf Coedlan Tros y Waen ar
ymylon dwyreiniol, deheuol a gorllewinol y safle. Er bod yr
ymylon gogleddol yn fwy agored
a gweledol o’r gogledd-orllewin mae wal garreg ynghyd
a thopograffi’r dirwedd leol yn lleihau’r
olygfa. Nodwyd
bod y safle yn rhannu mynediad gydag anheddau preswyl gerllaw. O ystyried yr holl faterion
cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau
a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r sylwadau
a dderbyniwyd, ystyriwyd
bod y bwriad yn dderbyniol ar sail y materion a nodir yn yr adroddiad
ac na fyddai’n cael effaith niweidiol
sylweddol ar y dirwedd, mwynderau’r gymdogaeth na diogelwch
ffyrdd. b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau
canlynol: ·
Ei fod yn gefnogol i’r cynllun
cyn belled bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio
gyda’r gofynion / amodau a restrwyd c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais. 1.
5 mlynedd. 2.
Yn unol â’r cynlluniau/dogfennau. 3.
Tymor gwyliau parthed y 5 carafán
deithiol ychwanegol - 1af Mawrth - 31ain Hydref. 4.
Cynllun tirlunio. 5.
Mesurau lliniaru o fewn yr Asesiad
Ecolegol Rhagarweiniol. 6.
Amod cyfyngu deiliadaeth yr unedau
statig a teithiol i ddefnydd gwyliau yn unig. 7.
Cyfyngu ar niferoedd unedau statig i 8
(gan eithrio llety’r rheolwr/staff) a’r unedau teithiol i 50. 8.
Dim storio carafanau teithiol oni bai
bod caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei dderbyn. 9.
Dim torri coed. |