Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Eddie Dogan, Michael Sol Owen a Glyn Thomas ynghyd a Mr John Pollard. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Tynnodd aelod sylw at fater
a nododd yng nghyfarfod diwethaf y pwyllgor o ran sut y penodir ymgynghorwyr, eu perthynas â swyddogion a sicrhau bod y drefn benodi yn
cydymffurfio â safonau
OJEC. Nododd ei fod wedi derbyn
gwybodaeth bellach o ran un achos o ddefnyddio
ymgynghorydd yn yr Adran Addysg,
yng nghyswllt y posibilrwydd o ddwy ysgol uwchradd yn rhannu Pennaeth,
oedd yn peri
pryder iddo. Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd fod Archwilio
Mewnol eisoes yn edrych i
mewn i’r mater o gyflogi ymgynghorwyr a darperir ymateb erbyn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor. Tynnodd yr aelod sylw at fater arall
oedd yn peri
pryder iddo, sef prydlesu Canolfan
Awyr Agored Rhyd Ddu i
Antur Nantlle Cyf. Awgrymodd y Cadeirydd y gellir
gwahodd y swyddogion perthnasol o’r gwasanaethau Economi ac Eiddo i gyfarfod
nesaf y Gweithgor Gwella Rheolaethau i drafod y mater gyda’r aelod yn
bresennol. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2015, fel rhai cywir. |
|
DATGANIAD O GYFRIFON 2014/15 Cyflwyno, er gwybodaeth, y datganiadau ariannol statudol (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2014/15. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosodwyd cefndir a
chyd-destun i’r adroddiad gan y Pennaeth Cyllid. Tynnwyd sylw mai cyfrifon
drafft heb eu harchwilio a gyflwynir yma er gwybodaeth, gyda’r fersiwn terfynol
i’w gyflwyno er cymeradwyaeth y Pwyllgor yng nghyfarfod 24 Medi 2015. Tywysodd yr Uwch Reolwr
Cyllid yr aelodau drwy’r cyfrifon, gan nodi byddai’r
Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael ei gynnwys hefyd gyda’r cyfrifon i ffurfio un ddogfen gyfansawdd gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor. Adroddwyd bod cyfrifon
llynedd wedi derbyn oddeutu 800 o ymweliadau ar y wefan a bod hyn yn
galonogol. Llongyfarchwyd yr adrannau am eu gwaith rheoli
cyllidebau, gan fod tanwariant yn cynrychioli dim ond 0.18% (pwynt un wyth
o un y cant) o’r cyfanswm
gwariant. Tynnodd y Pennaeth Cyllid sylw at ffigwr yng nghyswllt ‘Ailfesuriad o’r ymrwymiadau/(asedau)
buddion diffiniedig net’ o
£70,697 miliwn ar dudalen 9 o’r cyfrifon.
Eglurodd nad
oedd y sefyllfa ymrwymiadau pensiwn wedi newid llawer,
ond defnyddir dull rhagdybiaeth actiwaraidd gyda phris heddiw
yn cael ei
roi ar rai ymrwymiadau pensiwn 60 mlynedd yn y dyfodol.
Nododd bod rheolau cyfrifo yn mynnu
defnydd o’r gyfradd dychweliadau ar bondiau fel
y gyfradd ddisgowntio, sy’n golygu bod symudiad mawr rhwng
blynyddoedd yng ngwerth tybiannol yr ymrwymiadau pensiwn, ond sydd
ddim yn newid
go iawn mewn termau arian
parod, a gallai rhoi camargraff o’r sefyllfa. Mewn ymateb i gwestiwn
parthed costau ymddeoliadau mewn adeg o doriadau, nododd y Pennaeth Cyllid bod y gost ychwanegol yn cael
ei adnabod pan wneir ceisiadau am ymddeoliad a gaiff ei gyllido gan
gyfraniad gan yr Adran a/neu’r
Gronfa Diswyddo Gorfforaethol. Atgoffwyd yr aelodau eu bod wedi ystyried
penderfyniad Cabinet y Cyngor
ar 23 Mehefin 2015 i drosglwyddo £2,986,685 i’r Gronfa Ddiswyddo
yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Nodwyd na
ellir rhagweld union gyfanswm y gost, ond bod darpariaeth yn y Gronfa Ddiswyddo
yn cael ei
adolygu yn gyson ar gyfer
cyfarch y costau. Mewn
ymateb i gwestiwn pellach, nodwyd bod yr actiwari
wedi cymryd i ystyriaeth y newid oed pensiwn
o 65 i 67 mlynedd. Cyfeiriodd
aelod at falansau ysgolion o dan ‘Nodyn 10 – Trosglwyddiad i/o Gronfeydd/Reserfau a glustnodwyd’ ar dudalen 26, nododd y dylid parhau i
annog ysgolion i ostwng eu
balansau. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid yr anogir ysgolion
i ddefnyddio balansau ar gyfer
addysg y disgyblion, a bod yr Adran Addysg
yn sicrhau eglurhad yn flynyddol
o ran bwriad yr ysgolion i ymdrin
â’r arian.
Yng
nghyswllt balansau ysgolion, awgrymodd aelod fod angen
ail-edrych ar y fformiwla cyllido ysgolion. Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd y Pennaeth Cyllid fod y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 9 Hydref 2014 wedi tanlinellu penderfyniad blaenorol i beidio buddsoddi arian y Cyngor ei hun yn Israel. O ran buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn, byddai wedi golygu proses hir a chostus o ail-gytundebu efo Rheolwyr Buddsoddi'r Gronfa i sicrhau na fuddsoddir yn Israel. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2014/15 Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad y Rheolwr Buddsoddi ar ganlyniadau gwir weithgarwch benthyg a buddsoddi’r Cyngor yn y flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2015. Cofnod: Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi ar wir ganlyniadau gweithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor yn ystod 2014/15, o’i gymharu yn
erbyn y strategaeth a sefydlwyd am y flwyddyn ariannol honno ym mis Chwefror
2014. Manylwyd ar y cefndir economaidd, y gofyn benthyca a rheoli dyledion, gweithgarwch buddsoddi a chydymffurfiaeth â’r dangosyddion darbodus. Cadarnhaodd y Rheolwr
Buddsoddi bu gweithgarwch benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd, a ni fu methiant i dalu
na diffyg hylifedd gan unrhyw
gwrthbartion roedd y Cyngor wedi defnyddio
yn ystod 2014/15. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2015. Cofnod: Gwaith Archwilio
Mewnol am y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2015 Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu
gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2015. Nodwyd bod 7 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol gyda’r categori barn berthnasol yn cael
ei ddangos wedi ei gwblhau
yn ystod y cyfnod. Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol. Nododd
aelod yng nghyswllt yr archwiliad
‘Taliadau Cymorth Cyntaf’, yr angen
i aelodau’r Cyngor dderbyn hyfforddiant cymorth cyntaf. PENDERFYNWYD: (a)
derbyn yr
adroddiadau ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin
2015 a chefnogi’r argymhellion
a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau
perthnasol er gweithrediad. (b)
bod yr aelodau
a benodwyd i wasanaethu ar y Gweithgor Gwella Rheolaethau yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 30 Mehefin yn
ystyried yr archwiliadau oedd wedi derbyn categori
barn ‘C’ yn y cyfnod yma yn ogystal. (c) mai cyfrifoldeb unrhyw aelod na allai fod yn bresennol yn y Gweithgor oedd trefnu eilydd. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2015/16 Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun Archwilio Mewnol 2015/16. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y
Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau
cynllun archwilio mewnol 2015/16. Adroddwyd bod yr Uned
Archwilio Mewnol wedi rhagori targed chwarter 1 gyda 7 adroddiad terfynol wedi
ei rhyddhau, sef 11.1% o archwiliadau’r cynllun o gymharu â’r
targed o 8%. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad fel
diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2015/16. |
|
ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol . Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio
Strategol a Pherfformiad. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi
diweddariad o ran yr adroddiadau archwilio allanol a dderbyniwyd gyda’r atodiad yn manylu ar
yr adroddiadau, y camau gweithredu a’r trefniadau craffu. Nododd
aelod yng nghyswllt asesu archwiliadau gofal, yr angen i
aelodau dderbyn hyfforddiant i’w harfogi i ddelio
efo materion gofal. Mewn ymateb, nododd
y Rheolwr Cynllunio Strategol a Pherfformiad y
byddai’n codi’r mater efo’r Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd. PENDERFYNWYD: (i) derbyn yr adroddiad gan nodi bod y Pwyllgor wedi ei
fodloni bod argymhellion archwilwyr allanol yn derbyn sylw
digonol. (ii)
bod y Rheolwr Cynllunio Strategol a Pherfformiad yn codi’r mater o ran hyfforddiant ar gyfer aelodau i’w
harfogi i ddelio efo materion
gofal gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd. |
|
YMATEB I BWYSAU ARIANNOL SYLWEDDOL Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adroddwyd y cyhoeddwyd
adroddiad cenedlaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn Ebrill 2015 yn
datgan fod “cynghorau yng Nghymru wedi ymateb
yn dda i
bwysau ariannol sylweddol, [ond fod] angen iddynt
wella eu prosesau rheoli a chynllunio ariannol er mwyn ateb
yr heriau ariannol cynyddol sydd i ddod”. Nodwyd bod rhai
Trysoryddion yng Nghymru yn ystyried bod yr adroddiad braidd yn arwynebol, gyda
thystiolaeth annigonol i gefnogi rhai
casgliadau, a diffyg cyfeiriad at arfer da yng Nghymru, oherwydd
methiant i ymgysylltu yn effeithiol
gydag adrannau cyllid mewn awdurdodau
lleol ar y gwaith. Tywysodd y Pennaeth Cyllid yr aelodau trwy’r
atodiad a oedd yn manylu
ar argymhellion SAC ac ymateb/gweithrediad y Cyngor. Gwnaed sylwadau gan aelodau
parthed Argymhelliad 6 o
ran cynhyrchu incwm, sef: ·
Bod angen bod yn ofalus na
sathrir ar draed y sector breifat; ·
Y dylid ystyried y sefyllfa o ran meysydd parcio staff y Cyngor; ·
Y dylid edrych ar godi
rhyw fath o dal ar feysydd carafanau
i gynhyrchu incwm. Nododd aelod bod angen i adroddiadau archwilio
allanol, o ystyried y sefyllfa argyfyngus ariannol presennol, roi cymorth i
Awdurdodau Lleol o ran cyfleoedd i
ostwng gwariant a chynhyrchu incwm. Mewn ymateb i sylw
gan aelod parthed Argymhelliad 9 o ran hyfforddiant i arfogi aelodau er mwyn gwneud
y gorau i drigolion Gwynedd, cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at y seminarau cyllidebol cynhaliwyd yn ystod
Chwefror 2015, cyn nodi os dymunai
aelodau hyfforddiant ar rywbeth arall
penodol gofynnir iddynt gysylltu â’r Adran Cyllid. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |