Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd John Pughe Roberts a’r Cynghorwyr Selwyn Griffiths a Dilwyn Lloyd (Aelodau Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant
personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Gruffydd
Williams, yn eitemau 5.5 a 5.6 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C16/1603/41/AM a
C16/1363/41/AM) oherwydd ei fod mewn perthynas efo’r ymgeisydd; ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams,
yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1394/35/AM) oherwydd bod ei gwsmeriaid yn defnyddio’r clwb golff. Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a
oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a
nodir. (b) Datganodd y Rheolwr
Cynllunio fuddiant personol yn eitemau 5.5 a 5.6 ar y rhaglen, (ceisiadau
cynllunio rhifau C16/1603/41/AM a C16/1363/41/AM) oherwydd bod ei rhieni yn
berchen eiddo gyferbyn mynediad safle’r cais. Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a
oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau. (c) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd R. H. Wyn
Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.2 a 5.10
ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C16/1336/39/LL a C16/1578/39/LL); ·
Y Cynghorydd Aled Ll. Evans, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
yn eitemau 5.5 a 5.6 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C16/1603/41/AM a
C16/1363/41/AM); ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/1394/35/AM); ·
Y Cynghorydd Simon Glyn, (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/1380/46/LL); ·
Y Cynghorydd Dafydd Meurig
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.11 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/1625/16/R3). Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2017 fel
rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C16/1250/17/LL - Fferm Tanyffordd, Cilgwyn, Carmel, Caernarfon PDF 249 KB Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd
y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2016 er mwyn rhoi cyfle
i’r ymgeisydd gyflwyno mwy o wybodaeth. Cyfeiriwyd at y wybodaeth ychwanegol a
gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ynghyd â llythyr o gefnogaeth a dderbyniwyd. Tynnwyd sylw bod polisi D9 o Gynllun Datblygu
Unedol Gwynedd (CDUG) yn gefnogol i godi adeiladau ac adeiladwaith ar gyfer
dibenion amaethyddol os ydynt yn amlwg yn rhesymol angenrheidiol at ddiben
amaethyddiaeth. Nodwyd ar sail y wybodaeth a ddaeth i law gyda’r cais a’r hyn a
welwyd o ran defnydd/gweithgarwch yn y sied ‘amaethyddol’ bresennol ac o fewn y
safle oddi amgylch, roedd y swyddogion yn parhau o’r farn,
ag heb gael eu hargyhoeddi, nad oedd y sied arfaethedig yn y lleoliad hwn yn
ddatblygiad gwirioneddol resymol angenrheidiol ar gyfer dibenion amaethyddol. Nodwyd pryder am effaith ychwanegu sied fawr,
ddiwydiannol yr olwg ar y safle yn ychwanegol i’r siediau presennol ar
fwynderau gweledol yr ardal. Credir bod y bwriad i godi adeilad amaethyddol
aml bwrpas arall ar y safle yn annerbyniol ac yn groes i ofynion polisïau
perthnasol y CDUG. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol: ·
Nad oedd y bwriad yn unol
â’r polisïau; ·
Ofn creu cynsail peryglus pe caniateir y cais gan nad
oedd yn ymddangos
y byddai defnydd amaethyddol o’r sied; ·
Bod y Pwyllgor wedi rhoi cyfle
i’r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth ychwanegol ond nid oedd yn
ddigonol felly roedd rhaid dilyn y polisïau; ·
Bod yr ymgeisydd yn arbenigo
mewn stoc pedigri a’i fod
yn anghywir mesur gofynion y person ar faint y tir. Byddai’r aelod yn atal ei
bleidlais. PENDERFYNWYD gwrthod y cais. Rhesymau: 1. Nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi bod angen rhesymol
angenrheidiol am sied amaethyddol wedi cael ei brofi ar gyfer y safle hwn.
Credir felly fod y bwriad yn groes i ofynion polisi D9 o Gynllun Datblygu
Unedol Gwynedd. 2.
Mae lleoliad y sied
arfaethedig yn amlwg o fewn y dirwedd leol oherwydd ei ffurf a maint a’i
lleoliad dyrchafedig, credir felly y byddai hyn yn amharu ar fwynderau gweledol
yr ardal gyfagos gan gynnwys ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Dyffryn
Nantlle sydd yn groes i ofynion perthnasol polisïau B12, B22 a B23. |
|
Cais Rhif C16/1336/39/LL - Anhywel, Lon Pant Morgan, Abersoch PDF 263 KB Tŷ newydd dwy lofft a gwaith cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd R.
H. Wyn Williams Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Tŷ
newydd dwy lofft a gwaith cysylltiedig. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2017 er mwyn cynnal
ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn
y cyfarfod. Nodwyd bod y safle wedi ei
leoli y tu fewn i ffin
datblygu pentref Abersoch a hefyd tu mewn i’r
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Adroddwyd bod cais blaenorol ar gyfer
datblygu tŷ ar y safle hwn
wedi ei wrthod,
yn ogystal, fe wrthodwyd
apêl yn erbyn
y penderfyniad hwnnw ar y sail y byddai’r cynllun yn ormesol
ar dŷ Carrog (drws nesaf)
ac fe fyddai’n or-ddatblygiad o’r safle ac o ganlyniad ni fyddai’n diogelu
cymeriad yr AHNE. Amlygwyd bod yr Arolygydd yn ei
benderfyniad yn cydnabod bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle at ddibenion preswyl yn dderbyniol
o ran cymeriad trefol ehangach y dirwedd. Nodwyd bod y cynllun arfaethedig yn sylweddol llai
na’r bwriad blaenorol. Ychwanegwyd er bod y safle o fewn yr AHNE, roedd
hefyd yn safle mewn-lenwi o fewn ffin datblygu
pentref Abersoch ac wedi’i amgylchynu gan ddatblygiadau preswyl eraill. Nodwyd bod llawer o wahanol ddyluniadau i dai’r ardal
ac nid oedd un patrwm adeiladu
nodweddiadol. Roedd y dyluniad, er yn
fodern, o ran graddfa a deunyddiau a fyddai’n gweddu i’r safle.
Bwriedir amddiffyn rhan sylweddol o’r llystyfiant presennol, ynghyd â sicrhau y bydd rhagor o goed a
llwyni’n cael eu plannu. Tynnwyd
sylw bod yr Uned AHNE o'r farn
na fyddai'r
datblygiad yn cael effaith annerbyniol
ar yr AHNE. Cyfeiriwyd at y pryderon a godwyd o ran effaith ar fwynderau preswylwyr
tŷ Carrog, ystyrir fod lleihad
i swmp yr
adeilad o gymharu â’r cynllun blaenorol
ynghyd â’r ffaith bod yr adeilad
ymhellach i ffwrdd o’r ffin
yn golygu na fyddai’n
ymwthiol. Nodwyd bod y cynllun gerbron yn ymateb i
bryderon yr Arolygydd ar y cais blaenorol ac yn eu datrys
ac felly roedd y bwriad yn dderbyniol. (b) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod
lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:- ·
Bod y cais blaenorol wedi
colli mewn apêl ac nid oedd y sefyllfa wedi newid; ·
Pryder o ran diogelwch ffyrdd
- na fyddai lle i geir droi rownd yn y cwrtil gan orfod bagio i’r lôn brysur.
Gwrthododd y Cyngor gais tebyg yng Nghysgod y Graig, ac fe wrthodwyd ar apêl,
ar sail priffyrdd o ran bagio i’r lôn; ·
Ei bryder bod y Gwasanaeth
Cynllunio yn cael ei herio’n ddifrifol gan yr ymgeiswyr o ystyried bod y cais
drws nesaf wedi ei wrthod oherwydd bod y clogwyn yn berthnasol; ·
Hwn fyddai’r unig dŷ i’w
weld uwchben y wal felly collir yr olygfa yn rhan o Lwybr Arfordir Llŷn; · Bod cyfamod caeth, ar dir drws nesaf i’r safle a roddwyd i Abersoch ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif C16/0761/44/LL - Capel Garth, Bank Place, Porthmadog PDF 274 KB Addasu cyn Gapel i 9 uned breswyl gyda darpariaeth parcio. AELOD LLEOL: Cynghorydd E.
Selwyn Griffiths Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Addasu
cyn Gapel i 9 uned breswyl gyda darpariaeth parcio. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod yr adeilad presennol yn sefyll yn wag ers oddeutu 18 mlynedd. Adroddwyd y
caniatawyd cais yn 2010 i addasu’r adeilad i 8 uned byw, ond ni weithredwyd y
caniatâd yn ystod y cyfnod statudol. Nodwyd bod safle’r cais o fewn canol tref
Porthmadog gyda ffordd dosbarth 3 yn rhedeg o flaen yr adeilad a oedd yn
adeilad rhestredig gradd II. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor.
Cyfeiriwyd at bolisi CH6 o’r CDUG a oedd yn ymwneud â sicrhau canran o dai
fforddiadwy mewn datblygiad o’r math yma. Nodwyd o edrych ar y cynlluniau llawr
roedd sawl un o’r unedau yn disgyn o fewn maint uned yr ystyrir i fod yn
fforddiadwy yng nghyd-destun y Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy.
Ystyriwyd nad oedd lleoliad y datblygiad yng nghanol y dref yn rhoi gwerth
premiwm ar yr unedau a fyddai’n cael eu darparu ac felly fod hyn, yn ogystal â’u maint, yn golygu fod canran o’r unedau am fod yn
fforddiadwy beth bynnag heb yr angen i gyfyngu hynny ymhellach drwy Gytundeb
106. Adroddwyd y derbyniwyd ar fore’r Pwyllgor gadarnhad o bris marchnad agored
tebygol ar gyfer yr unedau ac nid oedd pris ddim un o’r unedau yn uwch na
£110,000. Ystyriwyd y byddai’n afresymol i gyfyngu'r pris ymhellach drwy
Gytundeb 106. Nodwyd ni fwriedir gwneud llawer o addasiadau allanol i’r
adeilad, fe fyddai’r gwaith mwyaf ar flaen yr adeilad er mwyn creu mynedfa
gerbydol newydd i ddarparu lle parcio ar gyfer bob uned byw. Nodwyd bod y cynllun yma yn gyfle i sicrhau defnydd hirdymor
yr adeilad rhestredig gradd II a oedd yn dirywio. Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau gan drigolion lleol ar sail gor-edrych ac aflonyddwch yn ystod gwireddu’r cynllun.
Nodwyd yr argymhellir gosod amod i sicrhau fod y ffenestri a oedd yn gwynebu tŷ Gwylfa yn cael eu hail-wydro gyda gwydr
wedi ei gymylu (neu ddull tebyg) er mwyn sicrhau preifatrwydd y tŷ ac na
fyddai unrhyw or-edrych annerbyniol yn digwydd o
ganlyniad i’r bwriad. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan yr
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd oedd yn nodi eu bod yn ystyried bod y bwriad a’r
materion o ran tai fforddiadwy yn dderbyniol. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Nodwyd bod yr aelod
lleol yn gefnogol i’r cais efo’r
amodau. Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. (c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Er bod yr unedau yn naturiol
yn fforddiadwy gan fod eu
maint yn cyfyngu eu gwerth,
ni ellir
eu hatal rhag mynd yn
lety gwyliau, felly fyddai’n bosib rhoi cytundeb 106 ar rai ohonynt? · Gan nad oedd yr ymgeisydd wedi gwrthod cytundeb 106, pam na ellir gosod cytundeb 106 a fyddai o help i’r Cyngor o ran darparu tai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C16/0835/44/CR - Capel Garth, Bank Place, Porthmadog PDF 344 KB Addasu cyn gapel i 9 uned breswyl. AELOD LLEOL: Cynghorydd E.
Selwyn Griffiths Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Addasu cyn gapel i 9 uned breswyl gyda darpariaeth
barcio. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais rhestredig, gan nodi mai materion cadwraethol yn
unig a asesir, sef effaith y bwriad ar edrychiad a chymeriad hanesyddol a
phensaernïol yr adeilad rhestredig. Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd y gwerthfawrogir fod angen addasu ar
raddfa gweddol helaeth y nodweddion o fewn yr adeilad
ond roedd rhaid cael balans
rhwng hyn a sicrhau dyfodol ar gyfer yr
adeilad. Nodwyd fod ei gyflwr
wedi dirywio a bellach roedd yn
cael effaith ar yr adeilad
ei hun, y strydwedd a mwynderau tai cyfagos heb
sôn am fod yn berygl. Pwysleisiwyd bod rhaid taro balans rhwng gwarchod yr adeilad rhestredig
a’i nodweddion a sicrhau defnydd hirdymor. Teimlir bod hyn yn cael
ei golli yn asesiad rhai
o’r ymgynghorai statudol, yn ddelfrydol
fe fyddai
wedi dod i ddefnydd yn
gynharach ond o ystyried y sefyllfa roedd rhaid bod yn fwy meddwl
agored am ganiatau defnydd newydd o’r adeilad. Ystyriwyd fod egwyddor y bwriad o ail-ddefnyddio ac addasu’r adeilad i’w groesawu gan
sicrhau dyfodol a defnydd newydd i’r adeilad rhestredig
gradd II. Nodwyd bod y gwaith mewnol
yn sylweddol ei natur, ond
fel yr eglurwyd,
ystyrir fod hyn yn hanfodol
er galluogi sefydlu defnydd newydd hir dymor
i’r adeilad, a’r cyfaddawd oedd
sicrhau ail-ddefnyddio nifer o’r nodweddion
oedd i’w symud/tynnu o fewn
yr unedau. (b) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Mewn ymateb
i gwestiwn gan aelod, nododd
y Rheolwr Cynllunio bod y cynlluniau manwl a oedd yn ynghlwm
â’r cais yn dangos bwriad
i ail-ddefnyddio llawer o’r seti
yn y galeri fel rhan o’r
ceginau a partisiwns newydd ac o fewn yr unedau. Ychwanegodd bod y nenfwd yn cael ei
warchod gan gael ei guddied fel oedd
yn digwydd yn aml wrth
drosi capeli. Nododd aelodau
eu tristwch o ran colli treftadaeth a’r gwaith cywrain
ond ei fod
yn anodd cael cydbwysedd o ran gwarchod y nodweddion a dod a’r adeilad yn ôl
i ddefnydd. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad CADW. Amodau: 1. 5 mlynedd 2. Unol a’r cynlluniau 3. Dyluniad a gorffeniad y fynedfa gerbydol, i gynnwys y drws, i’w gymeradwyo
yn ysgrifenedig gan yr ACLL cyn dechrau unrhyw waith arall sydd yn destun y
caniatâd. 4. Amod cofnod ffotograffig 5. Llechi to i gydweddu a’r llechi presennol 6. Ffenestri gwreiddiol i’w trwsio fel y maent ac unrhyw ffenestri amnewidir
i gyd fynd a’r gwreiddiol/amodau gwydro gyda gwydr wedi ei gymylu /afloyw 7. Drws newydd cefn i fod o wneuthuriad pren i gyd fynd a’r
gweddill 8. Nwyddau dwr glaw o wneuthuriad haearn bwrw 9. Grisiau gwreiddiol i’w cadw bob amser 10. Manylion gwarchod y rhosyn to i’w gytuno o flaen llaw a’i
gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr ACLL 11. Manylion unrhyw fents
allanol i’w gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr ACLL cyn dechrau’r gwaith. 12. Cytuno ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais Rhif C16/1603/41/AM - Cae Bodlondeb, ger Ael y Bryn, Chwilog PDF 274 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
amlinellol ar gyfer codi 9 tŷ sy'n cynnwys 3 tŷ fforddiadwy ynghyd a
darparu mynedfa a lon stad. (a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi ei fod yn
gais amlinellol ar gyfer codi
9 annedd, 3 ohonynt yn fforddiadwy ar ran o safle o fewn pentref Chwilog
a oedd wedi ei ddynodi ar
gyfer 21 o dai yn y CDUG. Roedd y cais yn ymwneud
a hanner y safle oedd agosaf i
dai presennol
stad Ty’n Rhos ac yn cynnwys
y ffordd fynediad. Nodwyd bod cais wedi ei gyflwyno
o dan C16/1363/41/AM ar gyfer codi 9 annedd
ychwanegol (3 ohonynt yn fforddiadwy) ar gyfer gweddill
y safle, a oedd i’w ystyried yn
y cyfarfod hwn. Nodwyd fod y bwriad ar gyfer y
safle yn ei gyfanrwydd (y cais yma a chais C16/1363/41/AM) yn cynnwys 18 o dai,
ac felly ystyrir fod nifer yr unedau yn dderbyniol ar gyfer y safle ac fe
fyddai defnydd addas (ar sail dwysedd) yn cael ei wneud o’r tir. Roedd y cais
yn cynnig 33.3% o dai fforddiadwy, sef y ffigwr agosaf at y targed gyda’r
niferoedd o dan ystyriaeth. Adroddwyd y
derbyniwyd sylwadau gan yr Uned Draenio Tir ar fore’r pwyllgor yn cyfeirio at
broblemau dŵr wyneb ar ran o’r cae. Roeddent o’r farn
y byddai’r gwaith ynghlwm a datblygu’r tir yn helpu’r sefyllfa bresennol. Ystyriwyd y
byddai cyfraniad ariannol (i’w gytuno) ar gyfer gwella cyfleusterau yn y parc
presennol drwy Gytundeb 106, o ystyried y byddai’r datblygiad a ganiatawyd ar
safle Bryn Hyfryd (C14/0113/41/AM) yn darparu llecyn o fewn y safle, yn
dderbyniol i sicrhau bod y ddarpariaeth o lecynnau agored adloniadol yn yr
ardal leol yn diwallu anghenion y datblygiad. Eglurwyd y
disgwylir cyfraniad addysgol o £9,359, yn deillio o’r ddau gais gerbron, er mwyn
sicrhau y gall Ysgol Gynradd Chwilog ymdopi gydag unrhyw gynnydd yn nifer y
disgyblion, o ganlyniad i’r unedau preswyl a nodir ar gyfer y safleoedd yn
Chwilog yn y CDUG. Nodwyd yr
argymhellir gosod amod ychwanegol, pe caniateir y cais, na ellir creu mynediad
cerbydol o’r safle i’r trac sydd yn arwain i’r fynwent. Ystyriwyd bod y ddau gais gyda’i
gilydd yn dderbyniol yn nhermau
eu hasesu yn erbyn gofynion
y Briff Datblygu ar gyfer y safle
ac yn erbyn gofynion polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol eraill a nodwyd yn yr
adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y bwriad yn cyfarch gofynion
yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd; ·
Bod pryder wedi ei nodi
o ran bodolaeth llysiau’r
dial ar y safle ond nid oedd
tystiolaeth o hyn ac nid oedd wedi
ei nodi gan
yr Uned Bioamrywiaeth; ·
O ran sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth, bod y ffermwr wedi torri’r
gwrych gan ei fod yn
ymledu i’r tir pori. (c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- · Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |
|
Cais Rhif C16/1363/41/AM - Cae Bodlondeb, ger Ael y Bryn, Chwilog PDF 273 KB Cais amlinellol ar gyfer codi 9 tŷ sy'n cynnwys 3 tŷ fforddiadwy ynghyd a darparu mynedfa a lôn stâd. AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Ll. Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
amlinellol ar gyfer codi 9 tŷ sy'n cynnwys 3 tŷ fforddiadwy ynghyd a
darparu mynedfa a lon stad. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod y cais yn ymwneud a hanner pellaf y safle. Roedd y cais hwn ynghyd
a’r cais a ganiatawyd uchod yn estyniad rhesymegol i’r pentref. Nodwyd yr
argymhellir gosod amod ychwanegol, pe caniateir y cais, na ellir creu mynediad
cerbydol o’r safle i’r trac sydd yn arwain i’r fynwent. Argymhellwyd i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i amodau cynllunio
a chytundeb 106 i ddelio gyda’r tai
fforddiadwy a chyfraniadau llecyn agored ac addysgol. PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb 106 yn ymwneud a’r cyfraniad ariannol
addysgol ac ar gyfer gwella llecyn chwarae ac i sicrhau fod 3 o’r 9 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol. Amodau: 1. Amodau safonol amser cais amlinellol 2. Amod derbyn materion a gadwyd yn ôl 3. Llechi 4. Amodau Priffyrdd 5. Amod Dwr Cymru 6. Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir ar yr unedau fforddiadwy 7. Tirlunio 8. Datblygu gam wrth gam 9. Dim creu mynediad cerbydol o’r safle i’r trac sydd yn arwain i’r fynwent Nodyn Dŵr Cymru Nodiadau Priffyrdd |
|
Cais Rhif C16/1394/35/AM - Mynydd Ednyfed Fawr, Cricieth PDF 251 KB Cais amlinellol i adeiladu 3 caban gwyliau. AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
amlinellol i adeiladu 3 caban gwyliau. (a) Adroddwyd y derbyniwyd cais gan yr ymgeisydd
i ohirio trafod y cais gan
nad oedd yr ymgeisydd ar
gael i fanteisio
ar yr hawl
i siarad ond ni roddwyd
rheswm cynllunio dros ofyn am ohirio. Nododd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio bod patrwm yn amlygu
a oedd yn
dilyn at gamddefnydd o’r broses. Roedd yn siomedig nad oedd yr ymgeisydd yn
bresennol o ystyried eu bod yn ymwybodol
o ddyddiad cyflwyno’r cais i’r Pwyllgor. Awgrymodd yr Uwch Gyfreithiwr
y dylid tynhau trefniadau os gwnaed
cais am ddyddiad penodol ac os nad oedd neb yn bresennol i
fanteisio ar yr hawl i
siarad yn y dyfodol (ymgeisydd neu rywun arall
oedd wedi ei enwebu ganddynt)
y parheir i ystyried y cais. Nododd aelod bod angen tynhau trefniadau, ond os derbynnir
rheswm dilys y dylid gohirio penderfynu
ar y cais. PENDERFYNWYD gohirio’r cais. |
|
Cais Rhif C16/1380/46/LL - Bryn Eithin, Llangwnnadl PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu
modurdy. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod caniatâd gwreiddiol ar gyfer codi
tŷ ar y safle yn cynnwys
adeiladu modurdy. Nodwyd er bod y modurdy arfaethedig yn fwy o faint na’r modurdy oedd eisoes
wedi derbyn caniatâd ni ystyrir
fod hyd a lled y modurdy arfaethedig yn anarferol. Nodwyd ni ystyrir y byddai’r
bwriad yn sefyll allan yn
amlwg yn y dirwedd a ddynodwyd yn Ardal Gwarchod
y Dirwedd, hefyd oherwydd ei leoliad
ni fyddai’n effeithio ar olygfeydd
i mewn ac allan o’r AHNE. Cyfeiriwyd at wrthwynebiad preswylwyr Tan y Graig, nodwyd bod y pellter rhwng y modurdy a’r ffin
gyda Tan y Graig yr un fath a’r
modurdy a ganiatawyd yng nghais C05D/0346/46/LL. Cydnabuwyd y byddai’n bryder o safbwynt sŵn ac ymyrraeth ar eiddo cyfagos
petai defnydd busnes yn digwydd
ar y safle, fodd bynnag nid
dyna’r cais acystyriwyd bod hwn yn fater y gellid
ei reoli trwy amod yn
cyfyngu’r defnydd i ddefnydd domestig
yn unig. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a
roddwyd yn yr adroddiad. (b)
Cefnogwyd
y cais gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor hwn), nododd ei
siomedigaeth fod y cais am fodurdy wedi gorfod dod i bwyllgor ac fe ddylid
ystyried tynhau’r rheolau o ran cyflwyno cais gerbron pwyllgor yn dilyn derbyn
gwrthwynebiadau. Tynnwyd sylw nad oedd gan y Cyngor Cymuned wrthwynebiad i’r
bwriad. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Holodd aelod a fyddai’n well i orffeniad y
modurdy fod yr un defnydd allanol a’r tai yn hytrach na bocs proffil. Mewn
ymateb, nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd yn afresymol i’r gorffeniad fod yn focs proffil a byddai amod i gytuno lliw yn ddigonol. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y Rheolwr Cynllunio bod lleoliad y
modurdy yr un fath a’r caniatâd presennol ac nid oedd gofyn i’w symud. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5 mlynedd 2. Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol
â’r cynlluniau a gyflwynwyd. 3. Cytuno lliw ar
gyfer y modurdy. 4. Defnydd fel modurdy
domestig yn unig/a dim ar gyfer
rhedeg busnes. Nodyn Dŵr Cymru |
|
Cais Rhif C16/1575/08/LL - The Fountain, Portmeirion PDF 234 KB Cais ôl-weithredol i gadw bwrdd gwyddbwyll ar lawnt Pentref Portmeirion. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol i gadw bwrdd gwyddbwyll ar lawnt
Pentref Portmeirion. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod y safle wedi
ei leoli o fewn pentref Portmeirion a oedd hefyd yn Ardal Gadwraeth. Nodwyd bod
y safle yn ogystal wedi ei gynnwys ar y Gofrestr o Dirluniau, Parciau a Gerddi
Hanesyddol (gradd II*), a sawl adeilad rhestredig gerllaw. Roedd y safle hefyd
o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd
a oedd yn datgan nad oedd y datblygiad yn addas nac yn gweddu i’r safle. Nodwyd bod cyfiawnhad wedi ei gyflwyno dros y gwaith a oedd yn
ymwneud â chyflwr y tir a oedd yn troi’n wlyb a mwdlyd yn aml. Ni ystyriwyd y byddai caniatáu’r cais yn achosi niwed arwyddocaol i
gymeriad pensaernïol neu hanesyddol yr adeiladau rhestredig na’r Ardal
Gadwraeth. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. |
|
Cais Rhif C16/1578/39/LL - Glenville, Abersoch PDF 270 KB Dymchwel tŷ ac adeiladau allanol cysylltiedig ac adeiladu 2 annedd a datblygiad cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd R.
H. Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel tŷ ac adeiladau
allanol cysylltiedig ac adeiladu 2 annedd a datblygiad cysylltiedig. ‘Roedd rhai o’r aelodau
wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod y safle wedi ei leoli mewn ardal breswyl tu fewn i ffin
ddatblygu Abersoch, gyda therfyn cwrtil blaen yr eiddo yn ffinio gyda ffordd
sirol dosbarth 1 yr A499. Roedd dynodiad yr AHNE dros y ffordd sirol gyfochrog,
adroddwyd y derbyniwyd sylwadau gan yr Uned AHNE ar fore’r pwyllgor yn nodi dim
gwrthwynebiad. Nodwyd bod polisi CH4 o’r CDUG yn datgan mewn egwyddor y
caniateir cynigion i adeiladu tai newydd ar safleoedd a oedd heb eu dynodi ac
oedd o fewn ffiniau datblygu pentrefi. Datgan yr ymgeisydd bod tri asesiad
hyfywedd ar dri gwahanol werth wedi eu cyflwyno ar gyfer y tai bwriadedig ac ym mhob achos, roedd yr asesiad yn dangos na
fyddai’r datblygiad yn darparu adenillion digonol ar
gyfer creu tŷ fforddiadwy (un tŷ allan o’r pâr bwriadedig) neu swm cymunol tuag at ddatblygiadau tai
fforddiadwy eraill. Nodwyd bod y polisi yn gofyn am ‘gyfran o’r unedau ar bob
safle i fod yn rhai fforddiadwy’ a gan mai ond cynnydd o un uned ychwanegol
sydd yma mewn gwirionedd, ystyriwyd na fyddai’n briodol i ofyn fod yr un
tŷ sydd yn ychwanegol i fod yn dŷ fforddiadwy ar y safle ac ni
ystyriwyd y byddai caniatáu’r cais yn tanseilio amcanion cymal 1 o fewn y
polisi. Tynnwyd
sylw bod safle’r cais o fewn ardal a nodweddir gan dai ar wahân, o amrywiaeth o
ddyluniadau a maint, nid oedd patrwm pendant na thema gyffredin i’r tai
presennol. Nodwyd bod y cynllun a gyflwynwyd yn dangos pâr o dai o ddyluniad
modern gyda nodweddion traddodiadol. Ystyriwyd fod y deunyddiau a ddefnyddir
i’w gweld yn yr ardal ac y byddai’r bwriad o ran y gorffeniadau yn addas i’r
safle. Nodwyd bod y safle yn ddigonol o faint ar gyfer y tai ac na fyddai’n
achosi gor-ddatblygiad o’r safle. Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd a
nodwyd yn yr adroddiad. Roedd yr ymgeisydd yn datgan bod yr asesiad
canlyniadau llifogydd presennol yn ateb pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynglŷn
â’r asesiad a gyflwynwyd gyda’r cais blaenorol ac yn
dangos bod modd rheoli canlyniadau llifogydd yn unol â Nodyn Cyngor Technegol
15: Datblygiad a Pherygl o Lifogydd (NCT 15) am oes y datblygiad. Roedd
dyluniad y cynllun wedi newid fel nad oedd lle byw ar lefel daear, byddai
uchder llawr gorffenedig y tŷ wedi ei godi i 5.5m AOD a byddai uchder
wyneb blaen gwrt yr eiddo wedi ei godi yn wastad gyda’r ffordd sirol er hwyluso
mynediad diogel mewn argyfwng o’r eiddo. Nodwyd
yr ystyrir y datblygiad yn addas a derbyniol ar gyfer y safle
a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a
nodwyd yn yr adroddiad. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- · Angen bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.10 |
|
Uwchraddio ac ehangu'r safle bresennol er mwyn darparu 12 llain gydag adeilad amwynder ar bob llain ar gyfer sipsiwn a theithwyr, creu lôn mynediad newydd o fewn y safle a chreu llecyn chwarae i blant. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Uwchraddio ac ehangu'r safle presennol er mwyn darparu
12 llain gydag adeilad amwynder ar bob llain ar gyfer sipsiwn a theithwyr, creu
lôn mynediad newydd o fewn y safle a chreu llecyn chwarae i blant. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi yn hanesyddol roedd
yr holl safle
yn cael ei
ddefnyddio ond ar hyn o bryd
dim ond 5 llain a ddefnyddir yn bresennol
ar dop y safle. Adroddwyd bod gwaith cefndirol ar gyfer paratoi'r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd (Papur Testun 18) yn cydnabod bod angen am 10 llecyn
parhaol ychwanegol i’r ddarpariaeth bresennol yng Ngwynedd.
Roedd y safle presennol yn Llandygai yn llawn, a rhestr wrth gefn i sicrhau
llain. Ystyriwyd bod angen amlwg ar gyfer lleiniau ychwanegol. Nodwyd bod gofyn
statudol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i adnabod anghenion sipsiwn a
theithwyr yn eu hardaloedd a darparu’n briodol. Nodwyd y byddai’r bwriad yn
sicrhau bod y safle yn darparu cyfleusterau yn unol efo deddfwriaeth ac arweiniad
Llywodraeth Cymru. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan yr
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd a oedd yn cyd-fynd a’r argymhelliad i ganiatáu
efo amodau a’u hasesiad o’r Datganiad Ieithyddol a Chymunedol a gyflwynwyd. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod y bwriad i uwchraddio’r
safle i’w groesawu; ·
Y byddai’r adeiladau mwynderol yn fwy addas i bwrpas; ·
Bod yr angen wedi ei brofi ac
na fyddai mwy o effaith na’r hyn yn bresennol; ·
Ei fod yn fodlon efo’r
argymhelliad i ganiatáu efo amodau. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol: ·
Bod wir angen uwchraddio’r safle; ·
A dderbyniwyd sylwadau gan Gymdeithas
y Sipsiwn? ·
Bod damwain angheuol wedi bod yn y fynedfa, felly roedd angen sicrhau
bod y fynedfa yn cael ei glirio
i’w wneud yn ddiogel; ·
Bod angen yn lleol ar
gyfer y ddarpariaeth; ·
Croesawu’r bwriad ond roedd
angen ail-ystyried enw’r safle; ·
Llawer o broblemau yn hanesyddol ar
y safle felly roedd yn hynod bwysig
siarad efo’r trigolion a’r Cyngor
Sipsiwn. A ymgynghorwyd efo trigolion Maesgeirchen? ·
Bod gwarchod lleiafrifoedd yn beth da; ·
A oedd protocol o
ran y Pwyllgor yn penderfynu ar gais
a gyflwynwyd gan y Cyngor? ·
Bod gwthio’r safle i gefn
stad ddiwydiannol ddim yn gwneud
cyfiawnder i ni fel Cyngor a’i fod
ddim yn waraidd.
Dylid wedi edrych am leoliad gwell; ·
A ellir gwneud rhywbeth i wella edrychiad
y safle trwy dirweddu meddal? Mewn ymateb i’r sylwadau’r uchod, nododd y swyddogion: ·
Ni ymgynghorwyd efo Cymdeithas
y Sipsiwn, fe ymgynghorwyd yn unol â’r gofynion
statudol. Rhoddwyd rhybudd ar y safle ac roedd y Cyngor wedi cyfathrebu efo’r
trigolion; ·
Y gellir
gosod nodyn ar y caniatâd bod angen clirio a chadw llystyfiant i lawr yn y
fynedfa; · Ni hysbysebwyd yn benodol ym Maesgeirchen, penderfynwyd hysbysebu yn y wasg oherwydd bod teimladau cryf ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.11 |