Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
John Brynmor Hughes, a Robin Williams (Cyngor Sir Ynys Môn) Yn dilyn penderfyniad y Cyng. R Medwyn
Hughes i sefyll i lawr fel Aelod, a Chyn-gadeirydd o’r Pwyllgor Pensiynau,
diolchwyd iddo am ei waith a’i gefnogaeth i’r Pwyllgor dros ei gyfnod fel
Aelod. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Dim i’w nodi |
|
|
MATERION BRYS COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) - DIWEDDARU'R CYTUNDEB RHYNG-AWDURDOD (IAA) I ystyried
a nodi cynnwys yr adroddiad yma a’r atodiadau. Argymell y Cytundeb
Rhyng-Awdurdod (IAA) diwygiedig i'r Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2026 am
gymeradwyaeth fel mater wedi ei neilltuo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Nodi cynnwys yr adroddiad yma a’r atodiadau. Argymell y Gytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) ddiwygiedig i'r
Cyngor llawn ar 5 Mawrth 2026 am gymeradwyaeth fel mater wedi ei neilltuo COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid
a’r Rheolwr Buddsoddi yn amlygu'r angen i’r Pwyllgor argymell yn ffurfiol i’r
Cyngor Llawn gymeradwyo’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod
(IAA). Atgoffwyd yr Aelodau mai fframwaith
cyfreithiol a llywodraethu ffurfiol sydd
yn rhwymo wyth awdurdod gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru i
Bartneriaeth Pensiwn Cymru yw’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod.
Adroddwyd bod y Cytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) wedi ei
gymeradwyo yn gyntaf yn 2017 pan sefydlwyd PPC, ond yn dilyn ymgynghoriad
‘Addas i’r Dyfodol’, a’r addasiadau oedd eu hangen i sicrhau cydymffurfiaeth â
gofynion Llywodraeth y DU, sefydlwyd ac ymgorfforwyd cwmni rheoli buddsoddiadau
‘WPP IM Co. O ganlyniad, ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol cynnal adolygiad
cynhwysfawr o’r IAA i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn briodol. Ategwyd, er
bod PPC
wedi bod yn llwyddiannus gyda llywodraethiant
a threfniadau da yn arwain at ddychweliadau da, nid oedd Llywodraeth y Deyrnas
Unedig yn fodlon parhau â’r trefniant ac felly bu rhaid ffurfio cwmni buddsoddi
newydd; o dan ofynion ‘Addas i’r Dyfodol’ bydd addasiadau sylweddol i’r
strwythur presennol, fydd angen bod yn weithredol erbyn y 1af o Ebrill 2026. Cyfeiriwyd at brif newidiadau'r strwythur
newydd ynghyd a’r nodyn sicrwydd roedd Hymans
Robertson (ymgynghorydd goruchwylio a llywodraethu PPC) wedi ei baratoi i’r
wyth awdurdod gweinyddol. Nodwyd bod y nodyn sicrwydd, yn cynnwys mewnbwn gan
yr wyth awdurdod, ac yn rhoi trosolwg annibynnol ar y drefn newydd a’r
diwygiadau allweddol arfaethedig oedd yn rhan o’r argymhelliad. Tynnwyd sylw at waith a baratowyd gan Burges
Salmon (cynghorydd cyfreithiol PPC) oedd yn manylu at
holl ddiwygiadau arfaethedig i’r IAA. Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor bod sawl
haen o oruchwyliaeth wedi craffu’r cytundeb arfaethedig oedd yn cynnwys
trafodaethau gyda’r Grŵp Llywio, a Swyddogion Monitro'r wyth awdurdod
gweinyddol wedi rhoi mewnbwn i sicrhau bod y Cynghorau unigol yn ddiogel; Bydd
pob un o’r wyth awdurdod gweinyddol yn dilyn yr un drefn i gymeradwyo’r
Cytundeb Rhyng-Awdurdod. Diolchwyd am yr adroddiad. Diolchwyd am y gwaith cefndirol oedd wedi ei
wneud i baratoi’r cytundeb o fewn amserlen dynn, ac i Hymans
Robertson a Burges Salmon
ar eu gwaith craffu da o amlygu’r goblygiadau. Diolchwyd am y gweithdy rhannu gwybodaeth a
drefnwyd ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiwn (23-02-26) y
drafodaeth wedi bod yn werthfawr a buddiol ac wedi ei gynnal o fewn awyrgylch
hynaws – yn rhoi sicrwydd bod y Pwyllgor yn gwneud penderfyniadau cywir. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Pryder bod rôl y Pwyllgor yn ymddangos fel corff
goruchwylio ac yn colli’r hawl o fod yn rhan o drafodaeth buddsoddiadau ·
Pryder bod y Pwyllgor yn colli’r rôl reolaethol a’u
cyfrifoldebau ·
Pam mai Uwch Swyddog ac nid Aelod sydd ar y Fforwm
Cyfranddalwyr? Cyfle yn cael ei golli o gael llais Aelodau ar y Fforwm - bydd y
cyhoedd yn cysylltu / rhannu eu pryderon gydag Aelodau Etholedig os na fydd
pethau yn mynd yn dda, felly doeth
fyddai iddynt gael mewnbwn ·
Rhaid pwysleisio mai ymateb i ofynion statudol yw
cymeradwyo’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod · Bod ansawdd y gwaith cefndirol o safon uchel iawn, ... view the full COFNODION text for item 4. |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau canlynol gan ei
fod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion
ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod
adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod
gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.
Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol
o ran buddiannau cydnabyddedig
trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio
hyder i ddod
a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r
Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes
i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn
cyfansawdd gorau ac felly
am y rhesymau yma mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol
neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae
budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael
arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio
cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r
allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd
cyhoeddus. |
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) - DOGFENNAU LLYWODRAETHU I FODLONI'R GOFYNION "ADDAS AR GYFER Y DYFODOL" I ystyried
yr adroddiad Cymeradwyo'r
Cytundeb Cyfranddalwyr (SHA) sydd newydd ei greu, sy'n ofyn cyfreithiol. Cymeradwyo'r
Cytundeb Gwasanaeth Cleientiaid (CSA) sydd newydd ei greu, sy'n ofyn
cyfreithiol. Lle bo
hynny’n briodol, i ddirprwyo pwerau i'r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad â
Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau, i wneud mân ddiwygiadau i'r cytundebau, ar yr
amod na fydd yn newid sylwedd y cytundebau. (copi i’r
Aelodau yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD
COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid
a’r Rheolwr Buddsoddi mewn ymateb i fodloni uchelgeisiau "Addas ar gyfer y
Dyfodol" Llywodraeth y Deyrnas Unedig (bydd disgwyl iddynt ddod yn
Ddeddfwriaeth ar 31 Mawrth 2026), drwy
wneud newidiadau angenrheidiol i drefniadau llywodraethu presennol
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) tra hefyd yn cyflwyno dogfennau annibynnol
newydd - Cytundeb Cyfranddalwyr (SHA) a Chytundeb Gwasanaethau Cleientiaid
(CSA). Eglurwyd, yn wahanol i’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod, bod y Cyngor Llawn (Gorffennaf 2025) wedi
dirprwyo’r hawl i’r Pwyllgor Pensiynau gymeradwyo dogfennaeth ffurfiol derfynol
ar gyfer gweithredu’r Cwmni Rheoli Buddsoddi
a rhoi hawl i Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y
Pwyllgor Pensiynau i fwrw ymlaen gyda Phrosiect yr Wyddfa gydag Awdurdodau
Gweinyddu PPC yn unol ag amserlen y Llywodraeth o fewn y gyllideb gymeradwy. Trafodwyd Cytundeb Cyfranddalwyr (SHA) a’r
Cytundeb Gwasanaethau Cleientiaid (CSA). PENDERFYNWYD 1. Cymeradwyo'r Cytundeb Cyfranddalwyr (SHA) sydd newydd ei greu,
sy'n ofyn cyfreithiol. 2. Cymeradwyo'r Cytundeb Gwasanaeth Cleientiaid (CSA) sydd newydd ei greu,
sy'n ofyn cyfreithiol. 3. Lle
bo hynny’n briodol, i ddirprwyo
pwerau i'r Pennaeth Cyllid,
mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau, i wneud
mân ddiwygiadau i'r cytundebau, ar yr amod na
fydd yn newid
sylwedd y cytundebau 4. Ymhen 12 - 18 mis, dylid adolygu'r Cytundeb Cyfranddalwyr (SHA) i archwilio sut i
gynnwys cynrychiolwyr etholedig mewn swyddogaeth ddibleidlais. 5. Fel
rhan o raglen waith y Pwyllgor, bod angen edrych ar
wella trefniadau craffu a herio adroddiadau PPC IM Co 6. Bod
angen cynnwys cymal yn rhaglen
waith y Pwyllgor i roi ystyriaeth
i gyfleoedd buddsoddi yn lleol
/ a neu ystyriaeth i gynigion o fuddsoddi yn lleol |