Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Medwyn Hughes, Huw
Rowlands a Meryl Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
COFNODION: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 8fed Medi 2022 fel rhai
cywir. Mewn ymateb i sylw a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf ynglŷn â
chynnwys eitem sefydlog ar raglen pob cyfarfod o’r pwyllgor yn rhoi diweddariad
ar faterion a godwyd i’r Aelodau ynghyd a gweithredu penderfyniad, nododd y
Swyddog Monitro nad oedd dim gofyn cyfreithiol ar gael materion yn codi fel
eitem statudol ar y rhaglen. Ategodd y byddai yn trafod gyda’r Pennaeth Cyllid
sut i gyfarch dymuniad y pwyllgor o dderbyn diweddariadau i benderfyniadau ac
awgrymodd, mai adroddiad byr fyddai’n dderbyniol yn hytrach na chael eitem
agored. |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU ( CYMRU) 2021 PDF 232 KB I dderbyn yr adroddiad a’r cynnydd a gofyn am adroddiad
pellach i Bwyllgor Chwefror Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
COFNODION: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol (Swyddog Monitro) yn nodi, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol, bod
darpariaethau’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiad (Cymru) 2021 bellach wedi
dod i rym ac er bod rhai elfennau o’r Arweiniad Statudol i’w cyhoeddi ni fydd
disgwyl i rain wyro yn arwyddocaol o’r drafftiau a ymgynghorwyd â hwy. Mewn
ymateb i ofynion y Ddeddf, cyfeiriwyd at y rhaglen waith sydd eisoes wedi ei
gosod o fewn Cofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor gyda’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio yn cadw trosolwg a sicrwydd ar y gweithredu sydd ei angen i weithredu’r
darpariaethau. Cyfeiriwyd at dri
maes gwaith, Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, Cynllun Deisebau a Chanllawiau
Cyfansoddiad, sydd angen eu symud ymlaen drwy gynnal proses ymgynghori. Diolchwyd am yr adroddiad b)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hawl gan y
Cyngor i ddewis trefn Pleidleisio Fwyafrifol neu Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy
(STV) ac o ystyried bod gan Wynedd, yn etholiad 2022 y nifer uchaf o Gynghorwyr
wedi eu hethol heb unrhyw wrthwynebiad, nododd y Swyddog Monitro mai cyfle oedd yma i Wynedd benderfynu ar sut
i ymateb i’r dewis. Ategodd y byddai addasu’r broses gyfredol yn cynnwys
adolygiad manwl o’r sefyllfa fyddai’n debygol o gynnwys adolygiad ffiniau,
addasu cyfundrefn sylweddol ac
ymgynghori fel elfennau statudol. Y dewis sydd gerbron yw ystyried
cychwyn y broses neu beidio - bydd rhaid dod i farn ar sut i ymdrin ar opsiwn. Mewn ymateb i
gwestiwn ategol, o ymateb Awdurdodau eraill i’r mater, mynegodd bod Awdurdodau
eraill mewn sefyllfa debyg o ystyried agor trafodaethau. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â phenodi Aelodau Lleyg, mynegwyd bod y broses bellach yn
un barhaus. Derbyniwyd y farn bod dwy sedd wag ar y Pwyllgor ac mewn ymateb,
nodwyd er yr ail-hysbysebu, na fu diddordeb. Ategwyd y bydd y swyddi yn parhau
yn agored a’r dyddiad cau yn cael ei ymestyn ac annogwyd
yr Aelodau, os yn adnabod rhywun sydd â diddordeb, i gyfeirio enw i’r Pennaeth
Cyllid. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â nodweddion y Strategaeth Gyfranogi, nodwyd bod
dyletswydd statudol bellach i annog cyfranogiad at benderfyniadau sydd wedi eu
gwneud a bod hyn yn cael ei weithredu drwy rannu gwybodaeth ar y wefan, megis
hysbysiadau penderfyniad a blaen raglenni. Y bwriad yw creu trefn sydd yn
cyfarch y dyletswydd heb fod yn gyfundrefn drwm. Mewn ymateb i sylw am
y drefn ymgynghori, a bod hyn i’w groesawu, amlygodd Aelod bod rhaid ceisio
osgoi tanseilio trefn ddemocrataidd. Nododd bod Aelodau wedi eu hethol i
gynrychioli’r boblogaeth a mynegodd bryder y gall trefniadau oddiweddu’r drefn democratiaeth. Mewn ymateb i’r sylw, nododd y Swyddog
Monitro y dylai’r drefn ymgynghori gefnogi’r drefn Democratiaeth - rôl Aelodau
yw cymryd cyfrifoldeb am swyddogaethau ac felly dylai’r rôl ymgynghorol fod yn
gefnogol i’r ystyriaethau hyn. c)
Cynigwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad PENDERFYNWYD:
1. Derbyn yr adroddiad 2. Derbyn cynnydd ar y rhaglen waith 3. Cais am ddiweddariad pellach i Bwyllgor
mis Chwefror 2023 |
|
RHAGLEN GYFALAF 2022/23 – ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2022 PDF 182 KB I dderbyn y wybodaeth, ystyried y risgiau ynglŷn â’r Rhaglen Gyfalaf, a chraffu penderfyniadau i’r Cabinet Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor COFNODION: a)
Cyflwynwyd adroddiad ar gais yr Aelod Cabinet
Cyllid y Cynghorydd Ioan Thomas. Prif ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno’r
rhaglen gyfalaf (sefyllfa diwedd Awst 2022) ynghyd a chymeradwyo’r ffynonellau
ariannu perthnasol. Yn wahanol i’r drefn arferol, gofynnwyd i’r Pwyllgor graffu’r wybodaeth cyn cyflwyno am
gymeradwyaeth y Cabinet 25 Hydref 2022. Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £136.3
miliwn am y 3 blynedd 2022/23 - 2024/25 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i
ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £10.1 miliwn ers y gyllideb wreiddiol. Ategodd yr Uwch Reolwr Cyllid, ·
bod y Cyngor gyda chynlluniau pendant mewn lle i
fuddsoddi tua £79.8 miliwn eleni, gyda £21.1 miliwn (sef 27%) ohono wedi’i
ariannu trwy grantiau penodol. ·
bod effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y
rhaglen gyfalaf ac mai 11% o’r gyllideb
yn unig sydd wedi ei wario hyd at ddiwedd Awst 2022 o gymharu gyda 16% dros yr un cyfnod yn 2021 a 13% yn 2020. ·
bod £12.1m o wariant arfaethedig wedi’i
ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24 a 2024/25, gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys, £5.1 miliwn
Cynlluniau Ysgolion - Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill, £3.0 miliwn
Cynlluniau Atal Llifogydd a £1.6 miliwn Hwb Iechyd a Gofal Penygroes. Tynnwyd sylw at restr grantiau ychwanegol mae’r Cyngor wedi llwyddo eu
denu ers yr diwethaf a oedd yn cynnwys
Grant Cyfalaf Prydau Ysgol am Ddim, Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Defnydd
Cymunedol Ysgolion, Grant Cyfalaf Diogelwch y Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru a
Grant Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) tuag at gynlluniau gwledig. Diolchwyd am yr adroddiad oedd yn gryno a
chlir b)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd mewn
benthyciadau, nodwyd mai dyma’r adolygiad cyntaf ers diwedd Mawrth 2022 a bod
cynnydd yn bodoli o ganlyniad i lithriadau gyda disgwyl am benderfyniad o
ailbroffilio. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r effaith niweidiol ar oedi’r
Cynlluniau Atal Llifogydd, nodwyd bod nifer o drafodaethau yn cael eu cynnal
rhwng Ymgynghoriaeth Gwynedd a Llywodraeth Cymru ar y
mater yma gan fod nifer o gynlluniau mewn lle ac mai ffigwr i warchod y gwaith
oedd yma. c) Cynigwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng
nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor |
|
CYLLIDEB REFENIW 2022/23 – ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2022 PDF 181 KB I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau sy’n
deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu’r
penderfyniadau i’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i
adrannau Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
·
Balansau Ysgolion i
gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion ·
£4.5 miliwn o'r gronfa
trefniadau adfer yn sgil Covid sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig
sy'n wynebu'r Cyngor ·
Bod y gweddill i'w gyllido
o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.
COFNODION: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid y Cynghorydd
Ioan Thomas yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng
nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, a chyflwyno sylwadau i’r Cabinet ar
gyfer cymeradwyaeth 25ain Hydref, 2022. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy
nodi:- ·
Bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gorwario sydd yn
gyfuniad o ffactorau gan gynnwys methiant i wireddu arbedion. ·
Bod yr Adran Economi a Chymuned yn gweld effaith mewn cynnydd
costau ynni ·
Bod Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol yn amlygu diffyg gwireddu arbedion ym maes gwastraff ·
Bod Adran Tai Ac Eiddo yn gweld
effaith ym maes digartrefedd yn sgil addasiad i drefniadau deddfwriaethol
covid-19 ·
Bod bwriad edrych i falansau
ysgolion i gyllido y gorwariant a ragwelir ar gostau trydan eleni gan fod yr
Ysgolion wedi arbed ynni dros y cyfnod covid
Cyfeiriodd
yr Uwch Reolwr Cyllid at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gan
amlygu’r meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. Tynnwyd sylw ar effaith y
cynnydd mewn chwyddiant, yn arbennig felly costau trydan sydd uwchlaw’r
gyllideb ac i’w weld amlycaf yn yr Adrannau Addysg, Priffyrdd a Bwrdeistrefol
ac Economi a Chymuned – sef ar ganolfannau hamdden Cwmni Byw’n Iach. ·
Yng nghyd-destun covid, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn
2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol, mae costau ychwanegol,
colledion incwm a llithriad ar gynlluniau arbedion yn sgil Covid yn parhau mewn
rhai meysydd. ·
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant – rhagweld gorwariant o
dros £1.9 miliwn eleni, a hynny yn gyfuniad o nifer o ffactorau gan gynnwys
methiant i wireddu gwerth £930k o arbedion. Yn amlwg iawn eleni gwelwyd pwysau
ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol ynghyd a chostau staff a
diffyg incwm yn y maes Gofal Cymunedol. ·
Adran Addysg - rhagweld gorwariant o £1.3m o ganlyniad i
effaith prisiau trydan uwch am gyfnod o chwe mis o Hydref 2022 ymlaen yn yr
ysgolion. O ystyried fod yr ysgolion eisoes wedi elwa o bron i filiwn o
arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig, ystyriwyd yn
briodol felly i ddefnyddio balansau
ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol eleni. ·
Byw’n Iach - o ganlyniad i sgil effaith Covid, bu i’r
cwmni dderbyn cymorth ariannol o gronfa
caledi Llywodraeth Cymru (gwerth £1.4 miliwn yn 2021/22 a £2.7 miliwn yn
2020/21). Nid yw cymorth o'r fath ar gael gan y Llywodraeth eleni ond sgil
effaith covid yn parhau yn 2022/23 ac yn amharu ar y gallu i gynhyrchu incwm. O
ganlyniad, bu i'r Cyngor gadarnhau cefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal
gwasanaethau Byw'n Iach drwy ymestyn y cyfnod o sicrwydd a roddwyd i'r Cwmni
hyd at ddiwedd 2022/23, sydd yn £842k eleni. ·
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol - tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes
bwrdeistrefol yn parhau, gyda’r problemau amlycaf yn y maes casglu gwastraff ac
ailgylchu. Yr adran hefyd yn cael
trafferthion gwireddu arbedion gwerth £533k. · Tai ac Eiddo – goblygiadau newid i ddeddfwriaeth yn ymwneud â Digartrefedd yn golygu pwysau ariannol sylweddol. Er bod dyraniad o £1.5m o gronfa trefniadau yn ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 179 KB I dderbyn y wybodaeth ac ystyried y risgiau cyffredinol sy’n deillio o lithriadau yn yr arbedion Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion 2. Argymell i’r Cabinet bod
angen herio manwl ar gynlluniau sydd ddim yn cael eu gwireddu - angen sicrhau
adolygiad rheolaidd o’r cynlluniau hynny sydd yn llithro a chyfeirio’r
cynlluniau at raglen waith y Pwyllgorau
Craffu perthnasol COFNODION: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid
oedd yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor.
Gofynnodd i’r pwyllgor nodi’r
sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion gan gynnig
sylwadau ar y sefyllfa i’r Cabinet eu hystyried wrth iddynt gymeradwyo’r
adroddiad 25 Hydref, 2022. Eglurodd hefyd mai’r adrannau oedd wedi cyflwyno’r
cynlluniau arbedion ac mai adrodd yn unig ar y sefyllfa oedd y swyddogion
cyllid. Ategodd yr Uwch Reolwr Cyllid: ·
Ers 2015/16, fel rhan o
strategaeth ariannol y Cyngor, bod gwerth £35.4m o arbedion wedi eu cymeradwyo
i’w gwireddu ar gyfer y cyfnod 2015/16 - 2022/23. Nodwyd bod cyfanswm o £33.4
miliwn o’r arbedion wedi eu gwireddu, sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod. ·
Bod effaith Covid i weld wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen
arbedion mewn rhai meysydd. ·
Y prif gynlluniau sydd
eto i’w cyflawni yw cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. ·
Bod angen, wrth baratoi
cyllideb 2022/23 gydnabod fod y sefyllfa wedi newid cymaint fel nad oedd modd
cyflawni’r cynlluniau arbedion oedd wedi eu cynllunio yn wreiddiol, ac felly dileuwyd bron i £500 mil o gynlluniau o’r gyllideb a
symudwyd y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau gwerth £1.3 miliwn i 2023/24 a
blynyddoedd dilynol ·
Bod hi’n anorfod bod
gwireddu gwerth £33.4m o arbedion (allan o gyfanswm o £35.4 miliwn) ers Ebrill
2015 wedi bod yn heriol. Gydag oediad a
risgiau i gyflawni rhai o’r cynlluniau sydd yn weddill rhaid adolygu’r
cynlluniau cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd bod rhaid
llongyfarch yr elfennau positif oedd yn yr adroddiad - b)
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod 94% o’r cynlluniau wedi eu cwblhau – hyn yn
galonogol ·
Mai’r adrannau eu hunain
sydd wedi cynnig yr arbedion ac nid yw yn rhywbeth sydd wedi ei roi arnynt ·
Bod rhai o’r cynlluniau
yn hanesyddol ·
Bod angen rhoi pwysau ar yr adrannau hynny sydd yn
methu cyflawni arbedion i ail ystyried cynlluniau neu ail gynllunio ·
Bod angen annog gwybodaeth fwy manwl - os nad oes
symud ar gynlluniau angen cynlluniau gwell ·
Wrth gynllunio arbedion o’r newydd, rhaid ystyried
elfennau sydd tu hwnt i reolaeth - yr effaith o dorri rŵan yn arwain at
fwy o wariant i’r dyfodol e.e., cynnal a chadw ffyrdd ·
Awgrym i amlygu yn glir
mai arbedion sydd yn llithro sydd yn atodiad 4 ·
Bod angen herio mwy manwl
ar gynlluniau arbedion i’r dyfodol ·
Awyddus i gynlluniau sydd yn llithro dderbyn sylw a
cael eu craffu c)
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn a bwriad gosod targedau mwy uchelgeisiol i’r adrannau gyfrannu at y
cynllun arbedion, nodwyd bydd hyn yn anorfod ac fod gwaith ar gychwyn i
ddatblygu trefn briodol. Ategwyd bod gwahanol brosesau wedi cael eu dilyn i gyfarch
yr arbedion hyd yma ac y bydd penderfyniadau anodd i’w gwneud i’r dyfodol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â llithriad o £25,000 (Adran Cyllid - oediad i gynllun ‘Cynhyrchu Incwm drwy Atal Twyll’), amlygodd y Pennaeth ... view the full COFNODION text for item 8. |