Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr June Marshall, Owain Williams a Dilwyn Lloyd (Eilydd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorydd Gruffydd Williams fuddiant personol yn Eitem 5 ar y rhaglen
yn y ceisiadau canlynol am y rhesymau a nodir: ·
Cais Cynllunio Rhif
C15/0485/46/LL oherwydd ei fod yn ffrindiau gyda’r sawl sy’n adeiladu’r
darpariaeth glampio ·
Cais Cynllunio Rhif
C15/0495/43/LL oherwydd ei fod yn fab i’r ymgeisydd Roedd yr Aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau a
oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a
nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Elfed Wyn
Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y
rhaglen (cais cynllunio rhif C13/0611/18/AM) ·
Y Cynghorydd Sian Gwenllian
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen (cais
cynllunio rhif C15/0416/20/AM) ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams
(a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen (cais
cynllunio rhif C15/0429/35/LL Ymneilltuodd yr Aelodau i
ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw
ac ni fu
iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2015, fel rhai cywir. (copi ynghlwm) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2015,
fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio (copi ynghlwm) Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C13/0611/18/AM - Rhiwgoch, Clwt-y-Bont, Caernarfon Datblygiad preswyl o 17 o dai (yn cynnwys 2 uned fforddiadwy) ynghyd á mynedfa newydd. Aelod Lleol: Cynghorydd Elfed Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl o
17 o dai (yn cynnwys 2 uned fforddiadwy) ynghyd â
mynedfa newydd. (a) Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y bu i’r
cais gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar 02.03.15 a bwriad y Pwyllgor oedd gwrthod y cais
yn groes i argymhelliad y swyddogion ar sail dau reswm sef gor-ddatblygu a
diffyg darpariaeth llecyn chwarae. Oherwydd, ym marn yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio, bod risg sylweddol i’r Cyngor
o ran y penderfyniad i wrthod y cais a oedd yn groes i argymhelliad swyddogion,
cyfeiriwyd y mater i gyfnod cnoi cil yn unol â rheoliadau sefydlog y Pwyllgor.
Pwrpas adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yw er mwyn amlygu’r materion polisi cynllunio,
risgiau posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad
terfynol ar y cais. Ymhelaethwyd ar genfdir y cais gan nodi mai cais amlinellol yw hwn
ar gyfer codi 17 o dai deulawr gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy ar safle sydd
i’r de-orllewin o Ddeiniolen/Clwt y Bont ar lecyn o dir llwyd sydd wedi ei
gynnwys oddi fewn i ffin datblygu’r pentref.
Mae’r bwriad hefyd yn cynnwys creu agoriad cerbydol i’r ffordd sirol
dosbarth III gyfochrog.Yn flaenorol roedd ffatri International Safety
Components wedi ei leoli ar y safle ond erbyn hyn mae’r safle wedi ei glirio o
adeiladwaith y cyn-ffatri cynhyrchu nwyddau dringo. Yn bresennol, defnyddir
rhan blaen o’r safle ar gyfer man parcio anffurfiol. Caniatawyd cais
blaenorol am 17 o dai (gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy) yng Ngorffennaf, 2010
gyda chytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau fod 2 dŷ allan o’r 17 yn
dai fforddiadwy. Fodd bynnag, ni chyflwynwyd cais materion a gadwyd yn ôl o
fewn y cyfnod statudol ac mae’r caniatâd bellach wedi rhedeg allan. Tynnwyd sylw at ymateb i’r pyderon amlygwyd gan y
Pwyllgor ynglyn â gwrthod y cais yn seiliedig ar or-ddatblygu, darpariaeth o
lecyn chwarae a thai fforddiadwy. Esboniwyd ymhellach
o safbwynt gor-ddatblygu nad oes cynnydd yn y nifer o
dai a fwriedir yn y cais diweddaraf hwn o’i gymharu â’r cais a ganiatawyd yn
2010. Esboniwyd bod y polisi perthnasol yn datgan y gellir caniatau
datblygiadau o 30 tŷ i bob hectar o dir a bod y cais gerbron yn gofyn am 17 o dai gyda’r dwysedd
yn 24 tŷ i’r hectar. Felly nodwyd bod y dwysedd yn llai na’r hyn a nodir yn y polisi
cynllunio. Er mwyn ymateb i’r
pryder ynglyn â pherygl i blant gerdded i gaeau chwarae cyfagos oherwydd diffyg
palmant ar hyd y ffordd, bu i’r ymgeisydd ddiwygio’r cynllun safle i gynnwys
darpariaeth o lecyn chwarae yng nghornel gogledd-dwyreiniol safle’r cais i greu
man diogel i’r plant. Cyflwynwyd amcan
gwerth marchnad / gwerthiant y tai ac ystyrir bod y
prisiau yn fforddiadwy o’u cymharu â ffigyrau prisiau tai ar gyfartaledd yn
Neiniolen / Clwt y Bont. Cyfeiriwyd at y polisiau
cynllunio perthnasol. Ymhelaethwyd ar y risgiau i’r Cyngor wrthod y cais ac amlinellwyd opisynau i’r Pwyllgor pe byddir yn gwrthod y cais ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C15/0377/22/LL - Bryn Llys, Nebo, Caernarfon Cais i gadw gwaith i ymestyn ty heb gydymffurfio a chaniatad rhif C13/944/22/LL dyddiedig 07/01/2014 Aelod Lleol: Cynghorydd Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i gadw gwaith i
ymestyn tŷ heb gydymffurfio â chaniatad rhif C13/0944/22/LL. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi bod y cais presennol yn dangos
estyniad o ddyluniad tebyg i’r cynllun
a ganiatawyd yn 2014 a’r ddyluniad allanol
yn adlewyrchu lleoliad agoriadau y drysau a’r ffenestri
fel y caniatad blaenorol ac eithr bod yr estyniad yn uwch o tua 1.0m a bod hyd yr estyniad (yn
cynnwys yr estyniad croes) tua 2.0m yn hirach
na’r estyniad a ganiatawyd yn flaenorol.
Noder bod waliau allanol yr estyniad
bwriadedig yn cael eu gorchuddio
gyda cherrig cae sylweddol a bod hyn yn ychwanegu
at faint gorffenedig yr estyniad. Mae’r cais hwn, fel
y caniatâd blaenorol yn cynnwys dymchwel
rhan deulawr o’r tyddyn presennol
ynghyd ac adeiladu estyniad unllawr yng nghornel deheuol
y tyddyn. Cyfeiriwyd at y polisiau cynllunio perthnasol ynghyd â’r ymgynghoriadau
cyhoeddus. Cyflwynwyd y cais diwygiedig i’r Cyngor o ganlyniad
i’r Uned Gorfodaeth dderbyn cwyn yn datgan
nad oedd y gwaith o adeiladu'r estyniad yn cydymffurfio
gyda'r hawl cynllunio. O ganlyniad i archwilio'r safle
ynghyd â’r cynlluniau a ganiatawyd daeth i’r amlwg
nad oedd gwaith adeiladu yn gaeth unol
â’r cynlluniau a ganiatawyd ac yn
dilyn trafod y mater gyda’r perchennog cyflwynwyd cais ôl gweithredol i’r Cyngor am ystyriaeth. Pwysleiswyd bod yr egwyddor i godi
estyniad i’r tyddyn eisoes wedi
ei sefydlu oherwydd bod y cais cynllunio a ganiatwyd yn 2014 dal mewn grym hyd 2019. Er bod maint yr estyniad
sydd yn destun
y cais presennol yn fwy na’r
estyniad a ganiatwyd yn wreiddiol, ni
ystyrir bod y gwahaniaeth yn ddigon i
gyfiawnhau gwrthod y cais. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi bod adeilad
wedi ei godi
ar y tir ond yn dilyn
trafod gyda’r perchennog deallir mai dros dro
yn unig ydoedd
er hwyluso’r gwaith ar y tŷ. (b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd y gwrthwynebydd y prif bwyntiau isod: ·
Fel perchennog eiddo gyferbyn â’r datblygiad
roedd yn pryderu am uchder yr adeilad arfaethedig
oherwydd ei fod yn llawer
iawn uwch na’r hyn sydd
eisoes o amgylch yr ardal ·
Mae'n gwrthddweud yr adran addasu ac ymestyn o Ganllawiau Dylunio Cyngor
Gwynedd sy'n datgan na ddylai'r estyniad oruchafu’r adeilad
gwreiddiol. Yn gyffredinol mai’n well eu bod yn llai o faint gyda llinellau crib
isel a bod unrhyw fath o estyniad yn gyflenwol i'r adeilad gwreiddiol ac yn
debyg yn gymesur â goleddf y to ac uchder ·
bod rhan o'r maes datblygu wedi cael ei gynnwys yn y gofrestr o feysydd o dirlun
o ddiddordeb eithriadol yng Nghymru ·
Bod y datblygiad sydd heb ei ganiatáu yn sylfaenol wahanol i'r cynllun a ganiateir felly
bod amheuaeth pam nad yw’r datblygiad anawdurdodedig wedi bod yn destun cais
cynllunio llawn o dan adran 17 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref · Bod yr adeilad eisoes wedi gosod cynsail yn rhinwedd estyniad a diffyg cydymffurfio â dogfennau adeiladu a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C15/0416/20/AM - Tir yn Ffordd Glan y Mor, Y Felinheli Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi 14 tŷ newydd, creu mynedfa gerbydol newydd a ffordd stad, creu rhandiroedd gyda mynedfa a pharcio cysylltiol Aelod Lleol: Cynghorydd Sian Gwenllian Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol gyda rhai materion wedi
eu cadw yn
ôl i godi
14 tŷ newydd, creu mynedfa gerbydol
newydd a ffordd stad, creu rhandiroedd
gyda mynedfa a pharcio cysylltiol. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi mai cais amlinellol oedd gerbron i godi 14 tŷ, creu mynedfa gerbydol a
ffordd stad ynghyd a darparu rhandiroedd gyda mynedfa a pharcio cysylltiol gyda
rhai materion wedi eu cadw’n ôl i’w cynnwys oddi fewn i gais manwl (pe
caniateir y cais amlinellol hwn). Yr unig fater
sy’n ffurfio rhan o’r cais amlinellol hwn yw'r fynedfa arfaethedig ac
mae’r materion sydd wedi’u cadw yn ôl yn
ymwneud â thirweddu, edrychiadau, cynllun a graddfa. Nodwyd y prif elfennau i’r cais
sef: ·
darparu tai i
gynnwys 8 byngalo, 4 tŷ dormer ynghyd a 2 dy ddeulawr ac wedi eu dylunio
a’u gosod ar ffurf pâr gyda 4 o’r tai wedi eu cynnig fel tai fforddiadwy. ·
Creu 5
rhandir a mannau parcio cysylltiedig ar y rhan gwaelod o’r safle ·
Creu
mynedfa newydd - er mwyn gwasanaethu’r tai bydd angen creu mynedfa newydd oddi ar y ffordd sirol
ddi-ddosbarth cyfagos (Ffordd Glan y Môr). Er mwyn galluogi creu’r fynedfa a
chael gwelededd safonol ynghyd a chreu llwybr troed newydd bydd y clawdd sy’n
gwahanu’r safle o’r ffordd sirol yn cael ei ddymchwel ar hyd holl ffin ogleddol
y safle. Ymhelaethwyd ar y polisïau perthnasol a gan ystyried cyd-destun y polisïau
a’r canllawiau lleol roedd yn glir nad yw’r bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor a’i
fod yn groes i bolisïau a chanllawiau lleol ynghyd â chyngor a gynhwysir yn
nogfennau Llywodraeth Cymru ar sail lleoliad, mwynderau gweledol, effaith ar
safleoedd o bwysigrwydd archeolegol, bioamrywiaeth a bywyd gwyllt. O ystyried yr holl asesiadau argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd
gwrthod y cais oherwydd nad yw’n dderbyniol ar sail yr egwyddor o ddatblygiad
tai yn y lleoliad dan sylw, effaith ar heneb gofrestredig, effaith ar fwynderau
gweledol, effaith ar ddiogelwch ffyrdd a cholled o glawdd a gwrych. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol: ·
Apeliwyd i’r Pwyllgor ohirio rhag penderfynu
ar y cais ·
Bod safle’r
cais gyferbyn â ffin datblygu y Felinheli fel amlinellir
yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd ·
Bod y bwriad
yn cynnig 14 tŷ gyda 4 ohonynt yn rhai
fforddiadwy sydd yn gyfatebol i
30% o’r cyfanswm ·
Ceir amrywiaeth eang o gyfleusterau a gwasanaethau yn Felinheli a chredir bod rhain yn ddigonol ar
gyfer tyfiant yn y boblogaeth all ddeillio o’r datblygiad
arfaethedig ·
Bod 64.3% o boblogaeth Ward y Felinheli yn siarad
Cymraeg o’i gymharu a 65.4% yng Ngwynedd ·
Bod yr
amrywiaeth o dai sy’n cael eu
cynnig yn debygol o ddenu pobl sengl, teuluoedd
hŷn a theuluoedd gyda phlant a gall y datblygiad gael effaith bositif ar yr Ysgol
gynradd leol drwy gynyddu’r
nifer disgyblion · Bod nifer o fewnfudwyr yn Ward y Felinheli wedi cynyddu o 191 i 280 - 46.6% rhwng 1991 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C15/429/35/LL - Llwyn Madyn, Muriau, Criccieth Estyniad llawr cyntaf gan gynnwys codi lefel y to creu balcony a newidiadau i’r ffenestri (ail-gyflwyniad yn dilyn gwrthod cais C14/1152/35/LL) Aelod Lleol: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn ar gyfer estyniad llawr cyntaf gan
gynnwys codi lefel y to, creu balconi a newidiadau i’r ffenestri (ail-gyflwyniad yn dilyn
gwrthod cais
C14/1152/35/LL). (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth ar gefndir y cais
a’i fod yn
ail-gyflwyniad o gais blaenorol a gafodd ei wrthod ym
mis Ionawr eleni ar sail pwerau
dirprwyedig. Golygai’r bwriad ymestyn byngalo gromen (dormer) presennol i greu ty sylweddol
deulawr yn ei le. Byddai lefel to’r
prif dy’n codi o 6m i 8m, tra byddai lefel
to’r estyniad unllawr presennol 4.2m o uchder yn codi
i 6.7m. Byddai gan yr
adeilad doeau brig o lechi a waliau rendr wedi’u paentio. Tra nad oes gwrthwynebiad i safon y dyluniad na’r deunyddiau ond ei fod
yn bwysig ystyried lleoliad y bwriad gan ei
fod wedi ei leoli mewn
stad o dai gyda dyluniadau cyson, sef byngalos
gromen ac yn unllawr neu unllawr
a hanner. Byddai’r adeilad ar ôl ei
ymestyn yn adeilad swmpus a fyddai’n gwbl wahanol
i eiddo o amgylch ac fe ystyrir
y byddai’n nodwedd anghydnaws i’r drefwedd ac i’r rhan yma o Gricieth. Noda’r polisiau y Cynllun Datblygu bod yn rhaid i ddatblygiadau
newydd barchu eu safle a’ cyffiniau
o ran graddfa, maint a ffurf y datblygiad ac yn yr achos
hwn ni ystyrir
bod y cynnig yn gwneud hynny. Lleolir y tŷ mewn cwrtil sylweddol a chytunir y byddai’n gwbl bosibl codi
estyniad i’r tŷ o fewn y cwrtil heb niwed
arwyddocaol i gymeriad a mwynderau gweledol yr ardal. Fodd bynnag ni gytunwyd
bod y dyluniad a gynigir yn briodol ar
gyfer y safle. Ystyrir felly bod y
dyluniad yn gwbl anaddas ar
gyfer y safle hwn ac yn groes
i bolisiau cynllunio perthnasol. Gall ei ganiatau hefyd osod cynsail a
all newid cymeriad y stad yn llwyr. O ystyried yr holl ystyriaethau
argymhellir bod y Pwyllgor yn gwrthod y cais
am y rhesymau a restrir yn adroddiad y swyddogion cynllunio. Nodwyd ymhellach bod cais hwyr wedi ei
gyflwyno gan yr ymgeisydd i
ddangos lluniau o rannau o’r stad
ond nodwyd bod yr hyn a gyflwynwyd
ar ffurf sleidiau gan yr
Adran Gynllunio yn adlewyrchu cyd-destun
y safle yn gwbl eglur i’r
Pwyllgor. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad,
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol: ·
Ei fod yn anhapus nad oedd
wedi cael cyflwyno’r lluniau i’r Pwyllgor gan
nad oedd lluniau’r Adran Gynllunio yn dangos
bod dau dŷ eisoes ar y stad ·
Bu i
ddau dŷ gael eu hadeiladu
ar y stad yn y 50au a rheiny yn dai deulawr
4 llofft ·
Bod yr
estyniad yn golygu codi’r lefel
2m yn unig ·
Ni dderbyniwyd
unrhyw wrthwynebiad gan gymdogion ·
O safbwynt
cysondeb, bod pob math o wahanol dai yn
bodoli ar y stad ac ni ofynnir
am unrhyw beth allan o’r cyffredin · Bod llawer o dai wedi eu hadeiladu yng Nghricieth yn ddiweddar sy’n llawer iawn gwaeth na’r hyn a ofynnir ac nid ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C15/0460/15/LL - Bryn Padarn, 19 Rallt Goch, Llanberis Cais llawn i godi tŷ newydd ar ffurf byngalo dormer 3 ystafell wely, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol. Aelod Lleol: Cynghorydd Trevor Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i godi ty newydd ar ffurf byngalo
dormer 3 ystafell wely, creu mynedfa gerbydol
newydd a gwaith cysylltiol (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli oddi mewn
i ffiniau datblygu pentref Llanberis ac yn rhan o gwrtil eiddo
domestig presennol, mae’n dir sydd
yn ymestyn cryn dipyn i
flaen yr eiddo hwn ag
ar lefel uwch na’r ffordd
gyhoeddus gyfochrog ag yn greigiog mewn
mannau. Cydnabyddir
fod dyluniad yr adeilad yma
yn gyfoes o fewn yr ardal
leol yma o’i gymharu gydag
adeiladau eraill. Er hynny, ni chredir fod un patrwm pendant i ffurf adeiledig
yr ardal. Mae barn ynglŷn
â beth sydd yn gwneud dyluniad
da yn fater goddrychol ac yn yr achos yma,
ni chredir
y byddai yn amharu i raddau
annerbyniol ar unrhyw ffurf bendant
bresennol. Credir felly fod y bwriad
o ran ei ddyluniad a gorffeniad yn dderbyniol
yn yr achos
yma ac na
fyddai ar sail y materion hyn yn
effeithio’n niweidiol ar fwynderau gweledol
yr ardal leol i raddau
annerbyniol. Credir felly fod y bwriad
yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
B22 a B25 o’r CDU. O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod y safle yn uwch na’r ffyrdd
cyfagos ac felly mi fyddai adeiladu adeilad ar y tir hwn
o edrych o gyfeiriad y lonydd yma, yn
amlwg o fewn y dirwedd leol. Er
hynny, mae
patrwm adeiledig yr ardal leol
yn cynnwys tai ar safleoedd dyrchafedig
ac felly ni fyddai yn gwbl unigryw
yn hynny o beth. Nodwyd bod dyluniad yr eiddo wedi
ystyried effeithiau gor-edrych ar gymdogion
cyfagos. Mae’r elfen gwydr
amlycaf ar flaen yr adeilad
yn edrych dros ofod weddol
agored bresennol ac felly ni chredir
y byddai gor-edrych amlwg yn deillio
o’r edrychiadau yma. Mae ffurf adeiledig ddwys yr ardal
bresennol yn golygu fod gor-edrych
yn anorfod i raddau, ond
fe welir
yn yr achos
yma fod gwir
ymgais wedi ei wneud i
osgoi gor-edrych gormodol o ganlyniad i godi’r adeilad
hwn yn y ffurf fel y bwriedir O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad, codwyd pryderon ynglŷn â’r bwriad o safbwynt effaith niweidiol ar y rhwydwaith ffyrdd lleol a’i
ddefnyddwyr. Nodwyd bod mynedfa gerbydol bresennol i mewn
i’r safle gan ddarparu llecynnau
parcio ar gyfer yr eiddo
presennol. Mae’r fynedfa hon yn cael ei addasu
er mwyn sicrhau
mynedfa briodol ac mae’r ddarpariaeth parcio ar gyfer
yr eiddo presennol yn cael
ei symud i ran arall o’u
cwrtil. Ni
dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad gan
yr Uned Drafnidiaeth
gan awgrymu cynnwys amodau safonol ynghlwm a’r datblygiad. O ganlyniad, ni
chredir y byddai’r bwriad yn annerbyniol
o safbwynt materion priffyrdd a thrwy hynny yn cydymffurfio
gyda gofynion polisïau CH33 a CH36 o’r CDU. Yn unol â’r ystyriaethau uchod a’r holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C15/0485/46/LL - Land near Ty Bwlcyn, Dinas, Pwllheli Gosod 5 pod “glampio” ac adeiladu bloc cyfleusterau cegin / toiledau ynghyd â safle parcio a newid defnydd llyn o amaethyddol i dwristiaeth. Aelod Lleol: Cynghorydd Simon Glyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i osod 5 pod “glampio” ac adeiladu bloc cyfleusterau cegin / toiledau ynghyd â safle parcio a newid defnydd llyn o amaethyddol i dwristiaeth. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi ei fod ar gyfer gosod pump pod ‘glampio’ a thoiled compost ynghyd ag adeiladu bloc
cyfleusterau cegin/toiledau a darpariaeth parcio ar dir yn Nhŷ Bwlcyn, Dinas. Gofynnir hefyd am newid defnydd llyn
amaethyddol presennol i ddefnydd twristiaeth, er mwyn i ymwelwyr i’r safle ei
ddefnyddio ar gyfer pysgota a hamdden.
Byddai’r podiau o wneuthuriad pren ac wedi eu gosod
ar gae i’r gogledd ddwyrain o’r llyn, ac wedi eu
lleoli o amgylch ffiniau coediog y cae. Byddai’r adeilad a’r safle parcio wedi
eu lleoli ar waelod llethr yn agos i fythynnod gwyliau eiddo Tŷ Bwlcyn a bwriedir gwella llwybr presennol i gysylltu’r
parcio gyda’r cae ble lleolir y podiau. Bwriedir
cysylltu i’r tanc septig presennol sydd ar y safle. Lleolir y safle yng nghefn gwlad agored ac o fewn
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Bwriedir ail sefydlu mynedfa ddiddefnydd
bresennol i’r ffordd ddi-ddosbarth fel mynediad i’r datblygiad, gan ei lledu a
gwella’r gwelededd. O ran egwyddor y datblygiad,
nodwyd bod polisi D19 yn caniatáu
cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau teithiol, gwersylla ac unedau teithiol
newydd os cydymffurfir â’r cyfan o’r meini prawf a
nodir. Yn eu mysg yw’r angen bod dyluniad, gosodiad a gwedd y datblygiad o
safon uchel a’i fod wedi ei leoli mewn man anymwthiol. Ystyrir ceisiadau am ‘bodiau’ o dan bolisïau carafanau teithiol, gan mai
unedau symudol/gwersylla ydynt i bob pwrpas.
Byddant yn unedau o fath symudol, lle y gellir
eu symud yn gymharol rhwydd o amgylch y cae. Credir bod y cae dan sylw yn addas
i ddatblygiad o’r fath gan bod tir uwch i’r cefn a haen drwchus o lystyfiant ar
y ffiniau, sy’n golygu y byddant yn guddiedig ac allan o olwg y cyhoedd a’r tai
agosaf. Ni ragwelir cynnydd
sylweddol mewn trafnidiaeth yn sgil y cais, o ystyried graddfa fechan y bwriad
ac mae'n debygol y bydd y drafnidiaeth wedi ei gyfyngu i geir a beiciau, yn
hytrach na cherbydau tynnu fel safleoedd carafanau teithiol arferol. Gan mai ail sefydlu mynedfa bresennol yw’r
nod i ffordd ddi-ddosbarth, nid oes angen caniatâd cynllunio a gellir ei gwella heb achosi niwed arwyddocaol i nodweddion
y dirwedd. Ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol yn nhermau maen prawf 2 polisi D19. Bwriedir lleoli’r podiau
ar y cae dros y tymor gwyliau yn unig, gyda’r ymgeisydd yn nodi bwriad i’w
symud un ai i gornel cuddiedig o’r cae neu i’r maes parcio dros y gaeaf. O bwyso a mesur y bwriad yn erbyn y polisïau
perthnasol, ystyrir bod egwyddor o sefydlu safle glampio 5 pod,
codi adeilad cyfleusterau a gwaith cysylltiedig yn dderbyniol yn y lleoliad
anymwthiol hwn. Ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio a’r polisïau a drafodwyd
uchod ac felly yn dderbyniol i’w ganiatáu gydag amodau cynllunio perthnasol. (b) Cynigiwyd ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C15/0495/43/LL - Gwynus Caravan Park and Golf Course, Pistyll, Pwllheli Uwchraddio 10 carafan sefydlog bresennol gan ail leoli 5 i gae 471 a’r 5 arall i gae 470, ymestyn y safle carafanau i ran o gae 470, gostwng y nifer o garafanau teithiol o 55 i 52, ail leoli carafanau teithiol o gae 471 i gae 472, cynyddu'r arwynebedd ar gyfer storio 40 o garafanau teithiol ar gae 472 dros fisoedd y gaeaf, codi derbynfa newydd ar safle'r cytiau moch yn unol â’r caniatad roddwyd eisoes. Aelod Lleol: Cynghorydd Llywarch Bowen Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i uwchraddio - 10 carafan sefydlog bresennol gan ail-leoli 5 i gae 471 a’r
5 arall i gae 470, ymestyn y safle carafanau i ran o gae 470, gostwng y nifer o garafanau teithiol o 55 i 52, ail-leoli carafanau teithiol o gae 471 i gae
472, cynyddu’r arwynebedd ar gyfer storio
40 o garafanau teithiol ar gae 472 dros
fisoedd y gaeaf, codi derbynfa newydd
ar safle’r cytiau moch yn
unol â’r caniatad roddwyd eisoes. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi y cynhaliwyd trafodaethau gyda asiant yr ymgeisydd
ynglyn â’r bwriad. Fel rhan o’r uwchraddio byddai y niferoedd o garafanau teithiol o fewn y safle yn ei gyfanrwydd yn cael ei
leihau o 55 i 52. Byddai’r bwriad hefyd
yn fodd o reoleiddio lleoli 9 carafan deithiol ar gae 4942. Yn bresennol mae caniatâd cynllunio yn bodoli ar gyfer lleoli cyfanswm o 10
carafán sefydlog a 55 carafán deithiol ar y safle. Mae caniatâd hefyd yn bodoli ar gyfer storio
40 o garafanau teithiol ar ran gogleddol cae 472 yn ystod misoedd y gaeaf. Yn bresennol mae caniatâd cynllunio ar gyfer
defnyddio cae 470 fel cwrs golff a’r safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o
fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. O
safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd bod polisi D17 o Gynllun Datblygu Unedol
Gwynedd yn caniatáu cynigion i uwchraddio safleoedd carafanau sefydlog
presennol gan gynnwys estyniadau bach i arwynebedd tir, adleoli unedau, cynnydd
bychan yn y niferoedd a chyfnewid
llecynnau teithiol am unedau carafannau gwyliau
sefydlog os gellir cydymffurfio â’r
3 maen prawf perthnasol. Esboniwyd bod y cais hefyd yn cynnwys bwriad i ymestyn y safle storio carafanau teithiol
dros fisoedd y gaeaf i gynnwys cae 472 yn ei gyfanrwydd. Ni fwriedir cynyddu’r niferoedd o
garafanau teithiol a fyddai’n cael eu storio.
Mae y rhan o gae 472 y bwriedir ymestyn y
safle storio iddo yn un gyda thyfiant o’i amgylch ac ni ystyrir y byddai’n
safle ymwthiol yn y dirwedd. Ystyrir fod y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi
D21 CDUG. Nodir hefyd fod yr Uned AHNE
wedi datgan y byddai’r datblygiad i’w weld o’r lon rhwng Pistyll a Phentreuchaf. Er y
cytunir y gellir cael cipolwg o’r safle o rannau o’r
ffordd yma ni ystyrir yn sgil y plannu sydd wedi ei ymgymryd dros y blynyddoedd
a lleoliad y safle sydd i’w ymestyn i’r gogledd o ffin y safle carafanau
presennol y byddai’r bwriad i’w weld yn eglur o’r lon rhwng Pistyll a Phentreuchaf nag ychwaith o ffyrdd eraill yn y
cyffiniau. Yn sgil yr uchod, y sefyllfa
bresennol a’r hyn sy’n cael ei gynnig fel rhan o’r cais ni ystyrir y byddai’r
bwriad yn cael effaith andwyol ar yr AHNE ac felly ei fod yn dderbyniol yng
nghyd-destun polisi B8 CDUG. Gorwedd y safle hefyd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Llyn ac Ynys Enlli. Fodd bynnag ni ystyrir y byddai’r bwriad yn groes i Bolisi B12 CDUG gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |