Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
Y Cynghorwyr Berwyn Parry Jones, Catrin Wager a
Gethin G. Williams (Aelod Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fudddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd yr aelod canlynol fuddiant personol am y rheswm a nodir:
Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y
Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd E. Selwyn Griffiths (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais Cynllunio rhif C16/156/44/AM) ·
Y Cynghorydd Sian Wyn Hughes, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0361/42/MG) ·
Y Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones (a oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
yn eitem 5.5 ar y rhaglen (cais
Cynllunio rhif C17/0385/11/AM) ·
Y Cynghorydd Dafydd Meurig (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
yn eitem 5.7 ar y rhaglen (cais
Cynllunio rhif C17/0498/16/LL) Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth
ar y ceisiadau dan sylw ac ni
fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: (Nid oedd
y mater canlynol wedi ei gynnwys ar
y rhaglen ond cytunodd y Cadeirydd i’w ystyried dan
Adan 100 (4)(b), Deddf Llywodraeth
Leol 1972). (a)
Cyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod gopi o lythyr a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth
Cynllunio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru ynglŷn â chais Cynllunio amlinellol ar gyfer
datblygiad preswyl yn cynnwys hyd
at 366 o unedau preswyl a ffyrdd mynediad, lleoedd parcio a chyfleusterau ategol cysylltiedig ym Mhen y Ffridd, Bangor. Gŵrthodwyd y cais oddeutu 12 mis yn ôl
ac ers y penderfyniad hwnnw cynhaliwyd gŵrandawiad apêl yn erbyn y penderfyniad. Ar 22 Awst 2016, adferwyd yr apêl
i’w benderfynu gan Lywodraeth Cymru, oherwydd bod y cynnig yn ymwneud
â datblygiad preswyl ac ynddo fwy na
150 o dai neu ddatblygiad preswyl ar fwy na
6 hectar o dir.
Ar 12 Mehefin cyhoeddwyd
bod y Gweinidog o blaid caniatáu’r apêl cynllunio yn ddarostŷngedig
i’r apelydd fynd i’r afael
ag ambell fater. Fodd bynnag, yn
unol â Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Gŵrandawiadau) (Cymru) “Rheolau 2003”, os yw Gweinidogion
Cymru, ar ôl i’r gŵrandawiad
ddod i ben, yn ystyried unrhyw fater newydd o ffaith, a’u bod, o’r herwydd, yn
barod i anghytuno ag argymhelliad a wnaed gan yr Arolygydd,
rhaid iddynt beidio a gwneud penderfyniad sy’n groes i’r argymhelliad
heb yn gyntaf
roi gwybod i’r bobl a oedd
a hawl i gymryd rhan yn y gŵrandawiad
eu bod yn anghytuno â’r argymhelliad,
rhoi rhesymau pam, a rhoi cyfle i’r
bobl hynny gyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am ailagor y gŵrandawiad. Ystŷriwyd yr apêl yn
unol â Chynllun Datblygu Unedol Gwynedd 2001-2016
ac ni roddwyd llawer o bwysau ar y Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd. Roedd y safle
wedi ei ddynodi
i bwrpas datblygiad tai yn y Cynllun Datblygu
Unedol. Yn dilyn derbyn
adroddiad yr Arolygydd mewn perthynas â’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y 30ain Mehefin, bod pwysau i’w ystyried
o ochr y Cynllun Datblygu Lleol wedi cynyddu’n sylweddol, ac felly yr ystyriaethau cynllunio perthnasol wedi newid. O dan y Cynllun Datblygu
Lleol nid yw’r safle wedi
ei ddynodi ar gyfer datblygiad
tai. Fe fydd y
mater hefyd ger bron y Cyngor i’w ystyried ar gyfer
mabwysiadau ar y 28ain Gorffennaf 2017. O’r herwydd, yn sgil
polisïau cyfredol ac i amddiffyn yr apêl
a phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio, awgrym y swyddogion cynllunio ydoedd gofyn i Lywodraeth Cymru ail-agor y gŵrandawiad. (b)
Nododd Aelod a fynychodd y gŵrandawiad ei fod wedi
bod yn anodd iawn i amddiffyn penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio i’w
wrthod oherwydd ei fod yn
groes i bolisïau lleol ond roedd
yn croesawu’r awgrym i symud ymlaen i gael apêl
newydd ac ail-agor y gŵrandawiad. (c) Mewn ymateb i ymholiad, esboniodd yr Uwch ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2017, fel rhai cywir. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2017, fel rhai cywir |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystŷriaeth
i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif: C17/0069/00/LL - Llain Ffordd Bro Mynach, Abermaw PDF 369 KB Codi annedd tri llawr ar wahan. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
annedd tri llawr ar wahân (a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd cymryd penderfyniad
ar y cais uchod er mwyn cynnal ymweliad safle a bu i rai o aelodau’r pwyllgor
ymweld â’r safle cyn y prif gyfarfod. Bwriedir
codi tŷ annedd tair ystafell wely gyda garej ddwbl ar lawr daear yr annedd
gyda man troi yn cael ei ddarparu ar ran deheuol y safle, yn ogystal byddai
darpariaeth ar gyfer dau le parcio oddi ar y ffordd stad i ogledd y safle. Yn bresennol defnyddir y safle fel gardd
ddomestig gyda Tŷ Mynach, sydd i’r de o’r safle ac ym mherchnogaeth yr
ymgeisydd. Lleolir y safle o fewn ffin
ddatblygu tref Abermaw ac fe ystyriwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol yn
unol â pholisïau perthnasol. Nodwyd bod
y safle yn eithaf eang o ran ei faint gyda lefel isaf y safle yn sylweddol is
na’r ffordd stad gerllaw, ac o ganlyniad byddai’r annedd yn edrych fel eiddo
deulawr o’r ffordd stad. Ystyriwyd y
byddai uchder bwriedig yr annedd i’w frig yn
dderbyniol. Derbyniwyd pryderon bod y
datblygiad yn ormesol ei naws ac allan o gymeriad gyda thai eraill ar y stad,
serch hynny ystyriwyd oherwydd y rhesymau a nodir yn yr adroddiad sy’n cyfeirio
at uchder, lleoliad a thirweddu presennol nad oedd pryder i’r perwyl hwn. Tynnwyd sylw at ymateb asiant yr ymgeisydd
i’r pryderon ar y ffurflen sylwadau hwyr a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn
Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Ardudwy, gan fod y safle oddi fewn
ardal / ffurf adeiledig tref Abermaw ni ystyrir y bydd effaith sylweddol ar y
tirlun ehangach. Ni ystyrir y byddai’r datblygiad
yn achosi gor-edrych uniongyrchol annerbyniol i dai
oddeutu 30 medr i ffwrdd ac ni ystyrir y byddai effaith ar gymeriad adeiladau
rhestredig sydd wedi eu lleoli oddeutu 60m i ffwrdd. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad
gan Uned Drafnidiaeth yn amodol ar gynnwys amodau a nodiadau perthnasol. Mewn ymateb i ymgynghoriad nododd yr Uned
Bioamrywiaeth nad oedd gwrthwynebiad i egwyddor y datblygiad os y cynhwysir
amodau priodol. Nodwyd bod y
gwrthwynebiadau wedi derbyn ystyriaeth lawn fel amlinellir yn yr
adroddiad. Yn seiliedig ar yr holl
faterion perthnasol gan gynnwys y gwrthwynebiadau, ni ystyrir bod y bwriad yn
groes i’r polisïau na’r canllawiau lleol a chenedlaethol ac felly argymhelliad
y swyddogion cynllunio ydoedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau a
nodir yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd y gwrthwynebydd,
ei bod yn gwrthwynebu ar ran ei mam sef perchennog Brookside
a bod yr annedd arfaethedig o 3 llawr yn anaddas a’r lluniau yn gamarweiniol a
ddim yn dangos lleoliad o’r agwedd deheuol sef yr ochr mwyaf sensitif. Rhestrwyd y rhesymau canlynol o wrthwynebu yn
unol â pholisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd 2001 – 2016:
|
|
Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi
eu cadw yn
ol ar wahan
i fynediad i godi dau uned manwerthu
di-fwyd (dosbarth A1), gwesty 60 ystafell wely (dosbarth C1) gyda ty bwyta/caffi
cyfannol ategol ynghyd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys creu mannau
parcio ag ardal gwasanaethau, mynediad gwasanaethau newydd, diwygiadau i fynedfa safle bresennol ynghyd a thirlunio ategol. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd E. Selwyn Griffiths Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol
gyda’r holl faterion wedi eu
cadw yn ôl
ar wahân i fynediad i godi dwy uned fanwerthu
di-fwyd (Dosbarth A1), gwestŷ 60 ystafell wely (Dosbarth C1) gyda thŷ bwyta/caffi cyfannol ategol ynghyd â gwaith cysylltiedig gan gynnwys creu
mannau parcio ac ardal gwasanaethau, mynediad gwasanaethau newydd, diwygiadau i fynedfa safle bresennol
ynghyd â thirlunio ategol. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais ar hyn o bryd yn wag ac wedi’i leoli ar ran o Ystad Ddiwydiannol Penamser, Porthmadog. O amgylch y safle ceir amryw o fusnesau a defnydd diwydiannol gan gynnwys gorsaf betrol, masnachwr adeiladu a gwestŷ. Tynnwyd sylw at weddill manylion y cais yn yr adroddiad ynghyd â’r sylwadau ar y ffurflen sylwadau hwyr. O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd bod nifer o bolisiau yn berthnasol oherwydd ei leoliad a dynodiadau tir. Nodwyd bod hanes cynllunio yn berthnasol iawn i’r safle, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu dwy uned manwerthu di-fwyd a chanolfan arddio atodol. Cychwynwyd ar y datblygiad trwy greu mynediad ar y safle i gerbydau ac o ganlyniad diogelwyd y caniatâd. Yn 2012, rhoddwyd caniatâd cynllunio i godi hyd at 5 uned manwerthu di-fwyd ac un uned fwyd a diod ac uned fyw i reolwr. O ystyried bod un caniatâd wedi cael ei ddiogelu a bod y llall yn parhau i fod mewn grym, ystŷriwyd y gellir rhoi cryn bwys i hyn fel ystyriaeth gynllunio berthnasol. O safbwynt dynodiad y safle, er bod ystyriaethau’r polisi wedi newid ers rhoi’r caniatâd blaenorol, fe all y safle gael ei ddatblygu o dan y caniatad presennol sydd wedi’i ddiogelu ac ystyrir bod hyn yn sefyllfa wrth gefn realistig. O safbwynt yr unedau manwerthu arfaethedig nid bwriad y cais ydoedd cynyddu’r arwynebedd llawr manwerthu y caniatwyd yn flaenorol. O ganlyniad ‘roedd y cais yn annhebygol o gael ardrawiad andwyol mwy ar hyfywedd a bywiogrwydd canol y dref na’r sefyllfa wrth gefn gyfredol. Pe caniateir y cynllun, ystyrir y byddai’n rhesymol ac yn angenrheidiol i roi amod ar y ddwy uned i’w hatal rhag cael eu rhannu’n unedau llai ac i gyfyngu ar yr arwynebedd llawr manwerthu net. Byddai hefyd angen amod i gyfyngu ar ddefnydd manwerthu di-fwyd. Tynnwyd sylw bod paragraffau 5.29 i 5.33 yn yr adroddiad yn asesu’r elfen gwesty ac nad oedd yr elfen yma o’r bwriad yn groes i bolisïau perthnasol. Nodwyd ymhellach bod paragraffau 5.34 i 5.42 yn ymdrin â materion llifogydd a draenio ac o roi ystyriaeth deg i bolisïau a’r sefyllfa wrth gefn parthed caniatâd sy’n parhau i fod mewn grym ac sydd wedi’i warchod, ystyriwyd fod y cais yn y lleoliad hwn yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau perthnasol. Noda’r adroddiad bod ystyriaeth briodol a chasgliadau clir a rhesymol wedi ei rhoi i fwynderau, effeithiau priffyrdd, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif: C17/0361/42/MG - 10 Penrhos, Lon Pen Rhos, Morfa Nefyn, Pwllheli PDF 329 KB Materion gadwyd yn ol ar gyfer adeialdu ty annedd a modurdy. AELOD LLEOL:
Y Cynghorydd Sian Wyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Materion gadwyd yn ôl
ar gyfer adeiladu tŷ annedd a 4 llefydd parcio. (a) Ymhelaethodd y
Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai
cais ydoedd i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl
ar gyfer codi un tŷ a 4 llefydd parcio. Nodwyd bod yr egwyddor i adeiladu
tŷ ar y safle eisoes wedi
ei sefydlu ers rhoddi hawl
amlinellol am dŷ annedd. Tynnwyd sylw bod peth gwahaniaeth rhwng y cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais amlinellol o’u cymharu â’r
cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais manylion
presennol. Yn bennaf, roedd
y gwahaniaeth wedi eu cyfyngu i ddangos
lleoliad y tŷ tua 5 medr yn
agosach at y ffordd sirol ac ymhellach oddi wrth eiddo
gŵrthwynebwr.
Bydd crib y tŷ ar y cynllun cyfredol
tua hanner medr yn uwch. Teimlir bod y newid mewn lleoliad
yn welliant ac ni ystŷriwyd y byddai codi uchder
crib y to tua hanner medr yn cael
effaith sylweddol fwy ar fwynderau
cymdogion a’r ardal na’r hyn
sydd eisoes wedi ei gefnogi
drwy’r caniatad amlinellol. Tynnwyd sylw bod y cais manylion a gadwyd yn ôl
yn ymdrin â materion dylunio, ffyrdd ac effaith ar drigolion lleol
yn unig ac ni ddylid ail-drafod
materion o egwyddor. O safbwynt gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, oherwydd natur preswyl yr
ardal, ni ystŷriwyd y byddai’r datblygiad allan o gymeriad nac yn
cael effaith andwyol ar fwynderau
gweledol na phreswyl yr ardal. Ystŷriwyd bod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisïau sy’n ymwneud â diogelwch y briffordd a darparu parcio preifat gydag amodau
priodol. Argymhellwyd gan y swyddogion Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostŷngedig i amodau perthnasol. (b) Nododd yr Aelod lleol: ·
Pan drafodwyd y cais yn flaenorol
gan y Cyngor Tref yn 2016
bod modurdy yn cael ei ychwanegu
a lle parcio ar gyfer 6 cerbyd ·
Pryder y byddai’r datblygiad yn uwch
ac yn edrych allan o’i le yn
yr ardal ·
Noda’r Uned Drafnidiaeth bod mynediad droed i’r briffordd
ond tynnwyd sylw ei bod yn
lôn sydd yn cael defnydd
dyddiol ·
Gofynnwyd a fyddai modd rhoi
amod tŷ fforddiadwy / angen lleol ar y datblygiad
o ystyried bod sawl tŷ marchnad agored yn y pentref
(c) Mewn ymateb i’r
sylwadau, nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd modd ystyried
yr uchod oherwydd bod yr egwyddor eisoes wedi ei sefydlu
i’w ddatblygu a bellach bod y modurdy wedi ei dynnu
allan o’r cais gyda llefydd
parcio yn destun y cais gerbron. Penderfynwyd: Caniatáu - amodau 1.
Unol a chynlluniau. 2.
Llechi i’r to. 3.
Gostwng uchder wal / gŵrych
y safle sy’n terfynu ar y ffordd
sirol i
1 medr uwchben y gerbydlon gyfochrog. |
|
Cais Rhif: C17/0371/39/AM - Tir ger Berthwen, Bwlchtocyn, Pwllheli PDF 257 KB Dymchwel adeilad ac adeialdu ty. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel adeilad ac adeiladu tŷ (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais, gan nodi mai cais amlinellol oedd gerbron i ddymchwel adeilad
ac adeiladu tŷ annedd newydd a’r unig faterion i’w hystyried ydoedd egwyddor
o ddatblygu’r safle ynghyd â mynediad. Lleolir y safle ym mhentref gwledig
Bwlch Tocyn o sabwynt Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ond yn y Cynllun Datblygu
LLeol arfaethedig nodir y safle yng nghefn gwlad. Lleolir hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol a hefyd y Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Dangosir ôl
troed y tŷ ar y cynllun gydag arwynebedd llawr daear o ryw 104 medr sgwâr
ac felly gan ei fod yn dŷ deulawr byddai’r arwynebedd llawr yn dyblu i 208
medr sgwâr. Ni fyddai’r arwynebedd llawr
mewnol felly yn cyfateb i faint tai fforddiadwy fel argymhellir yn y Canllaw
Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy ac felly bod y bwriad yn groes i ofynion maen
prawf 4 o bolisi CH5 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd. Ystyrir y byddai’r bwriad yn dderbyniol o
safbwynt maen prawf 5 gan nad yw’r bwriad yn amharu ar ffiniau naturiol
presennol. Derbyniwyd sylwadau ychwanegol yn cefnogi’r
cais a chyflwynwyd rhain ar wahân i aelodau’r Pwyllgor. O safbwynt maenprawf 6, ni ofynnwyd i’r
ymgeisydd i gael asesiad gan Tai Teg neu a fyddai’n fodlon arwyddo cytundeb 106
a fyddai’n clymu’r eiddo fel tŷ fforddiadwy oherwydd ni ystyrir fod yna
angen fforddiadwy gan fod yr ymgeisydd yn berchen ar ddau dŷ arall
gyferbyn â safle’r cais. Ystyrir bod y
bwriad yn groes i bolisïau perthnasol ar y sail nad oedd angen lleol cymunedol
am dŷ fforddiadwy wedi ei brofi a bod maint dangosol yr eiddo yn sylweddol
fwy na maint tŷ fforddiadwy. Tynnwyd sylw ei bod yn bwysig nodi bod
gwahaniaeth yn y polisïau tai rhwng Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd a’r Cynllun
Datblygu Lleol arfaethedig. Ni fyddai
Bwlch Tocyn wedi ei gynnwys fel clwstwr yn y Cynllun Datblygu Lleol ac felly fe
fyddai’r safle yn un cefn gwlad agored a dim ond tai ar gyfer gweithiwr
amaethyddol, coedwigaeth neu fenter wledig fyddai’n bosib eu datblygu ar y
safle. Byddai’r bwriad yn groes i’r
gofynion hyn gan nad oes angen amaethyddol, coedwigaeth neu fenter wledig ar
gyfer y tŷ arfaethedig. O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl,
ystyrir o ddylunio’r tŷ yn addas fod modd lleoli tŷ ar y llain mewn
modd na fyddai’n achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol. Tra’n cydnabod amgylchiadau personol yr
ymgeisydd o ran anabledd y mab, yn dilyn pwyso a mesur y bwriad yn erbyn y
polisïau perthnasol, nodwyd nad oedd egwyddor y datblygiad yn cwrdd â gofynion
polisïau tai’r Cyngor, sy’n nodi bod safleoedd mewn pentref gwledig yn cael eu
defnyddio i ddiwallu anghenion fforddiadwy yn unig. Ni chyflwynwyd tŷstiolaeth i’r perwyl
hwn. Nodwyd ymhellach nad oedd y Cyngor
wedi eu hargyhoeddi, yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynwyd, bod rhesymau
teilwng wedi eu cyflwyno i wyro oddi wrth polisïau y Cyngor na pholisiau
cenedlaethol yn ymwneud â thai fforddiadwy. Argymhellwyd gan y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif: C17/0385/11/AM - The Garage, Garth Hill, Bangor PDF 332 KB Cais amlinellol i godi un annedd. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol i godi un annedd. (a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi’r bwriad ar gyfer
cais cynllunio amlinellol i ddymchwel adeilad cyn modurdy masnachol a chodi un
tŷ annedd. Nodwyd bod y cynlluniau dangosol
a gyflwynwyd yn gofyn am godi un tŷ rhwng 6m a 7.9m o uchder ar y llain
tir rhwng cefnau tai teras presennol sydd ar Ffordd Garth a Threm y Castell,
Bangor, gyda’r bwriad i ddarparu mynedfa gerbydol newydd i Allt Garth ynghyd â
chreu man parcio a throi newydd. Lleolir y safle mewn ardal anheddol o fewn
ffiniau datblygu dinas Bangor. O ystyried y polisïau cynllunio
perthnasol nodwyd bod cefnogaeth polisi cryf i egwyddor y datblygiad ond ei fod
yn cydymffurfio gyda pholisïau eraill y Cynllun Datblygu. Ymddengys o’r cynlluniau bod y bwriad yn
eithaf safonol ac yn cyd-fynd mewn modd priodol gyda eiddo eraill yr ardal ac
ni fyddai effaith andwyol ar fwynderau gweledol na mwynderau cyffredinol yr
ardal. Tynnwyd sylw bod adeilad diwydiannol
metel yn gorchuddio’r safle cyfan ar hyn o bryd ac y byddai codi adeilad cyfoes
ar gyfran o’r safle gan gadw gweddill y safle’n glir yn welliant sylweddol i
olwg y safle. O safbwynt mwynderau cyffredinol a
phreswyl, cyfeiriwyd at asesiad manwl ym mharagraffau 5.13 i 5.16 yn yr
adroddiad. O safbwynt gwrthwynebiadau y gallai’r datblygiad
ansefydlogi’r tir o gwmpas, nodwyd y byddai’n rhaid i unrhyw ddatblygiad fynd
trwy’r broses Rheolaeth Adeiladu er sicrhau ei ddiogelwch ac mai mater i’r datblygwr
fyddai sicrhau bod gwaith adeiladu’n cael ei gwblhau mewn modd diogel. Ymdrinnir â materion waliau rhwng eiddo
preifat drwy’r Ddeddf Wal Gydrannol. Yn dilyn ystyried yr holl faterion cynllunio
perthnasol, credir bod y cais yn dderbyniol ac yn bodloni gofynion y polisïau
perthnasol. Argymhellwyd i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn yr adroddiad. (b)
Nododd
yr Aelod lleol nad oedd unrhyw wrthwynebydd wedi cysylltu ag ef nac ychwaith
gyda Chyngor Dinas Bangor, a bod cefnogaeth gan drigolion ei Ward i’r bwriad. (c)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Penderfynwyd: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau
canlynol: 1. Amod safonol amser cais
amlinellol 2. Datblygiad yn cydymffurfio
gyda chynlluniau a gymeradwywyd 3. Ni ddylai
uchder crib prif do'r tŷ fod yn uwch na 106.55m
fel y'i ddangosir yn y cynlluniau a gyflwynwyd 4. Deunyddiau terfynol i'w cytuno gan gynnwys to llechi
naturiol 5. Ffenestri afloyw yn unig yn yr
edrychiadau gogledd gorllewinol a de ddwyreiniol 6. Amod
Dŵr Cymru 7. Mae'n rhaid cynnwys yr
ymdriniaeth o ffiniau'r safle yn y cais manwl 8. Tynnu’r hawliau datblygiad
a ganiateir 9. Mae'n rhaid cwblhau'r
drefniadaeth barcio cyn preswylio yn yr eiddo Nodiadau Dŵr Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru Priffyrdd Gwybodaeth Waliau Cydrannol |
|
Cais Rhif: C17/0432/11/LL - Old Glan, Glanrafon, Bangor PDF 269 KB Newid defnydd llawr cyntaf yr adeilad o fflat 4 lloft i llety myfyrwyr gyda 5 lloft ynghyd a codi estyniad a newidiadau allanol. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd Steve Collings Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd llawr cyntaf yr adeilad o fflat 4 lloft lety myfyrwyr gyda 5
lloft ynghyd â chodi estyniad a newidiadau allanol (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu
ar gefndir y cais, gan nodi bod yr adeilad presennol yn wag ar ôl i’r defnydd olaf
fel tŷ tafarn a fflat uwchben ddod i ben yn ddiweddar. Byddai’r llety yn cynnwys 5 ystafell wely, 2
ystafell ymolchi ac un gegin ac ystafell fwyta agored ar y llawr cyntaf. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol yn yr
adroddiad ynghyd â’r ymatebion i’r broses ymgynghori. O safbwynt egwyddor y datblygiad, tynnwyd sylw
nad oedd polisi penodol yn y Cynllun Datblygu Unedol yn ymdrin gyda datblygiad
o’r math hwn. Er hynny, bod y bwriad yn cydymffurfio gydag anghenion polisi C3
sy’n ymwneud â defnyddio safleoedd a ddefnyddiwyd o’r blaen. Nodwyd y byddai’n rhaid ystyried teilyngdod y
cais yn erbyn y sefyllfa bresennol, sef parhad i ddefnydd ar y llawr gwaelod ac
addasu uned byw 4 llofft presennol i lety myfyrwyr gyda 5 llofft. Tra’n cydnabod bod datblygiadau llety
myfyrwyr yn bryder ym Mangor, ystyrir bod graddfa’r cais yn gymharol fach i
gymharu gyda cheisiadau blaenorol ac felly yn annhebygol o gael effaith
niweidiol na sylweddol ar y sefyllfa llety myfyrwyr nac ar stoc dai’r ddinas. Er
mwyn sicrhau trefniadau boddhaol ar gyfer gosod yr unedau, gellir gosod amod i
gytuno’r cytundebau lletya o flaen llaw gyda’r awdurdod cynllunio lleol. Tynnwyd sylw bod y fflat presennol yn darparu 4
ystafell wely gyda’r bwriad i ychwanegu un ystafell wely ac y byddai’n
annhebygol i achosi effaith sylweddol gwahanol.
Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad ac na fyddai’n cael
effaith andwyol sylweddol ar fwynderau preswyl. O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad, ni
dderbyniwyd gwrthwynebiad gan yr Uned Drafnidiaeth o ran diogelwch ffyrdd na
darpariaeth parcio. Yn dilyn asesu’r holl ystyriaethau cynllunio
perthnasol, credir bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a pholisïau a
chanllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol, argymhellwyd i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i amodau priodol. (b) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. (c)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol: ·
Bod
yn rhaid cadw golwg ar y math yma o ddarpariaeth a theimlwyd bod y bwriad yn orthrymus
o ystyried mai un cegin fyddai ar gyfer 5 uned a’u bod yn gwasgu mwy o unedau
ar gyfer gwneud elw ·
a
oedd angen rhagor o unedau ar gyfer myfyrwyr ·
pryder
ynglŷn â diogelwch yn nhermau mynediad tân o ystyried nad oedd sylwadau
wedi eu derbyn gan y gwasanaethau argyfwng tân / heddlu ·
Bod
cyfleuster un cegin rhwng 5 uned yn eithaf
derbyniol, ac o safbwynt tân defnyddiwyd llawr uchaf yr adeilad yn y
gorffennol yn rheolaidd ar gyfer cynnal cyngherddau i oddeutu 70 o unigolion Penderfynwyd: Caniatáu gydag
amodau 1.
5 mlynedd 2.
Unol â’r cynlluniau a’r Asesiad Canlyniad
Llifogi 3.
Gorffeniad allanol i gydweddu a’r adeilad presennol 4. Cytuno cytundebau lletŷa i gynnwys myfyrwyr yn unig, pwynt cyswllt ar gyfer y cyhoedd a chyfyngiad defnydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif: C17/0498/16/LL - Llaethdy Parc Bryn Cegin, Parc Bryn Cegin, Llandygai PDF 362 KB Codi ffatri/llaethdy gaws ynghyd a caffi a ardal ymwelwyr atodol. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi ffatri / llaethdy gaws ynghyd â
chaffi ac ardal ymwelwyr atodol. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi’r bwriad i godi
ffatri cynhyrchu caws / llaethdy, gan gynnwys caffi atodol a chyfleuster ymwelwyr,
ar ystâd ddiwydiannol ddynodedig Bryn Cegin, Bangor. Fe fyddai’n gyfleuster newydd yn cynnwys
adeilad deulawr ynghyd â chyfres o seilos i storio
llefrith a dŵr. Rhennir gweddill y
safle yn un ardal ar gyfer llwytho a gweithgaredd busnes, gofod parcio ar gyfer
135 cerbyd ac ardal tirlunio o amgylch ffiniau’r safle. Cyfeiriwyd
at weddill manylion y bwriad yn yr adroddiad.
O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y
polisïau sy’n adnabod Stad Bryn Cegin fel safle diwydiannol i’w amddiffyn a bod
y cais am ddefnydd diwydiannol yn nosbarth defnydd B2 yn unol â’r hyn anogir
gan y polisïau. Credir bod yr egwyddor o
ddatblygu yn dderbyniol ar y safle hwn ond bod nifer o ystyriaethau polisi
ychwanegol i’w hystyried. Er bod y datblygiad yn fawr, fe fyddai’r adeilad
newydd o faint, dyluniad a defnyddiau a fyddai’n ddisgwyliedig oddi wrth
adeilad diwydiannol cyfoes ar stad sylweddol ei faint, ac felly ystyrir y
byddai’n gweddu i’r lleoliad. Byddai’r
tirlunio yn helpu lliniaru effeithiau gweledol y datblygiad a chredir na
fyddai’n cael effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau gweledol y gymdogaeth. Cyfeiriwyd at y ffurflen sylwadau hwyr
a oedd yn nodi bod Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau cefnogaeth yn ddarostyngedig
i amodau ac felly ystyrir y gall y bwriad fod yn dderbyniol o safbwynt agweddau
o’r polisïau sy’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau gymdogaeth. Tynnwyd sylw bod materion trafnidiaeth,
draenio tir, archeolegol a bioamrywiaeth oll yn dderbyniol. O safbwynt yr economi a materion ieithyddol,
tynnwyd sylw bod yr asesiad yn gadarnhaol gan greu cyfleoedd gwerth uchel. Nodwyd nad oedd gwrthwynebiad i siop na
chaffi atodol i’r prif ddefnydd ac y gellir cynnwys amodau ar gyfer hyn. Yn dilyn asesu’r holl ystyriaethau, credir
bod y datblygiad yn ddefnydd priodol o safle a glustnodwyd ar gyfer defnyddiau
o’r fath ac argymhellwyd i ganiatáu’r cais yn unol ag amodau priodol gan
gynnwys amodau ychwanegol Uned Gwarchod y Cyhoedd yn ymwneud â system awyru / echdynnu, lefelau
sŵn ac oriau gweithredu. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd ·
Mai
menter ydoedd gan grŵp o ffermwyr ifanc a’i fod yn un o sylfaenwyr y
fenter ·
Bod
y fenter yn arbenigo mewn gwneud a gwerthu caws ·
Bod
safle Bryn Cegin yn ganolog i Ogledd Cymru ac i’r perwyl yn gychwyn da ar gyfer
y fenter ·
Y
byddai’r ffatri yn defnyddio technoleg adnewyddol a
bod y sustem yn cwrdd â’r gofynion ·
Y
byddir yn creu oddeutu 20 swydd ar y safle ·
Y
byddai’n agosach at y defnyddwyr ·
Hyderir
y byddai amaethwyr yn cael gwell pris am eu llaeth gyda’r diwydiant yn symud
ymlaen (c)
Nododd yr Aelod Lleol ei gefnogaeth i’r
datblygiad gan nodi: ·
Bod
y safle gwag enfawr o fewn ei ward ers oddeutu 10 mlynedd · Bod y llywodraeth wedi buddsoddi yn is-adeiledd y safle ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais Rhif: C17/0505/25/LL - Bryn Gwredog Uchaf, Lon Bryn Gwredog, Waen Wen, Bangor PDF 359 KB Codi annedd newydd ar gyfer gweithiwr amaethyddol hanfodol ynghyd ag adeilad amaethyddol a mynedfa gerbydol. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd Menna Baines Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi annedd newydd ar gyfer gweithiwr
amaethyddol hanfodol ynghyd ag adeilad amaethyddol a mynedfa gerbydol. (a)
Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais
yng nghefn gwlad agored y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu gyda’r bwriad i godi
byngalo 3 llofft ynghyd â sied amaethyddol ac i addasu’r fynedfa amaethyddol
bresennol oddi ar y lon ddi-ddosbarth sy’n mynd heibio’r
safle. Cyfeiriwyd
at y polisïau cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad ac fe nodwyd y
derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol gan yr Uned Draenio Tir a oedd wedi ei nodi ar
y ffurflen sylwadau ychwanegol. O
safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd mai dim ond mewn rhai amgylchiadau
arbennig iawn y caniateir tai newydd mewn safleoedd cefn gwlad, h.y. pan fod
angen tŷ i gartrefu gweithiwr llawn amser neu un a gyflogir yn bennaf mewn
amaethyddiaeth, coedwigaeth neu ddiwydiant gwledig arall sy’n seiliedig ar
ddefnyddio’r tir. Tynnwyd
sylw at ofynion Nodyn Cyngor Technegol 6 a pholisi CH9 y Cynllun Datblygu
Unedol sy’n gofyn am wybodaeth a phrofion yn ymwneud â’r materion isod: ·
Y
Prawf swyddogaethol ·
Y
Prawf Amser ·
Y
Prawf Ariannol ·
Prawf
Anheddau Amgen a
chydnabuwyd bod y datblygiad yn cwrdd â’r gofynion uchod. O safbwynt dyluniad a mwynderau gweledol, ystyriwyd
bod y cynllun am y tŷ yn un cymharol fychan ac anymwthiol. Ar y cyfan, credir bod dyluniad y tŷ a’r
sied yn eithaf disylw ac yn adlewyrchu dyluniad cyfredol adeiladau o’r fath yng
nghefn gwlad Cymru. Er derbynnir bod y
lleoliad yn eithaf amlwg ac y byddai’r datblygiad newydd yn weladwy o fannau
cyhoeddus gerllaw, ystyriwyd nad yw’r safle o fewn dirwedd ddynodedig ac y
byddai’r datblygiad yn un nodweddiadol o’r ardal hon. Er gwaethaf gwrthwynebiad gan breswylwyr eiddo
Tyddyn Hir, sef y tŷ agosaf at y safle, oherwydd y pellter sydd rhwng y
safle ynghyd â’r ffaith bod gwrychoedd aeddfed rhwng y safleoedd hyn, ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed uniongyrchol annerbyniol i
fwynderau preswylwyr Tyddyn Hir. Nodwyd bod y ffordd sy’n gwasanaethu’r safle yn
un eithaf cul. Fodd bynnag, er y
byddai’r bwriad yn debygol o angen symudiadau trafnidiaeth amaethyddol mewn
perthynas â’r gweithgareddau ar y safle, ni thybir y byddai rhain yn ddim gwaeth
na’r lefel traffig a ddisgwylir gweld mewn perthynas â’r busnes amaethyddol
petai’r tir yn cael ei ffermio gan berchennog yn byw tu hwnt i Waen Wen.
Cadarnhawyd bod yr Uned Trafnidiaeth wedi datgan eu bodlonrwydd gyda’r
cynllun. Yn dilyn asesiad o’r oll ystyriaethau cynllunio
perthnasol, gan gynnwys materion a godwyd gan wrthwynebwyr, ystyriwyd bod y
datblygiad yn addas ar gyfer y safle ac argymhellwyd i’w ganiatáu yn ddarostyngedig
i amodau a nodir yn yr adroddiad ynghyd ag amod Uned Draenio Tir. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd
gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol: • O'r farn bod y datganiad ym mharagraff 5.3 o adroddiad
y swyddog cynllunio yn sylfaenol ddiffygiol |
|
Cais Rhif: C17/0541/14/LL - Tir ger 4 Rhosbodrual Terrace, Caernarfon PDF 342 KB Codi dau dy par ynghyd a gwaith cysylltiol. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd Jason Wayne Parry Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi dau dŷ pâr ynghyd â gwaith
cysylltiol. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi’r
bwriad i godi dau dŷ pâr ynghyd â gwaith cysylltiol sy’n cynnwys llecynnau
parcio a chodi ffens bren 1.8m o uchder o amgylch cyrion y safle. Bwriedir creu
llecynnau parcio ar gyfer 2 gar i bob tŷ gyferbyn â’r talcenni gyda
mynedfa i’r safle fel yn bresennol oddi ar ffordd breifat sydd ym mherchnogaeth
yr ymgeisydd. Saif y safle ar lecyn o
dir sydd yn ffurfio rhan o gwrtil preswyl 4 Rhosbodrual sydd o fewn ffin ddatblygu Caernarfon yn unol
â Chynllun Datblygu Unedol Gwynedd a’r Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig. Cyfeiriwyd at y polisïau
cynllunio perthnasol a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau yn yr adroddiad ynghyd ag
ymateb gan asiant yr ymgeisydd i sylwadau gwrthwynebwyr sydd wedi eu nodi ar y
ffurflen sylwadau ychwanegol. Ystyriwyd bod y bwriad fel a gyflwynwyd ar ffurf
cais llawn yn dderbyniol mewn egwyddor ac o safbwynt mwynderau gweledol na
fyddai’n creu strwythurau anghydnaws yn y strydlun ac yn dderbyniol ac yn
cydymffurfio â’r polisïau perthnasol. Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a oedd yn seiliedig ar: ·
Problemau
parcio presennol ·
Gor-ddatblygiad ·
Addasrwydd
y system garthffosiaeth ·
Rhwystro
mynediad i Haven ·
Amharu’n
andwyol ar fwynderau trigolion lleol Nodwyd bod Cynllun Datblygu Unedol
Gwynedd yn datgan defnyddir dwysedd adeiladu o 30 uned o leiaf yr hectar i safleoedd
datblygiadau preswyl er mwyn gwneud y defnydd gorau o dir. Fodd bynnag, gall y ffigwr hwn amrywio o
safle i safle ar sail cyfyngiadau ffisegol neu gymeriad cyffredinol ardal. Yn yr achos hwn, daw dwysedd datblygu’r safle
ar gyfer 2 dy i oddeutu 33 tŷ’r hectar sydd yn
cyfateb i’r gofynion perthnasol, ac felly ni fyddai gor-ddatblygiad
o’r safle hwn. O safbwynt colli golau i eiddo Haven, nodwyd bod y 2 dŷ wedi cael eu gosod yn ôl yng
nghefn y safle fel bod edrychiadau gogleddol y 2 dy wedi eu gosod yn ôl o
edrychiad gogleddol Haven. Er cydnabyddir bydd rhywfaint o groesi rhwng
talcen Haven a thalcen un o’r tai arfaethedig gan
gydnabod bydd rywfaint o gysgodi yn anochel credir na fydd o raddfa sylweddol
nac arwyddocaol. Lleolir y safle mewn ardal breswyl sydd
gyfagos â ffordd sirol dosbarth 1, er cydnabyddir gall lleoli 2 dy ychwanegol
ar y safle greu elfen o aflonyddwch, credir na fydd o raddfa sylweddol uwch nag
sydd eisoes yn bodoli yn nalgylch safle’r cais.
Nodwyd bod bwriad hefyd i godi ffens bren ar hyd ymylon gorllewinol,
gogleddol a dwyreiniol y safle er budd preifatrwydd trigolion lleol. Cadarnhawyd hefyd gan asiant yr ymgeisydd
bydd y coed a’r llwyni presennol yn cael eu cadw. Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth, ceir mynediad i’r safle oddi ar ffordd breifat sydd ym mherchnogaeth yr ymgeisydd a bwriedir darparu 4 llecyn parcio ar y safle ar gyfer y 2 dŷ arfaethedig. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r cais ar sail diogelwch ffyrdd ac ystyriaeth y ddarpariaeth parcio ynghyd â’r ffaith mai ffordd breifat sy’n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |