Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Jina Gwyrfai. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Holodd y Cynghorydd Rob Triggs a ddylai ddatgan
buddiant personol yn eitem 5 – Datganiad o Gyfrifon 2021-22, oherwydd ei fod yn
derbyn pensiwn Gwasanaeth Tân, a bod cyfeiriad yn yr adroddiad at gronfeydd
pensiwn. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth
Cyllid nad oedd hwn yn fuddiant oedd yn effeithio ar y gyllideb o ran gallu’r
aelod i gymryd rhan yn y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Gan gyfeirio at fwriad y Prif Weinidog i wneud
cyhoeddiad yn nes ymlaen yn y dydd ynglŷn â’i chynlluniau ar gyfer mynd
i’r afael â’r cynnydd aruthrol ym mhris tanwydd, holodd aelod a fyddai yna
gyfle i’r pwyllgor hwn drafod y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. Awgrymwyd bod hynny’n fater i’w godi dan
eitem 7 – Blaen Raglen y Pwyllgor. |
|
COFNODION: Derbyniodd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 30
Mehefin, 2022 fel rhai cywir. |
|
DATGANIAD O GYFRIFON 2021/22 PDF 107 KB I ystyried a derbyn Y Datganiad O
Gyfrifon Statudol (drafft cyn Archwiliad) er gwybodaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi Datganiad o
Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2021/22. COFNODION: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Cyllid yn
cyflwyno’r Datganiad o Gyfrifon statudol (drafft cyn archwiliad) ar gyfer
blwyddyn ariannol 2021/22. Nodwyd:- ·
Bod y cyfrifon drafft yn cael eu harchwilio ar hyn
o bryd, ac y cyflwynid y fersiwn terfynol yn dilyn archwiliad er cymeradwyaeth
yng nghyfarfod 17 Tachwedd 2022 o’r pwyllgor hwn. ·
Nad oedd gofyn statudol i aelodau etholedig
gymeradwyo’r fersiwn drafft o’r Datganiad o Gyfrifon. Er hynny, ystyrid bod cyflwyno’r datganiad
drafft i’r pwyllgor hwn er gwybodaeth yn arfer da i’w ddilyn, ac yn gyfle i’r
aelodau holi swyddogion ariannol am y cynnwys ac arfogi eu hunain gyda
gwybodaeth berthnasol er mwyn ystyried risgiau perthnasol, a materion eraill
fydd yn destun archwiliad, yn eu cyd-destun. Rhoddodd yr Aelod Cabinet Cyllid ddiweddariad i’r
aelodau ar eu cyfrifoldebau ynghyd ag amlinelliad o lle rydym wedi cyrraedd ar
y daith. Yna manylodd yr Uwch Reolwr
Cyllid ar gynnwys yr adroddiad. Diolchodd y Cadeirydd i’r Adran am y gwaith manwl,
gan wahodd cwestiynau a sylwadau gan yr aelodau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:- ·
Diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r Uwch Reolwr Cyllid
am roi cyflwyniadau clir iawn, oedd yn tynnu sylw at nifer o faterion hynod o
bwysig mewn ffordd ddealladwy. ·
Gan gyfeirio at yr angen i brisio mwy o eiddo yn
sgil y ffaith bod lefelau chwyddiant mor uchel, holwyd a oedd yna unrhyw
newidiadau o ran prisio asedau priffyrdd, ac a oedd hynny’n debygol o greu
unrhyw oedi o ran archwilio’r cyfrifon.
Mewn ymateb, nodwyd bod priffyrdd yn ymddangos dan ‘is-adeiladwaith’ yn
Nodyn 15 o’r Cyfrifon (Eiddo, Offer a Chyfarpar). Eglurwyd nad oedd priffyrdd yn cael eu
hail-brisio, a’u bod i mewn ar eu cost hanesyddol. Pe bai’r Cyngor yn gwneud darn o waith ar
unrhyw ffordd, roedd yn mynd i mewn ar y gost, ac yn cael ei brisio yn unol â’r
polisi yn Nodyn 1 o’r Cyfrifon dros 40 o flynyddoedd. Nodwyd ymhellach bod gwaith ar droed yn
Lloegr i newid y drefn oherwydd nad oedd hyn, o bosib’, yn adlewyrchiad o beth
ydi gwerth y ffordd, ac un o’r cynigion dan ystyriaeth oedd bod y ffigwr net yn
unig yn cael ei roi i mewn, yn hytrach na chynnwys y dadansoddiad manwl fel yn
Nodyn 15. Efallai bod yna opsiynau
eraill hefyd, ond nid oedd hyn yn fater hawdd gan fod y wybodaeth sydd gan y
cynghorau ynglŷn â’r gwariant a wnaethpwyd ar ffyrdd ar sail y gost
hanesyddol yn unig, gan nad oedd prisiad wedi’i wneud ohonynt erioed. Holwyd ymhellach a fyddai hyn yn effeithio ar
archwiliad eleni o Gyfrifon y Cyngor hwn.
Mewn ymateb, nodwyd y gallai gael effaith, ond bod y trafodaethau’n
parhau. · Holwyd a oedd y prisio mwy manwl am fod yn batrwm i’r dyfodol. Mewn ymateb, eglurwyd mai’r lefelau chwyddiant uchel oedd wedi effeithio ar hyn, a tra bo lefelau chwyddiant yn parhau’n uchel, roedd yn debygol y byddai yna fwy o ofyn am hyn oherwydd y prisiau cyfnewidiol yma. Roedd y mater hwn yn cael ei drafod hefyd ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU PDF 211 KB I dderbyn diweddariad ar raglen waith Chwarter 1 Archwilio Cymru ac adroddiadau sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad. COFNODION: Cyflwynwyd - adroddiad ar y cyd gan Reolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y
Cyngor ac Archwilydd Arweiniol, Archwilio Cymru yn amgáu diweddariad Chwarter 1
Archwilio Cymru ar waith y cyrff adolygu (Atodiad 1) ac adroddiad cenedlaethol
‘Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion’ (Atodiad 2). Croesawyd Alan
Hughes (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod, a manylodd ar gynnwys adroddiad Chwarter
1. Gwahoddwyd cwestiynau a sylwadau gan yr
aelodau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y
materion a ganlyn:- ·
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd mai yn 2023 y byddai’r
adroddiad terfynol ar y gwaith Sicrwydd ac Asesu Risg (tudalen 114 o’r rhaglen)
yn barod. Eglurwyd bod yna 2 elfen i’r
gwaith, sef ystyried yr elfennau er sicrwydd a’r mannau lle mae’r risg yn
bodoli. Fel arfer, roedd y gwaith yn
cael ei grynhoi o gwmpas Rhagfyr / Ionawr cyn trafod gyda’r cynghorau
ynglŷn â lle mae’r budd mwyaf i fod yn siapio cynllun lleol y flwyddyn i
ddod, a’r siapio yna oedd wedi helpu dylanwadu’r cynllun archwilio ar gyfer
eleni. Gan hynny, wrth edrych ar
faterion fel Gofal heb ei Drefnu, Digidol ac Adolygiad o Effethiolrwydd
Craffu ddaeth allan o’r gwaith y llynedd, byddai’r archwilwyr yn mynd drwy’r
drefn eto o asesu sicrwydd a risg ac yn ceisio dod i gasgliad ynglŷn â lle
mae’r elfennau sicrwydd. Roedd yna
ychydig o risg yn bodoli hefyd, a gallai’r risg fod yn genedlaethol, yn
rhanbarthol neu’n lleol. Byddai’r gwaith
yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, gan edrych ar y sefyllfa ariannol tuag at
ddiwedd y flwyddyn pan fyddai’r cyfrifon wedi’u drafftio, fel bod modd tynnu’r
ffigurau ohonynt. Dyna un o’r darnau
gwaith oedd ar y gweill ar hyn o bryd, sef edrych ar y patrwm ariannol yn y
cynghorau. ·
Gan gyfeirio at waith sy’n digwydd dros gyfnod mwy
hir-dymor, holwyd a oedd yna unrhyw negeseuon interim fyddai’n gallu helpu’r
pwyllgor gyda’i waith, yn hytrach nag aros tan ddiwedd y broses. Mewn ymateb, nodwyd bod argymhelliad yn yr
adroddiad Taliadau
Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion ynglŷn â data, a bod
cyfeiriad yn y 4 adroddiad diwethaf a baratowyd gan Archwilio Cymru yng
Ngwynedd at well defnydd o ddata. Cafwyd
adroddiad yn edrych ar y drefn reoli perfformiad ac roedd cyfeiriad yno at
ddefnydd o ddata yn hybu gwneud penderfyniadau, ac ati, fel rhan o edrych ar
sut mae argymhellion yn deillio o archwiliad allanol, ac ati, yn cael eu
cwblhau. Roedd yna adroddiadau rheolaidd
hefyd yn diweddaru’r pwyllgor ar yr ymateb i’r argymhellion. Nid oedd yn debygol y byddai’r data yn symud
oddi ar y radar yn fuan iawn a chredid bod angen gwneud y defnydd gorau ohono i
wneud penderfyniadau. ·
Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod yr Adolygiad o
Effeithiolrwydd Craffu yn ddarn o waith lleol, er ei fod yn bwnc oedd yn codi
mewn cynghorau eraill hefyd, a diau y byddai yna enghreifftiau o waith tebyg ar
gael ar safle we Archwilio Cymru gan ei fod yn destun sy’n cael ei archwilio o
dro i dro yn y cynghorau. · Holwyd ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR PDF 205 KB I ystyried
blaen raglen y Pwyllgor ar gyfer 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod. COFNODION: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Cyllid yn amgáu drafft o
raglen waith y pwyllgor am y flwyddyn i ddod, hyd at Chwefror, 2023. Nododd y Pennaeth Cylld:- ·
Er bod Adroddiad y Gweithgor Gwella Rheolaethau yn eitem sefydlog
ar raglen y pwyllgor, na fyddai’n ymddangos oni bai bod cyfarfod o’r gweithgor
wedi’i gynnal yn ystod y cylch dan sylw. ·
Yn unol â rôl newydd y pwyllgor hwn o gadw trosolwg ar
drefniadau’r Cyngor a sut yr ymdrinnir â chwynion, bod y swyddogion yn anelu at
gyflwyno adroddiad craffu i’r pwyllgor ar 17 Tachwedd. Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai’n bosib’ i aelodau’r pwyllgor
dderbyn hyfforddiant ar unrhyw feysydd anghyfarwydd cyn craffu adroddiadau ar y
pwnc. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod
hynny’n bosib’, a gofynnwyd i’r aelodau roi gwybod i’r swyddogion pe dymunent
dderbyn hyfforddiant ar unrhyw faes penodol. Gwahoddwyd cwestiynau a sylwadau gan yr
aelodau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y
materion a ganlyn:- ·
Gofynnwyd am sicrwydd y byddai’r
pecyn ar y Gyllideb i gyfarfod 9 Chwefror yn cynnwys adroddiad ar y sefyllfa
gyfredol o ran yr arian wrth gefn yn bob maes ynghyd ag adroddiad ar y balansau
cyffredinol. Mewn ymateb, cadarnhawyd y
bydd y pwyllgor hwn yn derbyn yr un pecyn ag a fydd yn cael ei gyflwyno i’r
Aelodau Cabinet ar gyfer gwneud argymhelliad i’r Cyngor llawn. Eglurwyd mai rôl y pwyllgor hwn fyddai herio
a chymryd trosolwg a gwneud yn siŵr bod y pecyn sy’n cael ei gyflwyno i’r
Cabinet yn cynnwys y wybodaeth gyflawn sydd ei hangen ar yr aelodau hynny i
wneud eu hargymhelliad. Hefyd, petai
angen defnyddio rhywfaint o reserfau i bontio bwlch ariannol y flwyddyn nesaf,
byddai’r pecyn yn amlinellu’r risgiau sydd ynghlwm â hynny. ·
Gofynnwyd am gynnwys eitem sefydlog ar raglen pob cyfarfod
o’r pwyllgor yn rhoi diweddariadau ar faterion a godwyd mewn cyfarfodydd
blaenorol, gan nad oes modd codi materion o’r cofnodion. Mewn ymateb, nodwyd y gellid cynnwys eitem ar
raglen pob cyfarfod yn diweddaru’r aelodau o ran gweithredu’r penderfyniadau, a
chytunwyd i edrych i mewn i hynny ar gyfer y cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad, gyda’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. |