Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2019 - 2020 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Ail ethol y Cynghorydd Elwyn Edwards yn Gadeirydd i’r Pwyllgor
hwn am y flwyddyn 2019/20. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
Gadeirydd ar gyfer 2019 - 2020 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Eric Merfyn Jones yn Is Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorydd Menna Baines a’r Cynghorydd Peter Garlick |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi
materion protocol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Datganodd
yr aelod canlynol fuddiant personol, yn yr
eitem ganlynol am y rheswm a nodir: · Y Cynghorydd
Edgar Owen yn eitem 7.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0169/19/AM
oherwydd bod gwraig ei fab yn gweithio i’r ymgeisydd Roedd yr aelod o’r
farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y cais (b)
Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Edgar Owen (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 7.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio C18/0993/26/LL) ·
Y Cynghorydd Elin Walker Jones (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C19/0328/11/LL) Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr
arall y Siambr yn ystod y drafodaeth
ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt
bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29
Ebrill 2019 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Ebrill
2019, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau
mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C18/0993/26/LL - Tir ger Hen Gapel, Ffordd Waunfawr, Caeathro, Caernarfon PDF 136 KB Diwygio amod rhif 1 o ganiatad cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol AELOD LLEOL:
Cynghorydd Edgar Wyn Owen Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diwygio amod rhif 1 o ganiatâd
cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r
gwaith am 5 mlynedd ychwanegol (a) Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau fod y cais wedi ei
ohirio ym Mhwyllgor 29.4.19 er mwyn caniatáu i’r Swyddogion Cynllunio ystyried
sylwadau hwyr yr Uned Iaith. Amlygwyd bod y cais yn ei gyfanrwydd wedi ei leoli
oddi fewn i ffin datblygu Caeathro fel y’i cynhwysir yn y CDLl mewn man gweddol
amlwg yng nghanol y pentref. Nodwyd nad oedd dyluniad, edrychiadau, deunyddiau,
cynllun na ffurf y tai wedi newid ers i’r cais blaenorol gael ei ganiatáu yn
2014 ac felly ystyriwyd fod y bwriad yn parhau i fod yn dderbyniol. Adroddwyd bod y datblygiad yn cynnwys 4 tŷ
fforddiadwy sydd yn gyfystyr a 33%. Gan nad oedd prisiad swyddogol er mwyn
sefydlu pris marchnad agored y tai wedi ei dderbyn nodwyd y byddai angen i’r
datblygwr gytuno ar y pris gyda’r Adran Cynllunio er mwyn pennu disgownt
priodol ar gyfer y tai fforddiadwy. Amlygwyd y gellid gwneud hynny drwy amod
priodol fyddai yn sicrhau tai fforddiadwy. Wrth ystyried materion darpariaeth addysgol rhagwelwyd
y byddai cyfanswm o 15 disgybl ysgol gynradd yn deillio o’r cais yma ar gyfer
12 tŷ, ynghyd â datblygiad arall gan yr ymgeisydd ym Mhontnewydd am 29 o
dai. Amlygwyd bod Ysgol Bontnewydd, sef
yr ysgol ddalgylch, gyda chapasiti ar gyfer 182 disgybl (167 ar hyn o
bryd). O ganlyniad, ni fyddai angen cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth
addysgol gan na fydd derbyn 15 disgybl ychwanegol yn mynd tu hwnt i’r capasiti. Ystyriwyd bod y
bwriad yn dderbyniol o safbwynt egwyddor, lleoliad, graddfa, dwysedd, mwynderau
gweledol / preswyl, diogelwch ffyrdd a materion isadeiledd ac yn unol â’r
polisïau perthnasol. (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y cais eisoes wedi cael ei adnabod fel un addas ac wedi ei ganiatáu yn 2014 ·
Ei fod wedi ei leoli
o fewn y Cynllun Datblygu ·
Oherwydd cyfnod
heriol yn y maes adeiladu nid oedd y datblygwr wedi gallu gweithredu o fewn y
cyfnod ac felly yn gwneud cais am estyniad amser ·
Nad oedd dim
addasiadau i’r cais gwreiddiol ·
Y byddai’r datblygwr
yn defnyddio contractwyr lleol a deunyddiau lleol (c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr
aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod
angen tai yng Nghaeathro ·
Ei fod yn gefnogol i’r datblygiad (ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais (d) Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â phryderon llifogydd ar y safle, amlygwyd bod y Swyddogion
Cynllunio wedi ymgynghori gyda Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru oedd yn
fodlon gyda’r mesurau lliniaru a’r amodau perthnasol oedd wedi ei cynnig (dd) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r angen statudol i ddarparu safle chwarae saff ac nad oedd mynegi bod gerddi preifat y tai newydd yn ymateb digonol i hynny, amlygwyd bod y Swyddogion Cynllunio wedi ymgynghori gyda’r swyddogion perthnasol oedd yn cadarnhau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C19/0169/19/AM - Gypsy Wood, Bontnewydd PDF 110 KB Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig AELOD LLEOL:
Cynhgorydd Peter Garlick Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a
dderbyniwyd (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar alw’r Aelod Lleol.
Eglurwyd bod y penderfyniad wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 29.04.2019 er
mwyn asesu cynnwys llythyr hwyr a dderbyniwyd gan gyfreithiwr perchennog y tir.
Roedd y llythyr yn nodi bod perchnogion y tir am drosglwyddo’r
busnes i’r ymgeiswyr a gwerthu’r rhan o dir y bwriedir adeiladu’r tŷ oedd
yn destun y cais i’r ymgeiswyr. Adroddwyd bod safle’r cais wedi ei leoli oddeutu 250m
i ffwrdd o ffin ddatblygu pentref Bontnewydd, ac yn nhermau’r Cynllun Datblygu Lleol,
roedd wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored. Yn sgil yr angen i
gynnal a gwarchod cefn gwlad roedd angen cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu
adeiladu tai newydd yno. Nodwyd bod Polisi PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn
datgan mai dim ond datblygiadau tai a oedd yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio
Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig
Cynaliadwy, fyddai’n cael eu caniatáu yng nghefn gwlad agored. Tynnwyd sylw bod paragraff 4.3.1 o’r NCT6 yn nodi mai un
o’r ychydig sefyllfaoedd lle gellid cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei
ben ei hun yng nghefn gwlad agored oedd pan fo angen llety i alluogi gweithwyr
menter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd bod yr angen
hanfodol am lety yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nad ar
ddewis nac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nodwyd, petai’r sefyllfa perchnogaeth tir a’r busnes
yn newid yn swyddogol yn y dyfodol yna byddai’n ofynnol ail-asesu’r bwriad yn
ei gyfanrwydd yn erbyn y rhannau perthnasol o NCT 6. Adroddwyd ei bod yn
gynamserol ac amhriodol i asesu sefyllfa i’r dyfodol gan nad oedd sicrwydd bod
hyn am ddigwydd. Pe byddai sefyllfa’r berchnogaeth yn newid yn swyddogol yn y
dyfodol yna byddai’n ofynnol i’r ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth briodol ar
gyfer ail-asesu’r cais yn ei gyfanrwydd. Tynnwyd sylw at baragraff 4.11
o’r NCT 6 sydd yn nodi bod rhaid darparu tystiolaeth nad oes unrhyw
annedd/anheddai neu adeiladau eraill y gellid eu haddasu i fodloni’r angen. Os
oes annedd/anheddau ar y fenter yn bodoli yn barod yna byddai angen dangos pam na ellid defnyddio’r rhain i ddiwallu anghenion
y fenter ar gyfer gweithiwr preswyl, a pham na ellid aildrefnu trefniadau llafur neu breswyl er mwyn
sicrhau bod y llety presennol yn diwallu anghenion
y fenter heb fod angen annedd arall. Ystyriwyd bod y bwriad o godi annedd menter wledig yng
nghyswllt y busnes ar y safle yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a PS17 o’r
CDLl ynghyd â pharagraffau 4.2.36 - 37 o Bolisi Cynllun Cymru, rhan 4.3.1 o NCT
6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a rhan 2.13 o Arweiniad
Ymarferol NCT 6. Mynegodd yr Uwch Gyfreithiwr mai’r tir sydd wedi ei drosglwyddo i’r ymgeisydd ac nid y busnes, a gydag addasiadau wythnosol yn dod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C19/0087/25/R3 - Ysgol y Faenol, Penrhos Road, Penrhosgarnedd PDF 117 KB Dymchwel Canolfan Penrhosgarnedd ac adeiladau canolfan cymundeol newydd ac ehangu Ysgol y Faenol, ffordd mynediad newydd ynghyd â maes parcio AELOD LLEOL: Cynghorydd
Menna Baines Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel
Canolfan Penrhosgarnedd ac adeiladau canolfan cymunedol newydd ac ehangu Ysgol
y Faenol, ffordd mynediad newydd ynghyd a maes parcio Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd Roedd yr aelodau wedi
ymweld â’r safle (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
ar gyfer ail drefnu a chyfuno safleoedd Ysgol y Faenol a’r Ganolfan
Gymunedol ym Mhenrhosgarnedd. Nodwyd bod y safle wedi ei
leoli mewn ardal anheddol gyda’r rhan fwyaf
ohono o fewn ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor fel y caiff ei
ddiffinio gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn. Amlygwyd
bod y bwriad yn cynnwys y nodweddion canlynol : · dymchwel y ganolfan gymunedol bresennol · creu maes
parcio ar safle’r ganolfan gymunedol – fe fydd prif fynedfa
gerbydol yr ysgol yn symud
i fynedfa’r maes parcio ac fe fydd 60 gofod
parcio a 7 man gollwng yno · creu ffordd
gyswllt yn arwain o’r maes
parcio at safle presennol yr ysgol
(fe fyddai hwn y tu allan
i ffin ddatblygu’r
ddinas) – bydd pedwar gofod parcio
ar gyfer yr anabl ger
yr adeilad · cau'r brif fynedfa ar
gyfer cerddwyr ac agor un newydd 55m i’r gorllewin · dymchwel adeiladau
allanol i’r cefn o’r ysgol · codi estyniadau i’r adeilad presennol gan gynnwys gofod
ychwanegol ar gyfer canolfan gymunedol newydd. Adroddwyd bod Polisi ISA 2 o’r CDLL yn gefnogol
i ddarparu cyfleusterau cymunedol newydd ac ystyriwyd bod y cynnig yn cwrdd
â holl feini prawf y polisi hwnnw. Er i
ôl troed yr adeilad newydd
fod rhyw draean yn fwy
na’r adeiladau presennol, ystyriwyd bod y dyluniad yn welliant
pensaernïol ar yr adeiladau di-nod presennol. Oherwydd natur drefol y safle, ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol
o achosi effeithiau andwyol annerbyniol hirdymor i drigolion
gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol,
er yn anorfod,
bydd peth cynnydd mewn sŵn
ac aflonyddwch.
Ategwyd y byddai modd rheoli unrhyw
effeithiau niweidiol drwy osod amodau
priodol ar y datblygiad. Mewn ymateb i sylwadau
hwyr gan Chwaraeon Cymru awgrymwyd mai ymarfer
desg oedd wedi ei weithredu
gan Chwaraeon Cymru ac nad
oeddynt yn gyfarwydd â’r safle.
Ategwyd bod y bwriad yn gwella’r adnoddau,
yn welliant sylweddol i’r llecyn
chwarae ac yn dderbyniol o ran mwynderau gweledol. (a) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais (b) Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â diffyg ymateb gan rai asiantaethau ac a ddylid bwrw ymlaen heb eu sylwadau,
adroddwyd bod y sefyllfa o beidio derbyn sylwadau
yn eithaf cyffredin a’r tebygolrwydd
yw y byddai ymateb neu sylw
wedi ei dderbyn
petai pryderon gan yr asiantaethau
hyn. Nid oedd gan y Rheolwr
Cynllunio farn ar yr awgrym
bod rhai o’r asiantaethau hynyn methu
ag ymateb oherwydd pwysau gwaith. (ch) Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â pharchu'r amod archeolegol, nododd y Rheolwr Cynllunio bod yr ymgeisydd yn ymwybodol
o’r amod yma. (c) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C19/0149/46/LL - Congl y Cae, Llangwnadl, Pwllheli PDF 148 KB Dymchwel adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y tŷ ac addasu adeilad allanol yn 2 uned wyliau AELOD LLEOL:
Cynghorydd Simon Glyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel
adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y tŷ ac addasu adeilad allanol
yn 2 uned wyliau (a)
Yn dilyn penderfyniad apêl Tynpwll
Cottage, Lon-ty'n-pwll,
Nefyn, Pwllheli, (C18/0023/42/LL), awgrymwyd i’r Pwyllgor ohirio penderfyniad
ar gais Congl y Cae er mwyn i’r Swyddogion Cynllunio gael cyfle i fynd i’r
afael a chyd-destun yr apêl. (b) Cynigiwyd ac
eiliwyd i ohirio’r cais PENDERFYNWYD gohirio y cais er mwyn
i’r Swyddogion Cynllunio gael
cyfle i ystyried
cyd-destun apêl cais rhif (C18/0023/42/LL) |
|
Cais Rhif C19/0328/11/LL - 33, Bryn Eithinog, Bangor PDF 106 KB Estyniadau yn y cefn ac yn nhu blaen yr eiddo AELOD LLEOL: Cynghorydd
Elin Walker Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniadau
yn y cefn ac yn nhu blaen yr eiddo Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd (a) Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer ymestyn y tŷ deulawr
presennol yn y cefn ac yn y blaen.
Byddai’r estyniad cefn yn estyniad deulawr a’r estyniad blaen yn cael ei
godi uwchben y modurdy presennol gydag
edrychiadau allanol yr estyniadau yn cyd-weddu gyda edrychiadau
presennol y tŷ deulawr. O ran egwyddor y
datblygiad, amlygwyd bod Polisi PCYFF2 o’r CDLL yn datgan y byddai cynigion yn
cael eu gwrthod os byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol ar iechyd,
diogelwch neu fwynderau meddianwyr eiddo lleol. Amlygwyd bod Polisi PCYFF3 yn
datgan y byddai cynigion yn cael eu caniatáu, gan gynnwys estyniadau a
newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol, os ydynt yn cydymffurfio â
nifer o feini prawf sy’n cynnwys bod y cynnig yn ychwanegu neu yn gwella
cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y
raddfa ac yr uchder. Ystyriwyd bod y bwriad i ymestyn yr eiddo preswyl yn
dderbyniol mewn egwyddor ac na fyddai gosodiad, ffurf, deunyddiau, graddfa a
dyluniad yr estyniadau yn creu strwythurau anghydnaws na gormesol yn y rhan yma
o’r strydlun. Yng nghyd-destun
mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod anheddau preswyl a’u gerddi preifat
wedi eu lleoli i’r gorllewin (31 Bryn Eithinog) ac i’r gogledd (26 Lon y Bryn)
gyferbyn a safle’r cais. Adroddwyd bod gwrthwynebiad gan breswyliwr rhif 31
Bryn Eithinog wedi ei dderbyn ar sail:- ·
Colli golau drwy greu strwythurau gormesol. ·
Colli preifatrwydd a gor-edrych i eiddo a
adnabyddir fel 31 Bryn Eithinog. ·
Creu trafnidiaeth ychwanegol. ·
Amharu ar gymeriad yr ardal. Mewn ymateb i’r
gwrthwynebiad o golli preifatrwydd a gor-edrych eglurwyd bod yr estyniadau wedi eu dylunio i osgoi unrhyw
or-edrych uniongyrchol i mewn i eiddo cyfagos (31 Bryn Eithinog a 26 Lon y Bryn
yn y cyswllt yma), ac felly, ystyriwyd na fyddai’r bwriad fel y’i cyflwynwyd yn
golygu gor-edrych a cholli preifatrwydd i breswylwyr cyfagos. Mewn ymateb i’r
gwrthwynebiad o greu trafnidiaeth ychwanegol, eglurwyd bod yr eiddo eisoes yn dŷ 4 llofft ac nad oedd
bwriad i ymestyn niferoedd y llofftydd o
fewn y tŷ. O ganlyniad, nid oedd y Swyddogion Cynllunio yn rhagweld y
byddai cynnydd yn nhrafnidiaeth i mewn ac allan o’r safle. Ategwyd nad oedd gan
yr Uned Drafnidiaeth bryderon ynglŷn â diogelwch ffyrdd na gofynion parcio
ac felly'r bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi TRA2 a TRA4 o’r CDLL. Mewn ymateb i’r
gwrthwynebiad o amharu ar gymeriad yr ardal, adroddwyd bod yr ardal gyfagos yn
cynnwys casgliad amrywiol o wahanol fathau o anheddau preswyl ar sail
edrychiadau, graddfa, ffurf a dyluniadau gyda nifer ohonynt eisoes wedi eu
hymestyn a’u newid yn y gorffennol. O
gwblhau’r asesiad, ystyriwyd na fyddai’r estyniadau yn creu strwythurau
gormesol nac anghydnaws yn y rhan yma o’r strydlun. Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod sylwadau wedi eu cyflwyno yn ystod y cyfnod ymgynghori nad oeddynt yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |