Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Huw G. Wyn Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 17
Hydref 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17eg o Hydref
2019, fel rhai cywir. |
|
ADOLYGIAD O DREFNIADAU CRAFFU PDF 1 MB I ystyried
adroddiad Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth
ac Iaith, yn amlinellu canlyniadau adolygiad diweddar i drefniadau craffu'r Cyngor. Eglurwyd bod gweithgor wedi ei sefydlu o Aelodau a
Swyddogion i adolygu’r trefniadau craffu cyfredol yn dilyn sylwadau nad oedd
craffu yn ychwanegu gwerth, fod y trefniadau yn araf yn dwyn ffrwyth a theimlad
y gellid gwneud pethau yn well. Ategwyd bod ceisio gwelliant parhaus trwy
adolygu a herio’r drefn yn cyfrannu at yrru gwelliant mewn gwasanaethau i bobl
Gwynedd. Lluniwyd tri
opsiwn gan y Gweithgor yn wreiddiol, ac yn dilyn gwaith ymgynghori gydag
aelodau a’r Fforwm Craffu addaswyd yr opsiynnau hynny er ystyriaeth y
Pwyllgor.Ystyriwyd -
Tri Pwyllgor Craffu (mân addasiadau i’r trefniadau
cyfredol) -
Un
Prif Bwyllgor Craffu -
Dau
Bwyllgor Craffu Trafodwyd yr
opsiynau gan gyfeirio at fanteision ac anfanteision pob opsiwn yn unigol.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried os oedd un opsiwn yn rhagori a chyflwyno’r
opsiwn dewisol fel argymhelliad i’r Cyngor Llawn ar 19.12.19. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau Unigol: -
Nad oes capasiti gan un Aelod i gadeirio Un
Pwyllgor – pryder bod hyn yn ormod o gyfrifoldeb i un Cadeirydd -
Derbyn
yr angen i adolygu’r drefn -
Pryder na fyddai materion ar bwnc penodol yn cael
eu cofnodi mewn cyfarfodydd anffurfiol / rhannu gwybodaeth -
Bod
angen ystyried sut mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno -
Bod angen edrych yn fwy strategol ar eitemau yn
hytrach na materion cyffredinol ar draws y Sir. -
Pa
bynnag drefn neu opsiwn sydd yn cael ei ddewis nid yw’n golygu y bydd y craffu
yn gwella – angen miniogi trefniadau a
blaenoriaethu yn well -
Opsiwn
Un Pwyllgor yn cau allan gormod o Aelodau -
Opsiwn
Un Pwyllgor – yn rhoi cyfle i rai Aelodau fagu arbenigedd drwy arwain -
A’i craffu sydd yn wallus ynteu diffyg aelodau i
adnabod eu rôl? Angen ystyried addysgu Cynghorwyr o’u cyfrifoldebau Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â phwy fydd yn Cadeirio'r Pwyllgor Craffu be fyddai opsiwn Un
Pwyllgor Craffu yn rhagori, mynegodd y Swyddog Monitro bod fformiwla statudol
mewn lle i benderfynu hyn yng nghyd-destun y balans gwleidyddol. Byddai’r
fformiwla hefyd yn cael ei defnyddio
petai opsiwn Dau Bwyllgor Craffu yn rhagori. Cynigiwyd ac eiliwyd opsiwn 1 – Tri Pwyllgor Craffu Gwnaed cais hefyd
i’r Pwyllgor ystyried pa bwyllgor craffu ddylai graffu materion yr Adran Tai ac
Eiddo yn dilyn ail strwythuro’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Amlygwyd bod
trafodaethau wedi eu cynnal yn y Fforwm Craffu, yng nghyfarfod anffurfiol y
Pwyllgor Craffu Gofal a gyda Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Craffu
Cymunedau a Gofal. Daethpwyd i’r farn yn y trafodaethau hyn mai’r Pwyllgor
Craffu Gofal oedd y lle gorau i graffu materion tai ac eiddo gan fod materion
iechyd a gofal bellach yn cael eu cysylltu gyda thai. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau Unigol: -
Bod cyswllt amlwg rhwng Tai /Ansawdd Tai ac Iechyd -
Bod y berthynas rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Iechyd yn datblygu - Bod capasiti gan Pwyllgor Craffu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Aelodau Cabinet – Cynghorwyr Nia Jeffreys ac Ioan
Thomas I ystyried yr
adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yn manylu ar gynigion arbedion fyddai’n cyfrannu
tuag at y bwlch ariannol posib yng nghyllideb 2020/21. Atgoffwyd yr Aelodau nad
yw’r grant blynyddol, a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn ddigonol
ers y 12 mlynedd diwethaf ac o ganlyniad wedi arwain at sefyllfa lle mae’r Cyngor yn gorfod
cynllunio ar gyfer llenwi’r bwlch ariannol. Ar gyfer 2020/21 penderfynwyd
cynllunio ar gyfer bwlch £2m gan ofyn i’r holl adrannau ddarganfod eu cyfraniad
hwy i’r swm. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cynigion yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, Adran Gyllid a’r Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol ynghyd a’r goblygiadau. Ymhelaethodd yr
Aelodau Cabinet a Phenaethiaid yr Adrannau ar gynnwys yr adroddiad, gan ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
Aelodau. Arbedion Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â gostyngiad mewn gwariant ar argraffu dogfennau corfforaethol a’r awgrym y dylai Cynghorwyr weithredu yn
ddi-bapur, adroddwyd bod arbediad eisoes
wedi ei wneud drwy gyflwyno cyfarpar technoleg gwybodaeth i Gynghorwyr, ond
derbyn bod modd gwneud mwy. Ategwyd bod angen hyrwyddo defnydd technoleg yn
well, cynyddu hyder mewn defnydd a diwallu’r problemau o ddefnyddio fideo gynhadledd
/ mynychu o bell. Mewn ymateb i sylw
bod yr Adran yn tanwario yn hanesyddol ar angen am gyllideb realistig i’r
dyfodol, mynegwyd bod yr adran yn cynllunio a pharatoi ymlaen llaw ar gyfer
toriadau/arbedion ac mai hynny sydd yn bennaf gyfrifol am unrhyw dan-wariant o
flwyddyn i flwyddyn. Arbedion yr Adran
Gyllid Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â denu incwm drwy gytundebau newydd a hynny fel awdurdod lletyol /
arweiniol, nodwyd bod hyn yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo oherwydd hyder
awdurdodau eraill yn ansawdd gwaith Cyngor Gwynedd. Arbedion Tîm
Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag ymdopi gyda 2 aelod o’r Tîm Rheoli yn hytrach na 3,
mynegwyd bod y swydd yn cael ei chadw’n wag ar hyn o bryd ar sefyllfa yn cael
ei fonitro o ran effaith. Ategwyd, petai’r rhaglen arbedion yn parhau yna
byddai modd ystyried y swydd fel arbediad i’r dyfodol. Sylwadau
cyffredinol: - Y dylid amcangyfrif y swm i’r cannoedd ac nid i’r punnoedd - Croesawu nad oedd yr arbedion yn creu effaith ar drigolion Gwynedd - Bod y cynigion yn rhai synhwyrol PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo cynigion yr adrannau i
gwrdd â’u cyfran o arbedion perthnasol |
|
LLYTHYR ARCHWILIO BLYNYDDOL 2018 - 2019 GAN YR ARCHWILWYR ALLANOL PDF 182 KB I nodi
a derbyn y Llythyr Archwilio Blynyddol ar gyfer 2018-19 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn crynhoi’r prif negeseuon allweddol sydd yn
deillio o gyfrifoldebau statudol yr Archwilydd o dan y Ddeddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2004 a’r cyfrifoldebau adrodd o dan Còd Ymarfer Archwilio. Ym
Medi 2019, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn archwilio ddiamod ar
ddatganiadau cyfrifyddu Cyngor Gwynedd 2018/2019 gan gadarnhau eu bod yn rhoi
darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol a thrafodion y Cyngor. Amlygodd Aelod
Cabinet Cyllid bod cynnwys y llythyr yn gadarnhaol. Diolchwyd a llongyfarchwyd
yr holl staff am eu gwaith PENDERFYNWYD derbyn y
Llythyr Archwilio ar gyfer 2018 - 2019 |
|
STRATEGAETH ARIANNOL - CYLCH GWAITH CYLLIDEB 2020 - 2021 PDF 187 KB I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn rhoi amlinelliad o drefn llunio cyllideb am
y flwyddyn 2020 / 2021, yn unol â blaen raglen y Pwyllgor. Amlygwyd bod
cynllunio’r gyllideb wedi bod yn heriol
gan nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru wedi ei chyhoeddi ac nad oes bwriad
gwneud hynny tan ar ôl etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig (16.12.19 yw
dyddiad cyhoeddi setliad drafft 2020/21). O ganlyniad, gan nad yw manylion y
setliad ar gael, amcangyfrifwyd arbedion o £2m wrth gynllunio’r gyllideb ond
rhagrybuddiwyd y gall hyn newid. Amlygodd yr Aelod
Cabinet bod Seminarau Cyllideb i Aelodau yn cael eu trefnu ym mis Ionawr i
rannu a thrafod y wybodaeth yn fanylach a phwysleisiodd yr angen i’r hol Aelodau
fynychu. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y gwahoddiad hefyd yn agored
i’r aelod lleyg. PENDERFYNWYD
derbyn yr amserlen ar gyfer cynllunio ariannol 2020/2021 |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2019-20 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN PDF 344 KB I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn manylu ar wir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys
y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Eglurwyd, rhwng 1 Ebrill a 30
Medi 2019, arhosodd gweithgarwch benthyca a buddsoddi’r Cyngor o fewn y
cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol. Nid oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor
wedi adnau arian wedi methu ad-dalu a amcangyfrifir y bydd gwir incwm
buddsoddi’r Cyngor yn rhagori ar yr incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2019/20. Cyfeiriwyd at y
Strategaeth Fenthyca ynghyd a rhoi diweddariad byr ar y Gyfradd Sicrwydd Bwrdd
Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB). Nodwyd, yn Hydref 2019 cododd cyfradd
safonol llog o 1% ac nid yw’r Cyngor yn rhagweld unrhyw angen benthyca PWLB ar
hyn o bryd. Wrth gyfeirio at y gweithgareddau buddsoddi, amlygwyd bod y Cyngor
yn buddsoddi mewn cronfeydd cyfun lle mae diogelwch a hylifedd tymor byr yn
llai o ystyriaeth, ac yn hytrach, yr amcanion yw incwm refeniw rheolaidd a
sefydlogrwydd prisiau hirdymor. Yng nghyd-destun cydymffurfio, cadarnhawyd bod
yr holl weithgareddau rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod yn cydymffurfio’n
llawn â chod ymarfer CIPFA a Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor. O ran rhagolygon ar gyfer gweddill 2019/20 nodwyd bod twf y farchnad yn
arafu yn sgil yr ansicrwydd gyda Brexit ond eto ni ragwelir effaith sylweddol. Diolchwyd am yr adroddiad cywir a chadarnhaol. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â lle i fenthyg os oes angen, nododd y Pennaeth Cyllid, er
bod y gyfradd llog wedi codi ym mis Hydref, nid oedd ymgynghorwyr y trysorlys
yn rhagweld llogau yn codi ymhellach. Nid yw’r Cyngor mewn sefyllfa ar hyn o
bryd o fod angen benthyg. Mewn ymateb i
awgrym y gall y Cyngor fod mewn sefyllfa i gynnig morgeisi / fenthyca arian i
brynu tŷ, nodwyd bod y Cyngor yn cefnogi nifer o gynlluniau Tai ar hyn o
bryd. Un cynllun yw neilltuo arian premiwm treth cyngor ar gyfer amrediad o
gyfleoedd a chynlluniau dod a thai gwag
yn ôl i ddefnydd. Ategwyd nad oedd rhedeg morgeisi yn flaenoriaeth ar hyn o
bryd. PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth. |
|
ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL PDF 81 KB I ystyried
adroddiad Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn amlygu’r camau gweithredu a
grëwyd mewn ymateb i wireddu argymhellion adroddiadau archwilio. Atgoffwyd yr
Aelodau bod cyfrifoldeb arnynt i ystyried adroddiadau archwilio allanol
(Cenedlaethol a lleol i Wynedd), yr argymhellion a gynhwysir ynddynt ynghyd a
goblygiadau rhain i lywodraethu, rheoli risg neu reolaeth. Rhaid i’r Pwyllgor
fodloni eu hunain bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod y
cynigion gwella yn cael eu hystyried a’u gweithredu. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth ddilynol ar gynigion gwella adroddiadau archwilwyr allanol 2013
- 19 (rhan 1) ·
Bod
angen ystyried fformat mwy effeithiol i adrodd ar yr argymhellion i’r dyfodol –
ymddengys mwy o fanylder mewn rhai adroddiadau ·
Cais
i amlygu tuedd ·
Bod angen croesgyfeirio adroddiadau a
phenderfyniadau sydd wedi bod mewn Pwyllgorau eraill (e.e., Pwyllgorau Craffu) ·
Bod
gormod o wybodaeth am brosesau – angen canolbwyntio ar yr allbynnau ar hyn sydd
wedi ei gwblhau ·
Awgrym i osod amserlen ac amlygu’r prif gerrig
milltir ·
Bod
angen canolbwyntio ar y cynnydd Trafodwyd pob un o’r cynigion gwella yn eu tro ac fe heriwyd rhai o’r
casgliadau. ·
Cynigiwyd addasu casgliad ‘Gwerthusiad Perfformiad
Blynyddol yr Arolygaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) 2013/2014’ i “ar waith” yn hytrach na “wedi ei gwblhau”
gan y nodir bod ‘perfformiad wedi gostwng oherwydd diffyg i gyrraedd yr holl
ofynion o fewn yr amserlenni statudol’. ·
Cynigiwyd addasu casgliad ‘Rheoli Asedau [Tir ac
Adeiladau]’ i “ar waith” yn hytrach na “wedi ei gwblhau” gan y nodir bod ‘angen
ailagor trafodaethau â phartneriaid lleol a rhanbarthol ynghylch datblygu dull
systematig o gynllunio asedau ar y cyd...’. Yn ddarostyngedig i’r cynigion uchod, roedd y Pwyllgor yn fodlon gyda
chasgliadau cynigion gwella adroddiadau lleol neu ranbarthol sydd yn asesu
gwaith Cyngor Gwynedd (rhan 1) Yng nghyd-destun
adroddiadau cenedlaethol neu gyffredinol sydd yn berthnasol i Lywodraeth Leol
(rhan 2), gwnaed sylw ynglŷn ag adroddiad ‘Craffu Da? Cwestiwn Da’ ac o
ystyried adolygiad presennol Cyngor Gwynedd ar drefniadau Craffu, a ddylai’r
archwiliad gael ei nodi fel ‘ar waith’? Nodwyd bod yr adroddiad ‘Craffu Da?
Cwestiwn Da’ bellach wedi dyddio a'r gwaith wedi ei drosglwyddo i adroddiad o
dan yr enw ‘Trosolwg Craffu’ ac felly
cytunwyd bod y casgliad “wedi ei gwblhau” yn dderbyniol. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad. Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod y camau gweithredu a grëwyd mewn ymateb i’r
argymhellion yn gywir, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a gynigiwyd i
gasgliadau Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol yr Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
(AGGCC) 2013/2014’ a ‘Rheoli Asedau [Tir ac Adeiladau]’. |
|
TREFNIADAU GWRTH DWYLL, GWRTH LYGREDIGAETH A GWRTH LWGRWOBRWYO PDF 160 KB I ystyried adroddiad Pennaeth Cynorthwyol Cyllid (Refeniw a Risg) Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) yn diweddaru’r
Pwyllgor ar drefniadau atal twyll ac atal llygredd y Cyngor, cynnydd ar y
rhaglen waith am y tair blynedd nesaf ynghyd a datblygiadau cenedlaethol yng
nghyd-destun twyll yn erbyn y sector gyhoeddus. Atgoffwyd yr Aelodau bod
rhaglen waith Strategaeth Gwrth-dwyll, Gwrthlygredd a Gwrth Lwgrwobrwyo Cyngor Gwynedd ar gyfer 2019 -
2022 wedi ei mabwysiadu gan y Pwyllgor ar y 14eg o Chwefror 2019. Amlygwyd nad oedd
swyddogion y Cyngor yn ymchwilio i honiadau o dwyll yn ei erbyn ar hyn o bryd.
Er hynny, ers Ebrill 1af 2019, adroddwyd bod y Gwasanaeth Budd-dal wedi
cyfeirio 22 o achosion Budd-dal Tai i’r Adran Gwaith a Phensiynau (Llywodraeth
DU) am ymchwiliad pellach. Nodwyd nad yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn
ymchwilio i dwyll Gostyngiad Treth Cyngor, a felly fod camau pendant wedi eu
cymryd i ddatblygu sgiliau yn fewnol i ymchwilio i’r twyll yma. Ategwyd bod 3 o
swyddogion budd-dal a 3 o swyddogion trethi yn gweithio ar gymhwyster CIPFA Accredited
Counter Fraud Technician ar hyn o bryd sydd yn fuddsoddiad arwyddocaol i
weithdrefnau atal twyll y Cyngor. Yng nghyd-destun
defnyddio data, cyfeiriwyd at y gweithrediad i asesu’r posibilrwydd o
ddefnyddio data’n well er mwyn adnabod ac ymchwilio i dwyll. Ategwyd mai’r
cynllun cyfredol i adnabod ac ymchwilio i dwyll yw ymarferiad y Gwasanaeth
Trethi i adolygu rhai o’r disgowntiau ac eithriadau a ganiateir i gyfrifon
Treth Cyngor y Sir. Amlygwyd , mewn ymchwil diweddar, mai hawliadau ffug am
Ddisgownt Person Sengl yw’r trydydd math mwyaf cyffredin o dwyll sydd yn cael
ei weithredu gan oedolion yng Nghymru. Nodwyd bod 18,000 o gartrefi Gwynedd yn
derbyn disgownt person sengl Treth Cyngor ac er mwyn sicrhau bod pob eithriad a
disgownt a ganiateir yn gywir, bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda chwmni
Datatank i adolygu hawlwyr disgownt. Os darganfyddi’r hawliadau anghywir bydd y
Cyngor yn diweddu’r hawliadau, ysgrifennu at y trethdalwyr ac yn ceisio
adennill y gostyngiad. Tynnwyd sylw at
adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a gafodd ei gyhoeddi ym Mehefin 2019 sydd
yn rhoi darlun o’r mathau o dwyll y gellid eu cyflawni yn erbyn y sector
gyhoeddus yng Nghymru. Nodwyd mai cais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y
Cynulliad Cenedlaethol oedd darparu’r
adroddiad fel bod modd adrodd ar y trefniadau sydd yn ei lle o fewn y gwahanol
fathau o gyrff cyhoeddus. Cymeradwywyd cynnig yr Archwilydd Cyffredinol i
gynnal adolygiad pellach (cam 2) i archwilio pa mor effeithiol yw trefniadau
atal twyll yn ymarferol ac i wneud argymhellion ar gyfer gwella. Adroddwyd bod
bwriad cyhoeddi cam 2 o’r adolygiad ym mis Mehefin 2020 gydag awgrym i adrodd
i’r Pwyllgor ganlyniad y gwaith ac unrhyw faterion sydd yn benodol i Wynedd. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a thwyll yn ymwneud â throsglwyddo eiddo hunan-ddarpar allan o’r Gyfundrefn Treth Cyngor, nodwyd mai cyfrifoldeb Asiantaeth Swyddfa’r Prisiwr yw casglu gwybodaeth a dod i benderfyniad ar faterion twyll o’r math yma. Mewn sylw ynglŷn â’r angen i wirio gwaith a phenderfyniad y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL PDF 164 KB I ystyried
adroddiad y Rheolwr Archwilio Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r
Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod 7 Hydref hyd 15 Tachwedd 2019.
Amlygwyd bod 8 o archwiliadau’r cynllun wedi eu cwblhau. Tynnwyd sylw ar lefel
sicrwydd perthnasol archwiliadau'r cynllun, gan nodi bod y canlyniadau yn
galonogol gyda’r lefelau yn syrthio i’r ddau gategori uchaf sef digonol
(rheolaethau mewn lle i gyflawni amcanion ond bod agweddau lle gellir tynhau ar
y trefniadau i liniaru’r risgiau ymhellach) ac uchel (gellir datgan sicrwydd o
briodoldeb gan y gellir dibynnu ar y rheolaethau mewnol mewn lle i gyflawni
amcanion). Cyfeiriwyd at Gynllun Cytundeb Adran 106 - lefel sicrwydd digonol.
Archwiliwyd i drefniadau addas mewn lle wrth osod rhwymedigaethau cynllunio
adran 106 er mwyn lliniaru effeithiau negyddol datblygiadau. Detholwyd sampl o
rwymedigaethau a chyfraniadau ariannol at e.e., darpariaeth addysg, llecynnau
agored a thrafnidiaeth yn ogystal â ble nad oedd cyfraniadau ariannol. Amlygwyd mewn rhai sefyllfaoedd bod arian
wedi ei dderbyn ar gyfer sawl datblygiad heb ei wario er gwaethaf ymdrechion yr
Adran Cynllunio i annog mudiadau megis Cynghorau Cymuned i’w wario. Ategwyd y
gall hyn greu risg o orfod talu'r arian yn ôl i’r datblygwyr gyda llog. Cyfeiriwyd ar Gynllun Costau Gwely a Brecwast - lefel sicrwydd digonol.
Bwriad yr archwiliad oedd sicrhau bod trefniadau addas mewn lle ar gyfer
gweinyddu ceisiadau digartrefedd lle lleolir ymgeiswyr mewn llety gwely a
brecwast. Adroddwyd bod cynnydd o 36% yn y galw am y gwasanaeth ers 2014 / 15
ac yn fwy diweddar yn sgil effaith credyd cynhwysol. Amlygwyd bod y gyllideb
wedi gostwng yn y tair blynedd diwethaf oherwydd toriadau o fewn y Cyngor i
arbed arian yn ogystal â cholled mewn staff, yn benodol yn Arfon ble mae’r
ganran fwyaf o ymgeiswyr a diffyg lleoliadau ar gael. Cyfeiriwyd at Cynllun Cartrefi Plas Pengwaith, Bryn Blodau a Llys Cadfan - lefel sicrwydd digonol. Bwriad
yr archwiliadau oedd sicrhau bod trefniadau rheoli a chynnal y cartrefi yn
briodol ac yn unol â rheoliadau safonau perthnasol. Amlygwyd bod y cartrefi
wedi ymrwymo i weithredu’r camau i liniaru’r risgiau a amlygwyd gan yr
Archwilwyr. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r angen i sicrhau bod y Cartrefi yn
cael ei rheoli yn effeithiol, mynegwyd bod gwellhad yn y rheoli gyda mesurau yn eu lle i wella. Nodwyd
bod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod tystiolaeth a chofnodion ar gael ar
faterion megis hyfforddiant staff. Ategwyd bod y sefyllfa yn parhau i gael ei
monitro ac os na fydd cynnydd bydd modd nodi ‘diffyg gweithrediad’ PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad
a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau
perthnasol |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2019 - 20 PDF 119 KB I ystyried
adroddiad y Rheolwr Archwilio Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o
ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2019/20. Amlygwyd bod 18 cynllun allan o’r
54 archwiliad sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun wedi eu rhyddhau yn derfynol.
Er mwyn adlewyrchu effaith ar addasiadau ac ychwanegiadau pellach i’r cynllun
blaenoriaethwyd y gwaith ar sail risg a daethpwyd i’r canlyniad i ganslo 7
archwiliad pellach. Yn unol â chais a wnaed yng nghyfarfod Hydref 2019, cafwyd
rhesymeg gryno dros y penderfyniad ar gyfer pob archwiliad a ganslwyd. Mewn ymateb i sylw
bod y nifer a ganslwyd yn ymddangos yn uchel, nodwyd bod y drefn yn ei
chyfanrwydd a'r cynllun blynyddol wedi ei hystyried ar y cyd gyda’r Pennaeth
Cynorthwyol Cyllid - Refeniw a Risg. Ategwyd nad yw’r 14 archwiliad yn ‘disgyn
allan’ o’r cynllun tymor-canol, gan y
byddant yn flaenoriaeth yng nghynllun Archwilio Mewnol 2020/21. Nodwyd hefyd
bod 40 diwrnod o waith wedi ei glustnodi ar gyfer Byw’n Iach a bod hyn yn
ofyniad ychwanegol sydd maes o law yn
creu effaith ar y niferoedd archwiliadau sydd yn cael eu cynnal i Gyngor
Gwynedd. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad |