Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Aled Ll. Evans, R. Medwyn Hughes, Berwyn Parry Jones a Huw G. Wyn Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys
ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Mehefin
2019, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019, fel rhai cywir. |
|
DATGANIAD O GYFRIFON CYNGOR GWYNEDD 2018/19 PDF 111 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, y datganiadau ariannol
statudol (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2018/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosodwyd cefndir
a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid. Tynnwyd sylw y
cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor ar 13 Mehefin, a oedd yn cyflwyno sefyllfa
diwedd flwyddyn ar ffurf alldro syml oedd yn crynhoi'r sefyllfa ariannol ar
gyfer 2018/19, tra bod y Datganiad o’r Cyfrifon ar ffurf safonol ar gyfer
pwrpas allanol a llywodraethu. Nodwyd bod yr
Adran Gyllid wedi cynhyrchu datganiadau ariannol statudol 2018/19, a’u rhyddhau
i Deloitte, archwilwyr allanol y Cyngor a benodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru,
cyn 31 Mai. Eglurwyd bod bwriad yn y cyfarfod hwn i gyflwyno’r cyfrifon
terfynol gerbron y Pwyllgor yn dilyn archwiliad. Nodwyd yn anffodus derbyniwyd
cadarnhad yn ddiweddar gan Deloitte, nad oedd modd iddynt gwblhau'r archwiliad
a pharatoi adroddiad yr Archwilwyr Allanol ISA260 ar gyfer eu cyflwyno i’r
cyfarfod. Cadarnhawyd y cynhelir cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor ar 13 Medi er
mwyn cyflwyno’r cyfrifon yn dilyn yr archwiliad er cymeradwyaeth y Pwyllgor. Atgoffwyd yr
aelodau, y cyflwynwyd cyfrifon terfynol yr Harbyrau gerbron y Pwyllgor ar 13
Mehefin. Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad gan Deloitte nad oedd addasiadau yn
dilyn archwiliad i gyfrifon yr Harbyrau, ac felly nid oedd gofyn i’w cyflwyno
gerbron y Pwyllgor. Manylodd yr Uwch
Reolwr Cyllid ar gynnwys y Datganiad o Gyfrifon. Cyfeiriodd at ‘Nodyn 15 –
Eiddo, Offer a Chyfarpar’, gan nodi bod Deloitte, fel rhan o’r archwiliad, wedi
codi mater yng nghyswllt gwerth meysydd parcio’r Cyngor a bod trafodaethau yn
parhau rhwng y Gwasanaeth Eiddo a Deloitte o ran newid gwerth y meysydd parcio.
Tynnodd sylw at yr argymhelliad i’r Pwyllgor dderbyn a nodi Datganiad o
Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2018/19. Nododd y Pennaeth
Cyllid bod cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau ac ymgyfarwyddo eu hunain gyda
chynnwys y cyfrifon terfynol cyn eu derbyn yn derfynol yn y cyfarfod arbennig.
Cyfeiriodd at ddyfarniad cyfreithiol achos McCloud a oedd yn golygu y byddai
mwy o warchodaeth drosiannol ar gyfer aelodau o gynlluniau pensiwn gwasanaeth
cyhoeddus. Nododd bod y Goruchaf Lys wedi gwrthod cais y Llywodraeth am
ganiatâd i apelio yn erbyn y dyfarniad. Eglurodd bod rhai cyflogwyr yn gorfod
gosod swm atebolrwydd wrth gefn, ond oherwydd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi
gosod rhagdybiaeth chwyddiant tâl actiwaraidd yn unol â’r achos, nid oedd rhaid
i’r Cyngor addasu’r ffigyrau. Nododd y byddai geiriau ychwanegol o dan ‘Nodyn
38 - Costau Pensiwn’ i adlewyrchu hyn. Nododd Arweinydd
Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte ei werthfawrogiad am gytuno i gynnal
cyfarfod arbennig. Eglurodd bod yr archwiliad yn mynd yn ei flaen yn dda a bod
ychydig o ddyddiau o waith eto i’w gwblhau. Ymddiheurodd nad oedd yr Adroddiad
ISA260 yn barod i’w gyflwyno i’r cyfarfod hwn a byddai gwersi yn cael ei dysgu
o ran cwblhau’r gwaith. Nododd eu bod yn hapus gyda safon y cyfrifon a bod y
mater o ran gwerth meysydd parcio’r Cyngor yn fater o farn ac fe ddoir i
ddealltwriaeth. Eglurodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod y gwaith o ran y cyfrifon terfynol wedi ei gwblhau gan y Cyngor gan nodi siom nad oedd Deloitte wedi cwblhau'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYFRIFON TERFYNOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2018/19 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL PDF 69 KB Cyflwyno: (i)
adroddiad y Pennaeth Cyllid (ii)
adroddiad
ISA 260 yr Archwilwyr Allanol Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid datganiadau
ariannol statudol y Gronfa Bensiwn am gymeradwyaeth y pwyllgor. Manylodd ar
gynnwys y Datganiad o Gyfrifon. Cyfeiriodd at ddau o strategaethau allweddol y
Gronfa, y datganiad strategaeth cyllido a’r datganiad strategaeth buddsoddi.
Tynnodd sylw bod cynnydd o £143 miliwn yn asedau net y Gronfa dros y flwyddyn
2018-19 a oedd yn dod a gwerth y Gronfa i dros £2 biliwn. Nododd bod costau rheoli buddsoddiadau yn
uwch ym mlwyddyn ariannol 2018-19 oherwydd ei fod yn gyfnod gyda llawer o
drosiant mewn cwmnïau rheoli asedau ecwiti a buddsoddiadau cysylltiedig, gyda
chostau ynghlwm. Ymhelaethodd bod hyn yn bennaf yn dilyn trosglwyddo rhan fwyaf
o’r asedau o reolwyr penodol y Gronfa, sef Fidelity a Veritas, i Bartneriaeth
Pensiynau Cymru i fuddsoddi ar y cyd. Nododd yn y pendraw y rhagwelwyd y
byddai’r ffioedd yn lleihau a’r dychweliadau os nad yn well yn fwy gwydn,
oherwydd bod y risg buddsoddi wedi ei ledaenu. Cyflwynodd Arweinydd Ymgysylltu Archwilio
Ariannol, Deloitte yr adroddiad archwiliad ISA 260. Nododd bod yr Archwilydd
Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y datganiadau
ariannol. Nodwyd
y prif sylwadau canlynol: ·
O
ran Cydraddoli Isafsymiau Pensiwn Gwarantedig (GMPs) ynghlwm ac achos McCloud,
nid oedd yn swm materol wrth ystyried y Gronfa yn ei gyfanrwydd. Felly yn
fodlon nid oedd angen diwygio unrhyw beth o ran y cyfrifon; ·
Nid
oedd unrhyw gamddatganiadau a gywirwyd yn y datganiadau ariannol; ·
Derbyniwyd
sicrwydd gan archwilwyr allanol Cyngor Sir Caerfyrddin, awdurdod lletya ar
gyfer Cydbwyllgor Partneriaeth Pensiwn Cymru, ac nid oedd unrhyw fater yn codi; ·
Bod
rhan fwyaf o’r argymhellion a godwyd ym mlynyddoedd blaenorol wedi eu cyfarch; ·
Bod
y cyfrifon yn rhai o safon ardderchog. Tynnodd aelod sylw bod y Cyngor fel cyflogwr
yn cyfrannu £22.4 miliwn tuag at gost pensiynau. Nododd bod y Gronfa yn iach ac
yn cael ei redeg yn llwyddiannus. Holodd a fyddai’r prisiad actiwaraidd
teir-blynyddol yn lleihau cyfraniadau’r Cyngor fel cyflogwr, gan leihau’r baich
ar drethdalwyr. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn hyderus bod
gwelliannau o ran y buddsoddiadau gyda thair blynedd bositif heb gwymp yn y
farchnad. Ymhelaethodd y byddai’r sefyllfa o ran y prisiad actiwaraidd
teir-blynyddol yn cael ei gadarnhau ar ddiwrnod cyfarfod blynyddol y Gronfa
Bensiwn ar 24 Hydref 2019. Nododd ni ellid rhagweld darganfyddiad yr actwari,
ond ei fod yn obeithiol y byddai’r prisiad yn golygu cyfraniadau cyfartal neu
is i’r Cyngor fel cyflogwr. Nododd aelod bod yr incwm o £14 miliwn ar fuddsoddiadau o Gronfa a oedd werth dros £2 biliwn, sef 0.7%, ar y wyneb yn edrych yn isel o ystyried lefel y difidend. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Cyllid bod rhaid ystyried cynnydd yng ngwerth cyfalaf y buddsoddiadau yn ogystal â’r incwm o ddifidend. Ymhelaethodd y gellid buddsoddi mewn cerbydau fyddai’n rhoi difidend uchel, ond efallai ni fyddai gwerth yr ased ar y farchnad stoc yn cynyddu. Nododd bod yr incwm ynghyd â chynnydd yng ngwerth y buddsoddiadau yn golygu cynnydd o £123 miliwn a oedd oddeutu 7% o werth y Gronfa, a oedd ddigon ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2018/19 PDF 124 KB Cyflwyno, er
gwybodaeth, adroddiad y Rheolwr Buddsoddi ar ganlyniadau gwir weithgarwch
benthyg a buddsoddi’r Cyngor yn y flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2019. Cofnod: Cyflwynodd y
Rheolwr Buddsoddi yr adroddiad ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor
yn ystod 2018/19, yn erbyn y strategaeth a sefydlwyd am y flwyddyn ariannol
honno. Nodwyd bod gweithgaredd benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd
yn wreiddiol, a derbyniwyd £330,614 o log ar fuddsoddiadau a oedd yn uwch na’r
£130,000 yn y gyllideb. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw fanc roedd y Cyngor wedi
buddsoddi arian gyda nhw wedi methu â thalu. Nododd y Pennaeth
Cyllid bod y Cyngor wedi manteisio ar ryddid newydd yn 2018/19 i fuddsoddi mewn
pethau amgen megis cronfeydd ecwiti ac eiddo, roedd wedi gwella lefel
dychweliadau. Nodwyd bod y
Rheolwr Buddsoddi yn cychwyn cyfnod ymddeoliad hyblyg ac fe fyddai’n ymddeol o
wasanaeth y Cyngor erbyn Ionawr 2020. Dymunwyd yn dda iddi ar ei hymddeoliad a
nodwyd gwerthfawrogiad o’i gwasanaeth i’r Cyngor a’r cyn Gyngor Dosbarth
Meirionnydd. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er
gwybodaeth. |
|
ADRODDIAD Y GWEITHGOR GWELLA RHEOLAETHAU PDF 127 KB Cyflwyno adroddiad
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cyflwyno adborth o gyfarfod y
Gweithgor ar 12 Gorffennaf 2019. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfarfod o’r gweithgor uchod a gynhaliwyd ar
12 Gorffennaf 2019, ystyriwyd methiant i adrodd ar weithrediadau cytunedig ar
adeg archwiliadau dilyniant, ar gyfer yr archwiliadau canlynol: a) Trefniadau ar gyfer Plant yn
Gadael Gofal b) Manddaliadau c) Targedau Ailgylchu Rhoddwyd ystyriaeth yn ogystal yng nghyfarfod y Gweithgor i archwiliadau
a dderbyniodd lefel sicrwydd cyfyngedig, sef – a) Tanciau Disel a Rheoli Disel b) Trefniadau Diogelu -
Sefydliadau c) Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol Gwahoddwyd yr Aelodau Cabinet perthnasol a swyddogion i fynychu’r
cyfarfod er mwyn trafod y materion oedd yn codi. Nododd aelod yng
nghyswllt archwiliad Manddaliadau o ran methiant i anfonebu tenantiaid yn y
gorffennol a’r gwendidau a amlygwyd, ei fod yn gobeithio y byddai gwell trefn.
Eglurodd y Pennaeth Cyllid bod Manddaliadau wedi cael cryn sylw yn ddiweddar ac
wedi ei gynnwys eto yng Nghynllun Archwilio Mewnol 2019-20. Cafwyd trafodaeth yng nghyswllt yr archwiliad Targedau Ailgylchu. Nodwyd
bod newidiadau i drefniadau casglu wedi dod i rym yn Ardal Dwyfor ar y 1af o
Orffennaf a bod gwelliant o ran safon y gwaith casglu. Tynnwyd sylw bod
newidiadau i’r dyddiau casglu wedi creu dryswch, yn enwedig i oedolion
hŷn, a dylid cadw llygad ar y sefyllfa gan dderbyn diweddariad ar
weithrediad. Nododd aelod o ran yr archwiliad Tanciau Disel a Rheoli Disel, y daeth
i’r amlwg nad oedd rheolwyr safle yn gyfrifol o ran cyflwr y tanciau yn y
gorffennol, a’i fod yn gobeithio y byddai’r sefyllfa’n gwella gan y byddai
gofyn ar reolwyr safle i archwilio’r tanciau yn fisol. Mewn ymateb, nododd y
Pennaeth Cyllid y byddai’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cynnal archwiliad
dilyniant. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |