Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Eddie Dogan, Michael Sol Owen a Glyn Thomas ynghyd a Mr John Pollard.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Tynnodd aelod sylw at fater a nododd yng nghyfarfod diwethaf y pwyllgor o ran sut y penodir ymgynghorwyr, eu perthynas â swyddogion a sicrhau bod y drefn benodi yn cydymffurfio â safonau OJEC. Nododd ei fod wedi derbyn gwybodaeth bellach o ran un achos o ddefnyddio ymgynghorydd yn yr Adran Addysg, yng nghyswllt y posibilrwydd o ddwy ysgol uwchradd yn rhannu Pennaeth, oedd yn peri pryder iddo.

 

Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd fod Archwilio Mewnol eisoes yn edrych i mewn i’r mater o gyflogi ymgynghorwyr a darperir ymateb erbyn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor. Tynnodd yr aelod sylw at fater arall oedd yn peri pryder iddo, sef prydlesu Canolfan Awyr Agored Rhyd Ddu i Antur Nantlle Cyf.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gellir gwahodd y swyddogion perthnasol o’r gwasanaethau Economi ac Eiddo i gyfarfod nesaf y Gweithgor Gwella Rheolaethau i drafod y mater gyda’r aelod yn bresennol.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 78 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2015, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2015, fel rhai cywir.

 

5.

DATGANIAD O GYFRIFON 2014/15 pdf eicon PDF 73 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, y datganiadau ariannol statudol (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2014/15.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan y Pennaeth Cyllid. Tynnwyd sylw mai cyfrifon drafft heb eu harchwilio a gyflwynir yma er gwybodaeth, gyda’r fersiwn terfynol i’w gyflwyno er cymeradwyaeth y Pwyllgor yng nghyfarfod 24 Medi 2015.

 

Tywysodd yr Uwch Reolwr Cyllid yr aelodau drwy’r cyfrifon, gan nodi byddai’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael ei gynnwys hefyd gyda’r cyfrifon i ffurfio un ddogfen gyfansawdd gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor. Adroddwyd bod cyfrifon llynedd wedi derbyn oddeutu 800 o ymweliadau ar y wefan a bod hyn yn galonogol. 

 

Llongyfarchwyd yr adrannau am eu gwaith rheoli cyllidebau, gan fod tanwariant yn cynrychioli dim ond 0.18% (pwynt un wyth o un y cant) o’r cyfanswm gwariant.

 

Tynnodd y Pennaeth Cyllid sylw at ffigwr yng nghyswlltAilfesuriad o’r ymrwymiadau/(asedau) buddion diffiniedig net’ o £70,697 miliwn ar dudalen 9 o’r cyfrifon. Eglurodd nad oedd y sefyllfa ymrwymiadau pensiwn wedi newid llawer, ond defnyddir dull rhagdybiaeth actiwaraidd gyda phris heddiw yn cael ei roi ar rai ymrwymiadau pensiwn 60 mlynedd yn y dyfodol. Nododd bod rheolau cyfrifo yn mynnu defnydd o’r gyfradd dychweliadau ar bondiau fel y gyfradd ddisgowntio, sy’n golygu bod symudiad mawr rhwng blynyddoedd yng ngwerth tybiannol yr ymrwymiadau pensiwn, ond sydd ddim yn newid go iawn mewn termau arian parod, a gallai rhoi camargraff o’r sefyllfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn parthed costau ymddeoliadau mewn adeg o doriadau, nododd y Pennaeth Cyllid bod y gost ychwanegol yn cael ei adnabod pan wneir ceisiadau am ymddeoliad a gaiff ei gyllido gan gyfraniad gan yr Adran a/neu’r Gronfa Diswyddo Gorfforaethol. Atgoffwyd yr aelodau eu bod wedi ystyried penderfyniad Cabinet y Cyngor ar 23 Mehefin 2015 i drosglwyddo £2,986,685 i’r Gronfa Ddiswyddo yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Nodwyd na ellir rhagweld union gyfanswm y gost, ond bod darpariaeth yn y Gronfa Ddiswyddo yn cael ei adolygu yn gyson ar gyfer cyfarch y costau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, nodwyd bod yr actiwari wedi cymryd i ystyriaeth y newid oed pensiwn o 65 i 67 mlynedd.

 

Cyfeiriodd aelod at falansau ysgolion o danNodyn 10 – Trosglwyddiad i/o Gronfeydd/Reserfau a glustnodwydar dudalen 26, nododd y dylid parhau i annog ysgolion i ostwng eu balansau. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid yr anogir ysgolion i ddefnyddio balansau ar gyfer addysg y disgyblion, a bod yr Adran Addysg yn sicrhau eglurhad yn flynyddol o ran bwriad yr ysgolion i ymdrin â’r arian.

 

Yng nghyswllt balansau ysgolion, awgrymodd aelod fod angen ail-edrych ar y fformiwla cyllido ysgolion.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd y Pennaeth Cyllid fod y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 9 Hydref 2014 wedi tanlinellu penderfyniad blaenorol i beidio buddsoddi arian y Cyngor ei hun yn Israel. O ran buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn, byddai wedi golygu proses hir a chostus o ail-gytundebu efo Rheolwyr Buddsoddi'r Gronfa i sicrhau na fuddsoddir yn Israel.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2014/15 pdf eicon PDF 420 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad y Rheolwr Buddsoddi ar ganlyniadau gwir weithgarwch benthyg a buddsoddi’r Cyngor yn y flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2015.

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi ar wir ganlyniadau gweithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor yn ystod 2014/15, o’i gymharu yn erbyn y strategaeth a sefydlwyd am y flwyddyn ariannol honno ym mis Chwefror 2014. Manylwyd ar y cefndir economaidd, y gofyn benthyca a rheoli dyledion, gweithgarwch buddsoddi a chydymffurfiaeth â’r dangosyddion darbodus.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Buddsoddi bu gweithgarwch benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd, a ni fu methiant i dalu na diffyg hylifedd gan unrhyw gwrthbartion roedd y Cyngor wedi defnyddio yn ystod 2014/15.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

7.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 178 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2015.

Cofnod:

Gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2015

            Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2015. Nodwyd bod 7 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol gyda’r categori barn berthnasol yn cael ei ddangos wedi ei gwblhau yn ystod y cyfnod.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol.

 

Nododd aelod yng nghyswllt yr archwiliadTaliadau Cymorth Cyntaf’, yr angen i aelodau’r Cyngor dderbyn hyfforddiant cymorth cyntaf.

 

PENDERFYNWYD:

(a)    derbyn yr adroddiadau ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2015 a chefnogi’r argymhellion a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau perthnasol er gweithrediad.

(b)   bod yr aelodau a benodwyd i wasanaethu ar y Gweithgor Gwella Rheolaethau yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 30 Mehefin yn ystyried yr archwiliadau oedd wedi derbyn categori barn ‘C’ yn y cyfnod yma yn ogystal.

(c)   mai cyfrifoldeb unrhyw aelod na allai fod yn bresennol yn y Gweithgor oedd trefnu eilydd.

8.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2015/16 pdf eicon PDF 86 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun Archwilio Mewnol 2015/16.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau cynllun archwilio mewnol 2015/16.

 

Adroddwyd bod yr Uned Archwilio Mewnol wedi rhagori targed chwarter 1 gyda 7 adroddiad terfynol wedi ei rhyddhau, sef 11.1% o archwiliadau’r cynllun o gymharu â’r targed o 8%.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2015/16.

9.

ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 19 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol .

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Strategol a Pherfformiad. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi diweddariad o ran yr adroddiadau archwilio allanol a dderbyniwyd gyda’r atodiad yn manylu ar yr adroddiadau, y camau gweithredu a’r trefniadau craffu.

 

Nododd aelod yng nghyswllt asesu archwiliadau gofal, yr angen i aelodau dderbyn hyfforddiant i’w harfogi i ddelio efo materion gofal. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Pherfformiad y byddai’n codi’r mater efo’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad gan nodi bod y Pwyllgor wedi ei fodloni bod argymhellion archwilwyr allanol yn derbyn sylw digonol.

(ii)    bod y Rheolwr Cynllunio Strategol a Pherfformiad yn codi’r mater o ran hyfforddiant ar gyfer aelodau i’w harfogi i ddelio efo materion gofal gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.

10.

YMATEB I BWYSAU ARIANNOL SYLWEDDOL pdf eicon PDF 64 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adroddwyd y cyhoeddwyd adroddiad cenedlaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn Ebrill 2015 yn datgan fod cynghorau yng Nghymru wedi ymateb yn dda i bwysau ariannol sylweddol, [ond fod] angen iddynt wella eu prosesau rheoli a chynllunio ariannol er mwyn ateb yr heriau ariannol cynyddol sydd i ddod”.

 

Nodwyd bod rhai Trysoryddion yng Nghymru yn ystyried bod yr adroddiad braidd yn arwynebol, gyda thystiolaeth annigonol i gefnogi rhai casgliadau, a diffyg cyfeiriad at arfer da yng Nghymru, oherwydd methiant i ymgysylltu yn effeithiol gydag adrannau cyllid mewn awdurdodau lleol ar y gwaith.

 

Tywysodd y Pennaeth Cyllid yr aelodau trwy’r atodiad a oedd yn manylu ar argymhellion SAC ac ymateb/gweithrediad y Cyngor.

 

Gwnaed sylwadau gan aelodau parthed Argymhelliad 6 o ran cynhyrchu incwm, sef:

·         Bod angen bod yn ofalus na sathrir ar draed y sector breifat;

·         Y dylid ystyried y sefyllfa o ran meysydd parcio staff y Cyngor;

·         Y dylid edrych ar godi rhyw fath o dal ar feysydd carafanau i gynhyrchu incwm.

 

Nododd aelod bod angen i adroddiadau archwilio allanol, o ystyried y sefyllfa argyfyngus ariannol presennol, roi cymorth i Awdurdodau Lleol o ran cyfleoedd i ostwng gwariant a chynhyrchu incwm.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed Argymhelliad 9 o ran hyfforddiant i arfogi aelodau er mwyn gwneud y gorau i drigolion Gwynedd, cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at y seminarau cyllidebol cynhaliwyd yn ystod Chwefror 2015, cyn nodi os dymunai aelodau hyfforddiant ar rywbeth arall penodol gofynnir iddynt gysylltu â’r Adran Cyllid. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.