Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Penderfyniad:

Pryder nad oes capasiti digonol gan yr Uned Archwilio Mewnol i gwrdd â disgwyliadau’r Cyngor

 

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn amlygu’r sefyllfa a’r risgiau posib

·       Angen sicrwydd bod y gwaith sydd angen ei gyflawni gan Archwilio Mewnol  yn parhau i fod o safon uchel

 

 

4.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR pdf eicon PDF 157 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

5.

CYLLIDEB 2026/27 pdf eicon PDF 511 KB

I graffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2026/27 i’r Cyngor Llawn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys
  • Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
  • Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo Cyllideb 2026/27 yn eu cyfarfod 10/02/26
  • Diolch i’r Adran Cyllid am y gwaith trylwyr o baratoi’r Gyllideb

 

  • Sefyllfa gorwariant yn bryderus
  • Pryder bod y gronfa wrth gefn yn lleihau – croesawu ymarferiad cynhaeafu
  • Cynlluniau datblygu / gwella darpariaethau Cartrefi Preswyl yng Ngwynedd - cais i ganfyddiadau ymchwiliad Housing LIN Cymru gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor

 

Nodyn:

-        Rhestr bidiau cyfalaf - cynllun i ymestyn maes parcio Ysgol y Faenol. Cais gan yr Aelod Lleol am fanylion pellach ynglŷn â rhesymau dros lithrad amser (dyddiad gwreiddiol 2021) a’r costau ynghlwm  â’r llithriad

-        Awgrym i gyflwyno gwybodaeth am dreth y Cyngor mewn gwerth ariannol (£)  yn hytrach na chanran (%) yn unig

-        Datganiad y Swyddog Cyllid - ‘anochel bod y gyllideb yn cynnwys elfen o risg o ragdybiaethau’ ... a oes cynlluniau mewn lle petai ostyngiad yng nghasgliadau premiwm tai, ond cynnydd yn y galw am adeiladu tai?

 

6.

STRATEGAETH GYFALAF 2026/27 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) pdf eicon PDF 258 KB

I ystyried unrhyw risgiau sy’n codi o’r strategaeth cyn i’w chyflwyno i’r Cyngor llawn i’w derbyn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad  gan nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol
  • Cefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r Strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth ar y 5ed o Fawrth 2026
  • Bod cyflwyniad calonogol gan Arlingclose, Ymgynghorwr Rheolaeth Trysorlys y Cyngor (30-01-2026) wedi bod yn fuddiol iawn, ac wedi rhoi hyder a sicrwydd i’r Aelodau bod y Cyngor ar y trywydd cywir

 

7.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 523 KB

I dderbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 29 Medi 2025 hyd 25 Ionawr 2026, sylwebu ar y cynnwys yn ôl dymuniad yr aelodau, a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol
  • O ganlyniad i ddiffyg gwelliant yn y maes gofal preswyl mewn trefniadau addas ar gyfer rheoli'r cartrefi yn briodol a diffyg cydymffurfiaeth gyda phrosesau rheolaethol, y Pwyllgor angen sicrwydd bod sylwadau Archwilio Mewnol yn cael eu hystyried. Y sefyllfa angen sylw pellach.

 

8.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2025/26 pdf eicon PDF 212 KB

I nodi cynnwys yr adroddiad hwn fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2025/26, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

 

 

9.

SIARTER ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 121 KB

I dderbyn a chymeradwyo cynnwys y Mandad a'r Siarter Archwilio Mewnol, i'w gymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a chymeradwyo cynnwys y Mandad a'r Siarter Archwilio Mewnol, i'w gymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.

 

10.

STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL A'R CYNLLUN ARCHWILIO BLYNYDDOL 2026/27 pdf eicon PDF 108 KB

I dderbyn a chymeradwyo cynnwys y Strategaeth Archwilio Mewnol a'r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2026/2027, i'w cymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a chymeradwyo cynnwys y Strategaeth Archwilio Mewnol a'r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2026/2027, i'w cymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.

 

11.

ADRODDIAD AROLYGAETHAU ESTYN A AROLYGAETH GOFAL CYMRU pdf eicon PDF 126 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Derbyn bod pedwar o’r argymhellion yn cyfateb i gynlluniau gwaith sydd eisoes yng nghynllun ymateb adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder
  • Derbyn nad oedd dau o’r argymhellion yn y cynllun ymateb ond eu bod bellach wedi eu cynnwys ac yn derbyn sylw priodol
  • Er yn derbyn y bydd y mesurau sydd wedi eu diwallu neu wedi cyrraedd lefel o safon a bod y mater yn cael ei gau lawr, bod angen amserlen benodol, er derbyn mai anodd fyddai rhoi dyddiad pendant
  • Gwerthfawrogi dilynant / adroddiad cynnydd ar yr ymatebion i’r argymhellion
  • Siomedig eto nad oedd cydnabyddaieth gan Estyn ar fethianau eu harolwg ar drefniadau diogelwch y Cyngor, Mehefin 2023

 

Nodyn: Ymchwiliad Craffu Trefniadau Diogelu Mewn Ysgolion – angen diweddariad

 

12.

TREFNIADAU AR GYFER COMISIYNU GWASANAETHAU - CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 130 KB

I adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol, rheoli perfformiad a llywodraethu corfforaethol y Cyngor

 

I sicrhau bod trefniadau ar waith i fonitro a gwerthuso cynnydd yn erbyn unrhyw argymhellion a geir ynddynt. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn ymateb sefydliadol y Cyngor i’r argymhellion o fewn yr adroddiad

A1. Sefydlu trefniadau comisiynu cyson

A2. Ymgorffori trefniadau ar draws y Cyngor

 

13.

ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU - Llety dros dro, argyfwng hirdymor? pdf eicon PDF 98 KB

Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar adroddiad(au) sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar gan Archwilio Cymru

 

• Llety dros dro, argyfwng hirdymor? 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn Adroddiad Cenedlaethol Archwilio Cymru
  • Derbyn ymateb sefydliadol y Cyngor i’r argymhellion;

-        A1 Gwerth am arian

-        A2 Cynllunio ar gyfer Atal

-        A3 Gweithio mewn Partneriaeth

  • Croesawu'r gwaith da sydd yn cael ei wneud gan yr Uned Digartrefedd
  • Cais am adroddiad yn rhoi diweddariad ar y gwaith peilot sydd yn cael ei wneud gan y Cyngor i ryddhau tai gwag yn ôl i ddefnydd
  • Derbyn diweddariad ar gynnydd y cynllun ymateb sefydliadol

 

14.

BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 114 KB

I ystyried y flaen raglen

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn y rhaglen waith hyd Mawrth 2027