Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Elwyn Edwards a Simon Glyn. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant
personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams yn eitem 5.1 ar y rhaglen
(cais rhif C16/0310/46/LL) oherwydd ei fod yn canlyn gyda chwaer yr ymgeisydd ·
Y Cynghorydd June Marshall yn eitemau 5.3 a 5.4 ar y
rhaglen (ceisiadau rhifau C13/0156/11/LL ac C16/0440/11/CR) oherwydd ei bod yn
ffrindiau gydag amryw o’r cymdogion ·
Y Cynghorydd W. Tudor Owen yn eitemau 5.5 a 5.6 ar y
rhaglen (ceisiadau rhifau C15/0808/20/LL a C15/0807/20/CR) oherwydd ei fod yn
Aelod o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon ·
Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn eitem 5.12 ar y rhaglen
(cais rhif C16/0744/17/LL) oherwydd ei bod yn Aelod o Fwrdd
Cartrefi Cymunedol Gwynedd ·
Y Cynghorydd Michael Sol Owen yn eitem 5.12 ar y rhaglen
(cais rhif C16/0744/17/LL) oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd
Cartrefi Cymunedol Gwynedd ·
Y Cynghorydd John Wyn Williams yn eitem 5.12 ar y rhaglen
(cais rhif C16/0744/17/LL) oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd
Cartrefi Cymunedol Gwynedd Roedd yr Aelodau
o’r farn eu bod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a nodir. (b)
Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn
perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Anwen Davies (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais rhif C16/0410/33/LL) ·
Y Cynghorydd Lesley Day (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.3 a 5.4 ar y rhaglen, (ceisiadau rhifau
C13/0156/11/LL a C16/0440/11/CR) ·
Y Cynghorydd Gareth Wyn Griffith (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.5 a 5.6 ar y rhaglen (ceisiadau
rhifau C15/0808/20/LL, C15/0807/20/CR) ·
Y Cynghorydd Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen (cais rhif C16/0329/18/LL) ·
Y Cynghorydd Selwyn Griffiths (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.9 a 5.10 ar y rhaglen (ceisiadau
rhifau C16/0704/44/LL a C16/0732/44/LL) ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams (a oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.11 ar y rhaglen (cais rhif C16/0743/42/LL) ·
Y Cynghorydd Eric M. Jones (a oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.12 ar y rhaglen (cais rhif C16/0744/17/LL) ·
Y Cynghorydd Gweno Glyn (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.13 ar y rhaglen (cais rhif C16/0849/32/LL) ·
Y Cynghorydd R H Wyn Williams (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.14 ar y rhaglen (cais rhif
C16/0931/39/LL) Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. (c) Datganodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu
buddiant personol yn Eitem 5.7 ar y rhaglen (cais rhif C16/0329/18/LL) oherwydd
bod ei chefnder sy’n byw gyferbyn a’r
safle wedi gwrthwynebu’r cais. Roedd y swyddog
o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a
gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a nodir. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion o’r Pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 26 Medi 2016, fel rhai cywir.
(Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26
Medi 2016, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO I gyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C16/0310/46/LL - Penclawdd LLangwnnadl PDF 608 KB Estyniad i safle carafanau teithiol yn cynnwys ymestyn tir a chynyddu nifer o 8 i 22 uned deithiol ynghyd a chodi bloc cyfleusterau newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn Dolen i’r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad i safle carafanau teithiol yn
cynnwys ymestyn tir a chynyddu nifer o 8 i 22 uned deithiol ynghyd a chodi bloc
cyfleusterau newydd Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu yn
dilyn paratoi’r adroddiad bod asiant yr ymgeisydd wedi gwneud cais am ohirio
cymryd penderfyniad ar y cais er mwyn cyflwyno mwy o wybodaeth. Penderfynwyd: Gohirio’r cais. |
|
Cais Rhif C16/0410/33/LL - Tir Glanrhyd, Mynydd Nefyn PDF 542 KB Adeiladu sied i storio deunyddiau a pheiriannau mewn cysylltiad a busnes adeiladu AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu sied i storio deunyddiau a pheiriannau mewn cysylltiad â busnes
adeiladu. (a) Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais wedi ei
ohirio o gyfarfod blaenorol yng Ngorffennaf 2016 er
mwyn rhoddi cyfle i’r ymgeisydd geisio rheoleiddio
defnydd y sied a’r iard bresennol, sy’n cael eu defnyddio ar gyfer defnydd
busnes adeiladydd yn hytrach nac i ddefnydd amaethyddol fel y’i caniatawyd yn
wreiddiol. Nodwyd bod yr ymgeisydd bellach wedi sefydlu ac awdurdodi defnydd y
sied a’r iard bresennol, trwy gyflwyno cais am dystysgrif defnydd cyfreithlon
fel iard adeiladydd a ganiatawyd ar 19.09.16 Nodwyd y bwriad i godi sied 225m² i gefn iard bresennol ger
eiddo Glanrhyd, Mynydd Nefyn i storio deunyddiau a
pheiriannau mewn cysylltiad â busnes adeiladu’r ymgeisydd. Cyflwynwyd
y cais i’r Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Byddai’r sied wedi ei gorffen
gyda tho bocs proffil gwyrdd tywyll a muriau byrddau coed. Saif y safle yng
nghefn gwlad o fewn Ardal Gwarchod y Tirlun ac yn agos i’r AHNE gyda ffordd
sirol ddi-ddosbarth yn gwasanaethu’r safle. Ceir un sied
bresennol ar y safle a ganiatawyd yn 2003 ar gyfer defnydd amaethyddol.
Byddai’r sied arfaethedig wedi ei lleoli ymhellach yn ôl i gefn yr iard ac yn
weladwy o’r ffordd sirol, rhwng y sied bresennol a chytiau cwrtil yr eiddo. Tynnwyd sylw bod
hanes cynllunio, ymholiadau, polisïau ac ymateb i’r ymgynghoriadau i gyd wedi
eu nodi yn yr adroddiad. (b)
Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) gan nodi bod yr ymgeisydd erbyn hyn wedi cael
tystysgrif gyfreithiol yn datgan bod y defnydd fel sied/gweithdy ac iard
adeiladydd wedi digwydd ers dros ddeng mlynedd. Nodwyd ymhellach y byddai’r
bwriad yn rhoi cyfle i deulu ifanc aros yng nghefn gwlad ac yn hwb i’r ysgol
leol a’r economi. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. (ch) Nododd Aelod bod unrhyw ddatblygiadau busnes
i’w croesawu yng nghefn gwlad. Penderfynwyd: Caniatáu’ cais yn
unol â’r amodau canlynol: 1. 5 mlynedd 2. Unol â’r cynlluniau 3. Sied i’w
defnyddio mewn cysylltiad â’r busnes presennol yn
unig 4.
Gorffeniad 5. Tirlunio ger y fynedfa yn y tymor plannu
nesaf. |
|
Cais Rhif C13/0156/11/LL - 7 Glandwr Terrace, Bangor PDF 703 KB Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo, ynghyd a darparu drysau ffrenig a chodi ffens 1.8m newydd ger y hawl dramwy. AELOD LLEOL: Cynghorydd Lesley Day Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel estyniad
cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol ddeulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo, ynghyd a darparu drysau ffrenig a
chodi ffens 1.8m newydd ger yr hawl tramwy. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod yr
eiddo yn dy tri llawr ac yn dy pen o fewn rhesdai o
saith sydd wedi eu rhestru (Gradd II).
Nodwyd mai’r bwriad ydoedd dymchwel rhan o’r rhan cefn deulawr presennol
ac ail-godi rhannau newydd a bwriad i ddymchwel yr adeilad unllawr
ac ail godi estyniad unllawr yn ei le. Bu i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle ym mis Mehefin.
Nodwyd nad oedd addasiadau mewnol yn ffurfio rhan o’r cais a chyfeiriwyd
at y manylion llawn o fewn yr adroddiad gerbron y Pwyllgor. Cyfeiriwyd at
wybodaeth hwyr oedd wedi ei dderbyn gan yr asiant yn cyflwyno adroddiad gan
beiriannydd strwythurol er mwyn cyfiawnhau'r gwaith dymchwel. Nodwyd bod y safle
o fewn ffiniau datblygu dinas Bangor gyda ffordd ddi-ddosbarth yn rhedeg
gerllaw a ffordd fynedfa i’r cefn gyda hawl tramwy drosto a hawl tramwy preifat
ar hyd blaen y teras ac ar hyd ochr y safle. Ar sail y
wybodaeth ym mharagraffau 5.3 - 5.7 ni
ystyrir bod yr estyniad yn ormodol o ran maint, nac ei fod yn cael effaith
ormesol ar unrhyw eiddo cyfagos. Ni
ystyrir y byddai’r ffenestri newydd i’r llawr cyntaf yn yr estyniad yn achosi
unrhyw or-edrych i eiddo arall a’r bwriad o doeau
llechi a’r deunyddiau i’r waliau allanol yn dderbyniol. Yn dilyn cyfnod
ymgynghori derbyniwyd sawl gwrthwynebiad ac fe ymatebwyd iddynt o fewn yr
adroddiad ac fel y nodir ym mharagraffau 5.12 - 5.14. Ystyrir y byddai’r
egwyddor o ddymchwel ar y raddfa sy’n cael ei ddangos fel rhan o’r cais ac
wedyn ymestyn / ail-godi’r estyniad cefn yn dderbyniol o safbwynt polisïau
lleol a chenedlaethol ond oherwydd anghytundeb barn rhwng yr ymgynghorwyr
statudol a swyddogion ystyriwyd y byddai’n ddefnyddiol derbyn cyfiawnhad am y
gwaith a chadarnhad o resymau clir dros ddymchwel rhannau o’r adeilad. Tynnwyd sylw bod
yr asiant wedi cyflwyno adroddiad gan beiriannydd strwythurol i gyfiawnhau’r
dymchwel ond ni ystyrir bod y dystiolaeth yn rhoi eglurhad digonol am gyflwr y
waliau a pham nad oes modd eu cynnal fel ag y maent. Felly, derbyniwyd dau set o wybodaeth wahanol
gan yr asiant - y cyntaf yn ymdrin â
materion cynaladwyedd ac egni a’r ail ar ffurf adroddiad peirianyddol ond nad oedd yn glir o’r
adroddiad a dderbyniwyd os yw’r waliau
yn berygl neu os mai ddim diogon da i gynnal yr estyniadau sydd yn cael eu
cynnig ydynt. Nid oedd y swyddogion
cynllunio felly wedi eu hargyhoeddi
yn llwyr fod y wybodaeth a gyflwynwyd yn rhoi cyfiawnhad digonol dros y
dymchwel. Pe byddai’r cyfiawnhad yn dderbyniol, ystyrir bod y maint, dyluniad a deunyddiau’r estyniad newydd, gan gynnwys y ffens newydd yn dderbyniol ac yn unol â’r polisiau perthnasol. Fodd bynnag, ni ystyrir ei fod yn dderbyniol yn ei ffurf bresennol gan nad oes gwybodaeth gadarn wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C16/0440/11/CR - 7 Glandwr Terrace, Bangor PDF 839 KB Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo AELOD LLEOL: Cynghorydd Lesley Day Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr
a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo. (a)
Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod y cais gerbron
yn destun yr un safle a’r cais blaenorol
yn eitem 3 ond y tro hwn yn gais adeilad rhestredig i ddymchwel rhan o estyniad
deulawr cefn presennol ynghyd a’r adeilad allanol unllawr
cefn, ac ymestyn y rhan deulawr presennol ac adeiladu estyniad unllawr newydd ar yr un safle, ynghyd a chodi ffens ar hyd
ochr y tŷ. Nodwyd bod apêl wedi ei chofrestru oherwydd nad oedd
penderfyniad wedi ei gymryd ynghylch yr adeilad rhestredig ac felly esboniwyd
nad y Pwyllgor Cynllunio fyddai gyda’r hawl i wneud penderfyniad ffurfiol ond
yn hytrach yr Arolygaeth Gynllunio. Fodd
bynnag, eglurwyd byddai’n ofynnol i’r Pwyllgor Cynllunio roi arweiniad i’r
swyddogion cynllunio o ba fath o benderfyniad fyddent wedi ei gymryd pe
byddai’r cais ger eu bron a hynny er mwyn gallu delio gyda’r apêl ar ran y
Cyngor. Yn dilyn derbyn cadarnhad y
Pwyllgor fe fyddai’r swyddogion cynllunio wedyn yn darparu datganiad apel i’w gyflwyno i’r Arolygaeth Gynllunio. Tynnwyd sylw bod manylion y cais yn debyg i’r cais blaenorol yn eitem 3
a chyfeiriwyd at gynnwys y disgrifiad o’r cais a’r ymatebion llawn o fewn yr
adroddiad ger bron. Ategwyd bod yr asiant wedi cyflwyno adroddiad peiriannyddol
strwythurol yn hwyr i’r Adran Gynllunio ac yn sgil pryderon ynglŷn â
chasgliadau’r adroddiad a diffyg eglurdeb llawn os oes modd cynnal neu
gryfhau’r waliau heb orfod eu dymchwel ac os ydi’r adroddiad
yn seiliedig ar gyflwr y waliau fel ag y maent yn bresennol neu ar gyflwr y
waliau ar gyfer cynnal estyniad newydd.
O ganlyniad eglurwyd nad oedd y swyddogion cynllunio wedi eu hargyhoeddi
bod yr ymateb yn lleddfu’r pryderon sydd yn cael eu nodi yn yr adroddiad yn
llawn. Fe fwriedir hefyd cyflwyno’r
adroddiad peiriannyddol i’r Arolygaeth Gynllunio er
mwyn ffurfio rhan o’r wybodaeth apel. Nodwyd ymhellach bod yr egwyddor yn gallu bod yn dderbyniol ond ar hyn o
bryd nad oedd y wybodaeth angenrheidiol yn dderbyniol er mwyn dod i gasgliad bod yr holl fwriad yn
dderbyniol. Er mwyn galluogi
swyddogion i ymdrin â’r apel
gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau ei safiad ynglyn a’r
cais ac i awdurdodi swyddogion i gyflwyno achos
yr apel ar ran y Cyngor. Argymhellwyd bod y Pwyllgor yn dirprwyo’r
hawl i swyddogion i ymdrin â’r apel
am ddiffyg penderfyniad ac ymdrin ag unrhyw wybodaeth a ddaw i law yn ystod yr apel ac i gadarnhau mai barn y Pwyllgor fyddai argymell
gwrthod y cais oherwydd diffyg cyfiawnhad clir dros y gwaith dymchwel. (b) Nododd yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod CADW wedi cydnabod bod Rhes Glandwr o bwysigrwydd cenedlaethol ac sydd wedi ei
restru ym Mai 2013 ac wedi argymell mewn
termau cadarn y dylai rhan o ward Garth gan gynnwys Rhes
Glandwr gael ei glustnodi ar
gyfer Statws Ardal Gadwraeth · Bod CADW wedi datgan bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais Rhif C15/0808/20/LL - Menai Marina, Hen Gei LLechi, Y Felinheli PDF 697 KB Cais ôl-wethredol i gadw pontwn o fewn y cei. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Wyn Griffith Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol
i gadw pontŵn o fewn y cei (a) Ymhelaethodd y
Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ôl-weithredol
oedd gerbron i gadw pontŵn o fewn y cei wedi ei leoli ar wal ogleddol yr
harbwr ac wedi ei gysylltu mewn 3 lleoliad a fyddai’n gadael i’r pontŵn
godi gyda’r llanw. Nodwyd bod y safle yn
rhan o’r marina presennol gyda wal yr harbwr wedi ei restru fel adeilad
rhestredig Gradd II. Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau ac yr adroddiad peiriannyddol a oedd yn datgan na fyddai gosod y pontwn yn debygol o gael unrhyw effaith andwyol o safbwynt
strwythur peiriannyddol yr harbwr. Yn dilyn
penderfyniad y pwyllgor ym mis Medi 2016 rhoddwyd cyfle i’r gwrthwynebwyr gael
amser i ddarparu a chyflwyno adroddiad peirianyddol eu hunain, ac nid yw’n
ymddangos o’r adroddiad hwnnw fod cyflwr y wal mewn cyflwr drwg nag ychwaith o
dan unrhyw fygythiad gan y pontwn. O fewn casgliad yr adroddiad awgrymir gosod
amod i fonitro’r wal yn rheolaidd fel mesuriadau lliniaru teg. Yn ogystal derbyniwyd barn Ymgynghoriaeth Gwynedd ar yr adroddiad a chadarnhawyd fod yr adroddiad wedi ei gwblhau
gan gwmni cydnabyddedig ac fod yr argymhellion yn deg. Ni ystyrir felly fod
cynnwys yr adroddiad newydd gan y gwrthwynebwyr wedi cyflwyno tystiolaeth
newydd ac felly nid yw’r argymhelliad wedi newid o’r argymhellion blaenorol. Eglurwyd fod y
cais bellach yn destun apel am ddiffyg penderfyniad
ac er mwyn galluogi swyddogion i ymdrin â’r apel gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau ei safiad ynglyn a’r cais ac i awdurdodi swyddogion i gyflwyno
achos yr apel
ar ran y Cyngor. Argymhellwyd bod y
Pwyllgor yn dirprwyo’r hawl i swyddogion i ymdrin â’r
apel am ddiffyg penderfyniad ac i gadarmhau
mai barn y Pwyllgor fyddai argymell caniatáu’r
cais gydag amod a nodyn i fonitro cyflwr y wal. (b) Ar ran
trigolion yr ardal, gwrthwynebai’r aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn) y cais ac fe nodwyd y prif bwyntiau canlynol: ·
Pwysigrwydd bod aelodau’r Pwyllgor yn ymwybodol o holl gynnwys yr
adroddiad peiriannyddol ·
Bod amryw o bobl yn
gwrthwynebu’r cais ·
Bod y wal dros 100 mlwydd oed ac ni wyddys beth yw cyflwr
y wal ·
Er y cyflwynwyd
gwahanol adroddiadau ni theimlwyd bod arolwg iawn wedi
ei wneud o’r wal ·
Nad oedd trigolion yr ardal yn gwrthwynebu’r pontwns i gyd ond yn gwrthwynebu’r math yma sydd yn cael ei
gysylltu hefo bracedi i’r wal ·
Derbyniwyd e-bost gan asiant
yr ymgeisydd yn datgan y byddai’n
fodlon tynnu’r pontwn yn ystod
y gaeaf o 1 Tachwedd i 1 Mawrth ac yn ogystal
yn barod i ymgymryd ag ymchwiliad gweledol blynyddol ·
Dylid sicrhau
bod yr amod yn datgan monitro
rheolaidd ·
Pryderwyd am ddiogelwch y cyhoedd pe byddai unrhyw
drafferth gyda’r pontwn (c) Mewn ymateb, cydnabyddai'r Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio pryderon yr aelod a’r trigolion lleol ond tynnwyd sylw bod y cais yn nwylo’r Arolygaeth Cynllunio. Atgoffwyd bod y cais i mewn ers dros 12 mis ac wedi cael ei ohirio sawl gwaith i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |
|
Cais Rhif C15/0807/20/CR - Menai Marina, Hen Gei Llechi, Y Felinheli PDF 700 KB Cais ôl-wethredol
i gadw pontwn o fewn y cei AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Wyn Griffith Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol
i gadw pontwn o fewn y cei (a)
Adroddodd y
Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod y cais gerbron yn gais rhestredig ôl-weithredol
i gadw pontwn o fewn y cei ac yn yr un modd a’r cais
blaenorol yn eitem 5, a gan fod y cais
hon hefyd yn destun apel am ddiffyg penderfyniad,
gofynnwyd i’r Pwyllgor am yr hawl i swyddogion weithredu ar ran y Cyngor drwy
gadarnhau ei safiad ynglyn a’r cais. Argymhellwyd felly bod y Pwyllgor yn
dirprwyo’r hawl i swyddogion i ymdrin â’r apel am ddiffyg penderfyniad ac i gadarmhau
mai barn y Pwyllgor fyddai argymell caniatau’r cais gydag amod a nodyn i fonitro cyflwr y
wal. (b)
Nododd yr Aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn) nad oedd yr adroddiad yn glir o safbwynt diogelwch y wal a’r
angen. Pe byddir yn caniatau’r
cais bod nodyn i’w gynnwys bod yr ymgeisydd yn monitro’r wal yn rheolaidd (c)
Cynigwyd ac eiliwyd argymhelliad y swyddogion cynllunio. Penderfynwyd: Dirprwyo’r hawl i swyddogion i
ymdrin â’r apel am ddiffyg
penderfyniad ac i gadarnhau mai barn y Pwyllgor fyddai argymell caniatau’r cais yn
unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd ynghyd a nodyn i
fonitro cyflwr y wal yn rheolaidd. |
|
Cais Rhif C16/0329/18/LL - Tir gyferbyn Swyddfa Bost, Clwt y Bont, Caernarfon PDF 816 KB Codi tri ty annedd deulawr ar wahan a datblygiadau cysylltiedig AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi tri ty annedd
deulawr ar wahân a datblygiadau cysylltiedig. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y
cais hwn wedi bod gerbron y Pwyllgor Cynllunio dwywaith yn barod gydag ymweliad
safle wedi’i gynnal. Esboniwyd y bwriad
i godi tri thŷ ar safle tir llwyd o fewn ffin ddatblygu Clwt y Bont.
Defnyddiwyd y safle yn y gorffennol fel safle parcio yn bennaf ar gyfer y
Swyddfa Bost dros y ffordd (sydd yn awr ar gau). Ymddengys i’r safle cael ei
greu trwy fewnlenwi deunydd yn y gorffennol i greu platfform gwastad oddeutu
60m x 30m gyda llethrau serth yn disgyn o’r tir ar dair ochr. Cyfeiriwyd at
faterion yn ymwneud a mwynderau fel y gwelir ym mharagraffau 5.11 i 5.23 o’r
adroddiad lle ystyrir materion megis yr effaith weledol, yr effaith ar
breifatrwydd, pryderon ynghylch tir ansefydlog a materion bioamrywiaeth a
daethpwyd i’r casgliad bod y datblygiad a gynigir yn dderbyniol o safbwynt y
materion hyn yn ddarostyngedig i’r amodau a gynigir yn Rhan 7 yr adroddiad. O ystyried fod hwn
yn safle tir llwyd, o fewn y ffin ddatblygu nodwyd bod yr egwyddor o
ddatblygu'r safle'n cael ei gefnogi gan y Cynllun Datblygu Unedol. Fodd bynnag
mae Polisi CH4 yn datgan y dylid sicrhau bod cyfran o’r unedau a fwriedir eu
hadeiladu o fewn pentrefi yn rhai fforddiadwy oni bai na fyddai’n briodol
darparu tai fforddiadwy ar y safle. Gwelir cyfeiriad manwl o’r mater ym
mharagraffau 5.1 i 5.8 o’r adroddiad. Darparwyd
Cyfrifiadau Hyfywdra gyda’r cais sy’n dangos na fyddai’r cynllun yn hyfyw gydag
elfen fforddiadwy yn rhan ohono. Nodwyd bod Uned Eiddo’r Cyngor wedi cytuno bod
y costau adeiladu a gyflwynwyd yn rhai rhesymol a bod yr Uned Polisi Cynllunio
ar y Cyd wedi defnyddio’r fethodoleg safonol y maen nhw, a chynghorau eraill,
yn ei ddefnyddio at ddibenion asesu hyfywdra cynigion ac yn cytuno na fyddai’r
cynllun yn hyfyw petai gofyn i un o’r tai fod yn uned fforddiadwy. Yn dilyn y
drafodaeth yn y Pwyllgor diwethaf cadarnhaodd yr Uned Polisi eu cyfrifiadau ac
maent yn credu, wrth ystyried y dystiolaeth sydd gerbron, na fyddai’n rhesymol
gwrthod y cais ar sail y diffyg darpariaeth fforddiadwy. Nodwyd bwysigrwydd, oherwydd cyfyngiadau’r
safle o safbwynt mynediad priffyrdd, nad yw’n bosibl datblygu’r safle i’w lawn
botensial, mae’n safle ddigon mawr i gynnwys o bosib pump neu chwech uned ac yr
adeg honno mae’n sicr y byddai elfen fforddiadwy yn dod yn fwy hyfyw. Ond o
ystyried cyfyngiadau’r safle ac yng ngolwg y dystiolaeth sydd gerbron, ni
chredir bod cyfiawnhad gofyn i un o’r tai fod yn fforddiadwy ar gynllun o’r
raddfa hon. Ystyrir bod y datblygiad a gynigir yn dderbyniol mewn
egwyddor a gan nad ydyw’n debygol o achosi effaith andwyol annerbyniol ar
fwynderau y dylid caniatáu’r cais. (b)Gwrthwynebwyd
y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) am y
rhesymau canlynol: ·
Nad oedd prisiau’r tai yn fforddiadwy i bobl leol
o ystyried cyflogau isel yr ardal · Nad oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |
|
Cais Rhif C16/0848/00/LL - Toiledau Abermaw, Marine Parade, Abermaw PDF 647 KB Cais i drosi cyfleusterau cyheddous di-ddefnydd i dy annedd, i gynnwys codi uchder y to presennol a newidiadau allanol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gethin Glyn Williams Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i drosi
cyfleusterau cyhoeddus diddefnydd i dy annedd, i gynnwys codi uchder y to
presennol a newidiadau allanol. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi’r
bwriad i drosi cyn cyfleusterau cyhoeddus diddefnydd i dy annedd wedi ei leoli
ynghanol tref arfordirol Abermaw gyda’r ysgol gynradd i’r dwyrain o’r safle. Saif cae chwarae’r ysgol ar derfyn cefn a
gogleddol safle’r cais. Ceir palmant a
ffordd sirol ddi-ddosbarth i orllewin y safle gyda’r promenâd a thraeth ar
draws y ffordd. Defnyddiwyd yr adeilad
fel toiledau cyhoeddus cyn eu cau yn 1997 a’u gwerthu gan y Cyngor yng Ngorffennaf 2015.
Ceir cymysgedd o ddefnyddiau tir yn lleol sydd yn cynnwys tai preswyl,
gwestai a’r ysgol gynradd. Nodwyd bod y
safle o fewn ffin datblygu tref Abermaw ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Mawddach.
Derbyniwyd sawl ymateb i’r ymgynghoriad gyda’r cynnig yn bodloni
gofynion trafnidiaeth, Dwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Fe godwyd nifer o
wrthwynebiadau gan y cyhoedd gan gynnwys ystyriaethau megis agosatrwydd yr
adeilad at gae chwarae’r ysgol, diffyg tir mwynderol o amgylch yr adeilad, bod yr adeilad yn anaddas
i’w drosi a bod safon y dyluniad yn annerbyniol ynghyd a materion eraill a’u
trafodir yn yr adroddiad. ‘Roedd hefyd gohebiaeth yn croesawu’r datblygiad fel
gwelliant i gyflwr blêr presennol y safle. O safbwynt y
penderfyniad cynllunio, nodwyd pwysigrwydd i gofio
bod y bwriad yn ymwneud a throsi adeilad presennol i annedd o fewn ffin
ddatblygu Canolfan Leol fel y’i diffinnir gan y Cynllun Datblygu Unedol.
Tynnwyd sylw at bolisi CH11 o’r Cynllun sy’n ymwneud yn benodol a chynigion i
drosi adeiladau o fewn ffiniau datblygu ar gyfer defnydd preswyl. Rhoddwyd ystyriaeth i feini prawf y polisi
hwnnw yn yr adroddiad ac fe gredir bod y cynnig yn
cwrdd â phob un o’r meini prawf hynny. Nodwyd bod polisi C4 hefyd yn gefnogol i
addasu adeiladau gweigion at ddefnyddiau priodol newydd. O safbwynt mwynderol, mae’r safle’n sefyll
ar ben ei hun, ac o bellter digonol oddi
wrth unrhyw eiddo preswyl eraill i beidio â chael effaith uniongyrchol arnynt.
Ystyrir yn ogystal y byddai adfer ac ail ddefnyddio’r adeilad yn cynnig
y cyfle i’w dacluso a’i atal rhag dirywio ymhellach a thrwy hynny fe ellir
gwarchod a gwella ansawdd a chyflwr y safle ac amddiffyn mwynderau gweledol yr
ardal yn gyffredinol. Nodwyd bod hwn yn
gais i ail-ddatblygu adeilad sydd o fewn ffin ddatblygu at ddefnydd sy’n
briodol ar gyfer y lleoliad ac felly argymhellwyd i gymeradwyo’r cais gydag
amodau fel y rhestrir yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad, nododd y gwrthwynebydd ar ran corff llywodraethol
a rhieni Ysgol y Traeth eu bod yn gwrthwynebu’r
cais yn seiliedig
ar: 1. Mwynderau - byddai newid yr adeilad yn amharu ar fwynderau plant i chwarae
gan fod cefn yr adeilad yn ffinio hefo maes chwarae’r Ysgol 2. Dyluniad – nad oedd y cynnig yn parchu’r ardal o ran ei raddfa gan y byddai’n uwch na’r adeilad presennol ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8 |
|
Cais Rhif C16/0704/44/LL - Tir cyfochrog cyn Storfa Spar, Morfa Bychan PDF 673 KB Cais ar gyfer codi 2 dŷ. AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Griffiths Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer codi 2 dy. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi’r prif elfennau yn
ymwneud a’r cais. Nodwyd mai cais
llawn oedd gerbron i godi 2 fyngalo dormer o fewn safle a fu
yn y gorffennol yn gweithredu fel
maes parcio ffurfiol ynghlwm a siop gyfagos a chyn hynny, yn
safle modurdy. Tynnwyd sylw bod y cynlluniau manwl yn dangos y bydd
i’r ddau eiddo, 3 ystafell wely ag yn mesur
cyfanswm arwynebedd llawr o oddeutu 190m² ag yn 7m o uchder i’w grib. Yn
allanol, gorffennir waliau’r adeiladau gyda gorffeniad wedi ei chwipio
a thoeau o lechen naturiol. Saif y safle o fewn ffin datblygu’r pentref
ag yn safle sydd eisoes wedi ei ddatblygu gyda thai preswyl presennol i ochr a
chefn y safle, ffordd gyhoeddus heibio blaen y safle a ffordd yn arwain at stad
o dai preswyl heibio’r ochr gyda siop yr ochr arall
i’r ffordd yma. Cyflwynir y cais i bwyllgor am benderfyniad
oherwydd fe dderbyniwyd 3 gwrthwynebiad yn groes i’r argymhelliad. Cyfeiriwyd
at y pryderon sydd wedi eu datgan a’u nodi o fewn yr adroddiad. Fe welir o’r adroddiad fod asesiad llawn
wedi ei wneud o’r holl faterion perthnasol gan gynnwys cydymffurfiaeth gyda pholisiau yn ogystal a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. Ni
ystyrir fod y bwriad yn anerbyniol a’i fod yn addas
i’w safle, yn gweddu gyda edrychiadau
cyffredinol o fewn yr ardal ag yn gwneud defnydd da o safle gwag
presennol. Argymhellwyd i ganiatau’r cais yn unol a’r amodau fel a nodir. (b)Nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn)
nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais gan nodi’r prif bwyntiau canlynol: ·
Lleihad yn y traffig i’r briffordd gan y defnyddiwyd y
tir fel maes parcio yn y gorffennol ·
Gwell defnydd
o’r tir o’i
ddatblygu (a) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais. Penderfynwyd: Caniatáu yn
unol â’r amodau canlynol: 1.
Amser 2. Cydymffurfio
gyda chynlluniau 3.
Deunyddiau/llechi 5.
Priffyrdd 6.
Draenio 7. Manylion lefelau lloriau gorffenedig 8. Nodyn wal rannol
9. Gwydr afloyw
10. Cynnal archwiliad
llygredd o’r safle. 11. Tynnu hawliau i gynnwys ffenestri
ychwanegol
12. Gwarchod gosodiad y
ffenestri velux ar y toeau cefn |
|
Cais Rhif C16/0732/44/LL - Llain 59 Tan y Foel, Borth y Gest PDF 667 KB Ail gyflwyniad a diwygiadau o geisiadau a wrthodwyd o dan C15/1033/44/LL, C16/0144/44/LL a C16/0313/44/LL ar gyfer codi ty, 3 llofft AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Griffiths Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ail gyflwyniad a diwygiadau o geisiadau a wrthodwyd o dan
C15/1033/44/LL, C16/0144/44/LL a C16/0313/44/LL ar gyfer codi ty, 3 lloft. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai ail gyflwyniad o gais llawn oedd
gerbron a wrthodwyd yn flaenorol ar
gyfer codi ty ar wahân gyda
modurdy integredig a mynedfa gerbydol newydd. Cyflwynwyd cais diwygiedig sydd bellach yn cynnwys
3 ystafell wely. Diwygiwyd y cais trwy leihau
maint cyflawn yr adeilad arfaethedig
yn ogystal a dileu rhai nodweddion.
Nodwyd bod y cynllun presennol yn dangos
lled adeilad yn 10.7m o’i gymharu
a 11.6m a 12.3m fel a wrthodwyd
yn flaenorol a’r uchder hefyd
yn lleihau i 6.7m o’r 6.9m a’r 7.6m blaenorol. Nodwyd bod yr egwyddor o godi ty yn dderbyniol gan fod y safle o fewn ffin datblygu
pentref Borth y Gest a bod caniatâd amlinellol wedi ei roi yn y gorffennol i
godi ty newydd. Tynnwyd sylw bod diwygiadau cyson wedi ei
wneud o ganlyniad i’r gwrthodiadau blaenorol mewn ymateb i bryderon yr awdurdod
cynllunio. Cydnabyddir fod pryderon wedi eu hamlygu
ynglŷn â’r cais yma sydd yn gyson gyda
gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gyda’r ceisiadau blaenorol. Rhoddwyd ystyriaeth
lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol a gyflwynwyd. Credir fod y bwriad bellach yn dderbyniol ar
sail y diwygiadau a wnaed a’r lleihad ym maint yr adeilad arfaethedig a’i fod
yn safle sydd eisoes wedi ei ystyried yn addas ar gyfer datblygiad preswyl trwy
ganiatáu cais cynharach. Argymhellwyd
bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol â’r
amodau sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. (b) Nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn)
y pwyntiau canlynol: ·
Ei fod
yn gwrthwynebu’r cais blaenorol oherwydd maint y ty ond oherwydd diwygiad
i leihad yn y maint, nid oedd
o’r farn y gallasai ei wrthwynebu ·
Tra’n derbyn
bod pryderon yn lleol ynglyn ag ansawdd y tir roedd
y pryderon hyn wedi eu cyfarch
yng nghynnwys yr adroddiad gerbron ·
Bod y tir yn serth
tu ol i’r
safle a rhaid sicrhau cyn cychwyn
y datblygiad na fyddai unrhyw lithriad
yn y tir ·
Na ellir ei wrthod
oherwydd bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r polisiau perthnasol ·
Yn falch o weld bod amod 9 (tynnu hawliau PD) yn cael ei
gynnwys yn yr amodau er mwyn sicrhau na fyddai’r safle yn cael ei ehangu wedi
derbyn caniatâd cynllunio (c) O safbwynt gwarchod y tir yng nghefn y safle,
cadarnhaodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y byddai modd rhoi amod i dynnu sylw’r
ymgeisydd o’r pryder drwy reoliadau adeiladu. Penderfynwyd: Caniatáu yn unol â’r amodau
canlynol: 1. Amser 2. Cydymffurfio
gyda chynlluniau 3. Deunyddiau/llechi 4. Cyflwyno
a chytuno ar Gynllun Rheoli Adeiladu 5. Gwarchod
coed 6. Priffyrdd 7. Gwydr
afloyw 8. Lefelau
llawr gorffenedig 9. Tynnu
hawliau PD 10. Nodyn
Deddf Wal Rannol Nodyn: i dynnu
sylw'r ymgeisydd i’r posibilrwydd o fod angen wal gynnal
i’r cefn |
|
Cais Rhif C16/0743/42/LL - Glan y Mor, Nefyn PDF 584 KB Adeiladu estyniad deulawr i'r ochr ac adeiladu porth i'r blaen AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu estyniad deulawr i’r ochr ac adeiladu porth i’r blaen. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais ar gyfer codi estyniad deulawr ar
ochr tŷ presennol gyda phorth ar ei flaen i gymryd lle estyniad unllawr to fflat a phorth presennol. Bwriedir dymchwel y
strwythurau hyn a chodi estyniad newydd er mwyn darparu gofod byw ychwanegol.
Byddai to’r estyniad wedi ei gamu i lawr o frig to'r tŷ ac wedi ei orffen
gyda llechi naturiol. Nodwyd bod y safle
y tu allan i'r ffin ddatblygu ac mewn lleoliad agored ac amlwg ar draeth Nefyn
ac o fewn yr Arfordir Treftadaeth a Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llyn.
Mae’r eiddo wedi ei gysylltu ar yr ochr ddeheuol gydag eiddo Hendafarn sy'n adeilad rhestredig Gradd II. Yn agos iawn ar
yr ochr arall, sef yr ochr ogleddol, saif tŷ Hafod y Môr. Tynnwyd sylw at y
sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori yn Rhan 4 yr adroddiad ac fe nodwyd bod y
cyrff statudol yn fodlon gyda'r cynnig er y rhoddwyd peth ystyriaeth i faterion
bioamrywiaeth a llifogydd. Fe dderbyniwyd gwrthwynebiadau gan y cyhoedd, megis
: ·
Yr effaith weledol, yn enwedig ar yr adeilad
rhestredig gyda'r defnydd o ddeunyddiau amhriodol fel ffenestri UPVC ·
Pryder am fynediad i gynnal a chadw talcen eiddo
Hafod y Môr sydd gyfochrog Tynnwyd sylw bod
gan yr eiddo sy'n destun i'r cais gymeriad pensaernïol diddorol a nodweddion
unigryw yn perthyn i’r prif wyneb. Ystyrir bod graddfa, maint, ffurf a dwysedd
yr estyniad arfaethedig yn dderbyniol ac yn gweddu i’r eiddo presennol. O
ystyried bod estyniad to fflat eisoes ar y safle, ni chredir y byddai codi estyniad
deulawr yn ei le yn cael effaith arwyddocaol ar olygfeydd y cyhoedd o’r safle
nac yn debygol o gael effaith andwyol ar gymeriad y tirweddau sydd wedi' eu
dynodi. Nid oedd yn glir
o’r cais beth a fwriedir fel gorffeniad allanol ar gyfer waliau'r estyniad ond
o ystyried sensitifrwydd y safle, credir y dylid gosod amod er sicrhau
gorffeniad priodol, megis rendr gwyn, yn y lleoliad
hwn. O safbwynt yr
adeilad rhestredig sydd ynghlwm, ni fyddai’r estyniad yn cyffwrdd yr adeilad
hwnnw nac yn golygu bod nodweddion hanesyddol pwysig yn cael eu colli. Fe
fyddai'r dyluniad arfaethedig yn sicrhau bod yr estyniad yn ymddangos yn
israddol i Glan y Môr, heb fod yn ymwthiol ar yr eiddo ei hun na’r adeilad
rhestredig cysylltiol. O safbwynt yr
effaith ar fwynderau'r cymdogion yn Hafod y Môr, byddai’r estyniad newydd wedi
ei godi mwy neu lai'n union ar ôl troed yr estyniad presennol felly ni chredir
y byddai'r bwriad yn or-ddatblygiad o'r cwrtil. Nid
oes unrhyw ffenestr ar dalcen Hafod y Môr ac felly nid oes pryder ynghylch
preifatrwydd ychwaith. Er gwaetha sylwadau’r perchnogion nid yw materion yn
ymwneud a threfniadau mynediad i gynnal a chadw eiddo preifat yn ystyriaethau
cynllunio. Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn polisïau'r cynllun datblygu, ystyrir fod yr estyniad deulawr arfaethedig yn dderbyniol ac argymhellwyd i ganiatáu'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.11 |
|
Cais Rhif C16/0744/17/LL - Tir i'r Gogledd-ddwyrain o Y Garreg, Groeslon PDF 754 KB Cais llawn i godi
5 tŷ preswyl deulawr, ynghyd ac addasu mynedfa a ffordd gerbydol
bresennol, darparu llecynnau parcio a thirlunio AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric M. Jones Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Oherwydd bod y Cadeirydd
yn datgan diddordeb yn y cais hwn ac yn absenoldeb yr Is-gadeirydd o’r
cyfarfod, cynigwyd ac eilwyd i’r Cynghorydd Gwen
Griffith gymryd y gadair, ac fe adawodd y Cadeirydd y Siambr yn ystod y
drafodaeth. Cais llawn i godi 5 ty preswyl deulawr, ynghyd
ac addasu mynedfa a ffordd gerbydol bresennol, darparu llecynnau parcio a
thirlunio. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi’r prif
elfennau sy’n berthnasol i’r cais. Esboniwyd mai cais
llawn oedd gerbron i godi 5 tŷ preswyl deulawr gyda newidiadau
i fynedfa a ffordd stad bresennol ac wedi ei gyflwyno
ar ran Cartrefi Cymunedol Gwynedd sydd yn darparu’r tai mewn ymateb i alw
yn lleol am dai 2 lofft. Byddai’r tai o ran maint, yn mesur cyfanswm
o 79m² fesul uned ac wedi eu gosod fel dau set o dai pâr ag un ty ar ben ei hun. Mae gerddi ffurfiol yn cael eu darparu
gyda llecynnau parcio. Yn ogystal, fe welir fod rhan o’r ffordd stad a’r
fynedfa bresennol yn cael ei addasu yn bennaf trwy ei lledu. Nodwyd y byddai
llecynnau parcio ar wahân i’r tai arfaethedig yn cael eu darparu ar ran o’r
safle ar gyfer trigolion presennol Y Garreg a’u hymwelwyr. Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor oherwydd bod y nifer o dai a fwriedir yn fwy na’r hyn
a ellir ei benderfynu o dan y drefn dirprwyedig. Nodwyd bod y
safle yma oddi mewn i ffin datblygu pentref Y Groeslon ag yn dir sydd
wedi ei ddatblygu eisoes. Ar sail hyn yn unig, credir fod y bwriad yn
dderbyniol mewn egwyddor. Cydnabuwyd bod pryderon wedi eu hamlygu ynglŷn â’r cais yma a rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r holl faterion
cynllunio perthnasol a gyflwynwyd. Nodwyd bod y cynnig yma yn cael ei gyflwyno
ar ran Cartrefi Cymunedol Gwynedd ar gyfer diwallu angen lleol am dai, rhoddwyd
ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol a bod y cynnig yn
cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chanllawiau sefydledig. Argymhellwyd bod
y cais yn cael ei ganiatáu yn unol â’r amodau fel y
nodir. (b) Nododd yr aelod
lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ei fod yn gefnogol i’r cais
am y rhesymau canlynol: ·
bod tai’n bodoli ar y safle’n
barod ac yn addas ar gyfer
tai ·
bod galw am y math yma o dai yn
lleol ond mynegodd bryder a oedd y garthffosiaeth
yn addas ar gyfer cynnydd yn y defnydd. (c)Mewn ymateb i’r pryder, nododd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu nad oedd Dwr Cymru yn gwrthwynebu’r cais ac yn awgrymu
amodau safonol ac felly derbynnir bod digon o gapasiti
ar gyfer cynnydd yn nefnydd y garthffosiaeth. (ch) Mewn ymateb i
sylwadau wnaed gan Aelodau unigol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu a’r Uwch
Gyfreithiwr fel a ganlyn: ·
ni roddir cytundeb 106 ar dai Cartrefi
Cymunedol Gwynedd a bod y tai yn
fychan ac yn cwrdd ag anghenion tai fforddiadwy · pe byddai'r tai yn cael eu rhoi ar y farchnad agored rhywbryd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.12 |
|
Cais Rhif C16/0849/32/LL - Crugeran, Sarn PDF 620 KB Adeiladu uned
ddofednod rhydd a gwaith cysylltiedig AELOD LLEOL: Cynghorydd Gweno Glyn Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu ddofednod rhydd a gwaith
cysylltiedig. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais hwn i greu uned
ar gyfer dofednod rhydd h.y. “free
range poultry unit”, ynghyd
a gwaith cysylltiedig. Byddai’r bwriad yn
cynnwys codi sied a phedair storfa porthiant a chreu trac mynediad er
cysylltu’r datblygiad gydag iard y fferm.
Byddai’r sied yn mesur 135 medr o hyd gyda’r uchder i grib y to yn 6.8
medr. Fe fyddai 6 ffan yn ymwthio i fyny
o'r to rhyw fetr yn ychwanegol. Fe fyddai gan y sied arwynebedd llawr o 2630 m2
a gall gadw hyd at 32,000 o ieir dodwy. Bwriedir i waliau allanol a tho’r
sied fod yn shitiau bocs proffil o liw gwyrdd ‘juniper’ a byddai'r storfeydd porthiant yn mesur oddeutu 3
medr mewn diamedr ac yn 6.8 medr o uchder.
Nodwyd y byddai
gwaith cloddio a mewnlenwi yn cymryd lle er mwyn creu
platfform gwastad ar gyfer yr adeilad a gosodir llawr caled o amgylch yr uned.
Bwriedir plannu coed ar yr ochr ddwyreiniol fel sgrin. Bwriedir defnyddio’r fynedfa ffordd bresennol
ond bydd trac yn cael ei greu o’r adeiladau fferm at safle’r uned ddofednod. Tynnwyd
sylw at fanylion eraill ynghylch sut bydd yr uned yn gweithredu yn rhan 1 yr
adroddiad. Nodwyd bod y safle yng nghefn gwlad oddi fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd a
Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llyn ac Enlli. Mae oddeutu 1km o’r AHNE.
Byddai’r uned wedi ei lleoli tua 260 medr oddi wrth adeiladau fferm bresennol Crugeran ac mae’r tai annedd agosaf oddeutu 350 medr i
ffwrdd yn Nhre’r Ddol. Cyfeirwyd at yr ymatebion
i'r ymgynghoriad yn rhan 4 yr adroddiad ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau
yn ystod y cyfnod ymgynghori er i'r Uned AHNE ddatgan pryder ynghylch yr
effaith weledol o rai mannau yn yr AHNE. Derbyniwyd hefyd sawl gohebiaeth yn
cefnogi'r cynllun gan y byddai'n hwb economaidd i'r gymuned leol. Nodwyd bod polisïau'r cynllun datblygu'n gefnogol o godi adeiladau ar gyfer dibenion
amaethyddol os ydynt yn rhesymol angenrheidiol. Yn yr achos hwn mae’r ymgeiswyr
yn bartneriaeth deuluol sydd yn rhedeg fferm Crugeran,
sy'n fferm 190 hectar sy'n canolbwyntio ar eidion, defaid a grawn. Y bwriad yw arallgyfeirio i ddofednod rhydd a derbynnir bod diben amaethyddol dilys ar
gyfer y datblygiad newydd. Fe
fyddai’r adeilad yn cael ei leoli ar ben ei hun oddeutu 260 medr oddi wrth yr
adeiladau presennol ar y daliad. Fe
fyddai hyn yn cyfrannu at fioddiogelwch y fferm trwy wahanu’r elfen ieir o
weddill y fferm, ac mae'r lleoliad yn un llai amlwg yn weledol na safleoedd
agosach at y fferm bresennol. Nodwyd bod
dyluniad y sied o fath amaethyddol cyffredin dim ond iddo fod yn
sylweddol hirach. Wedi dweud hynny, o ystyried y dyluniad, deunyddiau a'r
lliwiau arfaethedig ynghyd a ffurfiant y tir a'r bwriad i blannu sgrin o goed
ni chredir bydd yn sefyll allan fel nodwedd estron yn y dirwedd. Tynnwyd sylw bod rhai tai yng nghyffiniau’r safle a thra bod potensial ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.13 |
|
Cais Rhif C16/0931/39/LL - Blaen y Wawr, Lon Engan, Abersoch PDF 710 KB Cais diwygiedig - adeiladu pwll nofio awyr agored, ystafell beiriannau i'r
pwll nofio ynghyd a strwythyr cegin haf yn cynnwys popty pizza a bbq gyda
echdynnydd mecanyddol, terasau, thirlunio a ffens derfyn AELOD LLEOL: Cynghorydd R H Wyn Williams Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais diwygiedig - adeiladu pwll nofio awyr
agored, ystafell beiriannau i’r pwll nofio ynghyd a
strwythur cegin haf yn cynnwys popty Pizza a bbq
gydag echdynnydd mecanyddol, terasau, thirlunio a ffens derfyn. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais gan nodi bod cais blaenorol wedi ei wrthod a chyflwynwyd cais diwygiedig
ar gyfer adeiladu pwll nofio awyr agored, ystafell
beiriannau i’r pwll nofio, pwmp gwres ynghyd a
strwythur cegin haf yn cynnwys popty “pizza a bbq” a gwaith tirlunio yng nghefn yr ardd. Nodwyd bod y safle ar lain cornel gyda thai
preswyl cyfagos a’i fod o fewn ffin ddatblygu Abersoch. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr yn nodi
bod cynllun diwygiedig wedi ei dderbyn sy’n dangos gwelliannau priffyrdd i
gornel Lon Engan na chyflwynwyd gyda’r cais yn
wreiddiol mewn ymgais i wella gwelededd y ffordd ar gyfer holl ddefnyddwyr y
ffordd ac nid yn unig yr eiddo hwn. Nodwyd bod yr ymatebion i’r ymgynghoriad
wedi eu nodi yn yr adroddiad a thynnwyd sylw penodol at y gwrthwynebiadau sydd
wedi eu derbyn. Nodwyd bod y gardd yn eithaf helaeth ac ystyrir bod maint yr adeilad a gynigir yn dderbyniol o safbwynt maint y cwrtil yn ei
gyfanrwydd. Yn yr un modd, cadarnhawyd
bod maint y pwll nofio yn dderbyniol. Ni ystyrir y byddai unrhyw effaith ar yr AHNE
gan y byddai’r datblygiadau wedi eu suddo i’r tirwedd. Gwrthodwyd y cais blaenorol oherwydd pryderon
mwynderau tai cyfagos ond ystyrir bod y cais diwygiedig yn welliant a’r
pryderon wedi eu goresgyn. Derbyniwyd pryder gan gymdogion ynglyn
a lleoliad y teras, y pwll nofio ac adeilad mor agos
iddynt ond gan fod y rhain wedi eu lleoli ar hyd y ffin byddai’n anodd ei
wrthod ar sail effaith ar fwynderau preswyl cyfagos a chyfeiriwyd at y manylion
llawn ym mharagraffau 5.6 i 5.8 o’r adroddiad. Ystyrir bod y gwrthwynebiadau wedi derbyn
ystyriaeth lawn a’r pryderon wedi eu goresgyn a bod y cais yn cydymffurfio a’r polisiau perthnasol ac felly argymhellwyd i’w ganiatáu yn
unol ag amodau perthnasol ynghyd ag amod
ychwanegol gan yr Adran Briffyrdd er sicrhau gwella’r gwelededd. (b) Nododd yr aelod lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau
canlynol: ·
Yn dilyn derbyn y cynllun diwygiedig a’r newidiadau i
wella gwelededd a diogelwch i’r gornel bod rhai o’r pryderon wedi eu goresgyn a
hyderir y bydd y gwelliant hwn yn cael ei gwblhau’n fuan ·
Gofynnwyd a fyddai modd sicrhau
bod y ffens derfyn yn un cadarn ac yn ogystal rhoi
amod i gyfyngu defnydd o gerddoriaeth hyd at 11.00 p.m. er sicrhau mwynderau preswylwyr a chymdogion cyfagos (c) Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu nad oedd yn bosibl
gosod amodau o’r math uchod ynglyn a defnydd
cerddoriaeth oherwydd bod gan unigolion hawl i ddefnyddio gardd
i gymdeithasu. Pwysleisiwyd nad oedd y ty yn enfawr a phe byddai pryder o aflonyddwch / niwsans yn
codi byddai modd ymdrin â’r pryder bryd hynny. Penderfynwyd: Caniatáu yn unol â’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.14 |