Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd am 2019/20. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Brynmor Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2019/20. |
|||||||||||||||||||||||
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2019/20. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Angela Russell yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 2019/20. |
|||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Aled Ll. Evans a Charles Wyn Jones. |
|||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys
ym marn y Cadeirydd. |
|||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14
Chwefror 2019, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019, fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||
CYNLLUN ARCHWILIO ALLANOL 2019 Cyflwyno adroddiadau yr archwiliwr allanol. |
|||||||||||||||||||||||
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd
Archwilio Perfformiad (Swyddfa Archwilio Cymru). Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad a oedd
yn manylu ar drefniadau archwilio Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a Deloitte ar
gyfer 2019. Nodwyd mai Deloitte fyddai’n cynnal yr archwiliad ariannol ar ran
Archwilydd Cyffredinol Cymru. Amlygwyd y prif risgiau archwilio ariannol, a
thynnwyd sylw at yr archwiliadau perfformiad y gwneir ar lefel cenedlaethol, ac
y rhai penodol i Wynedd. Nodwyd bod digwyddiadau Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa
Archwilio Cymru yn gyfle i rannu gwybodaeth a rhannu ymarfer da ar destun
penodol a bod croeso i aelodau a swyddogion y Cyngor fynychu. Nodwyd y byddai cyfrifydd dan hyfforddiant a
oedd yn gyflogedig gan Swyddfa Archwilio Cymru yn mynd ar secondiad i Gyngor
Gwynedd am y cyfnod rhwng mis Ionawr 2020 a mis Mai 2020, a fyddai’n rhoi
profiad gwerthfawr i’r swyddog o waith cyfrifo. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth
Cyllid ei fod yn gwerthfawrogi’r cydweithio a chynhelir trafodaethau o ran
cyfle i hyfforddai Cyllid o’r Cyngor dderbyn cyfle cyffelyb am secondiad am
gyfnod i Swyddfa Archwilio Cymru. Rhoddwyd cyfle
i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Ymatebwyd i’r cwestiynau a
sylwadau, fel a ganlyn:- ·
Bod
y ffi ar gyfer archwiliad o gyfrifon GwE am y gwaith yn ei gyfanrwydd. Cyngor
Gwynedd oedd yr awdurdod lletya, gyda threfn yn ei le i dderbyn cyfraniadau gan
y cynghorau am holl gostau’r Cyd-Bwyllgor. ·
Bod
amserlen prosiect archwilio perfformiad Gwasanaethau Hamdden, a oedd wedi ei
gynnwys yng nghynllun 2018, wedi llithro. Cynhelir cyfweliadau ac fe adroddir
ar y gwaith yn ogystal i gwmni Byw’n Iach, a oedd bellach yn gyfrifol am
ganolfannau hamdden y Cyngor. ·
Edrychir
ar eiriad paragraffau yng nghyswllt ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb
Ewropeaidd, ar dudalen 19 y cynllun. |
|||||||||||||||||||||||
CRONFA BENSIWN GWYNEDD PDF 555 KB Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd Archwilio Perfformiad (Swyddfa
Archwilio Cymru). Manylodd ar gynnwys yr adroddiad a oedd yn nodi cynllun
archwilio'r archwiliwr allanol o ran Cronfa Bensiwn Gwynedd, gan amlygu’r prif
risgiau archwilio ariannol. Nododd mai Deloitte fyddai’n cynnal yr archwiliad
ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cadarnhaodd yr edrychir ar eiriad
paragraffau yng nghyswllt ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd. Croesawodd y Pennaeth Cyllid y cynllun. Nodwyd diolch am yr adroddiadau. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau. |
|||||||||||||||||||||||
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 2/2/2019 - 31/3/2019 PDF 320 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn
amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 19 adroddiad am archwiliadau
o’r cynllun gweithredol wedi eu cwblhau. Tynnwyd sylw o ran archwiliadau
dilyniant, bod gweithrediad derbyniol ar 94.48% o’r camau cytunedig, sef 154 allan o 163. Amlygwyd ni
dderbyniwyd ymateb i geisiadau i dderbyn gwybodaeth a thystiolaeth gan yr
Unedau/Gwasanaethau perthnasol ar gynnydd gweithrediadau ar gyfer yr
archwiliadau canlynol: ·
Manddaliadau
(3 gweithrediad) ·
Trefniadau
ar gyfer Plant yn Gadael Gofal (1 gweithrediad) ·
Targedau
Ailgylchu (5 gweithrediad)
Nodwyd yn dilyn derbyn gwybodaeth, roedd
adroddiadau'r archwiliadau isod wedi eu rhyddhau yn derfynol: ·
Cynlluniau
Gofal a Chymorth (Plant) o dan Rhan 4 DGC (Cymru) 2014 (Plant a Theuluoedd) ·
Rheoli
Llifogydd (Ymgynghoriaeth Gwynedd) Cyfeiriodd aelod at y diffyg ymateb gan
Unedau/Gwasanaethau i geisiadau i dderbyn gwybodaeth a thystiolaeth. Nododd y
dylid un ai tynnu sylw’r Aelodau Cabinet perthnasol
neu fod y swyddogion perthnasol yn ymddangos gerbron y Pwyllgor. Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Archwilio pe byddai’r Pwyllgor yn dymuno gellid galw’r
swyddogion perthnasol gerbron y Gweithgor Gwella Rheolaethau. Cynigwyd i alw’r
swyddogion perthnasol i’r archwiliadau gerbron y Gweithgor Gwella Rheolaethau.
Nododd aelod y dylid galw’r Aelodau Cabinet perthnasol gerbron y Gweithgor yn
ogystal. Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio bod dyddiad wedi ei bennu ar gyfer
cyfarfod o’r Gweithgor Gwella Rheolaethau lle trafodir archwiliadau a
gyfeiriwyd at y Gweithgor yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Eiliwyd y cynnig,
pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe gariodd. Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol
ac yn ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y prif faterion canlynol – Polisi Chwythu’r
Chwiban – Ysgolion Gwynedd Nododd nifer o aelodau eu siom bod 34% o’r
ysgolion heb ymateb i gadarnhau bod gan yr ysgolion bolisi cyfredol mewn lle
a’i fod wedi ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Corff Llywodraethu, a bod gan bob
aelod o staff fynediad rhwydd at y polisi o ystyried pwysigrwydd y polisi. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio bod
canran yr ysgolion a oedd wedi ymateb yn eithaf da.
Nododd nid oedd y ffaith bod rhai ysgolion heb ymateb yn golygu nad oedd y polisi wedi ei fabwysiadu. Eglurodd bod yr Adran
Addysg wedi ymrwymo i ail anfon templed Polisi Chwythu’r Chwiban i’r ysgolion a oedd ddim yn defnyddio’r fersiwn gyfredol ac i’r rhai
wnaeth ddim ymateb. Nododd ers cwblhau’r archwiliad y derbyniwyd cadarnhad gan
ychwaneg o ysgolion bod y Corff Llywodraethu wedi mabwysiadu’r polisi. Nododd aelod bod y polisi yn hynod bwysig yng
nghyd-destun ysgolion ac er bod ysgolion wedi mabwysiadu’r polisi bod
dealltwriaeth staff o’r polisi yn fater pellach. Mewn ymateb, eglurodd y
Rheolwr Archwilio mai pwrpas yr archwiliad oedd sicrhau bod polisi cyfredol
wedi ei fabwysiadu gan Gyrff Llywodraethu ysgolion, nid oedd ymwybyddiaeth
staff o’r polisi o fewn cwmpas yr archwiliad ond ei fod yn fater i’w ystyried
yng nghyd-destun risg. Pwysleisiodd aelod ei fod yn bwysig derbyn
cadarnhad gan yr holl ysgolion y mabwysiadwyd y polisi cyfredol pan gwblheir
gwaith dilyniant gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol. Statws Cyflogaeth –
GwE Tynnodd aelod sylw bod GwE yn dilyn yr archwiliad wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL 2018/19 PDF 131 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Archwilio. Ar sail gwaith Archwilio
Mewnol a gwblhawyd yn ystod 2018/19, roedd y swyddog yn fodlon bod gan
Gyngor Gwynedd fframwaith
gadarn o reolaeth fewnol. Adroddwyd
bod 60 darn o waith wedi eu cynnwys yng
nghynllun archwilio addasedig terfynol 2018/19. Nodwyd bod 58 o’r aseiniadau wedi eu cwblhau erbyn
31 Mawrth 2019, a oedd yn cynrychioli
96.67% o’r cynllun. Nodwyd
bod cynnydd yn nifer y dyddiau cynhyrchiol oedd ar gael ar
gyfer archwiliadau Cyngor
Gwynedd o 707 diwrnod rhwng
1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth
2018 i 913 diwrnod am yr un cyfnod yn
2018/19, cynnydd o 206 diwrnod.
Ymhelaethwyd bod hyn o ganlyniad i benodi
Arweinydd Archwilio a phenodi Archwilwyr dros dro. Tynnwyd
sylw at fesur perfformiad newydd ar gyfer 2018/19, sef ‘Cyfran o’r
archwiliadau mewnol yn derbyn lefel
sicrwydd “Digonol” neu well (mesur corfforaethol)’. Nodwyd bod y perfformiad ar gyfer 2018/19 yn 88.46%. Cyfeiriwyd
at fesur newydd ar gyfer 2019/20, sef ‘Cyfran o’r
gweithrediadau cytunedig lefel risg uchel
neu uchel iawn sydd wedi
eu gweithredu yn unol â’r
amserlen (mesur corfforaethol)’. Nodwyd bod yr uchelgais perfformiad
yn 100%, a pe byddai diffyg ymateb
amserol gan Unedau/Gwasanaethau i gais am wybodaeth
neu dystiolaeth byddai’r mater yn dod gerbron
y Pwyllgor. Cyfeiriodd
aelod at fesur perfformiad ‘Cyfran o’r archwiliadau mewnol yn derbyn
lefel sicrwydd “Digonol” neu well’, holodd os oedd
yr uchelgais perfformiad o 65% ar gyfer 2019/20 yn ddigonol o ystyried perfformiad o 88.46% yn 2018/19. Ychwanegodd bod y perfformiad yn ddibynnol ar
Adrannau’r Cyngor ac nid oedd yn mesur
perfformiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol. Mewn ymateb, nododd
y Rheolwr Archwilio bod y mesur yn fesur
corfforaethol a bod perfformiad
yn gallu amrywio o flwyddyn i flwyddyn felly nid oedd rheswm
i gynyddu’r uchelgais perfformiad o ystyried bod lefel sicrwydd archwiliadau ar y cyfan yn
uchel. Ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn
fesur cyrhaeddiad ar gyfer y Cyngor, gellir edrych ar
eiriad y mesurydd ond roedd y mesurydd
yn dangos ardrawiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar y Cyngor. Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod
parthed gwaith archwilio cyfrifon Cynghorau Cymuned a Thref, nododd y Rheolwr Archwilio bod y Gwasanaeth wedi cwblhau gwaith archwilio ar gyfer
oddeutu 75 Cyngor Cymuned a
Thref yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Ymhelaethodd
nad oedd
elw sylweddol yn deillio o’r
gwaith a bod gwersi wedi eu dysgu
wrth sefydlu trefniadau yn 2018/19 a fyddai’n galluogi cwblhau’r gwaith yn gynt yn
2019/20. Nodwyd
gwerthfawrogiad o waith y Rheolwr Archwilio. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad fel adroddiad blynyddol ffurfiol y Pennaeth Archwilio Mewnol yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol 2018/19. |
|||||||||||||||||||||||
SIARTER ARCHWILIO MEWNOL PDF 235 KB Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Archwilio. Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr
Archwilio y Siarter Archwilio Mewnol i’r Pwyllgor gan nodi bod ychydig o newidiadau i gynnwys
y Siarter i gyd-fynd â gofynion Nodyn Gweithredu Llywodraeth Leol (2019) a gyhoeddwyd gan CIPFA. Tywysodd yr
aelodau trwy’r Siarter gan dynnu
sylw bod newidiadau i deitlau swyddi
a bod y Siarter yn adlewyrchu modd gweithredu'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ddarparu lefel sicrwydd ar archwiliadau. Holodd aelod
a fyddai’n syniad i egluro rôl
y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran cwblhau gwaith archwilio pan fo’r Cyngor yn awdurdod lletya i Gyd-Bwyllgor mewn gwaith partneriaeth.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid nid oedd
o’r farn bod angen cynnwys cyfeiriad
at rôl y Gwasanaeth, oherwydd nid oedd
y rôl yn wahanol yn y cyd-destun
yma. Ymhelaethodd bod rôl y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn wahanol yng
nghyd-destun gwaith archwilio Cynghorau Cymuned a Thref. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol. |
|||||||||||||||||||||||
CYFRIFON TERFYNOL 2018/19 - ALLDRO REFENIW PDF 51 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Nododd yr Aelod
Cabinet Cyllid y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet ar 21 Mai 2019. Diolchodd
i’r Cynghorydd Peredur Jenkins, y cyn Aelod Cabinet Cyllid, am ei waith a’i
ymrwymiad i sicrhau sefyllfa ariannol y Cyngor mewn adeg anodd. Pwysleisiodd
bod yr Aelodau Cabinet yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i gadw at y gyllideb.
Nododd nad ellid parhau i orwario ar Wasanaethau Plant ac yn y maes cludiant
ysgolion. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar
gynnwys yr adroddiad. Nododd yn gyffredinol, bu rheolaeth ariannol effeithiol,
yn wyneb y gofynion i gyflawni arbedion. Tynnodd sylw
at benderfyniad y Cabinet: 1.1
Nodi
sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2018/19. 1.2
Cymeradwyo’r symiau i’w cario
ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1) sef
–
1.3
Cymeradwyo’r
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn
Atodiad 2) – ·
Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn
cymorth ariannol un-tro o £1,544k i gyfyngu
lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her
2019/20. ·
Yr Adran Addysg i dderbyn cymorth
ariannol rhannol un-tro o £16k gan gyfyngu
lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k. ·
Digolledu'r Adran Economi a Chymuned £157k, sef swm y gorwariant o ganlyniad i lithriad yn yr amserlen sefydlu cwmni
Byw'n Iach i redeg y cyfleusterau hamdden, sydd felly yn cyfyngu lefel y
gorwariant i'w gario ymlaen gan yr Adran i £28k. ·
Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £518k i
gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w
cynorthwyo i wynebu her 2019/20. ·
Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, cadw
at y drefn arferol i ganiatáu i'r
Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£392k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i
gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario
yn 2018/19. ·
Ar gyllidebau Corfforaethol, trosglwyddo: - (£19k) cysylltiedig â'r premiwm Treth y Cyngor i gronfa benodol
i'w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai. - (£551k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa ariannu'r
rhaglen gyfalaf. - (£738k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw. ·
Defnyddio (£1,843k) o'r
tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol i
gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn
2018/19. ·
Bydd gweddill tanwariant Corfforaethol
(£173k) yn mynd i falansau cyffredinol y
Cyngor. 1.4 Cymeradwyo’r
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd a darpariaethau penodol fel yr amlinellir
yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, sef: ·
Cynaeafu (£3.931m) o gronfeydd a (£69k) o
ddarpariaethau. ·
Trosglwyddo £3m i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer Cynllun
y Cyngor. ·
Trosglwyddo £1m i Falansau
Cyffredinol y Cyngor. ·
Neilltuo £262k am gyfnod o flwyddyn o’r gronfa
Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i bontio’r
ffynhonnell ariannu ymrwymiadau perthnasol i’r Gronfa Bensiwn.” Nododd bod yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|||||||||||||||||||||||
RHAGLEN GYFALAF 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (31 MAWRTH 2019) PDF 45 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac
ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 21 Mai 2019 a
oedd yn rhoddi manylion ar adolygiad diwedd y flwyddyn
o’r rhaglen gyfalaf. Nodwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i wario
dros £22.8 miliwn ar gynlluniau cyfalaf yn 2018/19, gyda £12.5 miliwn ohono,
sef 55%, wedi’i ariannu trwy ddenu grantiau penodol. Cadarnhawyd y byddai
cyfanswm o £12.7 miliwn yn llithro o 2018/19, o’i gymharu â llithriad o £15.6
miliwn ar ddiwedd 2017/18. Ni achoswyd unrhyw golled ariannu grant i’r Cyngor
ble gwelwyd cynlluniau yn llithro. Tynnwyd sylw at daflen benderfyniad y
Cabinet. Nododd yr Aelod
Cabinet Cyllid bod denu grantiau yn elfen bwysig o ariannu a’i bryder bod
Adrannau yn colli capasiti o ran cwblhau ceisiadau
grant mewn ffenestr fechan o amser gan ystyried mai grantiau ariannodd 55% o’r
rhaglen gyfalaf ar gyfer 2018/19. Nododd aelod bod
sgil i baratoi cais am grant a’i fod yn bwysig bod adnoddau staffio yn ei le ar
gyfer paratoi a chyflwyno ceisiadau grant. Ategodd aelod y sylw gan nodi bod y
Cyngor dan risg o beidio denu cymaint o grantiau. Mewn ymateb i’r sylwadau,
nododd y Pennaeth Cyllid bod cydweithio ar draws adrannau i ddenu grantiau ac
er bod lleihau adnoddau staffio yn ei wneud yn anoddach, nid oedd y Cyngor wedi
cyrraedd y pwynt lle collir allan ar ddenu grantiau. Amlygodd aelod
bod y Cyngor yn llwyddiannus o ran denu grantiau. Ychwanegodd bod Llywodraeth
Cymru yn cynnig grantiau i benawdau penodol ond nid oedd yn ffordd dderbyniol o
ariannu ac fe ddylid edrych ar y ffordd yr ariennir Llywodraeth Leol. Ategodd
aelod y sylw gan longyfarch y swyddogion a oedd wedi cyflwyno ceisiadau
llwyddiannus. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 45 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar
gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 21 Mai 2019 a oedd yn adrodd ar sefyllfa ddiweddaraf gwireddu cynlluniau arbedion. Nododd bod dros 96% o arbedion 2015/16 – 2017/18 wedi’u gwireddu erbyn
Mawrth 2019. Tynnodd sylw bod
cynlluniau arbedion gwerth £2.5 miliwn wedi ei gynllunio yn Strategaeth
Ariannol 2018/19. Amlygodd bod 73% o’r 30 cynllun wedi’u gwireddu yn amserol,
ond bu llithriad mewn gwireddu 7 cynllun. Nododd yn gyffredinol, bod y cynnydd
a wnaed i wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 yn dderbyniol, ond bod arwyddion
fod rhai trafferthion cyflawni yn cael eu hamlygu. Nododd bod
cynlluniau arbedion gwerth £6.4 miliwn ar gyfer 2019/20 ymlaen. Ymhelaethodd y
byddai’r cynlluniau unigol yn cael eu monitro yn ystod y flwyddyn, ond ei fod
yn gynamserol i adrodd. Tynnodd sylw at daflen benderfyniad y Cabinet a oedd yn
nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion yn ystod y
flwyddyn. Nododd yr Aelod
Cabinet Cyllid bod cynnydd derbyniol i wireddu’r cynlluniau arbedion gan nodi
ei bryder pe na fyddai’r holl gynlluniau arbedion yn cael eu gwireddu y byddai
rhaid gwneud toriadau. Cyfeiriodd aelod
at ddiffyg trosolwg anghenion ar draws gwasanaethau cyhoeddus gyda chyrff yn
gweithredu mewn seilos. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y
trosolwg arbedion. |
|||||||||||||||||||||||
CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD 2018/19 PDF 61 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr
Uwch Reolwr Cyllid adroddiad yng nghyswllt cyfrifon terfynol Harbyrau Gwynedd am y flwyddyn 2018/19 yn unol â’r gofynion
statudol o dan Ddeddf Harbyrau 1964. Nodwyd bod y
cyfrifon yn cynnwys harbyrau Aberdyfi, Abermaw,
Porthmadog a Pwllheli. Nodwyd yr ystyrir
Harbyrau Gwynedd, oherwydd trosiant is na £2.5m, i
fod yn gorff llywodraeth leol lai o faint. Eglurwyd bod cwblhau ffurflen
datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cwrdd â’r
gofynion statudol. Tynnwyd sylw bod
£2,875 o danwariant ar ddiwedd y flwyddyn, roedd y pennawd
incwm £38k yn fyr, ond roedd swyddi wedi eu cadw’n wag i geisio gau y bwlch yn
yr incwm. Ymhelaethwyd bod gwariant sylweddol wedi bod ar ‘Arwyddion a
Rhybuddion’ yn dilyn digwyddiad angheuol ar draeth Abermaw. Adroddwyd bod y
cyfrifon yn destun archwiliad allanol gan Deloitte, a
pe byddai newidiadau yn dilyn archwiliad, cyflwynir fersiwn diwygiedig i
gyfarfod y Pwyllgor ar 29 Gorffennaf 2019. Mewn ymateb i
sylw gan aelod, nododd yr Uwch Reolwr Cyllid bod y gorwariant o dan y pennawd
‘Offer Diogelwch’ yn deillio o wariant angenrheidiol yn dilyn y digwyddiad ar
draeth Abermaw. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid bod y datganiadau cyfrifon wedi
eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor yn ei rôl llywodraethu ar gyfer eu cymeradwyo. PENDERFYNWYD: (i)
derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth yn yr atodiadau, sef - ·
Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2018/19 – Atodiad A; a ·
Ffurflen datganiadau cyfrifon 2018/19, ar gyfer archwiliad – Atodiad B. (ii)
awdurdodi’r Cadeirydd i arwyddo’r ffurflen datganiadau cyfrifon 2018/19. |
|||||||||||||||||||||||
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2018/19 PDF 92 KB Cyflwyno adroddiad Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosodwyd cefndir
a chyd-destun i’r adroddiad gan y Pennaeth Cynorthwyol – Refeniw a Risg. Nodwyd bod y
Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu wedi ystyried yr Egwyddorion Craidd a’r
Is-egwyddorion yn Fframwaith CIPFA / SOLACE Delivering Good Governance in Local Government
2016, ac wedi llunio Cofrestr Risg Llywodraethu. Tynnwyd sylw bod y
Gofrestr Risg Llywodraethu yn adnabod risgiau mewn 22 o feysydd llywodraethu
gwahanol, gan nodi’r rheolaethau a oedd yn eu lle er mwyn lliniaru’r risgiau
hyn. Tynnwyd sylw bod
un maes llywodraethu a oedd wedi ei ddynodi yn risg uchel, sef Diwylliant. Ymhelaethwyd bod gwelliant
wedi bod yn y maes hwn, ond bod gwaith pellach i’w wneud. Amlygwyd bod sgôr
pedwar o’r risgiau wedi newid yn ystod blwyddyn 2018/19, gyda’r sgoriau risg
wedi lleihau ym mhob achos. Cyfeiriodd aelod
at faes llywodraethu Arweinyddiaeth,
gan holi os oedd yn gynamserol i leihau’r sgôr risg o ystyried bod yr adolygiad
rheolaethol wedi ei gymeradwyo yn ddiweddar a bod angen amser i weld effaith
swydd ddisgrifiadau newydd ar gyfer rheolwyr a phenaethiaid. Mewn ymateb,
nododd y Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg bod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r
Cabinet ar 7 Mai 2019 o ran yr adolygiad rheolaethol yn benllanw llawer o
waith; er enghraifft, roeddswydd-ddisgrifiadau newydd
yn rhoi eglurder o ran rôl i reolwyr a phenaethiaid. Ymhelaethodd bod hyn hefyd
yn gysylltiedig â’r gwaith o newid diwylliant yn unol â Ffordd Gwynedd i fod yn
un “arwain” (yn hytrach na “rheoli”), a sicrhau bod aelodau a swyddogion yn
deall eu rôl. Mewn ymateb i
ymholiad gan yr Aelod Lleyg, nododd y Pennaeth Cynorthwyol – Refeniw a Risg y
byddai’n anfon deunyddiau hyfforddiant Ffordd Gwynedd at yr aelod. PENDERFYNWYD: (i)
cymeradwyo’r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2018/19; (ii)
argymell bod Arweinydd y
Cyngor a’r Prif Weithredwr yn arwyddo’r datganiad. |
|||||||||||||||||||||||
MONITRO PERFFORMIAD I enwebu aelod i
fynychu Cyfarfodydd Herio Perfformiad Adran Cefnogaeth Gorfforaethol. Cofnod: Gwahoddwyd
Aelodau i fynegi diddordeb ar gyfer mynychu cyfarfodydd monitro perfformiad yr
Adran Cefnogaeth Gorfforaethol. PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd Dewi Wyn Roberts i
fynychu cyfarfodydd monitro perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol. |
|||||||||||||||||||||||
BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU 2019-2020 PDF 33 KB Cyflwyno adroddiad Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
y Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg oedd yn amlinellu
rhaglen waith y Pwyllgor am
y cyfnod hyd at Fehefin 2020. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth. |