Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2025 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSWIN CYMRU I ystyried yr adroddiad
a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Cofnod: Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd
sy’n cael ei gyflwyno i’r
Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC ynghyd
a’r hyn a benderfynwyd ynn nghyfarfod mis Mawrth o’r Cydbwyllgor Llywodraethu (corff sydd yn
gwneud penderfyniadau dros y Bartneriaeth ble mae Cadeirydd
pob cronfa yn eistedd arno).
Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Bartneriaeth wedi ail benodi Hymans Robertson fel cynghorydd goruchwylio (oversight advisor) a Robeco fel darparwr pleidleisio
ac ymgysylltu. Cyflwynwyd hefyd ddiweddariad ar y cynllun hyfforddi, y cynllun busnes a’r gofrestr risg
ynghyd a diweddariad y gweithredwr oedd yn amlygu’r holl
gronfeydd sydd gan y Bartneriaeth wedi’i sefydlu. Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr dros y cyfnod ac at unrhyw amodau’r farchnad sydd wedi
cael eu monitro
ganddynt. Tynnwyd sylw at ddadansoddiad fesul is-gronfeydd o’r perfformiad gan nodi bod perfformiad y cronfeydd ecwiti byd-eang wedi bod yn gryf ar
marchnadoedd incwm sefydlog wedi llusgo.
Cyfeiriwyd at y gwaith ‘Addas i’r Dyfodol’ lle
atgoffwyd yr Aelodau iddynt
gymeradwyo gofyniad i greu cwmni
buddsoddiad IMCo a symud y prosiect ymlaen. Ategwyd bod y Cyngor
Llawn hefyd wedi ei gymeradwyo ar
y 3ydd o Orffennaf 2025, gyda
disgwyliad y bydd wyth Cyngor y Bartneriaeth wedi cymeradwyo’r gofyn erbyn diwedd
y mis. Bydd y gwaith o sefydlu’r cwmni yn digwydd dros
yr Haf er mwyn cyrraedd y dyddiad targed o 31 Mawrth 2026. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â beth fydd yn digwydd i
bortffolio eiddo Gwynedd wedi i’r cwmni
buddsoddi IMCo gael ei sefydlu,
nodwyd bod proses tendr wedi digwydd ac y byddai’r buddsoddiadau eiddo yn rhan
o gronfeydd newydd eiddo Partneriaeth Pensiwn Cymru, gyda cronfa eiddo’r Deyrnas Unedig, a cronfa eiddo ‘impact’. Mewn ymateb i
sylw ynglŷn â chais i’r sesiynau
hyfforddiant gael eu recordio fel
bod modd cyfeirio’n ôl atynt os
byddai problem mynychu, nodwyd y byddai’r sylw yn cael
ei gyfeirio at yr Awdurdod Lletyol i sicrhau bod dolennau
i’r recordiadau ar gael i’r
Aelodau. Mewn ymateb i
sylw am swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Pwyllgor yn newid o ganlyniad
i sefydlu cwmni buddsoddi IMCo erbyn Mawrth 2026, awgrymwyd cynnal sesiwn penodol i rannu gwybodaeth
am y sefyllfa erbyn cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth |
|
CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2025 Cyflwyno
a nodi – ·
Datganiad
o’r Cyfrifon Drafft Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon
Cronfa Bensiwn Gwynedd (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2024/25 Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion
gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn
a ddaeth i ben Mawrth 31ain
2025. Amlygwyd bod y cyfrifon
(drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei
weithredu gan Archwilio Cymru Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf
statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli
beth sy’n cael ei gyflwyno
yn y cyfrifon ac nad oedd dim newid
yn y canllawiau o’r flwyddyn ddiwethaf. Mynegwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r Gronfa
a gwaith yn parhau mewn buddsoddi
yn ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y Gronfa gan dynnu
sylw at ychydig o amrywiadau wrth i’r cyfraniadau a’r buddion gynyddu
wedi i weithwyr
dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn gynyddu
gyda CPI. Adroddwyd bod cynnydd yn y costau
rheoli wrth i werth yr asedau
gynyddu ac o gyflwyno mathau gwahanol o fuddsoddiadau i’r portffolio e.e. credyd preifat. Ategwyd bod cynnydd o oddeutu £160 miliwn yng ngwerth marchnad
y gronfa sy’n unol a’r cynnydd
graddol blynyddol. Eglurwyd bod incwm buddsoddi'r gronfa wedi codi yn
sylweddol a buddsoddiadau ecwiti wedi perfformio
yn gryf ac o ganlyniad wedi cynhyrchu incwm sylweddol. Ategwyd fel rhan o’r
dyraniad asedau strategol, buddsoddwyd mwy yn y cronfeydd
incwm sefydlog ac isadeiledd. Tynnwyd sylw at y nodiadau statudol oedd yn rhoi
manylion pellach tu ôl i’r
ffigyrau, gweithgareddau'r Gronfa, a Phartneriaeth Pensiwn Cymru, gan fod y Bartneriaeth yn rhan flaenllaw
bellach o waith y Gronfa. Ategodd y Pennaeth Cyllid ei fod, fel
Swyddog Adran 151 wedi arwyddo'r cyfrifon drafft gan dderbyn
eu bod yn adlewyrchiad cywir a theg o’r sefyllfa. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
ddilynol: ·
Bod yr adroddiad a'r cyfrifon
yn fanwl ac yn hawdd eu
deall ·
Bod y fformat yn un da ·
Bod y cynnydd
(growth) yn galonogol PENDERFYNWYD: Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon
Cronfa Bensiwn Gwynedd (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2024/25 |
|
CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2025 I ystyried
a derbyn yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r
wybodaeth Cofnod: Croesawyd Osian Roberts (Archwilio
Cymru) i’r cyfarfod. Cyflwynwyd Cynllun Archwilio Manwl ar gyfer 2025 oedd
yn cyflwyno’r tîm archwilio, y ffioedd a llinell amser y gwaith fydd yn cael
ei gwblhau yn ystod y flwyddyn,
yn unol â’r
cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel
archwilwyr allanol. Amlygwyd y byddai gwaith archwilio’r datganiadau ariannol yn cael ei
gwblhau yn ystod mis Medi gyda bwriad o gyflwyno adroddiad ar y datganiadau yn ystod Tachwedd 2025. Cyfeiriwyd at y risgiau gan nodi bod y risg o wrthwneud gan reolwyr
yn risg gorfodol
sydd wed ei gynnwys ymhob cynllun
yng Nghymru fel rhan o weithdrefn
Archwilio Cymru. Diolchwyd am yr adroddiad ac i Osian Roberts am fynychu’r cyfarfod. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r
cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff Paragraff 14
o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol(
yn cynnwys yr awdurdod sydd yn
dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod
adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod
gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.
Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol
o ran buddiannau cydnabyddedig
trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio
hyder i ddod
a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r
Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes
i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn
cyfansawdd gorau ac felly
am y rhesymau yma mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol
neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae
budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael
arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio
cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r
allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd
cyhoeddus. |
|
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.10.2024-31.12.2024 I ystyried
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth (copi
i Aelodau’r Pwyllgor yn unig) Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad chwarterol
yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn cyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn, gan gynnwys y gwaith
ymgysylltu. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol: ·
Bod angen gwybodaeth am amserlen
datblygu polisi cynnydd (escalation). Byddai’r amserlen yn ddefnyddiol ar gyfer
ateb cwestiynau sydd yn codi yn aml ·
Rhaid sicrhau bod y polisi yn
effeithiol - bod angen diffiniad eglur o pryd fydd ymyrraeth yn amserol ·
Bod yr adroddiad yn un positif ac
wedi ei gyflwyno yn dda ·
Awgrym i ystyried defnyddio
symbolau (emoji) fel modd o ddenu sylw at uchafbwyntiau o fewn yr adroddiad PENDERFYNWYD
Derbyn
a nodi’r wybodaeth |