Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2017/18 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Ail ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd i’r pwyllgor
hwn am y flwyddyn 2017/18. |
|
ETHOL ISGADEIRYDD I ethol Is Gadeirydd
am 2017/18 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Ail ethol y
Cynghorydd Elwyn Edwards yn Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn
am y flwyddyn 2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Eirwyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd yr aelodau canlynol
fuddiant personol yn eitemau canlynol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 7.9 (C17/0257/14/LL) oherwydd
bod ei wraig yn gweithio fel
cydlynydd prosiect i’r Ymddiriedolaeth Harbwr ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams
yn eitem 7.10 (C17/0317/33/LL) oherwydd bod ei dad yn berchen parc carafanau
wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle; ·
Y Cynghorydd Owain Williams yn
eitem 7.10 (C17/0317/33/LL) oherwydd ei
fod yn berchennog parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe
milltir o’r safle. ·
Y Cynghorydd Eric M Jones yn
eitem 7.12 (C17/0356/17/LL) oherwydd ef oedd perchennog y tir dan sylw Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a
oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a
nodir. b)
Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Sion Jones (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.1 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/1406/18/LL) ·
Y Cynghorwyr Dylan Fernley a Nigel W. Pickavance, (nad oeddent yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 7.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0084/11/LL) ·
Y Cynghorydd Edgar Owen (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 7.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0011/19/MW) ·
Y Cynghorydd W. Gareth
Roberts, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 7.6 a 7.8
ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhif C16/0198/30/LL a C17/0242/30/LL) ·
Y Cynghorydd Selwyn Griffiths,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.7 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C17/0287/44/LL) Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24.04.17 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2017 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO I gyflwyno
adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau
mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C16/1406/18/LL Tir tu cefn Capel Bethel, Bethel PDF 373 KB Codi 4 tŷ fforddiadwy, creu ffordd stad newydd a mynedfa cerbydol newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi 4 tŷ
fforddiadwy, creu ffordd stad newydd
a mynedfa gerbydol newydd a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi y gohiriwyd y penderfyniad ym Mhwyllgor 13 Mawrth.
2017 er mwyn i’r aelodau ymweld â’r safle a derbyn
manylion o’r cynllun draenio tir a barn yr ymgynghorwyr statudol. Amlygwyd mai
cais llawn ydoedd i godi
pedwar tŷ fforddiadwy deulawr ar safle ger ardal anheddol o’r pentref ger
y ffin ddatblygu fel y'i diffinnir gan Fap Cynhigion Cynllun Datblygu Unedol
Gwynedd - o ganlyniad fe ddiffinniwyd
fel safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad
agored. Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol oedd wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Eglurwyd bod y
safle yn ymylu gyda’r ffin datblygu ac yn gydnaws a pholisi CH7 sy’n caniatáu
cynigion am dai fforddiadwy ar safleoedd eithrio gwledig addas sy’n union ar
ffin pentrefi neu ganolfannau. Ategwyd bod ochor ddeheuol y safle yn ymylu’r
ffin datblygu ger stad Bron Gwynedd ac felly gall y safle fod yn safle eithrio
gwledig. Caniatáu datblygiadau am dai fforddiadwy yn unig mae polisi CH7 pan fydd
yr angen wedi ei brofi - derbyniwyd datganiad Cynllunio a Chartrefi Fforddiadwy
gyda'r cais yn profi’r angen am y tai hyn. Derbyniwyd sylwadau hefyd gan Uned
Strategol Tai y Cyngor yn cydnabod yr angen am y math yma o dai fforddiadwy yn
yr ardal. Amlygwyd bod gwrthwynebiadau ar sail bod safleoedd, tu fewn i’r ffin
datblygu, heb gael eu datblygu eto a bod y Cynllun Datblygu Lleol yn darparu
safleoedd newydd ar gyfer mwy o dai yn y pentref. Fel ymateb, nodwyd nad oedd
polisi CH7 yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd eraill o fewn y ffin ddatblygu
fodloni’r angen yn y lle cyntaf a’r cyfan sydd ei angen o dan y polisi yw angen
lleol profedig am dai fforddiadwy. Amlygwyd bod gwrthwynebiadau eraill yn cyfeirio at wrthodiadau blaenorol ar
gyfer datblygiad preswyl ar y safle a’i fod wedi ei wrthod ar apêl. Eglurwyd
bod y cais dan sylw (3/18/384E) yn gais am ganiatâd amlinellol ar gyfer
datblygu’r cae i gyd ar gyfer datblygiad preswyl. Ar y pryd, roedd yr
ystyriaethau polisi yn wahanol i’r rhai presennol ac nid oedd y polisïau yn
rhyddhau tir tu allan i’r ffiniau datblygu i ddarparu tai fforddiadwy fel
safleoedd eithrio gwledig. Yng nghyd-destun materion isadeiledd amlygwyd bod polisïau B32, B29 a CH18 yn berthnasol i’r agwedd llifogydd, rheoli dŵr wyneb a sicrhau fod darpariaeth ddigonol o seilwaith i’r datblygiad. Derbyniwyd gwrthwynebiadau yn amlygu pryder am lifogydd, problemau dŵr wyneb a phroblemau gyda’r brif garthffos. Cyflwynwyd cynllun diwygiedig yn dangos cynllun draenio tir manwl ac asesiad cae glas o’r sefyllfa dŵr wyneb presennol a’r sefyllfa ar ôl datblygu’r safle. Adroddwyd y byddai’r dŵr wyneb yn cael ei waredu trwy sustemau Dŵr Cymru i beipen sy’n arllwyso i’r Afon Cadnant. I sicrhau na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol pellach lawr yr afon mae’r bwriad yn cynnwys 2 sustem gwanhad ( ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.1 |
|
Cais Rhif C17/0084/11/LL Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen, 40 Penrhyn Avenue, Bangor PDF 374 KB Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop (yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch ynghyd a dau gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais C16/0157/11/LL) AELODAU LLEOL: Cynghorydd Nigel W Pickavance a’r Cynghorydd Dylan
Fernley Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop
(yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu
arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch ynghyd a dau
gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais C16/0157/11/LL) a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheoaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi y gohiriwyd y penderfyniad 24 Ebrill, 2017 er mwyn i’r
Pwyllgor ymweld â’r safle. Ategwyd mai ail-gyflwyniad
o gais llawn ydoedd ar gyfer
dymchwel adeilad presennol Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen a chodi adeilad tri llawr yn ei
le. Fe dynnwyd y cais blaenorol (C16/0157/11/LL) yn ei ôl cyn
derbyn penderfyniad. Byddai'r datblygiad yn cynnwys yr
elfennau canlynol : ·
Siop ar y llawr gwaelod yn cynnwys
200m2 o arwynebedd
llawr mân werthu "nwyddau cyfleuster" (convenience goods), cownter
caffi ac ardal eistedd, ynghyd ag ardal storfa / swyddfa / ffreutur ar gyfer staff - bwriedir agor y siop 24 awr y diwrnod,
7 diwrnod yr wythnos ·
10 fflat
un llofft ar y lloriau uwch
(5 ar bob llawr). Byddai pob fflat
yn cynnwys ystafell wely, ystafell fyw / fwyta, cegin, ystafell
ymolchi a chyntedd ac fe fyddai
ganddynt arwynebedd llawr o thua 45m2 pob un. ·
7 gofod
parcio wedi'u neilltuo, gan gynnwys
2 ofod ar gyfer gyrwyr anabl,
ynghyd a mannau ar wahân i
gadw gwastraff masnachol a phreswyl Nodwyd bod polisi CH38 o’r CDUG yn ceisio diogelu
cyfleusterau cymunedol presennol. Wrth
dderbyn bod cyfleuster cymunedol wedi ei golli o'r
safle hwn oherwydd problemau gyda hyfywdra'r busnes blaenorol, byddai'r adeilad newydd yn gyfleuster
cymunedol yn darparu ystod eang
o wasanaethau a sicrhau dyfodol mwy sicr
i'r safle. Eglurwyd bod polisïau'r Cynllun Datblygu Unedol yn gefnogol i'r
egwyddor o geisio sicrhau datblygiadau cadarnhaol ar safleoedd
ail-ddatblygu oedd o fewn ffiniau datblygu
trefol. Nodwyd y byddai’r
bwriad yn sylweddol uwch na'r adeilad presennol,
ond gwnaed sylw bod sawl adeilad
tri llawr mewn rhannau eraill o Faesgeirchen, gan gynnwys blociau o fflatiau o faint cyffelyb.
O ganlyniad ni
ystyriwyd y byddai’r adeilad yn wahanol
ei naws i
adeiladau eraill yn y stad. Er
y gwerthfawrogwyd pryderon lleol am y bwriad, rhaid oedd ystyried
y cynllun yng nghyd-destun lleoliad trefol y safle yn ogystal â’i
ddefnydd blaenorol. Ni ystyriwyd y byddai'r datblygiad yn cael
effaith niweidiol arwyddocaol ychwanegol ar fwynderau trigolion
cyfagos ac y byddai’r datblygiad yn gydnaws
gyda Pholisïau B23 a B33 o’r CDUG a oedd
yn anelu at amddiffyn mwynderau trigolion lleol. Tynnwyd
sylw bod yr Asesiad Marchnad Dai, a gyflwynwyd gyda'r cais, yn honni
bod diffyg yn y farchnad dai yn
lleol am unedau un llofft ar gyfer
unigolion neu gyplau a oedd am gymryd eu camau
cyntaf yn y farchnad dai. Ystyriwyd
bod y safle yn addas ar gyfer
unedau byw a byddai’r fflatiau yn cwrdd â galw
lleol mewn modd a oedd
yn fforddiadwy. Roedd y datblygiad yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.2 |
|
Cais Rhif C16/1421/11/LL 390, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd PDF 365 KB Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad 3 llawr er mwyn darparu 6 uned byw AELOD LLEOL:
Cynghorydd Keith Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i ddymchwel
yr adeilad presennol a chodi adeilad 3 llawr er mwyn darparu
6 uned byw a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i ddymchwel adeilad
presennol a strwythurau cysylltiol i gefn y safle a chodi adeilad 3 llawr
newydd fyddai’n darparu 6 uned byw, dwy lofft, hunan cynhaliol.Cyflwynwyd
y cais i bwyllgor oherwydd bod maint y datblygiad arfaethedig yn fwy na’r hyn a
ellid ei drafod o dan y drefn ddirprwyedig. Eglurwyd
bod safle’r datblygiad arfaethedig ar ran ‘isaf’ Stryd Fawr Bangor o fewn ffiniau
datblygu’r ddinas, wedi ei ddynodi fel canolfan is ranbarthol yng Nghynllun
Datblygu Unedol Gwynedd 2009 (CDUG). Tynnwyd sylw i’r hanes cynllunio perthnasol ynghyd a’r sylwadau ychwanegol. Amlygwyd bod cais blaenorol wedi ei wrthod ar sail dyluniad yr adeilad a
hefyd effaith y datblygiad ar osodiad yr adeilad rhestredig. Roedd caniatâd
adeilad rhestredig eisoes yn bodoli i ddymchwel yr adeiladu presennol sydd ar y
safle a chwblhau gwaith i atgyweirio’r adeilad rhestredig. Nodwyd mai'r prif
faterion dan ystyriaeth oedd effaith y datblygiad ar osodiad yr adeilad
rhestredig ar effaith ar y strydlun Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad roedd safle’r datblygiad arfaethedig
o fewn ffiniau datblygu dinas Bangor ond ger ffin tref diffiniedig. Amlygwyd bod gofynion sylfaenol polisi CH3 yn
caniatáu tai newydd ar safleoedd heb eu dynodi o fewn ffin datblygu’r ganolfan
isranbarthol. Yn yr un modd, amlygwyd bod polisi CH6 yn caniatáu cynigion i
ddatblygu tai ar safleoedd ar hap ar gyfer 5 uned neu fwy o fewn ffiniau
datblygu’r ganolfan isranbarthol sy’n darparu elfen briodol o dai fforddiadwy
oni bai y gellir bodloni’r Awdurdod Cynllunio. Fel rhan o’r cais derbyniwyd asesiad o hyfywdra’r cynllun yn dangos na
fyddai’n hyfyw i ddarparu unedau fforddiadwy ar y safle oherwydd y gost o
adeiladu a gwerth terfynol yr unedau. Eglurwyd bod arwynebedd llawr pob uned
tua 57m2. Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy yn cyfyngu tai un
llawr gyda dwy lofft i 80m2. Mae maint yr unedau arfaethedig dipyn llai nag uchafswm
maint fforddiadwy'r math yma o uned. Yn ychwanegol i hyn, nid oes darpariaeth
parcio ar y safle ac mae lle mwynderol/allanol pob
uned wedi ei gyfyngu i falconïau bychan. Nid oes golygfeydd agored na deniadol
o’r safle ac oherwydd yr holl ffactorau hyn ystyriwyd y byddai’r unedau i gyd
yn fforddiadwy yn ei natur beth bynnag. Nid yw’n rhesymol nac yn angenrheidiol
felly i ofyn am ddarpariaeth o dai fforddiadwy drwy drefniant ffurfiol megis
Cytundeb 106 ar y safle yma. Derbyniwyd gwrthwynebiad yn
datgan byddai’r datblygiad yn creu sŵn ac aflonyddwch pellach i drigolion
cyfagos. Eglurwyd bod y safle yn cael ei defnyddio gan gwmni adeiladu ac
ystyriwyd bod hyn yn creu mwy o sŵn a niwsans na’r defnydd preswyl
arfaethedig. Ceir tai neu fflatiau preswyl bob ochor i safle’r cais ac felly
ystyriwyd bod defnydd preswyl yn fwy addas na’r defnydd presennol Yng nghyd-destun trafnidiaeth a mynediad, amlygwyd nad oedd darpariaeth parcio yn rhan o’r bwriad. Derbyniwyd sylwadau cychwynnol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.3 |
|
Cais Rhif C17/0011/19/MW Gweithle Seiont, Ffordd Felin Seiont, Caernarfon PDF 710 KB Cais ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys; Defnydd tir fel estyniad i compownd y safle bresennol a darparu sied cynnal a chadw, adeiladau swyddfa, cyfleusterau lles a maes parcio, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol a sypynnu asffalt ac adeiladu trac cludiant (defnydd dros dro hyd at 10 mlynedd), AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter
Garlick Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi
arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys; Defnydd tir fel estyniad
i compownd y safle presennol a darparu sied cynnal a
chadw, adeiladau swyddfa, cyfleusterau lles a maes parcio, storfa tanwydd, tanc
storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol a sypynnu asffalt ac
adeiladu trac cludiant (defnydd dros dro hyd at 10 mlynedd). a)
Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i ddefnyddio'r chwarel i
gynorthwyo gyda’r gwaith o wella rhwydwaith ffordd leol. Byddai’r chwarel yn
ail gydio yn y gwaith cloddio o dan telerau’r caniatâd mwynau, yn ogystal â
gwaredu deunyddiau gwastraff o’r gwaith adeiladu’r ffordd osgoi i’w defnyddio
ar gyfer adfer y safle. Tynnwyd sylw at y datganiad amgylcheddol oedd wedi ei
gyflwyno gyda’r cais a phwysleisiwyd bod y prosiect ar gyfer
dibenion y Ffordd Osgoi yn unig. Amlygwyd bod angen
y safle am 5 mlynedd ond byddai cyfyngiad
hyd oes trefniadau
cludiant trwm yn gysylltiedig â symud deunyddiau yn 3 blynedd. Ni fydd disgwyl symudiadau
cludiant ar y ffordd – bydd y cludiant yn dod yn syth
oddiar y ffordd osgoi. Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, nid oedd dynodiad i
warchod bywyd gwyllt ar y safle
a bod yr awdurdod wedi cynnal asesiad
cynefinoedd ar y cais a daw i’r casgliad na
fydd unrhyw effaith andwyol ar ddynodiadau amgylcheddol rhyngwladol na chenedlaethaol megis SSSIs & SACs. Nodwyd y byddai’r
safle yn adfer ei hun
yn eithaf cyflym wedi i’r
gwaith gwblhau. b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y cais yn gynhenid
ar gyfer y Ffordd Osgoi ·
Bod y bwriad yn
gyfle unigryw i leihau cludo ac ail sefydlu gan sicrhau gostyngiad sylweddol i
drafnidiaeth gwasanaethau ·
Mantais y safle yw
ei fod yn
ffinio yn uniongyrchol gyda’r prosiect ·
Bod deunydd y chwarel yn addas ·
Bod caniatâd
gweithredol eisoes ar y chwarel c)
Nododd yr aelod
lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ei fod yn gefnogol i’r cais,
ond bod rhai pryderon ynglyn a bod y ffordd uwchben
Peblig yn cau ar ôl y datblygiad. ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau: · Bod yr elfen yma
yn bwysig iawn ar gyfer y Ffordd
Osgoi ac yn gymorth i wasanaethu’r
prosiect · Prosiect enfawr i’r ardal
ac yn un i’w groesawu PENDERFYNWYD awdurdodi Uwch Reolwr
y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i benderfynu'r cais yn ddarostyngedig
i'r amrediad o amodau a ganlyn a, ble noder, i
gyflwyno gwybodaeth benodol yn unol
â gofynion amodau cyn dechrau'r datblygiad:
|
|
Cais Rhif C17/0107/19/LL Chwarel Seiont, Ffordd Felin Seiont, Caernarfon PDF 559 KB Cais am ganiatâd cynllunio dros dro ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys; Iard safle a darparu sied cynnal a chadw, cyfleusterau lles a maes parcio, adeiladau swyddfa, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol, cyfleuster sypynnu asffalt symudol a darparu llwybr halio AELOD LLEOL:
Cynghorydd Peter Garlick Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais am ganiatâd cynllunio dros dro ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag
adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys;
Iard safle a darparu sied cynnal a chadw, cyfleusterau lles a maes parcio,
adeiladau swyddfa, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster
sypynnu concrid symudol, cyfleuster sypynnu asffalt symudol a darparu llwybr
cludo. a) Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan
nodi bod y bwriad yn rhan o brosiect cynorthwyo Ffordd Osgoi Caernarfon. Tynnwyd sylw at bolisi C3 sydd yn annog ailddefnyddio safleoedd a
ddatblygwyd o’r blaen. Bydd yr un ystyriaethau o’r polisi yn ffafrio defnyddio
tir a ddatblygwyd o'r blaen hefyd yn berthnasol i sefydlu compownd
dros dro ar lain galed safle'r cyn gwaith brics. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau
y cais PENDERFYNWYD Awdurdodi Uwch Reolwr y
Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i benderfynu'r cais yn ddarostyngedig
i'r ystod o amodau a ganlyn a, ble noder, cyflwyno gwybodaeth benodol yn unol â
gofynion amodau cyn dechrau'r datblygiad: 1. Dechrau ymhen tair blynedd 2.
Hyd y cyfnod gweithio 5
mlynedd 3.
Gweithgareddau a ganiateir a
Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd 4.
Amseroedd gwaith fel ag y
maent: 07:00 - 19:00 ddydd Llun i ddydd
Gwener; 07:00 - 13:00 ddydd Sadwrn a dim
gweithio mwynau i'w wneud ar ddydd Sul, Gwyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus. 5.
Danfoniadau deunyddiau ar gyfer
swp-brosesu concrid ac asffalt wedi'i gyfyngu i'r llwybr cludo oddi ar y ffordd
sydd wedi'i dangos ar gynlluniau'r cais. 6.
Cynllun plannu coed a llwyni
cyflawn yn gynwysedig mewn gwaith adfer, o
Sŵn yn ystod oriau gwaith
arferol (0700-1900), ni ddylai'r lefel graddfa sŵn fod yn fwy na 55dB(A) LAeq, 1 awr (free field). Gyda'r
nos (1900-2200), ni ddylai'r cyfyngiadau fod fwy na 10dB(A) uwchlaw'r
lefel cefndirol o
Ni ddylai cyfyngiadau yn ystod
y nos fod yn uwch na 42 dB (A) LAe1, 1 awr free field ger
anheddau sensitif. (MTAN1). o
Gweithrediadau dros dro i fod
ddim mwy na 70 dB LAeq, 1
awr (free field) am hyd
at 8 wythnos y flwyddyn. o
Arolwg monitro sŵn yn
unol â chais ysgrifenedig yr Awdurdod Cynllunio Mwynau, i'w gynnal yn unol â
Safon Brydeinig BS.4142:2014 'Methods for rating and assessing industrial and commercial
sound', i asesu ac arddangos cydymffurfiaeth â'r cyfyngiad sŵn ffiniol. o
Defnyddio larymau sŵn
gwyn ar gyfer bagio cerbydau. 7.
Strategaeth adferiad os canfyddir,
yn ystod y datblygiad, halogiad nad oedd wedi'i ganfod yn flaenorol. 8.
Storio tanwydd. 9.
Gofyniad i nodi manylion
cyflawn y tanc storio dŵr budr i gael ei gyflwyno er cymeradwyaeth yr
awdurdod cynllunio lleol cyn cychwyn gwaith gydag amod pellach yn gofyn bod
unrhyw seilwaith dros dro sy'n ymwneud â draeniad budr/carthffosiaeth ar y
safle wedi'i ddigomisiynu'n llwyr ac wedi'i symud o'r safle pan ddaw'r caniatâd
i ben. 10. Defnyddio bowser dŵr ar lwybrau cludo, gwlychu ardaloedd prosesu a deunyddiau wedi'u ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.5 |
|
Cais Rhif C17/0198/30/LL Pwll Melyn, Rhiw, Pwllheli PDF 256 KB Cais ol-weithredol ar gyfer cadw adeilad amaethyddol AELOD LLEOL:
Cynghorydd W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw adeilad amaethyddol a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais cynllunio ôl-weithredol
ydoedd i gadw adeilad amaethyddol o ffrâm dur oedd yn y broses o gael ei
adeiladu. Awgrymir y ffrâm bresennol adeilad gyda rhediad to mono pitch, ond bwriedir cwblhau‘r adeilad gyda tho brig.
Byddai gorffeniad allanol yr adeilad yn gymysgedd o wal blociau concrid a
gorchudd proffil dur o liw gwyrdd tywyll. Lleoli’r yr adeilad yng nghefn gwlad
tu allan i unrhyw ffin datblygu, ac mewn cae amaethyddol o fewn Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn. Mae’n gorwedd 5.5 medr oddi wrth dŷ
annedd unllawr sydd yn adeilad rhestredig gradd II. Tynnwyd sylw ar y polisïau perthnasol oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad
ynghyd a’r sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Amlygwyd bod yr egwyddor o ganiatáu adeiladau at ddefnydd amaethyddol yng
nghefn gwlad wedi ei sefydlu gan Bolisi D9 CDUG sydd yn cymeradwyo cynigion i godi
adeiladau ar gyfer dibenion amaethyddol os ydynt yn rhesymol angenrheidiol.
Datgan asiant yr ymgeisydd bod yr adeilad yn angenrheidiol ar gyfer cadw
anifeiliaid yn ystod tywydd garw achlysurol, ac i gadw offer yn gysylltiedig ag
anifeiliaid sydd yn pori’r tir, ac amaethu. Gan nad oedd manylion anifeiliaid
wedi eu cyflwyno ystyriwyd cynnwys amod oedd yn cyfyngu defnydd yr adeilad at
bwrpas amaethyddol yn unig, ac y dylid ei ddymchwel petai defnydd amaethyddol
yn darfod o fewn cyfnod o 10 mlynedd. Yn ddarostyngedig i gynnwys yr amod
uchod, ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cydymffurfio a pholisi C1 a D9 CDUG, ac
na fyddai’n tanseilio Polisi PCYFF 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Gyda’r safle yn gorwedd mewn man amlwg o fewn AHNE Llyn ystyriwyd yr angen i
leihau unrhyw ardrawiad ar fwynderau gweledol yr AHNE. O ganlyniad, derbyniwyd cynllun diwygiedig (30 Mawrth
2017) yn dangos adeilad bwriedig gyda tho brig, gyda
gostyngiad uchder yr adeilad terfynol yn 3.7 medr uwchlaw lefel daear -
gostyngiad 0.4 medr. Yn ogystal roedd bwriad gorchuddio’r adeilad gyda setiau
proffil gwyrdd tywyll, gan ei fod yn lleihau ardrawiad adeiladau ar safleoedd
amlwg yn y dirwedd. Derbyniwyd sylwadau'r Swyddog AHNE yn nodi y byddai’r
addasiadau yn gwneud yr adeilad yn llai amlwg o’r ffordd.. Eglurwyd bod tŷ annedd agosaf (heblaw eiddo'r ymgeisydd) i’r adeilad bwriedig wedi ei leoli oddeutu 30 medr o’r safle. Oherwydd
maint y bwriad a’i leoliad mewn
perthynas â’r eiddo cyfagos ni ystyriwyd bod yr
adeilad bwriedig yn achosi difrod arwyddocaol i’r
eiddo hwnnw. Yn ychwanegol, ni ystyriwyd bod y bwriad yn amharu ar breifatrwydd
rhesymol defnyddwyr yr eiddo sydd gerllaw nac yn golygu gor-ddatblygiad
o’r safle. Wedi ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, amlygywd bod y datblygiad yn dderbyniol ar sail egwyddor,
lleoliad, defnydd, dyluniad, deunyddiau ac effaith ar amwynder gweledol, ac ei
fod yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chyngor cynllunio lleol a
chenedlaethol. b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- · mai cwt bychan oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.6 |
|
Cais Rhif C17/0287/44/LL Maes Carafannau Greenacres, Morfa Bychan, Porthmadog PDF 326 KB Codi adeiladau storio a cynnal a chadw a darpariaeth storio poteli nwy LPG AELOD LLEOL:
Cynghorydd Selwyn Griffiths Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi adeiladau
storio a chynnal a chadw a darpariaeth storio poteli nwy
LPG a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i godi
adeiladau storio a chynnal a chadw a darpariaeth storio poteli nwy LPG. Amlygwyd
bod safle’r cais wedi ei leoli o fewn safle carafanau presennol Greenacres ym Morfa Bychan rhwng safle trin gwastraff, prif
adeiladau maes carafanau Greenacres a thai preswyl
presennol. Defnyddir y safle ar hyn o bryd ar gyfer storio cychod. Eglurwyd y byddai’r prif adeilad gydag arwynebedd llawr o 205m² ac yn mesur 8m i’r crib, wedi ei orffen yn allanol gyda chyfuniad o
baneli rhychiog a waliau o floc wedi eu gorffen mewn lliwiau gwyrdd a llwyd.
Byddai’r prif adeilad yn darparu gofod ar gyfer y canlynol, tŷ golchi, gweithdy, storfeydd, swyddfeydd ac adnoddau cysylltiol megis cegin a thoiledau. Bydd bwriad codi ffens
‘chain link’ 2m o uchel i gydweddu a’r ffens
bresennol a chreu compownd o fewn yr iard bresennol i
storio poteli nwy LPG. O ran egwyddor, amlygwyd bod polisi D8 o GDUG yn berthnasol i’r cais sydd yn caniatáu cynigion i ehangu/ymestyn/dwysau mentrau diwydiannol a
busnesau presennol neu fentrau eraill os gellid cydymffurfio gyda meini prawf
penodol yn ymwneud gydag addasrwydd y defnydd presennol o safbwynt yr ardal o’i
amgylch a defnyddiau cyfagos a’i berthynas a’r gwaith presennol. Gan mai
adeilad i wasanaethu’r busnes sefydledig presennol oedd yma, ystyriwyd fod egwyddor y bwriad yn unol
â gofynion polisi D8. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl nodwyd bod yr
adeilad arfaethedig wedi ei leoli o fewn iard bresennol ar dir lefel wedi ei
amgylchynu gyda ffens 2m a thirweddu sylweddol. Lleolir y tai preswyl agosaf
oddeutu 17m i ffwrdd o’r safle. gyda llystyfiant sylweddol rhwng y safle a’r
tai Tynnwyd sylw at y sylwadau
hwyr oedd wedi eu derbyn b) Nododd yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y sylwadau canlynol: ·
nad oedd ganddo unrhyw
wrthwynebiad i’r cais o ran materion cynllunio ·
bod angen sicrhau amod ar
gyfer oriau gweithio ·
bod angen sicrhau gorffeniad
addas i’r adeilad - ·
bod angen cynllun goleuo fel
na fyddai effaith ar drigolion lleol ·
Yn welliant i’r trefniant
presennol (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Cytuno ar orffeniadau 4. Cynllun Goleuo 5. Dwr Cymru 6. Cyfyngu defnydd 7. Oriau gwaith |
|
Cais Rhif C17/0242/30/LL Tir ger Y Groesffordd, Rhiw, Pwllheli PDF 350 KB Adeiladu tŷ a modurdy AELOD LLEOL: Cynghorydd
W Gareth Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu tŷ a modurdy a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais i adeiladu tŷ annedd newydd a modurdy
ym mhentref gwledig Rhiw o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a Thirwedd
o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.
Byddai’r tŷ arfaethedig yn ddeulawr wedi ei orffen gyda tho llechi
a waliau allanol carreg leol. Fel rhan
o’r cais derbyniwyd llythyr gan Derwen, Tîm Integredig Plant Anabl yn amlinellu
anghenion y teulu gan fod un o feibion yr ymgeisydd wedi ei gofrestru gydag
anabledd parhaol. Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. O ran egwyddor y datblygiad, dynodi’r Rhiw fel pentref gwledig.
Tynnwyd sylw at y polisi tai perthnasol (Polisi CH5) sydd yn nodi bod rhaid i gynigion gydymffurfio gyda’r holl feini
prawf o fewn y polisi. Trafodwyd chwech o’r meini
prawf hynny mewn manylder ac o ganlyniad, ystyriwyd bod y bwriad yn groes i’r polisi CH5 ar y sail nad
oedd yr angen am dŷ fforddiadwy wedi ei brofi, nad oedd y safle wedi ei
leoli yn union gerllaw adeilad sydd wedi ei liwio a bod ei faint yn sylweddol
fwy na maint tŷ fforddiadwy. Wrth ystyried y safle yng nghyd–destun cefn
gwlad agored, ategwyd mai dim ond tai ar gyfer gweithwyr amaethyddol,
coedwigaeth neu fenter wledig fyddai’n bosibl eu cael ar y safle a hynny yn
seiliedig â gofynion Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau
Gwledig Cynaliadwy
(2010). Byddai’r
bwriad yn groes i’r gofynion
hyn gan nad oedd angen amaethyddol, coedwigaeth neu fenter wledig ar
gyfer y tŷ arfaethedig. Ystyriwyd fod y bwriad yn ei ffurf
bresennol o ran ei faint a’i raddfa yn
groes i ofynion
Polisi B22 CDUG ac y byddai’n
cael effaith ar ffurf a chymeriad
y pentref. Cyfeiriwyd yn yr
adroddiad bod y tŷ yn sylweddol fwy
na maint
tŷ fforddiadwy ac ystyriwyd bod modd lleihau maint yr
eiddo wedi drafod anghenion y plentyn anabl. Nodwyd, pe byddai’r eiddo
yn cael ei
leihau o ran maint y byddai hynny yn
goresgyn y pryderon am effaith y bwriad ar gymeriad y pentref
a’r dirwedd. Amlygwyd mai prif anghenion y cais oedd darparu tŷ
addas ar gyfer teulu sydd
â un mab gydag
anableddau parhaol. Fodd bynnag, wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn y polisïau perthnasol, daethpwyd i’r
casgliad nad oedd egwyddor y datblygiad yn cwrdd â
gofynion sylfaenol polisïau tai'r Cyngor. Ni chyflwynwyd tystiolaeth i ddangos
bod yr ymgeisydd mewn gwir angen fforddiadwy ac ni ddangoswyd bwriad i gyfyngu
meddiannaeth i’r dyfodol. Er gwaethaf anghenion yr ymgeisydd nid yw’r Cyngor
wedi eu hargyhoeddi, ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd, bod rhesymau teilwng
wedi eu cyflwyno i wyro oddi ar bolisïau cyfredol y Cyngor na pholisïau
cenedlaethol yn ymwneud a Thai Fforddiadwy. (a)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn gefnogol i’r
cais · Ei bod hi’n eithriadol bwysig bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.8 |
|
Cais Rhif C17/0257/14/LL Swyddfa Harbwr, Cei Llechi, Caernarfon PDF 370 KB Ail ddatblygu safle gan gynnwys creu 19 o weithdai ar gyfer dylunio crefft, cynhyrchu ac adwerthu ar raddfa fechan, adnewyddu ac addasu adeiladau presennol, newid defnydd i greu 3 uned wyliau ynghyd ac estyniadau i’r adeiladwaith presennol AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen a’r Cynghorydd
Roy Owen Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ail ddatblygu safle gan gynnwys creu
19 o weithdai ar gyfer dylunio crefft,
cynhyrchu ac adwerthu ar raddfa fechan,
adnewyddu ac addasu adeiladau presennol, newid defnydd i
greu 3 uned wyliau ynghyd ac estyniadau i’r adeiladwaith presennol a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer
ail-ddatblygu safle o ddefnydd cymysg: Defnydd Dosbarth B1 (diwydiant ysgafn a
defnydd swyddfa), B2 (diwydiant cyffredinol) a D2 (ymgynnull ag hamdden) ynghyd
a manwerthu atodol er mwyn creu 19 o weithdai ar gyfer dylunio crefft,
cynhyrchu ac adwerthu ar raddfa fechan, adnewyddu ac addasu adeiladau
presennol, newid defnydd i greu 3 uned wyliau ynghyd ac estyniadau ac
addasiadau ynghyd a chodi adeiladau o’r newydd sy’n llenwi’r gwagleoedd rhwng y
strwythurau presennol. Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion
gorllewinol Ffordd Santes Helen, yn rhan o ardal Hen Gei Llechi o fewn Ardal
Gadwraeth Caernarfon a Gosodiad Hanfodol Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer
Castelli a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd (CADW).
Nodwyd bod rhan helaeth o’r safle o fewn Parth Llifogydd C2 fel y’i cynhwysir
yn y Mapiau Cyngor Datblygu Nodyn Cyngor Technegol 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd
(2004). Dynodir y safle ynghyd a gweddill glannau’r Afon Seiont
gyferbyn a Ffordd Santes Helen fel safle ail-ddatblygu yng Nghanllaw Cynllunio
Atodol: Briffiau Datblygu. Nodwyd bod y cynlluniau diweddaraf a gyflwynwyd gyda’r cais yn ymateb
yn bositif o ran graddfa, edrychiad, deunyddiau a thirlunio. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno Datganiad Ieithyddol a Chymunedol i
gefnogi’r bwriad a bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi dod i’r
canlyniadau canlynol ·
Credir bydd y datblygiad yn cynnig buddiannau
economaidd i’r ardal leol gan
arwain at wariant ychwanegol yn yr
economi leol. ·
Credir bydd y bwriad yn arwain at fuddsoddiad
uniongyrchol a chreu swyddi ar y safle
gyda’r swyddi hyn yn debygol
o fod yn addas ar gyfer
y boblogaeth leol ac i’r perwyl hyn
bydd y bwriad yn cyfrannu tuag
at gadw’r boblogaeth bresennol yn yr
ardal ac yn ei dro’n debygol
o gael effaith
bositif ar hyfywdra’r iaith Gymraeg. ·
Ar y cyfan, ni
chredir fod natur na graddfa’r
datblygiad arfaethedig yn debygol o gael
effaith andwyol ar yr iaith
Gymraeg. Amlygwyd bod Dŵr Cymru yngwrthwynebu’r
cais dros dro hyd at dderbyngwybodaeth
yn ymwneud â statws y gyfundrefn garthffos gyhoeddus leol presennol ynghyd a’r
angen am fanylion pellach parthed cyfradd llifiant presennol ac arfaethedig
dŵr wyneb a dŵr aflan o’r safle gan ystyried bod capasiti
cyfyngedig yn y gyfundrefn gyhoeddus bresennol ar gyfer derbyn mwy o
lifiant. Nodwyd bod trafodaethau wedi cymryd lle rhwng asiant yr ymgeisydd, swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru ynglyn a goblygiadau datblygu ar ran helaeth o’r safle oddi fewn i Barth C2 Llifogydd fel y’i cynhwysir yn Nodyn Cyngor Technegol 15 Datblygu a Pherygl o Lifogydd (2004). Cydnabuwyd bod y safle yn agored i orlif llanw o’r Fenai, ac o ganlyniad i’r trafodaethau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.9 |
|
Cais Rhif C17/0317/33/LL Plas yng Ngeidio, Boduan, Pwllheli PDF 250 KB Newid defnydd rhan o gae amaethyddol i storio hyd at 30 carafan deithiol dros fisoedd y gaeaf AELOD LLEOL:
Cynghorydd Anwen J Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd rhan o gae amaethyddol i storio hyd
at 30 carafán deithiol dros fisoedd y gaeaf (a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i greu
safle i storio hyd at 30 o garafanau teithiol dros fisoedd y gaeaf. Amlygwyd
bod bwriad adeiladu trac newydd i gludo'r carafanau o’r maes carafanau i’r
safle storio ar ochr gogledd dwyreiniol i glawdd a fyddai yn ei wahanu oddi
wrth y trac presennol sydd hefyd yn llwybr cyhoeddus ac a ddefnyddir i gludo
carafanau i’r maes carafanau. Golyga
hynny y byddai mwyafrif o’r carafanau yn cael eu cludo o’r maes carafanau i’r
safle storio heb ddefnyddio'r ffordd sirol. Nodwyd bod y lleoliad wedi ei leoli mewn pant naturiol o fewn 10 medr i
adeiladau sylweddol y fferm. Er bod llwybrau cyhoeddus wedi eu lleoli ar dir y
fferm, ni fyddai storio carafanau ar y
safle yn amlwg o’r llwybrau hynny, neu fannau cyhoeddus lleol oherwydd
tirffurfiau naturiol ac adeiladau presennol ac felly yn cydymffurfio gyda
pholisi D21 - Storio Carafanau Teithiol Yng nghyd-destun mwynderau gweledol ni ystyriwyd fod y safle’n amlwg nac
ymwthiol yn y dirwedd ac er gall yr unedau a leolir
ar y safle fod yn weladwy
o olygfeydd pell a thiroedd uwch ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad o greu safle
storio carafanau yn debygol o greu
nodwedd ymwthiol nac amlwg yn
y dirwedd sydd o fewn dynodiad Ardal
Gwarchod y Dirwedd. Derbyniwyd sylwadau gan Uned Bioamrywiaeth y Cyngor yn datgan nad oedd
gwrthwynebiad i’r bwriad a chynigiwyd bod amod
tirweddu yn cael ei ychwanegu petai y cais yn cael i ganiatáu. b) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. PENDERFYNWYD caniatáu Amodau 1. 5
mlynedd 2. Unol a
chynlluniau 3. Cyfyngu
nifer i 30 carafán mewn cyfanswm. 4. Tirlunio ar hyd y clawdd sy’n terfynu ar y safle o fewn y tymor plannu cyntaf wedi
gweithredu'r caniatâd. 5. Storio carafanau teithiol dros gyfnod y gaeaf yn unig. |
|
Cais Rhif C17/0325/38/LL Tir ger 2 Bryn Goleu, Llanbedrog, Pwllheli PDF 273 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu tŷ deulawr a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu tŷ
deulawr wedi ei orffen gyda rendr a tho llechi.
Amlygwyd bod yr ymgeisydd angen tŷ ar gyfer cynnal a hyrwyddo ei fusnes.
Mae’r safle o fewn dynodiad Ardal Gwarchod y Dirwedd gyda ffin datblygu'r
pentref wedi ei lleoli ar derfyn gogleddol y rhesdai
a’r capel gerllaw. Golygai hyn bod mwyafrif o arwynebedd y tŷ bwriadedig y tu allan i ffin y pentref a bod hyn gyfystyr a
chodi tŷ newydd y tu allan i ffin datblygu. Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol oedd yn yr adroddiad ynghyd ag
ymatebion i’r ymgynghoriad. Amlygywd bod yr ymgeisydd yn anghytuno gyda barn swyddogion ynglŷn â lleoliad
y ffiniau ac felly cyflwynwyd cynllun yn dangos gosodiad y datblygiad mewn
perthynas a ffin datblygu'r pentref gyda’r rhaglen. Nid yw’r datblygiad wedi ei
gyflwyno fel bwriad ar gyfer tŷ fforddiadwy ac mae maint a graddfa’r
bwriad yn awgrymu’n gryf nad oes unrhyw fwriad i’r
tŷ fod yn fforddiadwy. Ni chyflwynwyd unrhyw fanylion na thystiolaeth i
ddangos fod yr ymgeisydd angen tŷ fforddiadwy. Datgan yr ymgeisydd y dylai’r tir fod wedi ei
gynnwys oddi fewn i’r ffin ddatblygu yn CDUG gan ei fod wedi ei gynnwys yn y
mapiau mewnosod drafft a bod y tir wedi ei ddileu o’r ffin yn dilyn
penderfyniad yr Arolygydd i dynhau ffiniau datblygu pentrefi yn gyffredinol.
Deallir gan yr ymgeisydd ei fod wedi gwneud cais i’r Uned Polisi i gynnwys y
safle yn ei gyfanrwydd o fewn ffin
datblygu'r pentref yn CDLl. Gellid cadarnhau nad oedd newid i’r ffin
datblygu yn CDLl mewn perthynas i’r safle yma ar hyn
o bryd. Er gwaethaf dadleuon yr ymgeisydd nid yw’r Cyngor wedi eu hargyhoeddi, ar
sail y wybodaeth a gyflwynwyd, bod rhesymau cynllunio teilwng wedi eu cyflwyno
i wyro oddi ar bolisïau cyfredol y
Cyngor. Nid yw egwyddor o godi
annedd ar y safle yn cydymffurfio a gofynion polisi tai'r cyngor sef polisi C1,
CH7 a CH9 CDUG a Chanllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy (2009). Mae’r tŷ deulawr arfaethedig o ddyluniad
modern ac wedi ei leoli yn agos at derfyn cefn gerddi tai cyfagos a chwrtil y
capel a’r tŷ capel. Mae’r cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos er
na fydd y tŷ yn uwch na’r capel cyfochrog, fe fydd yn sylweddol uwch na’r
tai deulawr gerllaw, ac felly mae pryder ynglŷn â’i
leoliad, maint a’i raddfa mewn perthynas â’r tai
hynny. O ran ei faint a’i raddfa, ni ystyriwyd fod y bwriad yn parchu’r safle
a’i gyffiniau ac y byddai yn achosi niwed arwyddocaol i
breifatrwydd gardd a chwrtil y ty capel a’r eiddo i’r de orllewin o’r safle. Derbyniwyd sylwadau’r Uned Drafnidiaeth yn cadarnhau nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad. Fodd bynnag, wedi ymweld ar safle roedd gan y swyddogion trafnidiaeth bryderon am y fynedfa yn arbennig felly o ran gwelededd wrth gael mynediad i’r ffordd ddosbarth 2 gyfagos. Fodd bynnag, wedi ystyried sylwadau’r Uned ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.11 |
|
Cais Rhif C17/0356/17/LL Tir ger 5, Rhes Gosen, Groeslon, Caernarfon PDF 320 KB Newid defnydd tir i ddefnydd preswyl cysylltiol a rhif 1 Rhes Gosen, ynghyd a chodi modurdy/storfa a chreu mynedfa a lle parcio AELOD LLEOL:
Cynghorydd Eric M Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd tir i ddefnydd
preswyl cysylltiol a rhif 1 Rhes Gosen,
ynghyd a chodi modurdy/storfa a chreu mynedfa a lle parcio a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli ar ben rhes o dai ar gyrion
pentref Groeslon tu allan i ffin ddatblygu’r pentref. Eglurwyd bod rhan fwyaf
o drigolion y rhesdai
yma yn parcio ar y ffordd gul yma, sy’n peri problemau parcio, mynediad a throi
yn yr ardal. Nodwyd hefyd bod y safleyn dir
amaethyddol gwlyb. Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol oedd yn yr adroddiad ynghyd ag
ymatebion i’r ymgynghoriad. O ran
egwyddor, amlygwyd bod yr adeilad o faint a dyluniad addas fel modurdy/storfa
ddomestig ac yn gweddu i’r ardal ac i’r teras cyfagos cysylltiol. Nodwyd bod maint
yr ardal i’w defnyddio fel gardd wedi ei leihau o’r
hyn a gynigiwyd yn wreiddiol, ac ystyriwyd fod hyn yn
addas, ac yn cydweddu a maint gerddi/cwrtilau eiddo eraill yr ardal. Cadarnhaoedd yr Uned Drafnidiaeth fod yr iard bwriadedig o led a hyd digonol i barcio a throi cerbyd. Yn dilyn cyfnod o ymgynghori
statudol, derbyniwyd un ohebiaeth yn nodi materion dwr ffo a dŵr wyneb.
Eglurwyd bod y tir sy’n destun y cais yn wlyb, ac mae ffoes rhwng y safle a’r
briffordd. Nodwyd bod bwriad gosod draen tir yng nghefn y safle, ac ni fydd
unrhyw ddŵr wyneb na dŵr ffo yn rhedeg i’r briffordd yn ôl
cynlluniau’r cais. Gyrrwyd ymgynghoriad at Gyfoeth Naturiol Cymru ond nid oedd
ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad. Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd b)
Cynigwyd ac
eiliwyd i ganiatáu y cais PENDERFYNIAD Caniatáu Amodau 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Cytuno ar orffeniadau 4. Amodau Priffyrdd 5. Cyfyngu defnydd i ddefnydd atodol
i 1 Rhes Gosen 6. Dim defnydd busnes |