Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Huw Rowlands |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: a)
Y
Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.3 C23/0883/43/LL ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn fab i’r
ymgeisydd Roedd yr Aelod o’r farn
ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddo gymryd rhan yn ystod y
drafodaeth na phleidleisio ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: · Y Cynghorydd Angela
Russell (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3
C24/0413/30/LL
ar y
rhaglen · Y Cynghorydd Jina
Gwyrfai (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 C23/0883/43/LL ar
y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Fel mater o drefn,
adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Cyfreithiol
fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y ceisiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y
pwyllgor hwn a gynhaliwyd 9fed o Fedi 2024 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau
mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C24/0362/38/AC Woodcroft, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7UA PDF 164 KB Cais i ddiwygio
amod 2 o ganiatâd cynllunio C21/1210/38/LL er mwyn cyfeirio at gynlluniau
diwygiedig fel rhan o'r cais s73 yma yn hytrach na'r cynlluniau a gyflwynwyd ar
14/12/21 fel y cyfeiriwyd atynt yn amod 2 Aelod Lleol: Cynghorydd
Angela Russell Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio yr cais
er mwyn rhoi cyfle i’r ymgeisydd cywiro’r cynlluniau gan fod y trefniadau
parcio a mynediad fel y gwelir ar y safle yn wahanol i beth sy’n cael ei
arddangos ar y cynlluniau. COFNODION: Cais i ddiwygio amod 2 o ganiatâd
cynllunio C21/1210/38/LL er mwyn cyfeirio at gynlluniau diwygiedig fel rhan o'r
cais s73 yma yn hytrach na'r cynlluniau a gyflwynwyd ar 14/12/21 fel y
cyfeiriwyd atynt yn amod 2 a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio bod y swyddogion cynllunio yn argymell fod y pwyllgor yn
gohirio trafodaeth ar y cais er mwyn rhoi cyfle i’r ymgeisydd gywiro’r
cynlluniau gan fod y trefniadau parcio a mynediad fel y gwelir hwy ar y safle
yn wahanol i beth sy’n cael ei arddangos ar y cynlluniau. Nodwyd bod yr asiant
yn ymwybodol o hyn ac yn y broses o gywiro’r cynlluniau. b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd gohirio’r cais PENDERFYNWYD: Gohirio'r cais er mwyn rhoi cyfle i’r ymgeisydd cywiro’r cynlluniau gan
fod y trefniadau parcio a mynediad fel y gwelir ar y safle yn wahanol i beth
sy’n cael ei arddangos ar y cynlluniau |
|
Cais Rhif C24/0413/30/LL Parc Carafanau Tir Glyn, Uwchmynydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8DA PDF 259 KB Cais llawn i
newid defnydd cae amaethyddol i gynnwys 10 llain carafán teithiol tymhorol yn
ychwanegol i'r prif safle ynghyd a chodi adeilad toiledau/cawodydd, gwelliannau
tirlunio meddal, creu mynedfa/allanfa bwriedig a gosod offer trin Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth
Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFNWYD: Cais wedi ei dynnu yn ôl yn wirfoddol gen
yr ymgeisydd. COFNODION: Cais llawn i newid defnydd cae amaethyddol i
gynnwys 10 llain carafán teithiol tymhorol yn ychwanegol i'r prif safle ynghyd
a chodi adeilad toiledau/cawodydd, gwelliannau tirlunio meddal, creu
mynedfa/allanfa bwriedig a gosod offer trin Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod yr ymgeisydd, yn
wirfoddol, wedi tynnu’r cais yn ôl. |
|
Cais Rhif C23/0883/43/LL Gwynus, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6LY PDF 192 KB Cais llawn i drosi stablau presennol
i eiddo preswyl ynghyd a chodi estyniad unllawr Aelod Lleol: Cynghorydd Jina Gwyrfai Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: I ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i: Amodau 1.
Amser 2.
Cydymffurfio
gyda cynlluniau 3.
Deunyddiau/gorffeniadau
allanol 4.
Cyfyngu
meddiannaeth i menter gwledig 5.
Tynnu
hawliau datblygiadau a ganiateir 6.
Cynllun
draenio tir 7.
Tirlunio 8.
Materion
Bioamrywiaeth 9.
Enw
Cymraeg i’r eiddo Nodiadau: Materion draenio Dŵr
Cymru/CNC. Trwydded rhywogaethau
gwarchodedig COFNODION: Cais llawn i drosi stablau presennol i eiddo
preswyl ynghyd a chodi estyniad unllawr a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar
gyfer trosi adeilad allanol presennol ynghyd a’i ymestyn er mwyn creu tŷ
annedd unllawr newydd gyda thair llofft ar gyfer gweithiwr amaethyddol/busnes
twristiaeth. Ategwyd bod y bwriad hefyd yn cynnwys addasu adeilad arall er mwyn
darparu clwydfan ystlumod parhaol. Eglurwyd
bod y cais yn cael ei gyflwyno i bwyllgor gan fod gan yr ymgeisydd berthynas
teuluol agos gyda Aelod Etholedig o’r Cyngor. Yng
nghyd-destun egwyddor y bwriad, amlygwyd bod polisi PCYFF 1 yn gofyn am
gyfiawnhad dros ddatblygiadau newydd yng nghefn gwlad ynghyd a pholisi PS17
sy’n esbonio bod angen i geisiadau am dai menter wledig gydymffurfio a Pholisi
Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau
Gwledig Cynaliadwy gyda rhan 4.5 o NCT 6 yn ymwneud gydag ail anheddau ar
ffermydd sefydledig. Nodwyd bod y polisi yn annog pobl iau i reoli busnesau
fferm a hybu arallgyfeirio ar ffermydd sefydledig ac i gefnogi’r amcan polisi
hwn gall fod yn briodol caniatáu ail annedd ar ffermydd sefydledig. Adroddwyd,
er mwyn gallu asesu’r bwriad yn erbyn gofynion y canllaw, derbyniwyd asesiad
tŷ menter gwledig, cynllun busnes a chopi o gyfrifon y busnes. Mynegwyd
bod yr ymgeisydd yn byw gyda'i wraig a dau o blant mewn tŷ teras oddeutu
milltir a hanner o safle'r cais. Derbyniwyd tystiolaeth yn dangos fod angen
1.95 o weithwyr amaethyddol ar y daliad a bod y mab eisoes gyda phrif
gyfrifoldebau o redeg y ffarm. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn dderbyniol yng
nghyd-destun egwyddor y bwriad a bod trefniadau eisoes mewn lle i’r person
ifancach fod yn rhedeg y busnes. Cyfeiriwyd
at y’r asesiad a’r manylion a gyflwynwyd gyda’r cais oedd yn datgan bod y
busnes fferm bresennol yn hyfyw; wedi ei sefydlu’n gadarn, yn ariannol gadarn a
bod tebygolrwydd o aros felly. Amlygwyd nad oedd gan y busnes dai neillog ar
gael ac nad oes llety addas yn yr ardal leol ar gyfer yr ymgeisydd o ystyried
ei rôl fel prif weithiwr amaethyddol y daliad. Ystyriwyd hefyd fod maint yr
annedd yn rhesymol o ystyried angen yr ymgeisydd a maint y daliad. O ganlyniad,
roedd yr Awdurdo Cynllunio Lleol yn mynegi’r farn bod egwyddor y datblygiad yn
dderbyniol ac yn unol â pholisi PCYFF 1, PS 17 a’r Nodyn Cyngor Technegol 6. Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl ynghyd a dyluniad ac
effaith weledol y bwriad, ystyriwyd bod yr addasiadau i’r adeilad yn
sympathetig ac yn addas ar gyfer cyn adeilad ffarm ac na fyddai’n cael effaith
niweidiol ar yr adeilad rhestredig gerllaw. O ystyried lleoliad y ffarm ymysg
adeiladau arall, ni ystyriwyd y bydd yn cael effaith negyddol ar fwynderau
gweledol yr ardal na’r AHNE. Amlygwyd bod ystyriaeth lawn wedi ei roi i faterion archeolegol, trafnidiaeth, ieithyddol a bioamrywiaeth ac ni ddarganfuwyd unrhyw faterion o bwys. Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol yn llawn gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd fod y bwriad ... view the full COFNODION text for item 8. |